Ciw-restr

Llwybrau Anrhydedd

Llinellau gan John (Cyfanswm: 81)

 
(1, 0) 7 Byt gaws, bachan, i ti gael dyfod yn gryf i weithio.
(1, 0) 8 'Does dim gwell Ann ni yn Nyffryn Tywi i weithio caws, nas cyffrai.
(1, 0) 9 Y mae'n un dda.
 
(1, 0) 12 O'r gore.
(1, 0) 13 Cer nawr i roddi bwyd i'r anifeiliaid, da machan i.
 
(1, 0) 18 Lycoch chi nawr.
(1, 0) 19 Pe byddai Wil Sais Bach mor brysur ac mor ofalus efo'i waith ac ydyw e efo'n caru ni, fe fyddai yn hogyn da ofnatsan.
(1, 0) 20 Ond i newid yr ymadrodd, ys dywed y pregethwr, y mae yn ddealledig bellach dy fod di a minnau i ymuno mewn glân briodas.
(1, 0) 21 Yr wyt wedi bod yn forwyn dda a gofalus, ac yr wyf yn gwbl gredu y gwnei di wraig dda hefyd.
 
(1, 0) 24 Lycoch chi nawr.
(1, 0) 25 Rhai budr i chi y merched am ddangos eich independancy, ac yr ydych yn leicio cael eich coaxio yn ofnatsan.
 
(1, 0) 30 Ie, lycoch chi nawr.
 
(1, 0) 33 Lycoch chi nawr, wyt ti yn cael hwyl ar siarad heddyw, Ann, ond yr wyt wedi bod yn forwyn dda a gofalus i mi am bymtheg mlynedd, ac y mae ychydig o'th gyflogau, fel y gwyddost, yn aros heb eu talu o hyd.
(1, 0) 34 Does gen i, wyt ti'n gweld, ddim ffashwn beth a thalent at garu fel sydd gan rai bechgyn, ond y mae yn hen bryd i ni ddod i'r penderfyniad bellach i fyw er gwell neu er gwaeth fel gwr a gwraig yn y Tyddyn Llwyd.
 
(1, 0) 38 Lycot ti nawr.
(1, 0) 39 Creaduriaid garw i chi y merched yma am eich gwisgoedd.
(1, 0) 40 Byth nas cyffra i, mae |dress| y briodas yn fwy pwysig yng ngolwg llawer merch na'r dyn y mae yn briodi; ond o'r goreu, cymer di dy amser fy ngeneth i, i gael dy |ddress|,' ac fe gadwn ni y mater yn |secret| hyd yr awr apwyntiedig.
 
(1, 0) 44 Lycot ti, nas cyffra i.
(1, 0) 45 Creaduriaid budr am siarad yw y menywod yma.
(1, 0) 46 Roedd Deio y Saer yn dweyd yn wastad mai y rheswm na fuasai |moustache| yn tyfu ar ên menyw fel y mae ar ên gwryw, nad ydyw gên menyw ddim yn llonydd yn ddigon hir i |moustache| i dyfu arni, ond cloncian neu beidio, y mae yn rhaid i ni eich cael chwi.
(1, 0) 47 Os ydi menyw dipyn yn anhawdd byw efo hi, y mae yn anhawddach byth byw hebddi.
 
(1, 0) 57 Lycoch chi.
(1, 0) 58 Llythyr oddiwrth, neu ynghylch Wil fy mrawd sydd yn yr America.
(1, 0) 59 Druan o Wil.
 
(1, 0) 61 Lycoch chi, peidiwch a chredu fy mod i yn |bad sort|, postman.
 
(1, 0) 63 Lycot ti, Ann.
(1, 0) 64 Cer i mofyn Morris y sgwlyn i ddarllen y llythyr.
 
(1, 0) 68 Beth tybed ydyw'r newydd?
(1, 0) 69 Llawer o bethau sydd yn fy mlino yn awr.
(1, 0) 70 Llawer i gosfa dialedd roddais i i Wil pan oeddem yn blant.
(1, 0) 71 A helynt garw y bu hi ynghylch ewyllys nhad.
(1, 0) 72 Y ffaith am dani, yr oedd Wil yn fachan mor fawr, ac am berchenogi y cwbl.
(1, 0) 73 Ond er mwyn dangos i'r gwalch pwy oedd drech, fe gafodd fyned o'r Tyddyn Llwyd heb ond ychydig yn ei logell.
(1, 0) 74 Ond beth dâl whalu yn awr.
(1, 0) 75 Garw mor hir y mae Morris cyn dod.
(1, 0) 76 Garw y fath anfantais ydyw peidio cael ysgol.
(1, 0) 77 Gallaf fi wneud yn lled dda i gowntio pris y menyn a'r wyau, a gallaf ddarllen ychydig adnodau o'r hen Lyfr yna, ond garw mor lleied y gallaf wneud o lythyr; ond dyma nhw yn dod.
(1, 0) 78 Beth tybed yw y newydd.
(1, 0) 79 Y mae fy nghalon yn curo fel ffustau machine dyrnu pan fo Darby a Bess wrth y |power|.
 
