Ciw-restr

Dwy Briodas Ann

Llinellau gan Elias (Cyfanswm: 51)

 
(1, 0) 268 Pnawn da, Syr John.
 
(1, 0) 270 Mi fuoch chi'n gapten yn llynges ei Fawrhydi yn y rhyfel enbyd yma, Syr John?
 
(1, 0) 272 A'ch dyrchafu'n farchog i goroni'ch gyrfa enwog...
 
(1, 0) 274 Mi fuoch chi hefyd yn Uchel Sirif sir Fôn.
 
(1, 0) 276 Dyna'r pam y mentrais i ofyn am eich gweld chi, Syr John.
(1, 0) 277 Mi wyddoch chi'n well na nemor neb am beryglon y môr a helynt llongwyr ynys Môn yn y rhyfel, yn arbennig y llongau masnach y mae llongau rhyfel Napoleon yn eu herlid a'u dal.
 
(1, 0) 279 Do'n wir, Syr John, ac i chi'r capteiniaid a'r Arglwydd Nelson dan ragluniaeth y nef y mae'r diolch.
(1, 0) 280 Roedd y tâl yn ddrud hefyd, colli'r fath lyngesydd ar union awr y fuddugoliaeth.
(1, 0) 281 Ond y mae ambell long ryfel o Ffrainc yn ffroeni o gwmpas moroedd Cymru hyd yn oed rwan.
 
(1, 0) 284 A'u hysglyfaeth yn dihoeni yng ngharcharau Ffrainc.
 
(1, 0) 286 Mae nifer ohonyn nhw'n Gymry, Syr John.
 
(1, 0) 288 Un o Amlwch, Capten Thomas Owen, perchennog ei long ei hun.
(1, 0) 289 Roedd o'n un o bum llong yn hwylio gyda llwyth o Amlwch i Lundain, ac un o'n llongau rhyfel ni yn eu hebrwng nhw.
(1, 0) 290 Ond tua thrwyn Cernyw mi drodd y llong ryfel yn ôl a'u gadael nhw heb warchod.
(1, 0) 291 Daeth llong ryfel o Brest ar eu gwartha nhw.
(1, 0) 292 Doedd dim amdani ond gwasgar.
(1, 0) 293 Fe ddaliwyd yr Elinor, llong Thomas Owen, ac y mae yntau rwan mewn carchar yn Verdun yn Ffrainc.
(1, 0) 294 Nid fo'n unig, ond amryw Gymry eraill, capteiniaid llongau o Fôn ac Arfon...
(1, 0) 295 Syr John, casglu cronfa i helpu'r Cymry hyn yn Ffrainc i brynu bwyd a chysuron yr ydw innau, a dwad yma i ofyn i chi helpu ydy fy neges i.
 
(1, 0) 297 Rydw i'n nabod Capten Thomas Owen yn dda.
(1, 0) 298 Mi fu o am dymor yn Fethodist, ond fe wrthgiliodd.
 
(1, 0) 300 Mae'n o'n Gymro ac mewn angen.
 
(1, 0) 302 I'r carcharorion rhyfel yn Ffrainc o Fôn ac Arfon a Meirionnydd.
(1, 0) 303 Rydan ni wedi anfon hanner can punt atyn nhw eisoes, ond mae gofyn am chwaneg.
(1, 0) 304 Maen nhw'n crefu'n daer.
 
(1, 0) 307 Dyma i chi ddogfennau o Lundain a Pharis yn cydnabod derbyn ac yn gofyn am chwaneg.
 
(1, 0) 313 Eich ufudd was.
(1, 0) 314 Anodd i bobl yn Ffrainc ddychmygu am neb llai na marchog sir yn estyn cymorth i drueiniaid rhyfel.
 
(1, 0) 317 Syr John, mae gennym ni Fethodistiaid esgob o lywydd i Ogledd Cymru yn y Parchedig Mr.
(1, 0) 318 Thomas Charles o'r Bala.
(1, 0) 319 Fo sy'n ein dysgu ni i anrhydeddu'r brenin ac ufuddhau i'r llywodraeth.
(1, 0) 320 Y mae casglu i'r capteiniaid o Gymry yn Ffrainc ac i Gymdeithas y Beiblau drwy'r byd yn rhan o'n dyletswydd ni yn ôl Epistol Pedr ac yn ôl athrawiaeth Mr. Charles.
 
(1, 0) 323 Bendith y nefoedd arnoch chi, syr, ac ar─roeddwn i ar fin dweud ac ar eich teulu.
(1, 0) 324 Ond gŵr dibriod ydach chi.
 
(1, 0) 328 Mi gefais i'r anrhydedd o ennill llaw ei ferch hynaf o.
(1, 0) 329 Ond nid o fodd Mr. Broadhead, mae'n ddrwg gen i ddeud.
 
(1, 0) 332 Mi wn ei fod o'n berigl ac yn dramgwydd.
(1, 0) 333 Ond chlywais i erioed awgrym o hynny gan fy ngwraig.
 
(1, 0) 336 Gwraig dduwiol.
 
(1, 0) 339 Roedd hi'n Fethodist cyn i mi ei gweld hi.
 
(1, 0) 341 Ei chrefydd hi oedd cychwyn y trwbl, mynd i'r seiat.
 
(1, 0) 347 Mae o'n dechrau maddau iddi hi.
 
(1, 0) 350 Wel, mae o'n cyfrannu at y gronfa yma i helpu'r Cymry yn Ffrainc.
 
(1, 0) 353 Pregethu ydy fy ngwaith i, fy mywyd i.
(1, 0) 354 I hynny y'm galwyd i.
(1, 0) 355 Mi welodd hithau hynny.
 
(1, 0) 357 Tybed nad ydy plas hen lanc yn berig i ferch?
 
(1, 0) 360 Gadael y plas i weini ar y pwlpud, dyna offrwm fy ngwraig i.
 
(1, 0) 364 Syr John, os ydy'r briodas o'r ddwy ochr o wirfodd─
 
(1, 0) 366 Yna does dim priodi anghyfartal.
 
(1, 0) 375 Dau gini, yntê?