Ciw-restr

Absalom Fy Mab

Llinellau gan Dafydd (Cyfanswm: 333)

 
(1, 0) 752 Dydd da, fy Mrenhines.
 
(1, 0) 758 Mab Jonathan!
 
(1, 0) 761 Mab Jonathan mewn carpiau! Gapten Beneia!
 
(1, 0) 763 Cyrch ymo'r fantell fraith sy ar fy ngwely.
 
(1, 0) 769 Mab Jonathan yn gloff!... Dwg ef i eistedd,
(1, 0) 770 Gadfridog Joab... Mae cwrteisi ein llys?
 
(1, 0) 773 Mab Jonathan yn dlawd!—Fy machgen, gwrando,—
(1, 0) 774 Rhoddaf yn ôl i'th gadw dir dy dadau.
(1, 0) 775 Nac ofna mwyach. Mab fy nghyfaill wyt.
 
(1, 0) 778 Diosg ei garpiog glog, a dyro'r fantell
(1, 0) 779 Fu gennyf fi fy hun dros ei ysgwyddau.
 
(1, 0) 782 Gwrandewch i gyd!
 
(1, 0) 784 O'r dwthwn hwn ymlaen
(1, 0) 785 Bydd Meffiboseth megis mab i mi.
(1, 0) 786 Bwyty ar fwrdd y Brenin. Telwch iddo
(1, 0) 787 Yr un wrogaeth ag i'n tywysogion.
 
(1, 0) 790 Hyn oll, fy machgen, er mwyn Jonathan.
 
(1, 0) 795 Tyred ac eistedd yma.
 
(1, 0) 797 Pwy wyt ti?
 
(1, 0) 800 Ple dysgaist ti fy nghân?
 
(1, 0) 805 'Rwyt ti'n ferch
(1, 0) 806 I Eleasar? Cymrawd llawer cad.
 
(1, 0) 808 Fe drawodd gymaint o'r Philistiaid, Joab,
(1, 0) 809 Nes glynu o'i ddeheulaw wrth y cleddyf
(1, 0) 810 A'i fraich yn ddiffrwyth dro, ar ganol cad.
(1, 0) 811 Pa fodd y ffynna fy hen gymrawd gynt?
 
(1, 0) 815 A chanddo y dysgaist fy ngalarnad?
 
(1, 0) 820 Peraidd ganiedydd Israel gynt y'm galwent
(1, 0) 821 Pan gyrchodd gwŷr fi'n llanc o blith y praidd
(1, 0) 822 I wared Saul. {Ochenaid.} Mae dyn yn mynd yn hen.
(1, 0) 823 Mwynder ieuenctid,—cynt na'r bore wlith
(1, 0) 824 Ymedy hwn.
(1, 0) 825 Ond heddiw clywais lais
(1, 0) 826 A'm dug yn ôl i Fethlehem fy ienctid,
(1, 0) 827 I ffresni ei blodau ac i'w phorfa serog,
(1, 0) 828 A lliwiau'r Eden goll ar daen i gyd.
(1, 0) 829 Mi glywais lais yn moli cyfeillgarwch
(1, 0) 830 Uwch marwol don,—pan oedd y fron heb frad.
(1, 0) 831 Bendithiaf Dduw a'th yrrodd ataf heddiw,
(1, 0) 832 Bendithiaf dithau a'm lluddiaist â'th hyfrydlais
(1, 0) 833 Rhag tywallt gwaed y gwirion, ac ymddial
(1, 0) 834 Ar lanc diniwed,—er mwyn Jonathan.
 
(1, 0) 837 'Rwy'n hen a blin, ond hoffwn petai'r llais
(1, 0) 838 A glywais heddiw'n aros gyda'r brenin
(1, 0) 839 Yn ei fynediad a'i ddyfodiad fyth.
 
