Ciw-restr

Absalom Fy Mab

Llinellau gan Beneia (Cyfanswm: 147)

 
(1, 0) 324 Y gair yw "Cymod."
 
(1, 0) 343 Dydd da, Gadfridog.
(1, 0) 344 (Yn ffug-chwareus.} A ddechreuodd chwyldro
(1, 0) 345 Na chaffai Capten y Gard ddynesu i'r plas
(1, 0) 346 Heb roddi gair yr arwydd?
 
(1, 0) 351 Rhaid fod yn wir! Y mae fy ngwŷr i'n gwarchod
(1, 0) 352 Pob porth ac adwy. Erioed ni chlywais-i gŵyn
(1, 0) 353 Fod neb o'm gwŷr o gard yn dechrau hepian,
(1, 0) 354 Fod eisiau gwyliwr arall yn yr ardd
(1, 0) 355 Ar fore teg o haf. Ai rhag llaw brad
(1, 0) 356 Y rhoed dy was i gadw llwybrau'r ardd
(1, 0) 357 Â'i gleddyf ysgwydedig, fel y rhoed
(1, 0) 358 Ceriwbiaid Eden i warchod pren y bywyd?
(1, 0) 359 Ceriwb go dlws, wir Dduw,—mor ddu ag uffern!
 
(1, 0) 361 Fy rhwystro gan ddienwaededig gi!
 
(1, 0) 372 Newydd ddychwelyd,
(1, 0) 373 Ar ôl cyflawni neges dros y brenin.
 
(1, 0) 376 P'le cest-ti hon, Gadfridog?
 
(1, 0) 378 Ha! Gwlad y lili a'r pomgranadau pêr,
(1, 0) 379 Cartref caneuon serch a merched hardd,
(1, 0) 380 A blas y gwin ar eu cusanau brwd.
 
(1, 0) 382 Llongyfarchiadau, f'arglwydd! Mae dy chwaeth
(1, 0) 383 Mor sicr wrth ddewis milwr, march,—a merch.
(1, 0) 384 Cei ddiolch y brenin am gaethferch deg fel hon,
(1, 0) 385 A cherddgar hefyd,—at ei ordderchwragedd.
 
(1, 0) 395 Purion, Gadfridog!
 
(1, 0) 399 Y Brenin a ddywedodd wrthyf, "Dos
(1, 0) 400 I Lo-Debâr, i dŷ Machîr, mab Amiel.
(1, 0) 401 Clywais fod yno un o deulu Saul
(1, 0) 402 Yn fabwysiedig. Brysia, cyrch ef ataf."
(1, 0) 403 Minnau a frysiais ac a gefais hwn
(1, 0) 404 A fagwyd ar ei dyddyn gan Machîr.
 
(1, 0) 406 Ni wn i,
(1, 0) 407 Onid ei grogi fel y gwnaeth â meibion
(1, 0) 408 Rispa a Saul, ar furiau tref Gibeon.
 
(1, 0) 410 A'r deyrnas mor aniddig, yr unig aelod
(1, 0) 411 Daionus o Dŷ Saul yw aelod marw,
(1, 0) 412 Rhag creu gwrthryfel eto. A dyma'r cyw
(1, 0) 413 Olaf o'r nyth adfydus—Meffiboseth,
(1, 0) 414 Mab Jonathan, medd Machîr. Y cloff hwn.
 
(1, 0) 421 Am hynny, meddaf innau, f'arglwydd Joab,
(1, 0) 422 Colofn ddi-syfl Tŷ Dafydd, yr unig aelod
(1, 0) 423 Daionus o Dŷ Saul yw aelod marw.
 
(1, 0) 451 Rhaid iti frysio, 'r cyw! Oherwydd sydyn
(1, 0) 452 Yw barnau'r Brenin.
 
(1, 0) 469 Dydd da i'n Twysog Solomon, lleufer llys.
 
(1, 0) 471 "Lleufer," Dywysog, yw goleuni disglair, —
(1, 0) 472 Dy dad yw'r haul, dy freiniol fam yw'r lloer,
(1, 0) 473 Ac ynot cydgyferfydd eu disgleirdeb.
 
