Ciw-restr

Absalom Fy Mab

Llinellau gan Ahitoffel (Cyfanswm: 295)

 
(1, 0) 45 Corn hanner dydd! Pe baem ni'n llys-genhadon
(1, 0) 46 O lu Philistia'n crefu am gadoediad
(1, 0) 47 I gladdu'n meirw, 'chadwai o monom cyd.
 
(1, 0) 51 Rhwydd, f'arglwydd Hŵsai, ydyw dweud "Gan bwyll."
(1, 0) 52 Mae'r wlad yn anesmwytho. Pa sawl cyngaws
(1, 0) 53 Sy'n aros heb ei farnu gan y Brenin?
(1, 0) 54 A pha sawl cennad daer o ba sawl gwlad
(1, 0) 55 Sy'n ceisio cynghrair—heb gael gweld ei wedd?
(1, 0) 56 "Dowch eto yfory, ac fe'ch gwêl ein Harglwydd,
(1, 0) 57 Nid yw mor hwylus heddiw."
 
(1, 0) 60 Ac enw'r cwmwl ydyw ystyfnigrwydd!
 
(1, 0) 71 Priod ei ienctid!
(1, 0) 72 Main ac unionsyth fel palmwydden ifanc,
(1, 0) 73 Nid fel Bathseba, ein buwch-frenhines hon.
 
(1, 0) 80 Tair blynedd y cynllwyniodd hi'n ddeheuig,
(1, 0) 81 O'r diwrnod yr aeth Absalom ar ffo;
(1, 0) 82 Tair blynedd, er mwyn i Solomon ei mab
(1, 0) 83 Gael bod yn frenin ar ôl marw'i dad.
 
(1, 0) 87 Alltud! Am ba hyd?
(1, 0) 88 Mae'r bobol yn hiraethu am weld ei harddwch.
(1, 0) 89 Tywysog Jwda ac Anwylyd Hebron,
(1, 0) 90 A gerddai trwy Gaersalem gynt fel angel,
(1, 0) 91 A'r haul yn sgleinio ar ei hirwallt hardd.
 
(1, 0) 96 Mae'r bobol wedi maddau iddo. Rhagor,
(1, 0) 97 Yr Amnon hwnnw, fe lwyr haeddodd angau.
(1, 0) 98 Ystyria—treisio'i hanner-chwaer fel bwch,
(1, 0) 99 A'i chwipio wedyn, tan ei gwarth, o'i dŷ;
(1, 0) 100 Y Dywysoges Tamar, hoff chwaer Absalom.
(1, 0) 101 Yntau, pan welodd ing ei brydferth chwaer,
(1, 0) 102 A'i chael, â'i gwisg symudliw wedi ei rhwygo,
(1, 0) 103 Yn crogi oddi ar ddist ei stafell wely,
(1, 0) 104 Fe dyngodd lw gerbron yr uchel Iôr
(1, 0) 105 I'w dial, —merch ei mam, o fflam a fflur.
(1, 0) 106 Felly, yr hyn a wnaed yng Ngwledd Baal-hasor
(1, 0) 107 Â'r gyllell hir, 'doedd hynny ond cyfiawn dâl
(1, 0) 108 I gnaf na fynnai'r Brenin ei hun ei gosbi;
(1, 0) 109 Bwystfil na haeddai fyw, a bwch direol,
(1, 0) 110 Pa fodd y gallai hwnnw reoli cenedl?
(1, 0) 111 Mae'r bobol wedi maddau i Absalom,
(1, 0) 112 Fel y maddeuais innau.
 
(1, 0) 115 Maddeuodd yntau iddo yn ei galon.
(1, 0) 116 Ac felly enw'r cwmwl yw ystyfnigrwydd!
(1, 0) 117 Ystyria, f'arglwydd Hŵsai, fod gŵr mor fawr
(1, 0) 118 Yn gadael i falchder sefyll rhyngddo a'i gysur.
(1, 0) 119 Un gair, un amnaid llaw, un gogwydd pen,
(1, 0) 120 A alwai ei anwylyd ato'n ôl.
(1, 0) 121 Ond fel mai byw yr Arglwydd, daeth drwg ysbryd
(1, 0) 122 Ar Ddafydd Frenin megis cynt ar Saul.
 