(1, 0) 850 Yr Arglwydd Dduw a dalo it dy ras.
(1, 0) 851 Er hynny, ni rown fyth aderyn gwyllt
(1, 0) 852 I fyw mewn cawell a gofyn ganddo gân.
(1, 0) 853 Yr wyt ti'n rhydd bob dydd i fynd a dyfod,
(1, 0) 854 Fy Swnamês, fel un o blant y brenin.
(1, 0) 855 Yr wyt ti'n rhydd i ofyn anrheg hael
(1, 0) 856 Yn wobr dy ganu ganddo; nid gŵr tlawd
(1, 0) 857 Yw Brenin Israel.
 
(1, 0) 859 Cymer y fodrwy hon.
 
(1, 0) 864 A pheth yw rhin llawenydd, lances fwyn?
 
(1, 0) 866 Dysg imi'r gair, ac fel mai byw yr Arglwydd,
(1, 0) 867 Mi a'i llefaraf yng ngwylfeydd y nos.
 
(1, 0) 888 Beth yw dy gyngor dithau, fy Mrenhines?
 
(1, 0) 892 Ac er fy hiraeth, nid anfonais air.
 
(1, 0) 898 Beneia! Am fy mab yr wyt-ti'n sôn!
 
(1, 0) 903 Iawn, pan fu'r Brenin yntau'n llofrudd. Iawn!
 
(1, 0) 905 Gwnaf, lances, mi anfonaf am fy mab.
 
(1, 0) 912 Ni chredi-di, Joab, fel ein doeth Frenhines,
(1, 0) 913 Mai ofer anfon?—Na ddychwelai byth
(1, 0) 914 O dir Gesŵr? Fod balchder yn ei war?
 
(1, 0) 920 Wyt-ti'n siŵr?
 
(1, 0) 924 Mynnwn, yn enw Duw!
 
(1, 0) 935 Croesoi'n llys!...
(1, 0) 936 Cennad y Twysog wyt?
 
(1, 0) 939 Pa raid wrth ragor?
(1, 0) 940 —Modrwy fy mab yw hon!
 
(1, 0) 942 Dwg dithau iddo ef fy modrwy innau
(1, 0) 943 Yn arwydd cymod a maddeuant tad,
(1, 0) 944 A bod pob croeso iddo adre'n ôl.
 
(1, 0) 948 Arch iddo frysio, cyn bod fy mhenwynni'n
(1, 0) 949 Disgyn mewn hiraeth mawr amdano i fedd.
 
(1, 0) 959 Absalom, fy mab!
 
(2, 1) 1071 Dydd da, fy meibion.
 
(2, 1) 1073 Wele mor ddaionus
(2, 1) 1074 A hyfryd ydyw trigo o frodyr ynghŷd.
(2, 1) 1075 Mae fel yr ennaint gwerthfawr... Mi wnaf gân
(2, 1) 1076 Ryw ddydd ar beraroglus rin brawdgarwch.
 
(2, 1) 1084 Dwedwch yr helynt wrth fy nhywysogion,
(2, 1) 1085 A thraethent hwythau'u barn.
 
(2, 1) 1097 Ond mewn cyrch
(2, 1) 1098 Y trechais i Gaersalem y Jebiwsiaid,
(2, 1) 1099 Trwy ddringo'r gwter i'w caer anorchfygol,
(2, 1) 1100 Ai throi hi'n Ddinas Dafydd, gan ei harddu
(2, 1) 1101 Ag adeiladau teilwng o Brifddinas.
 
(2, 1) 1107 Beth yw dy gyngor?
 
(2, 1) 1140 Beth sydd yn uno cenedl, Absalom?
 
(2, 1) 1155 "Dinas y Brenin Mawr!" Fy mab ardderchog!
(2, 1) 1156 A chan na chodir hon mewn dydd na blwyddyn,
(2, 1) 1157 Rhoed Duw hir oes i'm plant i'w sylweddoli.
 
