Ciw-restr

Absalom Fy Mab

Llinellau gan Absalom (Cyfanswm: 221)

 
(1, 0) 957 Fy Nhad a'm Brenin!
 
(2, 1) 1028 Yn ara' deg, frawd bach, yn ara' deg!
(2, 1) 1029 Y mae ailddechrau rywbryd ar bob chwarae,
(2, 1) 1030 —Ar chwarae gwyddbwyll ac ar chwarae teyrnas.
(2, 1) 1031 Mynwes yr ynfyd sy'n coleddu siom
(2, 1) 1032 Y collwr sâl.
 
(2, 1) 1034 Mae'r werin dost ar lawr
(2, 1) 1035 Ar ôl dy chwyldro sydyn; onid braint
(2, 1) 1036 Tywysog yw eu codi?
 
(2, 1) 1044 Llawn digon imi ddweud
(2, 1) 1045 Wrth fy mrawd bach fel hyn.
 
(2, 1) 1047 Gwêl, Solomon,
 
(2, 1) 1049 Fy ngherbyd ar y ífordd, wrth borth y brenin;
(2, 1) 1050 Y grymus Metheg-Ama ydyw gyrrwr
(2, 1) 1051 Y ddau farch du, porthiannus. Esgyn dithau
(2, 1) 1052 A Meffiboseth iddo, ac fe'ch dwg
(2, 1) 1053 Trwy borth y ddinas ac am dro i'r wlad.
 
(2, 1) 1055 Ti gei,—tan wers a gofal Metheg-Ama;
 
(2, 1) 1057 A'r dydd y dwedo wrthyf fod dy freichiau
(2, 1) 1058 Yn ddigon cryf i drin dau geffyl nwyfus,
(2, 1) 1059 Heb droi fy ngherbyd, mi rof anrheg iti—
(2, 1) 1060 Cerbyd i ti dy hun â dau farch gwyn.
 
(2, 1) 1064 Gan bwyll!—O wers i wers mae dysgu gyrru
(2, 1) 1065 Y cerbyd hwn,—fel cerbyd y wladwriaeth.
 
(2, 1) 1067 Gall diffyg pwyll rhwng brodyr droi y ddau.
 
(2, 1) 1077 Dydd da i'n harglwydd a'n brenhinol dad.
 
(2, 1) 1081 Newyddion drwg o Hebron, lle y'm ganed?
 
(2, 1) 1089 Nid rhyfedd chwaith! Fy Hebron hardd a hen,
(2, 1) 1090 A'i chastell tyrog yng Nghadernid Jwda,
(2, 1) 1091 A'i thraddodiadau 'n ôl at Abraham
(2, 1) 1092 A Sara, sydd â'u hesgyrn yno'n huno'n
(2, 1) 1093 Ogof Macpela; Hebron sydd â'r heniaith
(2, 1) 1094 Yn groyw, gadarn, ar dafodau'i phlant,
(2, 1) 1095 Nid megis bratiaith y Jebiwsiaid hyn
(2, 1) 1096 O'n cwmpas yng Nghaersalem.
 
(2, 1) 1102 Nid adeiladau sydd yn gwneud prifddinas;
(2, 1) 1103 Nid urddas gair y brenin na'i gynghorwyr,
(2, 1) 1104 Ond urddas llên ac iaith a hir wasanaeth.
 
(2, 1) 1109 Frodyr da, dywedwch
(2, 1) 1110 Beth sydd yn uno cenedl tan brifddinas?
 
(2, 1) 1114 Meffiboseth?
 
(2, 1) 1124 Beth sydd yn uno cenedl, F'arglwydd Joab?
 
(2, 1) 1141 Crefydd sy'n uno cenedl, f'arglwydd frenin.
(2, 1) 1142 Un Duw, un allor, un teyrngarwch dwys,
(2, 1) 1143 Yn asio llwyth wrth lwyth yn fflam un ffydd.
(2, 1) 1144 Am hynny, f'arglwydd frenin, dyma 'nghyngor;
(2, 1) 1145 Gwneler Caersalem yn brifddinas crefydd
(2, 1) 1146 Israel a Jwda gan Orseddfainc Dafydd...
(2, 1) 1147 Erys yr Arch o hyd mewn pabell foel,
(2, 1) 1148 A ninnau'n byw mewn plasau o goed cedrwydd.
(2, 1) 1149 Cyfoder yma Demel genedlaethol,
(2, 1) 1150 Un enw gwell y sydd na "Dinas Dafydd,"
(2, 1) 1151 A'r enw hwnnw—"Dinas y Brenin Mawr."
 
