Ciw-restr

Adar o'r Unlliw

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 90)

(1, 0) 1 O safle'r gynulleidfa y rhoddir holl gyfarwyddiadau'r llwyfan.
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Ar hyd ffrynt y llwyfan rhed ffordd wledig.
(1, 0) 4 Yn y cefndir y mae allt o goed wedi ymwisgo ag irddail haf.
(1, 0) 5 Rhwng yr allt a'r ffordd mae clawdd glas isel ac ynddo, oddeutu canol y llwyfan, adwy a llwybr yn arwain ohoni drwy'r allt i'r afon gerllaw.
(1, 0) 6 Gwelir goleu'r lleuad yn y coed ac ym mharthau pellaf y llwyfan.
(1, 0) 7 ~
(1, 0) 8 Gerllaw'r adwy, ar fin y ffordd, y mae tân coed yn cynneu.
(1, 0) 9 O bobtu'r tân y mae bocs cyfleus i eistedd arno.
(1, 0) 10 O'r neilltu, mae bocs arall a ddefnyddir fel ystorfwrdd.
(1, 0) 11 Arno gorwedd tryblith o blatiau, cyllyll, ffyrc, dau gwpan tin, sypynnau o ddefnyddiau'r arlwy a llusern.
(1, 0) 12 Ar y llawr yn agos i'r tân mae llusern arall a phadell ffrio yn cynnwys stêc a winwyn.
(1, 0) 13 Teifl y tân a'r ddau lusern, ffrwd o oleuni ar y rhan hon o'r llwyfan.
(1, 0) 14 ~
(1, 0) 15 Pan gwyd y llen, gwelir TWM TINCER yn eistedd ar y bocs ar y dde, yn bwyta ei swper o'r plat sydd ar ei lin.
(1, 0) 16 Dyn canol oed ydyw TWM, garw'r olwg arno a diraen ei wisg.
(1, 0) 17 Wrth ei weld yn syllu'n drist ar ei gwpan gwag, sylweddolir ar unwaith ei fod heb ddim i'w yfed.
(1, 0) 18 Sych ei blat a thusw o laswellt o'r clawdd a gloewa ef a darn o bapur.
(1, 0) 19 Yna tania ei bibell ac ymollwng i'w mwynhau.
(1, 0) 20 ~
(1, 0) 21 Clywir DICI BACH DWL yn canu ar yr aswy.
 
(1, 0) 28 Daw DICI BACH DWL i mewn o'r aswy yn cario torth o fara a jar galwyn.
(1, 0) 29 Llanc ifanc ydyw, ei wisg yn wladaidd a charpiog a chanddo hen het feddal am ben toreth o wallt anghryno.
(1, 0) 30 Dengys ei wyneb syn fod ei feddwl hytrach yn bwl.
(1, 0) 31 Er hynny nid oes ynddo ddim i beri atgasedd; i'r gwrthwyneb mae'n ennyn tosturi a thynerwch.
(1, 0) 32 Dic
 
(1, 0) 34 Diawch, Twm, mae oglau hyfryd ar y stêc a'r winwns 'na.
 
(1, 0) 37 Gesyd DICI 'r dorth gyda'r pethau eraill ar y bocs ac estyn y jar i TWM.
(1, 0) 38 Mae yntau'n arllwys llond cwpan o'r cwrw ac yn ei yfed yn awchus.
(1, 0) 39 Mae DICI yn dal y badell ffrio wrth ben y tên gan fwynhau'r arogl.
 
(1, 0) 47 Clywir ci yn cwyno'n isel ar y dde.
 
(1, 0) 63 Mae'r asyn yn nadu o'r dde.
 
(1, 0) 77 Clywir swn rhegen yr yd o'r pellter ar yr aswy.
 
(1, 0) 106 Clywir si'r gwynt yn y coed.
 
(1, 0) 152 Daw JENKINS Y CIPAR i mewn o'r aswy─gwr talgryf, canol oed, wedi ymwisgo yn ol dull cyffredin dynîon o'r alwedigaeth honno.
 
(1, 0) 211 A ymaith ar yr aswy.
 
(1, 0) 226 Daw a'r taclau potsio allan.
(1, 0) 227 Mae'r lleuad yn araf ddiflannu tu cefn i'r cymylau.
 
(1, 0) 237 Mae TwM yn trin y dryfer, tra mae DICI yn rhwymo'r clwtyn am y pren.
 