(2, 1) 1159 Pa beth wyt ti'n gynllunio?
 
(2, 1) 1169 Gwyn fyd pob tad â meibion fel y rhain,
(2, 1) 1170 Fel un, mewn planio ac mewn cydweithredu,
(2, 1) 1171 Er mwyn gogoniant y Goruchaf Dduw.
 
(2, 1) 1185 Llwydded yr Iôr d'ymweliad, Absalom,
(2, 1) 1186 A'r un dydd mi offrymaf finnau f'offrwm.
(2, 1) 1187 O flaen yr Arch ar allor Duw yng Nghaersalem.
 
(2, 1) 1189 Digon. Rhoddaf i Sadoc yr offeiriad
(2, 1) 1190 Godaid o arian fel y brysio i brynu
(2, 1) 1191 Bustych ac ŵyn ddigonedd at yr aberth,
(2, 1) 1192 A phorthi'r sanctaidd fflam â braster hyrddod.
 
(2, 1) 1198 Cyhoedder wedi'r aberth wledd a dawns
(2, 1) 1199 Ag utgyrn arian i'r dinaswyr oll,
(2, 1) 1200 Yn Hebron a Chaersalem. Boed y dydd
(2, 1) 1201 Yn ddydd o lawen chwedl trwy'r holl wlad.
 
(2, 1) 1233 Dos,
(2, 1) 1234 A bendith Dduw fo'n dilyn eich cenhadaeth.
(2, 1) 1235 Fy mab, gwna'n fawr o air fy Mhrif Weinidog.
(2, 1) 1236 Mae'n gweld ymhell; a phwyswn ar ei gyngor
(2, 1) 1237 Fel gair y nef ei hun.
 
(2, 1) 1254 A'r ddawns, fy Arglwydd Hŵsai! Os ydym hen,
(2, 1) 1255 Cawn fflach y gwin trwy'n gwaed y dwthwn hwnnw,
(2, 1) 1256 A fllach y ddawns trwy'n neuadd wedi'r wledd.
 
(2, 1) 1263 Ie, dos, gadfridog.
 
(2, 1) 1275 Pwy yw'r gyrrwr?
 
(2, 1) 1277 Cerbydwr da!
 
(2, 1) 1279 Ymaith, y gweilch, mwynhewch awelon gwlad.
 
(2, 1) 1284 Asbri ieuenctid! Pan yw siawns pob dydd
(2, 1) 1285 Yn dwyn gwin antur newydd, lond ei gwpan,
(2, 1) 1286 Heb ddim o'r gwaddod chwerw sy yng nghwpan henaint.
 
(2, 1) 1297 Eneth, dygaist
(2, 1) 1298 Y peraroglus win i'm bywyd hefyd.
(2, 1) 1299 Yfaf hyd atat. Taled yr Arglwydd iddi,
(2, 1) 1300 Gynghorwyr, ei hymgeledd i hen ŵr.
 
(2, 1) 1305 Mynnaf, Abisâg.
 
(2, 1) 1307 Neges sydd gennyf at Sadoc yr offeiriad.
(2, 1) 1308 A ddoi-di gyda mi? Cei weld yr Arch.
 
(2, 1) 1310 Y Cynghorwr Hŵsai,
(2, 1) 1311 Tyrd dithau gyda ni i drefnu'r Wyl.
 
(2, 1) 1320 Ein cyfarch i fab Sadoc yr Offeiriad!
 
(2, 1) 1330 Tywalltwyd gras ar dy wefusau'n ifanc.
(2, 1) 1331 Cyfod, a hebrwng ni at Was yr Arglwydd.
 
(2, 1) 1361 A dygnwch Iddew ym mwriad Ahimâs!
(2, 1) 1362 Gwystlwn fy nghoron arno....Absalom,
(2, 1) 1363 Mi ddaliaf iti her am gant o siclau
(2, 1) 1364 Y trechir Cŵsi ganddo o fewn tri mis.
 