(1, 0) 129 Am hynny, f'arglwydd Hŵsai, rhaid it fentro
(1, 0) 130 Cynghori'r brenin i alw Absalom adref.
 
(1, 0) 134 A ffafr y brenin megis gwlith ar laswellt
(1, 0) 135 I'r neb sy'n ennill diolch ganddo a gras.
(1, 0) 136 Llefara wrtho heddiw.
 
(1, 0) 140 Mwy enbyd bod yn fud
(1, 0) 141 A'r deyrnas a sefydlodd yn dadfeilio
(1, 0) 142 Er mawr lawenydd i'r dienwaededig.
(1, 0) 143 Gŵyr gwlad mai hi, y sarff wenwynig, a'i hudodd gynt
(1, 0) 144 I odinebus frad, trwy ladd y dewr
(1, 0) 145 Ureias, ei Gapten ffyddlon,—mai hyhi
(1, 0) 146 Sy'n llywodraethu'r llys.
 
(1, 0) 151 Hon sydd yn tynnu barn ar Israel.
 
(1, 0) 155 Duw a'i tago!
(1, 0) 156 Haws ganddo wrando arni na'i Gynghorwyr!
 
(1, 0) 163 Hy! Nathan broffwyd!
(1, 0) 164 Condemniwr eon eu godineb gynt!
 
(1, 0) 168 Megis y llif yn ddiau'r siclau arian
(1, 0) 169 O goffr brenhines i goffr gwas yr Arglwydd.
 
(1, 0) 171 Ond ti a mi, nis dofwyd, f'arglwydd Hŵsai.
 
(1, 0) 173 Ac nid er siclau hon y prynir Israel
(1, 0) 174 I dderbyn mab y butain! Coelia fi,
(1, 0) 175 Un enw'n unig a ddichon uno'r llwythau
(1, 0) 176 Ac arbed rhyfel cartref a thywallt gwaed
(1, 0) 177 Ar ôl marwolaeth Dafydd,—Absalom!
 
(1, 0) 179 Rhaid llefaru heddiw.
(1, 0) 180 A thithau, f'arglwydd Hŵsai, cyfaill Dafydd,
(1, 0) 181 Yw'r gŵr i ymliw â'r Brenin ar ei ran.
(1, 0) 182 Awn i'w ystafell cyn ein galw. Heddiw
(1, 0) 183 Rhaid iti ei ddarbwyllo. Os arhoswn
(1, 0) 184 Hyd ddydd y Cyngor, byddwn yn rhy hwyr.
(1, 0) 185 Duw roddo inni lwyddiant.
 
(1, 0) 189 Tyred i ffau y llew; ond cofia hyn—
(1, 0) 190 Yn llaw yr Arglwydd y mae calon brenin,
(1, 0) 191 Ac megis afon ddwfr yn troi o'i gwely
(1, 0) 192 Yntau a'i try hi fel y mynno Ef.
 
(1, 0) 884 Er mwyn y llwythau, galw Absalom!
 
(2, 1) 1082 Ie, o Hebron. 'Roedd ein harglwydd frenin
(2, 1) 1083 Yn awr yn trafod Hebron gyda'i Gyngor.
 
(2, 1) 1086 Clywch, fy arglwyddi,
(2, 1) 1087 O'r cychwyn ni bu Dinas Hebron fodlon
(2, 1) 1088 Ar osod ein prifddinas yng Nghaersalem.
 
(2, 1) 1105 Mae Hebron wedi gwrthod treth y Brenin.
 
(2, 1) 1172 Hyn oll a gymer amser. Eithr heddiw
(2, 1) 1173 Y gwrthyd Hebron anfon treth y Brenin
(2, 1) 1174 I lys Caersalem. _ Beth a wnawn ni heddiw
(2, 1) 1175 Â thref wrthnysig?
 
(2, 1) 1184 Cyngor rhagorol—teilwng o Fab Dafydd.
 