(1, 0) 278 Maent eto yn ymddangos fel dau dincer diniwed yn paratoi swper ar fin y ffordd.
(1, 0) 279 Fel peth priodol i'r amgylchiad, mae TWM yn dechreu mwmian emyn Cymreig heb fod yn rhyw sicr iawn o'r nodau.
(1, 0) 280 Mae DICI yn ymuno ag ef.
(1, 0) 281 ~
(1, 0) 282 Daw ESGOB CANOLBARTH CYMRU i mewn ar y dde, yn cerdded yn lluddedig ac yn cario bag.
(1, 0) 283 Mae llwch y fordd ar ei wisg esgobyddol.
(1, 0) 284 Hen foneddwr hynaws ydyw'r ESGOB a chanddo wyneb serchog iawn.
(1, 0) 285 Saif am ennyd gan syllu drwy a thros ei spectol fel un byr iawn ei olwg.
 
(1, 0) 316 Mae cyflwr YR ESGOB a'i diriondeb yn dechreu ennill serch TWM a DICI.
 
(1, 0) 325 Eistedda'r ESGOB gydag ochenaid o ollyngdod.
 
(1, 0) 343 Mae Dici 'n dal plat a TwM yn arllwys arno gynnwys y badell ffrio.
 
(1, 0) 430 Clywir rhegen yr yd.
 
(1, 0) 440 Clywir dylluan yn galw gerllaw.
 
(1, 0) 469 Dynesa DICI at YR ESGOB.
(1, 0) 470 Mae ei symudiadau didrwst a chwimwth, ynddynt eu hunain, yn llawn cyfaredd.
(1, 0) 471 Mae'n fyw drwyddo gan angerdd ei ddyhead hoenus a lledradaidd ac y mae ei lais yn isel a hudolus.
 
(1, 0) 535 Clywir rhegen yr yd eto.
 
(1, 0) 552 Brysia trwy'r coed yn y cefn.
 
(1, 0) 564 Daw DICI yn ol yn cario nifer o frithyllod.
 
(1, 0) 610 Dechreua'r Esgob symud ymaith gan gario ei fag.
 
(1, 0) 616 A'r EsGOB ymaith ar y dde.
 
(1, 0) 644 Ant ymaith rhwng y coed yn y cefn, a DICI yn chwerthin rhyngddo a'i hun.
(1, 0) 645 Erys y llwyfan yn wag am ychydig eiliadau.
(1, 0) 646 Daw JENKINS Y CIPAR i mewn o'r aswy yn llechwraidd.
 
(1, 0) 664 Clywir murmur, yna mae distawrwydd.
(1, 0) 665 Mae JENKINS yn plygu'n isel ac yn symud yn y cysgod i fan cyfleus i ymosod ar y dyn sy'n agoshau.
(1, 0) 666 ~
(1, 0) 667 Daw'r ESGOB i mewn o'r dde yn cario ei fag a rhai o'r dillad oedd ynddo.
(1, 0) 668 Mae golwg druenus arno─ei ddillad yn wlyb, ei goler yn llipa a brwnt, ei het wedi diflannu.
(1, 0) 669 Mae wedi tynnu ei got a charia hi ar ei fraich.
(1, 0) 670 Hefyd y mae wedi diosg ei "gaiters" ac ymddengys modfedd neu ddwy o'i "pants" uwchben ei socs glas hen ffasiwn.
 
(1, 0) 745 A JENKINS ymaith ar yr aswy.
(1, 0) 746 Mae'r ESGOB yn ysgwyd y dwr o'i got ac yn ei gwisgo.
(1, 0) 747 Gesyd ei gaiters wrth y tân i sychu.
(1, 0) 748 Egyr ei fag a thyn allan ei grys nos sydd yn wlyb iawn.
(1, 0) 749 Gwasg y dwr ohono a thaena'r dilledyn ar focs wrth y tân.
(1, 0) 750 Fel y mae effeithiau'r drochfa a'r sgarmes yn cilio, daw ei hynawsedd arferol i'r amlwg drachefn.
(1, 0) 751 Clywir si'r awel yn y coed ac y mae yntau yn gwrando gyda gwen foddhaus.
(1, 0) 752 Clywir dylluan gerllaw.
 
(1, 0) 776 Cerdda yn ol a blaen eto.
(1, 0) 777 ~
(1, 0) 778 Daw DICI a TWM yn ol, DICI a samwn mawr yn ei law.
(1, 0) 779 Gan TWM mae'r dryfer a het yr ESGOB a gafodd yn yr afon.
(1, 0) 780 Am foment, nid ydynt yn canfod YR ESGOB, canys yn yr ymdrech i ennill y fuddugoliaeth arno ei hun, mae ef wedi cerdded i'r cysgod.
(1, 0) 781 Mae DICI yn agos i'r tân cyn i'r ESGOB sylweddoli eu bod wedi dychwelyd.
 
(1, 0) 855 Daw JENKINS i mewn o'r aswy.
 
(1, 0) 919 Mae'n symud i'r dde.
 
(1, 0) 922 Clywir rhegen yr yd wrthi yn ddygn iawn.
 
(1, 0) 925 A TWM, YR ESGOB a DICI allan ar y dde.
(1, 0) 926 ~
(1, 0) 927 LLEN