(1, 0) 502 Yr olaf o Dŷ Saul yw'r efrydd hwn.
(1, 0) 503 Â'r fantell garpiog. Dy frenhinol dad
(1, 0) 504 A'i galwodd yma fel y gwypai'i ddedfryd,
(1, 0) 505 A'i enw yw Meffiboseth.
 
(1, 0) 568 F'arglwyddes, nid oedd hyn ond chwarae plant
(1, 0) 569 Heb unrhyw fwriad drwg.
 
(1, 0) 596 Dyma'r cyw olaf un o nyth y neidr.
(1, 0) 597 Sathred y Brenin heddiw ar ei ben,
(1, 0) 598 A dyna ddiwedd arnynt!
 
(1, 0) 762 F'Arglwwydd!...
 
(1, 0) 893 Gan hynny, Frenin, ped anfonit heddiw
(1, 0) 894 Ar ôl distawrwydd hir, onid fel gwendid
(1, 0) 895 Yn Israel y cyfrifai yntau hyn,
(1, 0) 896 A chroesi'r ffin â gwrthryfelgar blaid
(1, 0) 897 I'w wneud ei hun yn frenin yn dy le?
 
(2, 2) 1633 Clywsom y Gloch Alarwm! Gelwais y Gard.
(2, 2) 1634 Atolwg, fy Nghadfridog, be' sy'n bod?
 
(2, 2) 1637 Y bradwr ffiaidd!
 
(2, 2) 1639 ... O! mi wyddwn i
(2, 2) 1640 Er pan adferaist ef i ffafr y Brenin...
(2, 2) 1641 Beth yw d'orchmynion?
 
(2, 2) 1671 Purion, Gadfridog... Rhyw orchymyn pellach?
 
(2, 2) 1674 Fy Arglwydd Frenin, trefnaf y llu i'ch disgwyl.
 
(3, 1) 2260 Fy Arglwydd Frenin!... Fy Nghadfridog Joab!
(3, 1) 2261 Galwaf, yn ôl eich gair... Mae'n doriad dydd.
 
(3, 1) 2269 Henffych well, fy Mrenin.
(3, 1) 2270 Mae'r haul am godi'n glir ar ddydd dy frwydr.
(3, 1) 2271 Clir ar dy fuddugoliaeth y machludo.
 
(3, 1) 2281 A gaf i alw
(3, 1) 2282 Rhingyll ein Gwŷr o Gard i seinio'r utgorn?
 
(3, 1) 2432 Bellach ni elli di ragor
(3, 1) 2433 I'w helpu nag a wnaethost eisoes. Tyrd,
 
(3, 1) 2435 Cynhaliaf di i'th stafell wely. Tyrd.
 
(3, 1) 2439 Cwsg. Fe alwn arnat
(3, 1) 2440 Cyn gynted ag y gwelwn y rhedegwr.
 
(3, 1) 2453 Ar unwaith... Tyred, arglwydd, gorffwys bellach.
 
(3, 1) 2462 "Bydd esmwyth er fy mwyn wrth Absalom." Baw!
 
(3, 1) 2467 Pe bawn i'n Joab, fe gâi'r llanc "esmwythyd"!
 
(3, 2) 2509 Peth braf yw gallu cysgu ar ganol brwydr.
 
(3, 2) 2511 Dim newid, na dim arwydd, na dim sŵn.
(3, 2) 2512 Weli di Fforest Effraim ar y gorwel
(3, 2) 2513 Fel rhimyn du? Am oriau bu fy llygaid
(3, 2) 2514 Yn craffu arni a heb weled dim;
(3, 2) 2515 Dim, er yr awr y llithrodd ein dwy asgell
(3, 2) 2516 I dde a chwith o'i chwmpas i'w hamgylchu.
(3, 2) 2517 Am oriau bu fy nghlustiau'n gwrando'n ddwys
(3, 2) 2518 Am unrhyw sŵn o'r Fforest. Dim yw dim.
(3, 2) 2519 Ac eto mae cymrodyr imi ynddi
(3, 2) 2520 Mewn ymdrech ddreng ag angau. Rhwng y cangau
(3, 2) 2521 Mae trwst y brwydro'n tarfu'r adar cân,—
(3, 2) 2522 Clinc cledd ar helm, clonc gwaywffon ar darian,
(3, 2) 2523 Bloeddiadau utgyrn a gweryriad meirch,
(3, 2) 2524 Gwaedd y capteiniaid, ac ysgrech sawl llanc
(3, 2) 2525 Mewn ing, yn treiglo â saeth yn ei goluddion,
(3, 2) 2526 A rhu cynddaredd ei ddialwyr ef.
 