(2, 1) 1369 Cawn weld.
(2, 1) 1370 'Fethodd fy llygaid ddim eto am redegwr.
(2, 1) 1371 Tystion ohonoch, bawb!... Ac Ahimâs,
(2, 1) 1372 Gwêl mai tydi sy'n ennill, ac mi roddaf
(2, 1) 1373 Y ddau can sicl oll yn wobr iti.
 
(2, 1) 1381 O'r gorau, tywys ni i dŷ dy dad,
(2, 1) 1382 Dowch, Abisâg a Hŵsai.
 
(2, 1) 1385 A threfnwch chwithau,
(2, 1) 1386 Ahitoffel ac Absalom, eich apêl
(2, 1) 1387 At bobol Hebron... Hyd yfory, ynteu!
 
(2, 2) 1542 Mi fûm yn ifanc ac yr wyf yn hen;
(2, 2) 1543 Gwelais sawl gwae a gwynfyd, ond ni welais
(2, 2) 1544 Ffïol llawenydd yn fy myw mor llawn.
 
(2, 2) 1553 A chlywed
(2, 2) 1554 Y bobol yn ymuno yn ein diolch
(2, 2) 1555 Am gymod bythol rhwng y tad a'r mab.
 
(2, 2) 1593 Ai saff Ahitoffel, ein Prif Weinidog?
 
(2, 2) 1614 Byddin i'm herbyn tan fy mab fy hun,
(2, 2) 1615 A baner brad yn llaw fy Mhrif Weinidog.
(2, 2) 1616 Ni roes Duw ddarllen wyneb.
 
(2, 2) 1625 Solomon,
(2, 2) 1626 Cyrch di fy nghledd a'm helm a'm tarian imi.
 
(2, 2) 1628 Bathseba, estyn dithau fantell gynnes.
(2, 2) 1629 O dan y sêr y byddi'n cysgu heno.
 
(2, 2) 1649 Nage, fy Nghadfridog,
(2, 2) 1650 Nid yw Caersalem i'w dinistrio er dim.
(2, 2) 1651 Ni allem ddianc mwy na blaidd mewn trap.
 
(2, 2) 1653 Ffoi ar frys i'r anial,
(2, 2) 1654 Nyni a'n gosgordd. Fel yn nyddiau Saul
(2, 2) 1655 Awn eto ar herw i'r gwyllt. Yn y diffeithwch
(2, 2) 1656 Fe ddichon dyrnaid ddal i herio llu.
(2, 2) 1657 Ac yn y gwyllt bydd ffordd i atgyfnerthion
(2, 2) 1658 Ein cyrraedd o holl Israel, nes cael byddin
(2, 2) 1659 Fo'n ddigon mawr i drechu'r bradwyr hyn.
(2, 2) 1660 Ymladd am amser 'rwyf.
 
(2, 2) 1681 "Pob milwr i drafaelu'n ysgafn."—Hon
(2, 2) 1682 Ni bu ond pwysau arnaf. Felly safed
(2, 2) 1683 Fan yma i'r neb a fyddo'n Frenin Seion.
(2, 2) 1684 Os Duw a'm dychwel, da... Ac onid e,
(2, 2) 1685 Mae helm yn fwy o gysur i ffoadur,
(2, 2) 1686 A chleddyf na theyrnwialen.
 
(2, 2) 1692 Na, hen gyfaill, gwrando.
(2, 2) 1693 Yr wyt ti'n ddeg a thrigain; ac ar daith
(2, 2) 1694 Trwy'r anial baich a fyddit arnom.
 
(2, 2) 1697 Ti gei fy ngwasanaethu... Aros yma
(2, 2) 1698 A chymer arnat ochri Absalom.
(2, 2) 1699 Felly y rhenni eu cyngor... Anfon allan
(2, 2) 1700 Negesydd â'u cynlluniau hyd ein gwersyll.
(2, 2) 1701 Gosod dy feddwl pwyllog i ddirymu
(2, 2) 1702 Cyngor Ahitoffel.
 