(2, 1) 1176 Fy mrenhinol dad,
(2, 1) 1177 Nes codi'r deml unol yng Nghaersalem
(2, 1) 1178 Fe lŷn pob tref wrth ei huchelfa'i hun.
(2, 1) 1179 A chan mai Hebron yw 'nhref enedigol,
(2, 1) 1180 Atolwg, gollwng fi yfory, ac af
(2, 1) 1181 At allor Hebron. Talaf yr adduned
(2, 1) 1182 Fan honno i Dduw am gymod mwyn â'm tad;
(2, 1) 1183 Ac felly yr enillwn yr Hebroniaid.
 
(2, 1) 1220 Rho imi ddeucant, Joab.
 
(2, 1) 1271 Cyn dod o'n Brenin grasol i'w neuadd heddiw
(2, 1) 1272 Addewais i'm cyd-dywysogion hyn
(2, 1) 1273 Fenthyg fy ngherbyd i roi tro i'r wlad,
(2, 1) 1274 A ganiatei-di hynny?
 
(2, 1) 1276 Y grymus Metheg-Ama.
 
(2, 1) 1282 Hwde!... Dyro fy chwip i Metheg-Ama.
 
(2, 1) 1342 Dy enw yw Ahimâs?
 
(2, 1) 1344 Ac oni welais-i di gyda Llanciau Joab,
(2, 1) 1345 Wrthi'n ymarfer ddoe ar ymgodymu
(2, 1) 1346 A thaflu gwaywffon ac ymryson ras?
 
(2, 1) 1348 Ac oni welais-i di'n ymryson ras
(2, 1) 1349 A Chŵsi ddu, gwas Joab?
 
(2, 1) 1352 Threchaist-ti mono?
 
(2, 1) 1354 "Ddim eto!" Beth yw ystyr hynny?
 
(2, 1) 1359 Purion uchelgais, ond 'threchi-di mono byth.
(2, 1) 1360 Mae haul Ethiopia'n fflam yn ei gyhyrau.
 
(2, 1) 1366 Am gant o siclau arian?... Bodlon fi!
(2, 1) 1367 O fewn tri mis? Rhagorol! Ond, fy nhad,
(2, 1) 1368 Mae'r peth fel dwyn dy arian da.
 
(2, 1) 1391 Duw gadwo'r Brenin.
 
(2, 1) 1395 Beth a ddywedaist-ti?
 
(2, 1) 1399 Ond gellir cau amdano a'i ddirymu.
 
(2, 1) 1401 Be' ddwedwn-ni wrth bobol Hebron 'fory?
 
(2, 1) 1403 Ofer, fy arglwydd?
 
(2, 1) 1406 Trwy symud ei brifddinas i Gaersalem?
 
(2, 1) 1409 Hen stori ddeunaw mlynedd! Dwyt ti 'rioed
(2, 1) 1410 Yn dal yn ddigllon am yr anffawd hwnnw?
 
(2, 1) 1416 Gad i'r hen stori. Oni thalodd Dafydd
(2, 1) 1417 Yn ddrud mewn penyd ac mewn edifeirwch?
(2, 1) 1418 Tosturiodd Duw; maddeuodd Nathan Broffwyd!
(2, 1) 1419 Pa synnwyr i |ti| ddal yn ddig o hyd?
 
(2, 1) 1426 Beth sydd a wnelo hynny â threthi Hebron?
 
(2, 1) 1429 Welais-i mo'r Frenhines
(2, 1) 1430 Ers dyddiau bellach. Prin yn wir y daw
(2, 1) 1431 Ar draws fy llwybr i, os gall hi beidio.
 
(2, 1) 1433 Mae Solomon a minnau'n eithaf ffrindiau.
 
(2, 1) 1435 Na wn i.
(2, 1) 1436 Clywais ei bod ar daith i weld ei thylwyth.
 
(2, 1) 1444 'Feiddiai-hi byth.
 
(2, 1) 1447 Beth yw dy gyngor?
 
(2, 1) 1453 F'arglwydd Ahitoffel, bradwriaeth yw!
 
(2, 1) 1465 A phe cytunwn, byddai 'nhad yn ddiogel?
 
(2, 1) 1478 Na chaiff, yn enw Duw!
(2, 1) 1479 Beth sydd yn rhaid ei wneud?
 
(2, 1) 1484 Beth am Gaersalem?
 