(1, 0) 84 Lycoch chi, dymafe.
(1, 0) 85 A welsoch chi erioed ffasiwn beth, fedra i ddim gwneud na phen na chynffon ohono fo,
 
(1, 0) 93 Lycoch chi nawr, |well done| Wil fy mrawd.
(1, 0) 94 Ile, un da oedd Wil erioed am gael gafael mewn rhywbeth.
(1, 0) 95 Rwy'n cofio colli dafad un tro, pan oeddym yn blant, ac yr oeddym yn suspecto fod yna leidr wedi bod yn y lle.
(1, 0) 96 Ond mi gafodd Wil ei |drack| e, a ble 'rych chwi yn meddwl ca'dd Wil afael yn y ddafad? a mi 'nabyddodd hi hefyd—ond yng nghrochan cawl Dai Shams Puw.
(1, 0) 97 Ie, ewch ymlaen, Morris.
(1, 0) 98 Gwythien o aur─
 
(1, 0) 101 Ewch ymlaen, Morris, gwythien o aur─
 
(1, 0) 105 Triugain mil o bynnau, nas cyffra i—dyna waith da!
 
(1, 0) 108 Ewch ymlaen, Morris, wr glân, peidiwch a gwrando ar Ann.
(1, 0) 109 Garw y fath ddiddordeb y mae yn gymryd yn arian pobl eraill.
 
(1, 0) 112 Ewch ymlaen, Morris.
 
(1, 0) 120 Lycoch chi nawr.
(1, 0) 121 Ddim mor gyfoethog a Holeford y Dderi.
 
(1, 0) 125 Hwre.
(1, 0) 126 Lycoch chi nawr.
(1, 0) 127 Dyma fachan fydd yn torri sgwars.
 
(1, 0) 131 Peidiwch a gwneud sylw o Ann, Mr. Morris.
(1, 0) 132 Y mae wedi cael rhyw chwilen yn ei phen heddi eto.
 
(1, 0) 140 Lycoch chi nawr.
 
(1, 0) 148 Lycoch chi nawr—yn y set fawr yn Salem yn ochor Jones y Gelli.
 
(1, 0) 152 Ie, lycoch chi nawr.
 
(1, 0) 158 Lycoch chi, peidiwch a gwneud sylw o Ann, Mr. Morris, y mae ei thafod yn hir ar brydiau.
 
(1, 0) 166 Nas cyffra i.
(1, 0) 167 Lycoch chi nawr.
(1, 0) 168 Does dim a garem yn fwy na byw fel Holeford y Dderi a Jones y Gelli, oherwydd y maent yn cael eu hanner addoli am eu cyfoeth, a pham nad allaf finnau.
(1, 0) 169 Ond y gwir ag e, Morris, yr wyf dipyn yn anllythrennog.
(1, 0) 170 Yr wyf yn gallu gwerthu moch yn Llandilo, a menyn ym Mrynaman, ond nas cyffra i, wn i ddim o'r ffordd i weithredu yn y cylch y mae Holeford a Jones yn troi ynddo.
 
(1, 0) 175 Lycoch chi, nawr.
(1, 0) 176 Bachan helyg wyt ti, Morris.
(1, 0) 177 Dyna setlo y peth.
(1, 0) 178 Rho dy law.
(1, 0) 179 Fi gwr bonheddig mawr a tithau yn |Private Secretary|.
 
(1, 0) 185 Lycoch chi nawr.
 
(1, 0) 198 Lycoch chi nawr, pwy fydd yn drifo rhyw greadur fel hynny.
(1, 0) 199 Alla i ddrifo Darby a'r cart am y goreu ag undyn, ond, nas cyffra i, wn i ddim y ffordd i ddrifo rhyw greadur fel yna, na wrandawa fe ddim ar "Gee," a "Come here," a "Woa."
 
(1, 0) 209 Lycoch chi nawr.
(1, 0) 210 Snakes and Fiddlesticks.
(1, 0) 211 Bachan helyg wyt ti, Morris, hefyd.
 
(1, 0) 215 Lycot ti nawr.
(1, 0) 216 Snakes and Fiddlesticks.