(2, 1) 1202 Ai diogel mynd o'n Twysog Absalom
(2, 1) 1203 Ei hun i Ddinas Hebron? Oni ddwedant
(2, 1) 1204 "Gyrasom weision Dafydd adre'n waglaw
(2, 1) 1205 Mewn dirmyg, pan ddoent yma i gasglu'r dreth.
(2, 1) 1206 Mae'r Brenin yn ein hofni; ac yn awr
(2, 1) 1207 Gyrrodd Ei fab i geisio ein perswadio;
(2, 1) 1208 Hwn ydyw yr etifedd, lladdwn ef."
 
(2, 1) 1211 Gadfridog Joab, dwedaist fod byddin gref
(2, 1) 1212 Yn uno cenedl ac yn gwarchod heddwch.
(2, 1) 1213 Rho iddo bumcant arall o wŷr traed
(2, 1) 1214 Yn osgordd ar ei daith i ddinas Hebron.
 
(2, 1) 1225 Trwy gennad f'arglwydd frenin, mi af finnau
(2, 1) 1226 Gyda'r Tywysog. Yn ddiau, fe ddaw Cyngor
(2, 1) 1227 Henuriaid Hebron allan i'w groesawu.
(2, 1) 1228 Fe fydd eu geiriau fel y diliau mêl,
(2, 1) 1229 A wermod yn eu calon o ran y dreth.
 
(2, 1) 1231 Rhaid wrth hynafgwr i weld trwy hynafgwŷr
(2, 1) 1232 A'u holl ystrywiau politicaidd,
 
(2, 1) 1238 Gadfridog Joab,
(2, 1) 1239 A ddeui dithau i'n canlyn?
 
(2, 1) 1321 Paham y rhedaist?
 
(2, 1) 1335 Nid cwrtais yfed dwfr yn Llys y Brenin.
 
(2, 1) 1393 Ni ellir lladd y brenin.
 
(2, 1) 1396 Wrth chwarae gwyddbwyll
(2, 1) 1397 Mae rheol od na ellir lladd y brenin,
(2, 1) 1398 'Waeth pa mor anobeithiol fyddo'r safle.
 
(2, 1) 1400 Siŵr iawn,—a dyna derfyn ar y chwarae...
 
(2, 1) 1402 Ofer fydd dwedyd dim.
 
(2, 1) 1404 Ofer, tra byddo Dafydd ar yr orsedd.
(2, 1) 1405 Fe'u digiodd hwynt, ac ni faddeuant byth.
 
(2, 1) 1407 Fe ddoent dros hynny... Yr hyn ni faddau gwlad
(2, 1) 1408 I frenin yw priodi gyda'i butain.
 
(2, 1) 1411 Y wlad sy'n dal ei dig. Nid anghofiasant
(2, 1) 1412 I frenin Israel yrru capten dewr
(2, 1) 1413 I'w dranc tan arfau'r gelyn, am fod chwant
(2, 1) 1414 Am wraig Ureias wedi ei wneud mor ffôl
(2, 1) 1415 A gorwedd gyda hi, a'i gŵr yn y gad.
 
(2, 1) 1420 Fe'i priododd-hi,—a dyna gŵyn ei wlad.
(2, 1) 1421 Dywysog, sôn yr ydym am wleidyddiaeth,
(2, 1) 1422 Am agwedd Hebron, nid fy agwedd i.
(2, 1) 1423 Pam na chymerodd hi yn ordderch iddo?
(2, 1) 1424 Goddefent hynny... Yr hyn ni faddau gwlad
(2, 1) 1425 I frenin byth ydyw priodi ei butain.
 
(2, 1) 1427 Mwy nag a dybi-di... Pa bryd y gwelaist
(2, 1) 1428 Bathseba olaf?
 
(2, 1) 1434 Wyddost-ti ddim p'le mae-hi?
 
(2, 1) 1437 O! mae hi'n gyfrwys; ond mae sbïwyr da'n
(2, 1) 1438 Glustiau a llygaid gennyf trwy'r holl deyrnas.
(2, 1) 1439 Ym Methlehem y mae-hi, yn gweithio cynllwyn
(2, 1) 1440 Gyda Beneia i'th anfon di'n llysgennad
(2, 1) 1441 I Tyrus bell, ac wedyn codi plaid
(2, 1) 1442 I |wneud| i'r Brenin enwi Solomon
(2, 1) 1443 Fel ei olynydd, a'i arwisgo felly.
 
