1-300

Tri Brenin o Gwlen (c1552)

Anyhysbys, gol. Gwen Ann Jones

Ⓗ 1918 Gwen Ann Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.

Llinellau 1-300

Llyma yr ymddiddan a vy ryng y tri Brenin o gwlen ac erodr grevlon ac val jr aeth mair ai mab a ssiesseph o vethlem ar tair anrrec ganthyn

Y Genad
1. Tewch ach ssiarad a gwrandewch
ffrae ystrwmant neb nis gwnewch
yn wir chwi a gewch amarch
gwedi gych kyferch onis tewch

2. Edrychwch bawb ywch benn
chwi gewch weled y seren
yn wyneb y gorllewin
ar tri brenin o gwlen

3. Kerddwch i veddlen ssiwdi
ach tri ffeth genwchi
aur a ssens a myr arab
yw roi ir mab newydd eni

4. Y sseren ywch ben y byd
a reddaf yn gyfrwyddyd
jch dwyn att vab aur fflwch
arwydd ywch iraidd iechyd

Y Brenin Gyntaf
5. Dyrys ywr ffordd i veddlem
achos anghyfarwydd vyddem
i gael kyngor a dysc llawn
nyni awn i gaersalem


Yr Ail Brenin
6. Y porthor pyrth ni ddinas
agor y pyrth ith addas
j vynd at vrenin erod
anryddfeddod y dyrnas


Y Porthor
7. Vynghenad a fedd parod
dos a dywaid i erod
vod yma dri brenin
or gorllewin yn dywod


Y Genad
8. Mae tri brenin mawr bob vn
wrth y porth ích ymofyn
ydrychwch och doethineb
pa ra ateb a roeir yddyn


Erod
9. Arch ir porthor egori
ai gillwng hwy atavi
j gael gwybod i meddwl
mae kythryfwl yn kodi


Y Genad
10. Mae erod yn gorchymyn
ygori y pyrth yddyn
i gael gwybod nid ymraen
pa beth i maen yn i ofyn


Y Porthor
11. Adolwg ywch na ddigioch
am y taring a gosoch
ewch yn hy gidar genad
mawr yw rhad ffodd i doethoch


Y Genad
12. Brenhinoedd glan ydychi
dowch oddyma gida mi
i weled brenin erod
ai ddefod ai riolti

13. Val dyma y brenhinoedd
arwydd rryfeddod ydoedd
dyweten i hvnain i neges
ai hanes or eithafoedd


Y Brenin Kynta
14. Pa le mae hwn a aned
brenin iddefon addfed
y seren a fu yn kyfrwyddyd
gwyn i vyd a gae i weled


Erod
15. O gwalsochi y seren
y nos vnaws ar hevlwen
arwydd geni y y gras ar grym
nid gwiw yn ddywedyd amgen


Yr Ail Brenin
16. Y seren ni ai gwalsom
ai ffroffwydo i byon
efo aned yr Jessu
oi anrregv i doethon


Erod
17. Dowch ynes vysgolheigion
beth a ddywedwchi yr cwron
ple i ganed mab ir vorwyn
ai gwiw dwyn arwiddion


Yr Ysgolheigion
18. Y mab a ddylav i eni
meddynt ymeddlem siwdi
o ddoedyd y gwir yn ddiav
ni a ddylem í ddoli


Erod
19. Ewchi ymofyn y mab kv
a ddoeth ymaf in dysgv
megis id gallomi vyned
a thyrnged yw anregv


Y Brenin
20. Y seren vu yn kyfrwyddyd
sy n gyfyrgoll yn hefyd
nid oes weithian yn yn mysc
neb a ddysc ini vvned


Erod
21. Vy nghenad dos yw hanfon
a dysc yddyn lle ir elon
nhwy a gan wabar yn lle gwir
a mwy o sir pan ddelon


Y genad
22. Ych siwrnai vawr sy ryfedd
yrddas gorllewin dvedd
rwng synwyr a doethineb
ewch ií wyneb y gogledd


Brenin
23. Kyfod dy wyneb bydd lawen
gwir a ddyfod mab mair wen
ni bydd arnomi ddim drygeir
yn wír dakwr seren


Y Brenin Kynta
24. Hempych gwell brenin nefoedd
a brenin y brenhinioedd
ac aur mae danrregv
kyfoeth a gallv da oedd


Yr Ail Brenin
25. Anrrydedd yt dduw keli
llyma ssens yr eglwisi
velly ir ydwyd tithe
yrogle a goleni


Y Trydydd Brenin
26. Yt i kyfarcha dduw marwol
gwreiddyn y drydydd daiarol
wrth dy gladdv hir a byrr
y myrr sy nattyriol


Yr Angel
27. Erod grevlon sydd angall
aniwair anodd i ddyall
nag ewchi ddim ato ef
ewchi adre ffordd arall


Erod
28. Yr wyvi yn vrenin gallvoc
ynghaer selem ddonoc
ac ar babilon yn berchen
ymhob tir penn tywysoc

29. Beth ddywedi di dere yn nes
vy mrenhines goranoc

30. Maer gair nid wi vodlon
vod brenin ir iddewon
Ryfedd genyr gair ar godd
ple maer brenhinioedd weithion


Y Frenhines
31. Gyrwchi rai yw gofyn
Rac na alloch gael arnyn
ond mwy o gost a thrafel
i geisio gafel arnyn


Erod
32. Mae vy herod am kariad
am emddiriaid am kenad
dered yma vanwylyd
parod oeddyd yn wastad


Y Genad
33. Ymeith mi af hai how
y naill ai yn vyw ai yn varw
mi af at vrenin erod
hwyp am i vod yn galw

34.Varglwydd vrenin mawr wyrthoc
mi a ddoethym val heboc
gair ych bron nid rryfedd ym
yn gyflym ac yn chwanoc


Erod
35. Kerdda i vethlem siwdi
ac ymofyn o ddifri
lle idd aeth y tri brenin
or gorllewin hanoeddi


Y Genad
36. Arglwydd vrenin mi af yno
mahownt amen am katwo
ac addawa hwyp ar vrys
ith lys kyn gorffwyso

37. How mast porthor
kyfod i vyny agor
i genad brenin erod
ai herod ai ben kyngor


Gwas y Porthor
38. Nid yw meistr yn gwrando
mogel gena i ddyhvno
hwde ddyrnod at dy siad
a dos ith wlad i gwyno


Y Genad
39. Ho hwrswn lleidir
gwaetha i strangk no gwr or tir
kyfod i vyny yn ebrwydd
er onestrwydd ith veistir


Gwas y Porthor
40. Mi a roddais iti gyne
ddyrnod at dy glyste
hwde eto yn dy blith
ymhob rridd i daw ange


Y Porthor
41. How pa gad gymen
a wnaethoch hyd y plygen
yn ymladd val dav geiloc
yngroc i bo ych devben

1-300