(2, 1) 1492 Abhitoffel, beth wyt-ti? Ai proffwyd doeth
(2, 1) 1493 Yn gweld trwy'r llen, a'th air fel gair y nef?
(2, 1) 1494 Ai adlais i uchelgais llosg fy mron?
(2, 1) 1495 Ai cennad Satan, y gwrthryfelwr mawr
(2, 1) 1496 A gododd blaid yn erbyn Gorsedd Nef
(2, 1) 1497 A chael ei hyrddio i'r pwll?
 
(2, 3) 1842 Dim enaid byw! Mae'r adar wedi ffoi
(2, 3) 1843 O gyrraedd ein cleddyfau.
 
(2, 3) 1859 Atal dy law!... Llais Meffiboseth yw.
 
(2, 3) 1861 Cyfod mewn heddwch. Nid oes gennyf gweryl
(2, 3) 1862 Â thi fy mrawd-dywysog.
 
(2, 3) 1869 Gad iddo, arglwydd.
 
(2, 3) 1871 Gwrando Meffiboseth,
(2, 3) 1872 Yr wyf mor hoff o'm tad ag yr ydwyt tithau.
(2, 3) 1873 Ond llawn o dwyll a dichell yw'r Frenhines.
 
(2, 3) 1879 Yr wyt ti'n
(2, 3) 1880 Rhy ifanc i wleidyddiaeth; ac ni wyddost
(2, 3) 1881 Mor enbyd cyflwr Israel.
 
(2, 3) 1884 Ac ni niweidiwn innau ef er dim;
(2, 3) 1885 Fe ddown i ddealltwriaeth.—Amdanat ti,
(2, 3) 1886 Nac ofna ddim. Ni ddaw i tithau niwed.
(2, 3) 1887 Cei aros yma'n Ddistain Llys y Brenin.
(2, 3) 1888 A wyt-ti'n fodlon?
 
(2, 3) 1890 O'r gorau... Ple mae'r goron... Wyddost ti?
 
(2, 3) 1899 Wyddost ti ddim mwy?
 
(2, 3) 1902 Na phoena ragor. Fe ddown ni o hyd i'r goron.
(2, 3) 1903 Ond edrych—gwna gymwynas â mi, 'wnei-di?
 
(2, 3) 1905 Llychlyd y ffordd wrth deithio yma o Hebron,
(2, 3) 1906 A'r haul yn danbaid arnom.
 
(2, 3) 1914 Na, nid wy'n ofni gwenwyn
(2, 3) 1915 Gan Meffiboseth, ond ni ddeisyfaf win.
(2, 3) 1916 Mae 'ngenau'n gras,—syched am ffrwyth sydd arnaf
(2, 3) 1917 O'r ardd frenhinol wedi'n hymdaith boeth.
(2, 3) 1918 Grawnsypiau pêr ac aur-afalau'r brenin,
(2, 3) 1919 Y rhain ymrithiai o'm blaen o Hebron yma.
(2, 3) 1920 A ei-di i gasglu rhai?
 
(2, 3) 1925 Does dim twyll
(2, 3) 1926 Yn agos iddo. Y mae'n werth ei ennill
(2, 3) 1927 O blaid fy hawl,—yr olaf o Dŷ Saul.
(2, 3) 1928 Eistedd, Ahitoffel, mae mwy i'w drafod.
(2, 3) 1929 Na phrepian Meffiboseth.
 
(2, 3) 1933 O! nid fel hyn bûm i'n dyfalu'r foment
(2, 3) 1934 Cawn eistedd yn fy nhro ar Orsedd Dafydd.
(2, 3) 1935 Yr oedd y Llys yn llawn; ac â llef utgyrn
(2, 3) 1936 Y rhoddai 'nhad y goron ar fy mhen,
(2, 3) 1937 Wedi i Sadoc fy eneinio i
(2, 3) 1938 I gyd-deyrnasu â'm tad; a phawb yn bloeddio
(2, 3) 1939 "Duw gadwo Absalom!" a "Duw gadwo Dafydd!"
 
(2, 3) 1945 Nid heb waed
(2, 3) 1946 Y dof yn frenin bellach.
 
(2, 3) 1954 Tyrfa Caersalem! Oriog fel y gwynt
(2, 3) 1955 Yw honno byth. Heddiw yn frwd "Hosanna,"
(2, 3) 1956 Yfory'n bloeddio "Ymaith."
 
(2, 3) 1964 Pa fodd nad aethost tithau heddiw
(2, 3) 1965 Gyda dy gyfaill Dafydd?... Ai dyma'r tâl
(2, 3) 1966 Am ei holl garedigrwydd iti?
 