(3, 2) 2540 Gobeithio i Dduw y bydd Absalom yn eu plith.
 
(3, 2) 2542 Caled yw gair y nef
(3, 2) 2543 Am bob llanc tebyg, a watwaro'i dad;—
(3, 2) 2544 "Y fagl a osodwyd ar ei lwybr;
(3, 2) 2545 Ei gannwyll a ddiffoddir ganol nos;
(3, 2) 2546 Cigfrain y dyffryn sydd i dynnu ei lygaid,
(3, 2) 2547 Eryrod rheibus sydd i fwyta'i gnawd."
 
(3, 2) 2550 Byth ni bydd llawen.
(3, 2) 2551 Tad a genhedlo ffŵl, hyd ddydd ei dranc.
 
(3, 2) 2553 Negesydd ydyw!... Galw ar y Brenin
 
(3, 2) 2556 Geidwad y Porth!
 
(3, 2) 2558 Y negesydd!
(3, 2) 2559 Agor y porth i'w dderbyn.
 
(3, 2) 2561 A galw'r Gwŷr o Gard.
 
(3, 2) 2567 Draw ar y gwastad.
 
(3, 2) 2572 Nac oes, neb ond hwn.
 
(3, 2) 2576 Edrychwch!... Mae gŵr arall erbyn hyn
(3, 2) 2577 Yn rhedeg ar ei ôl... Mae bron â'i ddal.
 
(3, 2) 2579 Edrychwch!... Fo sy'n ennill... Pasiodd Cŵsi!
 
(3, 2) 2587 Y nefoedd! Y fath ras!
 
(3, 2) 2589 Y Gard! Trowch allan er anrhydedd iddynt!
 
(3, 2) 2591 Buddugoliaeth!
 
(3, 2) 2680 Sut y lladdwyd ef?
 
(3, 2) 2716 Os na chest wobr y Brenin, cei wobr Bathseba!
(3, 2) 2717 Prysura'n awr i'w llety yn y ddinas
(3, 2) 2718 Ac adrodd wrthi hi dranc Absalom;
(3, 2) 2719 Dos, galw hi yma ar frys,—a Solomon!
 
(3, 2) 2724 Baner y Llew a fo'n croesawu'n harwyr
(3, 2) 2725 Buddugoliaethus adref.
 
(3, 2) 2727 Ho yna'r, Gard!
(3, 2) 2728 Estynnwch ffaglen imi i oleuo
(3, 2) 2729 Baner y Llew fel y bo i'w gweld o bell.
 
(3, 2) 2757 Beth?
(3, 2) 2758 Diffodd y ffaglen sy'n croesawu'r hogiau
(3, 2) 2759 Fu'n mentro'u bywyd trosom? Taw, y ffŵl.
(3, 2) 2760 Nid mewn tywyllwch y mae derbyn arwyr,
(3, 2) 2761 Ond dygant hwythau toc eu ffaglau tân.
 
(3, 2) 2773 Mae rhai o'n milwyr eisoes wrth y Porth
(3, 2) 2774 Yn llithro i'r ddinas megis lladron nos,
(3, 2) 2775 Fel pe mewn cwilydd.... Os dy fwriad oedd
(3, 2) 2776 Gwarthruddo'r bechgyn cywir a fu'n ymladd
(3, 2) 2777 Yn erbyn bradwyr, cefaist dy ddymuniad.
 
(3, 2) 2779 'Disgwyl dy fod di'n fodlon—y gath wyllt!