(2, 1) 1445 Fe feiddiai unrhyw beth
(2, 1) 1446 Er mwyn ei mab, o'r dydd y daethost adref.
 
(2, 1) 1448 F'arglwydd Dywysog,
(2, 1) 1449 Camp fawr y gwleidydd yw marchogaeth plaid.
(2, 1) 1450 Pan gyrchwn Hebron 'fory â'n gosgordd gref,
(2, 1) 1451 Yn lle'u gwastrodi, lediwn eu gwrthryfel;
(2, 1) 1452 Ac Absalom fydd yn teyrnasu yn Hebron.
 
(2, 1) 1454 Dywysog, 'rwy'n rhy hen i air fy nychryn,
(2, 1) 1455 Fel bygwth bwcan ar ryw blantos ofnus.
(2, 1) 1456 Os achub gwlad rhag rhwygiad yw bradwriaeth,
(2, 1) 1457 A diogelu Dafydd, galw fi'n fradwr;
(2, 1) 1458 Os gweld ymhellach na'n gelynion craff
(2, 1) 1459 A tharo'r ergyd gyntaf yw bradwriaeth,
(2, 1) 1460 Os rhoi mewn grym dy weledigaeth fawr
(2, 1) 1461 Am uno'r llwythau oll trwy rin un deml
(2, 1) 1462 Yw bod yn fradwr, yna bradwr wyf.
(2, 1) 1463 Oherwydd safaf tros dy hawl hyd angau.
 
(2, 1) 1466 Ni leddir brenin gan chwaraewyr gwyddbwyll.
(2, 1) 1467 Digon fydd cau o'i gwmpas a'i ddirymu,
(2, 1) 1468 Megis y dwedaist,—dal i'w alw'n frenin
(2, 1) 1469 A'r wir lywodraeth ar dy ysgwydd di.
 
(2, 1) 1471 Edrych, Dywysog, edrych! Dyma'r goron
(2, 1) 1472 A wisgwyd gynt gan frenin cyntaf Israel
(2, 1) 1473 Yn nydd ei nerth, yna gan Ddafydd Fawr;
(2, 1) 1474 A gaiff hi fynd yn drydydd, gennyt ti,
(2, 1) 1475 I laslanc preplyd o dan fawd ei fam
(2, 1) 1476 Am fod y gwir etifedd yn rhy lednais
(2, 1) 1477 I ddal ar gyfle?
 
(2, 1) 1481 Pan awn i Hebron
(2, 1) 1482 Yfory, a'r osgordd gadarn gyda ni,
(2, 1) 1483 Fe'th gyfyd dy gyd-drefwyr di'n gyd-frenin.
 
(2, 1) 1485 Gyda sydyn gyrch,
(2, 1) 1486 Y dydd pan gedwir gŵyl yn Llys Caersalem
(2, 1) 1487 I ganlyn dawns a gwin, disgynnwn arnynt,
(2, 1) 1488 Nyni a thylwyth Hebron. Yn eu braw
(2, 1) 1489 A'u syndod rhaid fydd derbyn ein telerau,
(2, 1) 1490 A byddi'n frenin heb ddim tywallt gwaed.
 
(2, 1) 1499 A chodi yno
(2, 1) 1500 Deyrnas arwrol, gref, a saif hyd heddiw!
 
(2, 1) 1502 Na, fy Nhywysog, nid wyf ond hen ŵr
(2, 1) 1503 A welodd fflam ei freuddwyd mewn gŵr ifanc
(2, 1) 1504 A'i ddilyn ef hyd dranc.
 
(2, 1) 1506 Bydded Gweledydd
(2, 1) 1507 Yn eistedd bellach ar yr orsedd hon.
 
(2, 1) 1509 A boed i minnau'r fraint yn gyntaf un
(2, 1) 1510 O ddweud, "Byw byth fo'r Brenin Absalom!"
 
(2, 3) 1845 Ond nid o gyrraedd
(2, 3) 1846 Cleddyf yr Arglwydd am eu drwg weithredoedd.
(2, 3) 1847 Yn Llys y Brenin planner baner Barn!
 