(2, 3) 1975 Do, nid anghofiais hynny, Ahitoffel.
(2, 3) 1976 Mwyn yw dy eiriau, Hŵsai. A daethost yma
(2, 3) 1977 Yn gyntaf o'r dinaswyr i'm croesawu,
(2, 3) 1978 'Rwy'n gwerthfawrogi'r weithred.
 
(2, 3) 1986 Croeso i'n plith, Gynghorwr. Eistedd yma.
(2, 3) 1987 Rho imi fantais dy brofiadol farn.
 
(2, 3) 1989 F'arglwydd Ahitoffel, trafod yr oeddit
(2, 3) 1990 Ffordd i droi oriog ffydd y dyrfa'n ffaith.
 
(2, 3) 2008 Chytunais i erioed i ladd fy nhad.
 
(2, 3) 2016 Na! Na!... Fy arglwydd Hŵsai,
(2, 3) 2017 Beth yw dy gyngor di?
 
(2, 3) 2074 Hŵsai a roes y cyngor gorau heddiw.
 
(2, 3) 2079 Pam "ei ladd"?
 
(2, 3) 2085 Yr un hen stori.—Oni ddwedais wrthyt
(2, 3) 2086 Dalu ohono'n ddrud mewn edifeirwch?
(2, 3) 2087 Tosturiodd Duw, a hyd yn oed Nathan Broffwyd.
(2, 3) 2088 Paham y deli i sôn o hyd am ladd?
 
(2, 3) 2098 'Chei-di mo'i ladd!
 
(2, 3) 2102 Dyna ddigon
(2, 3) 2103 A chofia 'mod i'n fab i Ddafydd Frenin.
 
(2, 3) 2106 Beth? Mab i ti?
 
(2, 3) 2118 Mae deunaw mlynedd er y trosedd hwn.
 
(2, 3) 2132 Yr wyt ti'n wallgof!
 
(2, 3) 2137 'Wyt-ti'n fy mygwth? Wyt-ti'n codi'r cledd
(2, 3) 2138 Yn f'erbyn innau, fel yn erbyn Dafydd?
 
(2, 3) 2142 Cofiaf y lleill,
(2, 3) 2143 "Ni leddir brenin gan chwaraewyr gwyddbwyll,
(2, 3) 2144 Digon fydd cau o'i gwmpas i'w ddirymu..."
(2, 3) 2145 Dilynaf gyngor Hŵsai.
 
(2, 3) 2154 Ffrind, tywallt win.
 
(2, 3) 2161 Llwydd i tithau!
 
(2, 3) 2163 A diolch am aeddfedrwydd barn a phwyll
(2, 3) 2164 Yn lle gwylltineb gwallgo.
 
(2, 3) 2166 Beth oedd hyn'na?
 
(2, 3) 2173 'Wyddwn i ddim
(2, 3) 2174 Hyd heddiw fod Ureias yn fab iddo.
 
(2, 3) 2178 Megis y gwnaethost ti, trwy ddyfod ataf
(2, 3) 2179 A'th gyngor, er dy gariad tuag at Dafydd
(2, 3) 2180 Fy nhad.
 
(2, 3) 2185 Na minnau byth. Ac O! mi allwn wylo
(2, 3) 2186 Wrth gofio'i groeso... Nid i'w erbyn ef
(2, 3) 2187 Y codais i wrthryfel, ond Bathseba.
(2, 3) 2188 Hi sy'n rheoli; a pha wir dywysog
(2, 3) 2189 A adai i hon ladrata'i etifeddiaeth
(2, 3) 2190 I'w phlentyn siawns?
 
(2, 3) 2196 Byth ni chytunai
(2, 3) 2197 Tan orfod rhyfel. Ni adai balchder iddo.
 
(2, 3) 2204 Hollol ofer!
(2, 3) 2205 Dychwelai hwy â sen. Ni chyfamodai
(2, 3) 2206 Joab nac yntau â rhyw haid o fradwyr.
(2, 3) 2207 Minnau, ni siomwn wŷr a fentrodd bopeth
(2, 3) 2208 Er mwyn unioni cam â min y cledd.
(2, 3) 2209 Bellach, beth bynnag fo, rhaid cario'n hymgyrch
(2, 3) 2210 Ymlaen i fuddugoliaeth neu i fedd.
 
(2, 3) 2215 Ai un o'm milwyr i...?
 
(2, 3) 2226 "Mae'r chwarae trosodd," meddai, "a minnau'n gollwr."
 
(2, 3) 2229 Bellach, beth bynnag fo, rhaid cario'n hymgyrch
(2, 3) 2230 Ymlaen, i fuddugoliaeth neu i fedd.