Ciw-restr

Absalom Fy Mab

Llinellau gan Solomon (Cyfanswm: 94)

 
(1, 0) 470 Dydd da, foneddigion... Gapten, beth yw "lleufer"?
 
(1, 0) 475 Ac felly, "lleufer"! Rhaid im gofio'r gair.
 
(1, 0) 477 A phwy yw hwn, na chyfyd pan ddaw "lleufer"
(1, 0) 478 I mewn i'r neuadd?... Ddiogyn ar dy eistedd,
(1, 0) 479 Dos at y morgrug...
 
(1, 0) 485 A phwy wyt ti?
 
(1, 0) 493 "Fel finegr ar neitr ydyw'r neb
(1, 0) 494 A gân ganiadau llon i galon drist."
(1, 0) 495 — Dihareb 'ddysgais i gan Nathan Broffwyd.
 
(1, 0) 497 O Sŵnem, ddwedaist-ti?
 
(1, 0) 499 Mi glywais glod ei chân i Rosyn Saron,
(1, 0) 500 Rhaid iti ei dysgu imi.
 
(1, 0) 506 O Dŷ Saul
(1, 0) 507 Fu'n ymladd â Thŷ Dafydd trwy'r blynyddoedd
(1, 0) 508 Nes eu dinistrio?
 
(1, 0) 511 Ai gŵr heddychol oedd?
 
(1, 0) 517 Roedd hynny cyn fy ngeni; 'chlywais-i ddim
(1, 0) 518 O'r hanes. Ond mae mab rhyfelwr dewr
(1, 0) 519 Yn haeddu pob ystyriaeth. Mynnaf air
(1, 0) 520 Â'm tad, y brenin, ar dy ran. Mi rof
(1, 0) 521 Yr enw ar fy nhabled i'm hatgoffa.
 
(1, 0) 523 Beth hefyd, ddwedaist-ti, oedd enw dy dad?
 
(1, 0) 526 Jo-na-than.
 
(1, 0) 528 A fedri |di| sgrifennu?
 
(1, 0) 531 O! ni fedri ddarllen
(1, 0) 532 A thithau'n fab Tywysog?
 
(1, 0) 534 Ond o ran hynny, nid oedd sgrifennu a darllen
(1, 0) 535 Mor bwysig i Dŷ Saul. Brenhiniaeth Dafydd,
(1, 0) 536 Estynnwyd honno hyd lannau pell Iwffrates,
 
(1, 0) 538 A daw llythyrau inni o lawer gwlad
(1, 0) 539 Yn ceisio cynghrair. Gwir fod gan fy nhad
(1, 0) 540 Gofiadur hyddysg, ac ysgrifennydd doeth
(1, 0) 541 I'w hateb trosto, ond pan ddof fi i'r orsedd,
 
(1, 0) 543 Sgrifennaf at bob teyrn â'm llaw fy hun.
(1, 0) 544 A bydd ysgolor ar yr orsedd hon.
 
(1, 0) 582 Dweud yr oeddwn-i Mam,
(1, 0) 583 Wrth fab tywysog, y dylai tywysogion
(1, 0) 584 Tan y frenhiniaeth newydd fedru darllen,
(1, 0) 585 I helpu'r Brenin.
 
(1, 0) 588 Wrth Meffiboseth yma. _ Mae o'n gloff,
(1, 0) 589 A'i faglau tan y fainc; fedr-o ddim sefyll.
(1, 0) 590 Ond mab i dwysog ydyw, meddai wrthyf,
(1, 0) 591 Ac enw'i dad—arhoswch—{Trem ar y tabled.} ydoedd
(1, 0) 592 Jonathan.
 
(1, 0) 631 O Sŵnem, Mam,
(1, 0) 632 Bro enwog am ei lili a'i chanu serch.
(1, 0) 633 Addawodd ddysgu "Rhosyn Saron" imi.
 
(1, 0) 695 Pa gân fydd honno?
 
(2, 1) 968 O,... 'rwy'n ei hoffi, ond nid wy'n hoffi ei ddull
(2, 1) 969 O ddenu'r werin.
 
(2, 1) 971 Cyfododd eisoes blasty iddo'i hun
(2, 1) 972 Sy'n well na'r plasty hwn.
 
(2, 1) 981 O, ie,
 
(2, 1) 983 Syniad gor-newydd oedd cael cerbyd rhyfel
(2, 1) 984 Ar gyfer mab y brenin,—ffasiwn estron—
(2, 1) 985 A deg a deugain o redegwyr buain
(2, 1) 986 I duthio trwy'r heolydd gyda'r meirch
(2, 1) 987 Yn lifrai Absalom... Pam na chaf innau
(2, 1) 988 Gerbyd tywysog?
 
(2, 1) 992 Cofia, 'rwy'n hoff o'm brawd,
(2, 1) 993 Mae'n hwyliog ac yn llawen a charedig,
(2, 1) 994 Ac yn un da am stori o'i ddyddiau alltud;
(2, 1) 995 Ac mae o'n farchog campus.
 
(2, 1) 1001 "Balchder o flawn cwymp"—
(2, 1) 1002 Felly y dysgais i gan Nathan Broffwyd.
(2, 1) 1003 Paham mae Absalom yn gyrru ei gerbyd
(2, 1) 1004 Bob dydd i'r porth mor fore, a galw ato
(2, 1) 1005 Bob gŵr sy'n eistedd yno ag iddo fater
(2, 1) 1006 I'w ddwyn gerbron y Brenin? Gwrando'u cŵyn
(2, 1) 1007 A chydymdeimlo â dynion o ffordd bell
(2, 1) 1008 A fu'n hir ddisgwyl am wrandawiad,—"O!
(2, 1) 1009 Na'm gwnaethid i yn farnwr dan y brenin,"—
(2, 1) 1010 Hyn yw ei gân,—"buan y caech gyfiawnder."
(2, 1) 1011 —Felly y mae'n lladrata eu calonnau
(2, 1) 1012 Â gwên a geiriau gwag.
 
(2, 1) 1014 Does ganddo byth na gair na gwên i'm mam.
 
(2, 1) 1016 Dyna!
 
(2, 1) 1020 Yna, mi symudaf hwn.
 
(2, 1) 1025 Os felly, i lawr â'r cwbwl gyda'i gilydd!
(2, 1) 1026 Brenin a marchog, gwerin ac offeiriad!
 
(2, 1) 1038 Bûm yn ffŵl,—
(2, 1) 1039 Prepian, yn lle rhoi meddwl ar y chwarae!
 
(2, 1) 1062 Fy mrawd haelionus!—Meffiboseth, tyrd!
(2, 1) 1063 Brysia ar unwaith! Ple mae'r baglau? Brysia!
 
(2, 1) 1111 Beth sydd yn uno cenedl? Cyfraith union
(2, 1) 1112 Brenin yn barnu ei bobol mewn doethineb.
(2, 1) 1113 Hyn sydd yn uno cenedl.
 
(2, 1) 1160 Teml, fy nhad,
 
(2, 1) 1162 Y deml sydd i'w chodi ar fryn Moreia
(2, 1) 1163 Wrth fwriad Absalom.
 
(2, 1) 1165 A dyma'i llun.
 
(2, 1) 1267 Fy mrawd Absalom,
(2, 1) 1268 Mae'r meirch yn anesmwytho yn dy gerbyd,
(2, 1) 1269 Ac un yn crafu'r ddaear, eisiau mynd.