(2, 3) 1849 Edrych! Mae un ar ôl... Rhy feddw'n siŵr
(2, 3) 1850 Pan ffodd y lleill o ganol gwledd a gwin.
 
(2, 3) 1853 Deffro, y meddwyn swrth!
 
(2, 3) 1865 Dy frawd, ai e?... Penlinia i Frenin Israel.
 
(2, 3) 1875 Rhagor o'i dichell,
(2, 3) 1876 Er cael cefnogaeth gan Dŷ Saul i'w mab.
 
(2, 3) 1894 'Nawr, dim o'th gelwydd! Ple mae Coron Israel?
 
(2, 3) 1909 Na! Paid â'i yfed... Dichon bod gwenwyn ynddo.
 
(2, 3) 1924 Sut yr wyt ti'n ei oddef?
 
(2, 3) 1930 Eistedd |di|,
(2, 3) 1931 Fy Mrenin, yn gyntaf ar Orseddfainc Israel.
 
(2, 3) 1940 Petai ein byddin heddiw wedi cyrraedd
(2, 3) 1941 Caersalem yn ddi-rybudd, felly y buasai.
(2, 3) 1942 Naw wfft i'r gwyliwr dwl yn Ninas Hebron
(2, 3) 1943 A dybiodd fod Cŵsi ar dy neges di!
(2, 3) 1944 Cawsant ddwy awr o rybudd.
 
(2, 3) 1949 'Rwyt-ti'n frenin.
(2, 3) 1950 Eisoes yn serch Caersalem. Gwrando arnynt!
 
(2, 3) 1957 Gwrando 'nghyngor,
(2, 3) 1958 Mae gennyf ffordd i droi eu ffydd yn ffaith.
(2, 3) 1959 Camp fawr tywysog yw marchogaeth teimlad
(2, 3) 1960 Y dyrfa.
 
(2, 3) 1971 Fy arglwydd frenin
(2, 3) 1972 Pan oeddit mewn alltudiaeth yn Gesŵr,
(2, 3) 1973 Mentrodd fy arglwydd Hŵsai lid y brenin
(2, 3) 1974 Trwy ei gynghori i'th alw adre'n ôl.
 
(2, 3) 1991 Dangos dy hun yn berchen eiddo Dafydd.
(2, 3) 1992 Gwisg ei frenhinol glog.
 
(2, 3) 1994 Tor i'w drysorfa.
(2, 3) 1995 Dos heno i mewn i dŷ ei ordderch wragedd.
 
(2, 3) 1997 Yna, pan glywo'r dyrfa dy fod yn ffiaidd
(2, 3) 1998 Yng ngolwg Dafydd, a'th her yn her derfynol,
(2, 3) 1999 Ymrestrant oll o dan dy faner di.
 
(2, 3) 2001 Un peth ymhellach. Dyro i minnau gatrawd
(2, 3) 2002 O filwyr Hebron. Mi erlidiaf heno
(2, 3) 2003 Hyd wersyll Dafydd... Ni ddisgwyliant hynny.
(2, 3) 2004 Fe'u trawaf hwynt, yn gysglyd a lluddedig,
(2, 3) 2005 Fe ffŷ ei osgordd wedi ei syfrdanu;
(2, 3) 2006 Ac nid rhaid inni ladd neb ond y brenin.
 
(2, 3) 2009 Gad hynny imi. Bellach nid oes ffordd arall
(2, 3) 2010 I ennill heddwch, a'th goroni di
(2, 3) 2011 Heb unrhyw wrthblaid. Fe oroesodd Dafydd
(2, 3) 2012 Ei ddefnyddioldeb... Gwêl, mae'i haul ar fachlud
(2, 3) 2013 Mewn pwll o waed.
 
(2, 3) 2030 Gad hynny imi. Fe dduwn ein hwynebau
(2, 3) 2031 A disgyn ar bob gwyliwr yn ddi-sŵn.
 
(2, 3) 2050 Pa gyngor gwell a roddai arglwydd Hŵsai?
 
(2, 3) 2056 Menter yw pob rhyfel.
 
(2, 3) 2066 A ph'le bydd byddin Dafydd?
 
