Ciw-restr

Dwy Briodas Ann

Llinellau gan Ann (Cyfanswm: 88)

 
(1, 0) 44 Fi oedd i wneud, ond mi anfonodd Mrs. Roberts fi am neges i'r pentre cyn imi orffen.
 
(1, 0) 48 Go ddrwg yntê?
(1, 0) 49 Chyrhaeddais i ddim hyd yma.
(1, 0) 50 Dim ond y lle tân a'r llawr.
 
(1, 0) 52 Dydy hynny ddim yn deg, Mr. Walter.
(1, 0) 53 Nid un i lechian gweithio ydw i.
(1, 0) 54 Mae'r forwyn fach at alwad pawb bob munud.
 
(1, 0) 58 Peidiwch, Mr. Walter.
 
(1, 0) 63 Cilia dy ddwylo, y sbachwr budr!
 
(1, 0) 66 Chaiff neb holmyn fynd yn hy arna i, Dic Walter.
 
(1, 0) 69 Mae gan forwyn fach ei pharch gystal â gwraig fonheddig.
 
(1, 0) 72 Rydach chi yn llygad eich lle.
(1, 0) 73 Dyna fy siort i.
 
(1, 0) 76 Holics gwyllt, ie?
(1, 0) 77 Dydy hynny'n dychryn dim arna i.
(1, 0) 78 Mae gen i ewyrth yn Dronwy yn yr un swydd â chithau.
(1, 0) 79 Hawdd imi symud yno.
 
(1, 0) 81 Mi ofynna i Mrs. Roberts am garictor.
(1, 0) 82 Hi ddaru 'nghyflogi i.
 
(1, 0) 85 A dweud wrtho pam rydw i'n mynd?
 
(1, 0) 89 Nid rhyw glwpa bron torri ar ei draws eisiau cusan ydy Syr John.
 
(1, 0) 91 Chi, nid fi, ddwedodd Syr John.
 
(1, 0) 95 Mi fydde'r llestri wedi eu gorffen rwan heb i chi anfon amdana i a chael slap am eich gwendid.
 
(1, 0) 108 Ann, syr.
(1, 0) 109 Ann Thomas.
 
(1, 0) 111 Deunaw, syr.
 
(1, 0) 113 O Aberffraw, syr.
(1, 0) 114 Ffermwr, a chanddo dyddyn go lew, Thomas Williams, ydy nhad i.
 
(1, 0) 117 Roedden nhw'n lanach bum munud yn ôl.
 
(1, 0) 119 A'i yfed hefyd, syr, pan fedra i fforddio.
 
(1, 0) 129 Siwgwr, Syr?
 
(1, 0) 131 Mae o'n sefyll ryw bum munud.
 
(1, 0) 134 Cymraeg a Saesneg, syr.
(1, 0) 135 Be' wnawn i yma heb lythyrau?
 
(1, 0) 137 Yn fy mlwyddyn gynta, syr.
 
(1, 0) 142 Naddo erioed...
(1, 0) 143 Ond pa hawl sy gennych chi i ofyn?
 
(1, 0) 146 Mi alwa i ar Mr. Walter i dywallt i chi, ─ syr.
 
(1, 0) 148 Mae gen i'r llestri i'w golchi.
 
(1, 0) 155 Dyna ofynsoch chi'r tro cynta?
 
(1, 0) 157 Roeddwn i'n amau 'mod i'n clywed pethau ac yn gwirioni.
 
(1, 0) 160 Tad annwyl!
(1, 0) 161 ... Gwnaf.
 
(1, 0) 164 Mae pethau'n digwydd imi heddiw.
 
(1, 0) 166 Gobeithio'ch bod chi.
 
(1, 0) 168 Rydw i'n ceisio 'ngore.
(1, 0) 169 Rhowch funud neu ddau imi.
 
(1, 0) 171 Rydach chi'n reit sobor, syr?
 
(1, 0) 174 Mae hynny'n gysur...
(1, 0) 175 Ewyllys hen lanc?
 
(1, 0) 178 'Does dim rhaid i chi fod.
 
(1, 0) 181 Dyna glep y gegin er pan ddois i yma.
(1, 0) 182 Mi fu 'na ddal grotiau y priodech chi cyn eich deugain.
 
(1, 0) 184 Mi gaiff Richard Walter sioc ei fywyd.
 
(1, 0) 186 A chwerthin go fawr am eich pen chi yn priodi cangen o forwyn weini.
(1, 0) 187 A'r gwatwar yn yr |assembly| ym Miwmares!
 
(1, 0) 189 Mae gwragedd eich dosbarth chi yn fedrus iawn i frifo.
(1, 0) 190 Fel tynnu gwaed.
 
(1, 0) 192 'Ddwedwch chi hynny wrth Mrs. King?
 
(1, 0) 195 Syr John, munud o wallgofrwydd ydy hwn.
(1, 0) 196 Rydw i'n barod i anghofio'r cwbl a mynd odd'ma.
(1, 0) 197 Mi fydd yn hawdd imi fynd.
(1, 0) 198 Rydw i wedi cael notis.
 
(1, 0) 200 Do, syr.
 
(1, 0) 202 Rhoi cyfle i chi i dynnu'n ôl.
 
(1, 0) 210 Bore pobi bara.
(1, 0) 211 Fi sy'n picio i'r pentre'r noson gynt i brynu burum.
(1, 0) 212 Os anghofia i rhaid imi redeg cyn brecwast drannoeth.
(1, 0) 213 Tair wythnos i neithiwr mi anghofia i'r burum.
 
(1, 0) 215 Hawdd deffro o freuddwyd a dau droed ar y llawr.
 
(1, 0) 217 Breuddwyd i mi nes mynd am y burum.
(1, 0) 218 Tan hynny peidiwch chi â gofyn am fy ngweld.
 
(1, 0) 220 Rhaid imi ofyn maddeuant Mrs. Roberts er mwyn aros.
 
(1, 0) 222 Mymryn o ffrwgwd wedi imi fethu codi llwch.
(1, 0) 223 Dim o bwys.
(1, 0) 224 Mae gen i dymer wyllt.
(1, 0) 225 Tendiwch!
 
(1, 0) 227 Mi fydd gen i Mrs. Roberts.
(1, 0) 228 Nid dyna fydd fy mhroblem i.
 
(1, 0) 230 Ond chi...
(1, 0) 231 Chi!
 
(1, 0) 233 Mi fydde'n ffitiach fy mod i'n deud hynny na chi...
(1, 0) 234 Chi sy'n mentro.
 
(1, 0) 237 Gofynnwch i Mrs. King.
 
(1, 0) 239 Mi ro i ateb Mrs. King.
(1, 0) 240 Chawn i ddim cynnig gwell tawn i'n aros chwarter canrif.
 
(1, 0) 242 Cwestiwn teg tair wythnos i heno.
(1, 0) 243 Dowch, mae'ch te chi'n oeri, syr, a'r llestri heb eu golchi...