(2, 2) 1712 Yn barod, fy Mrenhines? Doeth y gwnaethost
(2, 2) 1713 Ddwyn mentyll gwlân i gysgu tan y gwlith.
(2, 2) 1714 Encilied ein gordderchau i gadw'r tŷ
 
(2, 2) 1716 Hyd ein dychweliad yma...
 
(2, 2) 1718 Ac Abisâg,
(2, 2) 1719 Doeth fyddai i tithau ffoi i dŷ dy dad.
(2, 2) 1720 Yn Sŵnem. Mi anfonaf was i'th hebrwng.
 
(2, 2) 1736 Fy niolch byth i Sadoc ac i'w fab,
(2, 2) 1737 Ond nid ymedy'r Arch. Â dawns a chân
(2, 2) 1738 Y cyrchais hi i'w gosod yng Nghaersalem,
(2, 2) 1739 Ac yng Nghaersalem mae hi i aros byth.
 
(2, 2) 1741 Mae gennyf amgen gwaith it, Ahimâs,
(2, 2) 1742 Mwy enbyd hefyd.
 
(2, 2) 1744 Aros yn Seion fel rhedegwr Hŵsai.
(2, 2) 1745 Bydd mab offeiriad uwchlaw pob drwgdybiaeth.
(2, 2) 1746 Ar ôl i Hŵsai ddysgu eu cynllwynion
(2, 2) 1747 Dwg di ei neges im, a chei ymrestru
(2, 2) 1748 Yng ngosgordd Llanciau Joab ddydd y frwydyr.
 
(2, 2) 1757 Deuwch, ffyddloniaid Dafydd... Tua'r anial!
 
(2, 2) 1761 Na, na, fy machgen ffyddlon! Ni all cloff
(2, 2) 1762 Fyth ganlyn gyda byddin.—Ar ffyn baglau!
(2, 2) 1763 Aros sydd raid i ti.
 
(2, 2) 1774 Pa le y mae hi?
 
(2, 2) 1780 'Roi-di mo'r anrheg imi, Meffiboseth?
 
(2, 2) 1783 Diolch, dywysog hoff... Rwy'n dweud "Nos da"
(2, 2) 1784 Yn awr wrth Goron Israel.
 
(2, 2) 1786 Ond os daw bore
(2, 2) 1787 Buddugol fy nychweliad, galwaf arnat:
(2, 2) 1788 "Dwg im fy nghoron yn ei phrydferth gist"...
 
(2, 2) 1790 Ffarwel, Fab Jonathan!
 
(3, 1) 2267 Dydd da, fy Nghapten.
 
(3, 1) 2283 Aros, am ennyd. Gad im edrych eto
(3, 1) 2284 Lle'r huna ugain mil o'm milwyr ffyddlon
(3, 1) 2285 Wrth danau'r gwersyll, cyn troi allan heddiw
(3, 1) 2286 I ryfel dros eu brenin.
 
(3, 1) 2288 Dywed, Joab,
(3, 1) 2289 Am beth y sonia milwyr y nos cyn brwydyr.
 
(3, 1) 2296 A neb yn sôn am farw?
 
(3, 1) 2304 Buont ffyddlon imi,
(3, 1) 2305 Pan aeth y miloedd ar ôl Absalom.
(3, 1) 2306 Rhoed Duw i minnau gadw'u ffydd yn lân.
 
(3, 1) 2311 Agor-o allan.
(3, 1) 2312 Archwiliwn unwaith eto wedd y wlad
(3, 1) 2313 Oddi yma, ac awn drosto'r ganfed waith.
 