(2, 3) 2075 Mae'n gyngor ynfyd! Rhaid eu taro heno
(2, 3) 2076 Yn sydyn yn eu blinder. Bydd yn rhy hwyr
(2, 3) 2077 Erbyn yfory. Ni ddaw siawns fel hwn
(2, 3) 2078 Byth eto i ladd y brenin.
 
(2, 3) 2080 Am na chei heddwch fyth ac yntau'n fyw.
(2, 3) 2081 Gŵr gwaedlyd yw; gŵr sy'n dwyn barn ar Israel,
(2, 3) 2082 Newyn, a phlâu, a dwys ofidiau fyrdd;
(2, 3) 2083 Gŵr sydd â'i ddwylo'n goch gan waed Ureias,
(2, 3) 2084 Gad imi ei daro heno â chleddyf barn.
 
(2, 3) 2089 Fy Mrenin Absalom, offeryn dial
(2, 3) 2090 A fuost tithau unwaith yn Llaw Dduw,
(2, 3) 2091 Pan blennaist gyllell hir yng nghalon Amnon
(2, 3) 2092 Am dreisio dy hoff chwaer. Arhosaist awr
(2, 3) 2093 Y dial mewn amynedd; ond, pan ddaeth,
(2, 3) 2094 A glywaist ti orfoledd fel llif ffrydiol
(2, 3) 2095 Gwaed poeth y treisiwr dros dy law a'th gyllell?
(2, 3) 2096 Dyro i minnau'r un gorfoledd heno.
 
(2, 3) 2099 Wyt ti'n ynfydu, lencyn?
(2, 3) 2100 Rhaid imi ei ladd-o heno!
 
(2, 3) 2105 O'r gorau! Mab i minnau oedd Ureias!
 
(2, 3) 2107 Fy mab... Nid mab cyfreithlon:
(2, 3) 2108 Llances o Hethiad oedd ei fam; ond Duw
(2, 3) 2109 A ŵyr fy nghariad at fy machgen dewr.
(2, 3) 2110 Yn ifanc daeth yn Gapten... Mewn sawl brwydyr
(2, 3) 2111 Y chwarddodd am ben Angau â Llanciau Joab?
(2, 3) 2112 Ac yna fe'i gadawsant; fe'i gadawsant
(2, 3) 2113 Ar ganol arwain cyrch tros Frenin Israel;
(2, 3) 2114 Ar amnaid eu Cadfridog fe'i gadawsant
(2, 3) 2115 O fwriad, fel y cwympai o flaen y gelyn,
(2, 3) 2116 A rifai ddeg am un; ac fel y caffai
(2, 3) 2117 Y Brenin gysgu'n esmwyth gyda'i wraig.
 
(2, 3) 2119 Beth yw blynyddoedd wrth ddialedd tad?
(2, 3) 2120 Anghofiodd pawb;—anghofiodd Nathan Broffwyd!
(2, 3) 2121 Ond nid anghofiais i.
 
(2, 3) 2124 Mae mwy o berygl yn dy gynllun di,—
(2, 3) 2125 Ymbwyllo! Oedi! Heno y mae taro
(2, 3) 2126 Ag ergyd barn y nef yn nerthu'n cyrch.
(2, 3) 2127 Edrychwch! Arwydd sicir!—Machlud haul
(2, 3) 2128 Fel pwll o waed wrth borth y llofrudd Dafydd!
 
(2, 3) 2130 Cleddyf yr Arglwydd ac Ahitoffel!
 
(2, 3) 2133 (Yn bloeddio'n fygythiol a'r cleddyf yn dal yn ddyrchafedig.}
(2, 3) 2134 Gwallgof wyt dy hun!
(2, 3) 2135 |Rhaid| iti roi i mewn i'm cyngor heno.
 
(2, 3) 2140 Maddau fy nhymer wyllt, O Frenin grasol,
(2, 3) 2141 Anghofia ngeiriau byrbwyll.
 
(2, 3) 2147 Mae'r chwarae trosodd,
(2, 3) 2148 A minnau'n golwr... Esgusodwch fi...
(2, 3) 2149 Mae'n oerach yn yr ardd...