Ciw-restr

Dwy Briodas Ann

Llinellau gan Walter (Cyfanswm: 55)

 
(1, 0) 8 Dyro'r te ar y bwrdd penfro o flaen y tân.
(1, 0) 9 Mae hi'n dechrau oeri.
 
(1, 0) 11 Pa wahaniaeth wnâi hynny?
 
(1, 0) 15 Mi wn.
(1, 0) 16 John Elias.
(1, 0) 17 Mab i grefftwr.
(1, 0) 18 Wedi priodi merch i Mr. Broadhead.
(1, 0) 19 Codi'n arw yn y byd.
 
(1, 0) 21 Run fath â'i chwaer, Mrs. King?
 
(1, 0) 24 Does arni hi ddim eisiau i'w brawd briodi.
(1, 0) 25 Pan fydd y miri yn Bath a Cheltenham drosodd, mi ddaw hi'n ôl yma yn feistres.
(1, 0) 26 Mi gawn ddawnsio wedyn...
(1, 0) 27 Pwy fu'n glanhau fan yma bore heddiw?
 
(1, 0) 29 Ann felly.
(1, 0) 30 Dywed wrth Ann am ddwad yma.
 
(1, 0) 32 Fedr hi?
 
(1, 0) 34 Welais i rioed mo'r tylwyth teg.
 
(1, 0) 36 Ar fy nhwca!
 
(1, 0) 43 Ti fu'n tynnu llwch yma heddiw?
 
(1, 0) 45 Rhed dy fys ar hyd y sideboard yma?
 
(1, 0) 51 Rhyw slemp o lanhau.
 
(1, 0) 55 Be wyt ti'n hornio, 'mechan i?
 
(1, 0) 60 ~
(1, 0) 61 "Gwen ei brest a gwen ei bronna,
(1, 0) 62 Gwen bob man a choch ei bocha".
 
(1, 0) 65 Y mwnci diawl, be haru ti?
 
(1, 0) 67 Mynd yn hy!
(1, 0) 68 Rwyt ti'n siarad fel pladres o wraig fonheddig.
 
(1, 0) 70 Cau dy hopran, y gnawes gipog, os dyna dy siort di.
 
(1, 0) 74 O'r gorau, mae hi wedi cau arnat ti am le yma.
(1, 0) 75 Mi gei hel dy garcas a ffwrdd a thi bore fory nesa.
 
(1, 0) 80 Heb garictor?
 
(1, 0) 83 Rwyt ti'n lartsh ar y naw, 'nglasan i.
(1, 0) 84 Pam na ofynni di i Syr John?
 
(1, 0) 86 Capten yn y llynges fu Syr John.
(1, 0) 87 Siawns na chei di gusan ganddo yntau.
(1, 0) 88 Roi di glewtan o ddiolch i Syr John?
 
(1, 0) 90 Pwy sy eisiau dy gusan di, y sili-ffrit?
 
(1, 0) 92 Rwyt ti'n mynd yn llond y tŷ.
(1, 0) 93 Dos, gloywa hi i'r gegin i olchi'r llestri.
 
(1, 0) 98 Mae'r te'n barod i chi syr.
(1, 0) 99 A gaf i dywallt?
 
(1, 0) 102 Y forwyn fach syr.
(1, 0) 103 Yn ei blwyddyn gynta...
 
(1, 0) 105 Dos, rwan.
 
(1, 0) 247 Mae 'na ddyn yn y drws, syr, yn gofyn am eich gweld chi.
 
(1, 0) 249 Nage, syr.
(1, 0) 250 Methodist.
 
(1, 0) 252 O nage, syr.
(1, 0) 253 Siopwr, groser, ond ei fod o'n prygawthan pregethu hefyd.
 
(1, 0) 255 O Lanfechell.
(1, 0) 256 Dyn dwad, wedi priodi merch i Mr. Broadhead.
 
(1, 0) 260 Gofyn am eich gweld chi.
(1, 0) 261 Ddwedodd o mo'i neges.
 
(1, 0) 264 John Elias, syr.