(3, 1) 2318 Yn hollol! Rhaid i'w byddin fawr gwtogi
(3, 1) 2319 Ei blaen wrth ddod trwy fforest, fel na byddo
(3, 1) 2320 Fawr lletach na blaen byddin lawer llai.
(3, 1) 2321 A'r coed a ddifa fwy y dwthwn hwn a
(3, 1) 2322 Nag a wna'r cleddyf; dyna'n trap ni, Joab!
 
(3, 1) 2324 Rhanna'n byddin
(3, 1) 2325 Yn dair; un fintai tan dy frawd, i'r chwith;
(3, 1) 2326 Ac un tan Itai'r Gethiad, ar y dde;
(3, 1) 2327 A'r drydedd tanat ti a mi'n y canol
(3, 1) 2328 I ddenu'r gelyn hyd i graidd Coed Effraim.
(3, 1) 2329 Gorchymyn i'r ddwy asgell gelu eu harfau
(3, 1) 2330 O dan eu clogau rhag pelydrau'r haul,
(3, 1) 2331 Dwy asgell, |tu yma| i'r coed,—nes iddynt glywed
(3, 1) 2332 Banllef dy utgorn yn cyhoeddi rhuthro
(3, 1) 2333 O fyddin Absalom ar dy ôl i'r coed.
(3, 1) 2334 Wedyn o dde a chwith, 'sgubed yr esgyll
(3, 1) 2335 Ymlaen, nes cau tu ôl i Absalom,
(3, 1) 2336 Mor ddiymwared ag y caeir trap.
 
(3, 1) 2341 Pan wêl y llanc fi gyda thi'n y gad,
(3, 1) 2342 Ni chredaf y bydd iddo daro'i dad.
 
(3, 1) 2351 Gan i chwi fentro'ch einioes dros eich brenin,
(3, 1) 2352 Gwnaf innau'r hyn fo da'n eich golwg chwi.
(3, 1) 2353 Un peth yn unig a erfyniaf—Bydd
(3, 1) 2354 Yn esmwyth, er fy mwyn, wrth Absalom...
(3, 1) 2355 Seiniwch yr utgorn!
 
(3, 1) 2359 Ffarwel, Gadfridog glew.
 
(3, 1) 2366 Duw a'th warchodo, Joab.
 
(3, 1) 2372 Mi wnaf.
 
(3, 1) 2377 Na,
(3, 1) 2378 Gad iddynt gysgu, tra bo cwsg i'w gael.
 
(3, 1) 2381 Diolch, fy milwyr dewr... Y nef a'ch gwared
(3, 1) 2382 O fagl yr heliwr heddiw yn y Coed.
(3, 1) 2383 Nac ofnwch rhag y saeth a hedo'r dydd,
(3, 1) 2384 Na rhag y waywffon, canys Cyfiawnder
(3, 1) 2385 Fydd darian i chwi'n erbyn haid o fradwyr,
(3, 1) 2386 A Saeth Ymwared Duw a gliria'ch ffordd
(3, 1) 2387 Ifuddugoliaeth... A phan ddelo'r awr,
(3, 1) 2388 Atolwg byddwch esmwyth wrth fy llanc
(3, 1) 2389 A gamarweiniwyd. Dygwch ef at ei dad...
(3, 1) 2390 Ymlaen i'r fuddugoliaeth fawr! Ymlaen!
 
(3, 1) 2394 I'th ofal, Ahimâs, yn awr cyflwynwn
(3, 1) 2395 Luman y Brenin yn y frwydyr heddiw,
(3, 1) 2396 A hynny er anrhydedd, am it gario
(3, 1) 2397 Negesau Hŵsai atom o Gaersalem
(3, 1) 2398 Trwy bob enbydrwydd.
 
(3, 1) 2403 Yn iach, Gadfridog, cofia
(3, 1) 2404 Fy ngeiriau olaf ynghylch Absalom.
 
