Ciw-restr

Absalom Fy Mab

Llinellau gan Bathseba (Cyfanswm: 44)

 
(1, 0) 564 Solomon!
 
(1, 0) 566 Disgyn ar frys o uchel fainc y Brenin!
 
(1, 0) 570 Gadfridog Joab,
(1, 0) 571 Nid ti a ddwedodd wrtho?
 
(1, 0) 575 Ar unwaith, ymddiheura i'r Cadfridog!
 
(1, 0) 587 Dweud wrth ba fab twysog?
 
(1, 0) 594 Tŷ Saul! Tŷ Saul! Pa hyd y'n blinir ganddynt?
(1, 0) 595 Pa hyd bydd Gorsedd Dafydd mewn enbydrwydd?
 
(1, 0) 606 Ai yn gloff y'th aned?
 
(1, 0) 628 A phwy wyt ti sy'n gofyn imi ymbil?
 
(1, 0) 637 Myn enw Belial! Ai rhy wag oedd tŷ
(1, 0) 638 Y gordderch wragedd, fel bod rhaid wrth hon
(1, 0) 639 O ardal Sŵnem eto i'w gysuro?
(1, 0) 640 Clyw'r ffolog, dos yn ôl i dŷ dy dad.
(1, 0) 641 Aeth Brenin Israel yn hen, —yn hen, yn hen!
(1, 0) 642 Mae'i waed o'n oer. Mae'n cysgu wrtho'i hunan.
(1, 0) 643 'Does iddo ddim diddanwch mewn llancesi!
 
(1, 0) 648 Beth a ddwedaist?
 
(1, 0) 654 Ni wyddwn i.
 
(1, 0) 660 Maddau, fy mhrydferth. Gwelaf nad oes dichell
(1, 0) 661 Yn nwfn y llygaid hyn. Maddau, yn wir,
(1, 0) 662 Im fod mor fyrbwyll. {Yn anwesu ei phen.} O mor dlws dy wallt.
(1, 0) 663 Cymer y freichled hon yn anrheg gennyf.
 
(1, 0) 666 Ond gwisg hi'n arwydd cymod.
 
(1, 0) 669 Cyfod. Rhaid imi dy gofleidio di.
 
(1, 0) 675 Mi wnaf, fy nhlos. Boed hynny'n iawn brenhinol
(1, 0) 676 Am y sarhad. A phan gyfodo'r Brenin
(1, 0) 677 Mi blediaf drosto.
 
(1, 0) 686 Cei fyw, fachgennyn dewr, os caf fi ffafr
(1, 0) 687 Y Brenin heddiw. Dywed Abisâg,
(1, 0) 688 Pa gân o salmau Dafydd a ddewisaist
(1, 0) 689 I'w chanu iddo'n gyntaf yn ei lys
(1, 0) 690 Er bwrw'i flinder ysbryd?
 
(1, 0) 740 Fy Arglwydd Frenin!
 
(1, 0) 754 Wele, fy Arglwydd Frenin, Meffiboseth,
(1, 0) 755 Unig fab Jonathan, yn dlawd a chloff,
(1, 0) 756 I'th gyfarch ac i erfyn dy drugaredd.
 
(1, 0) 889 Ni ddychwel byth. Caledu a wnaeth ei galon
(1, 0) 890 Ym mhebyll llwyth ei fam; ni cheisiodd gymod
(1, 0) 891 Â'i dad trwy dymor ei alltudiaeth hir.
 
(1, 0) 900 Ond cofia'i drosedd—lladd ei frawd ei hun!
(1, 0) 901 Mae gan y Brenin feibion mewn oed tyner;
(1, 0) 902 Ai iawn gan hynny galw llofrudd adref?
 
(3, 2) 2809 Dos, galw arno.