(3, 1) 2424 Maen'-nhw wedi mynd bob un! Maen'-nhw wedi mynd!
(3, 1) 2425 Sawl un a ddaw yn ôl?... Pwy fyddai'n frenin?
 
(3, 1) 2430 Ni allaf gysgu, a'm byddin ar ei ffordd
(3, 1) 2431 I faes y gwaed.
 
(3, 1) 2436 Fy mwriad i oedd aros ar y mur
(3, 1) 2437 I ddisgwyl am redegwr o Goed Effraim
(3, 1) 2438 Gyda newyddion.
 
(3, 1) 2441 Rwy'n llesg a blin, ond O! ni allwn gysgu
(3, 1) 2442 Er mynd i orwedd dro.
 
(3, 1) 2452 Ac fe elwch arnaf?
 
(3, 2) 2564 Pa le y mae-o?
(3, 2) 2565 Dangoswch-o i mi.
 
(3, 2) 2569 Mae'r llygaid hyn yn hen; dwed a oes eraill
(3, 2) 2570 Yn rhedeg gydag ef o gwr y coed
(3, 2) 2571 Fel ffoaduriaid?
 
(3, 2) 2573 Ha! Os ei hun y mae, negesydd yw.
 
(3, 2) 2575 Negesydd Joab. Bydded wyn ei neges.
 
(3, 2) 2578 Os wrtho'i hun y rhed, cennad yw yntau.
 
(3, 2) 2582 Llanc da yw hwnnw. Newyddion da sydd ganddo.
 
(3, 2) 2607 Ai diogel Absalom fy mab?
 
(3, 2) 2611 A ddaliwyd y Tywysog yn garcharor?
 
(3, 2) 2615 Ein diolch, ffrind... Ac fel y cyntaf un
(3, 2) 2616 I ddwyn i'r Brenin y newyddion da
(3, 2) 2617 Am fuddugoliaeth, coffa'r ddefod hen
(3, 2) 2618 Fod y negesydd i gael hawlio'i wobr.
(3, 2) 2619 Ar ben dy redeg gwych y dwthwn hwn
(3, 2) 2620 Cofiwn dy ddewrder fel negesydd Hŵsai.
(3, 2) 2621 Enwa dy wobr, ac fel mai byw yr Arglwydd
(3, 2) 2622 Gofyn a thi a'i cei, beth bynnag fo.
 
(3, 2) 2627 Fy nhelynores?...
 
(3, 2) 2629 Beth a ddywed hi?
 
(3, 2) 2635 Haws, petai wedi gofyn hanner fy nheyrnas!
(3, 2) 2636 Ni fynnwn, ac ni fedrwn byth wynebu
(3, 2) 2637 Ar henaint heb dy gân.
 
(3, 2) 2643 Cymer hi.
(3, 2) 2644 Ar ei phriodas, Gapten, fe'i gwaddolaf
(3, 2) 2645 Â gwaddol Tywysoges...
 
(3, 2) 2647 Wyt ti'n fodlon?
 
(3, 2) 2661 Ai diogel Absalom?
 
(3, 2) 2668 O, fy mab!
(3, 2) 2669 O Absalom, fy mab! O Absalom!
 
(3, 2) 2672 Na buaswn farw drosot-ti, fy mab!
 
(3, 2) 2714 O, fy mab Absalom! Absalom, fy mab!
 
(3, 2) 2734 O, fy mab Absalom! Absalom, fy mab!
 
(3, 2) 2750 O, fy mab Absalom!
 
(3, 2) 2763 Absalom!
 
(3, 2) 2824 ... Absalom!
 
(3, 2) 2830 Na, na, Gadfridog.
 
(3, 2) 2836 Taw yn awr.
 
(3, 2) 2848 Gwnewch â mi fel y mynnoch: aeth y goncwest
(3, 2) 2849 Yn lludw yn fy ngenau. Mae fy nghalon
(3, 2) 2850 Mewn bedd yn Fforest Effraim.