Ciw-restr

Yr Arth

Llinellau gan Popofa (Cyfanswm: 147)

 
(1, 0) 10 'Ta i byth allan ohono fo, be di'r iws?
(1, 0) 11 Mae 'mywyd i wedi darfod.
(1, 0) 12 Mae o yn y bedd, a finnau wedi nghladdu rhwng muriau'r tŷ ma.
(1, 0) 13 'R ydan ni wedi marw ein dau, y naill fel y llall.
 
(1, 0) 33 Peidiwch byth â gadael imi glywed geiriau fel yna eto.
(1, 0) 34 Mae bywyd wedi colli ei holl werth imi wedi imi golli Nicolai Michaelofìts; 'r wy'n edrych fel pe tawn i'n fyw, ond tydw i ddim, dim o'r fath beth!
(1, 0) 35 'R w i wedi cymyd fy llw i wisgo du hyd fy medd ac i beidio byth â mynd allan i'r byd eto, glywch chi?
(1, 0) 36 Bydded i'w gysgod yn y byd arall weld fel 'r ydw i yn ei garu o.
(1, 0) 37 Wrth gwrs, mi wn i'n ddigon da, ac mi wyddoch chithau hefyd, fydda fo ddim yn fy nhrin i'n deg bob amser, chwaith, ac mi fyddai weithiau'n ddigon ciaidd hefyd, ac yn anffyddlon imi o dro i dro; ond mi fydda i yn ffyddlon iddo fo hyd fy medd, iddo gael gweld sut y medra |i| garu.
(1, 0) 38 Er ei fod tu draw i'r bedd mi geith weld y medra i garu fel yr o'n yn ei garu cyn iddo farw.
 
(1, 0) 40 Ow, ow!
 
(1, 0) 42 Ow, ow!
 
(1, 0) 45 'R oedd o mor ffond o Tobi!
(1, 0) 46 Hefo fo y byddai fo yn mynd i weld y Cortsiagins a'r Flasoffs.
(1, 0) 47 Ac mi fyddai'n dreifio mor ddel, a'i law yn dal y |reins| fel angel o'r nefoedd!
(1, 0) 48 Ydach chi'n cofio?
(1, 0) 49 Tobi annwyl!
(1, 0) 50 Rhowch ffiolad o geirch dros ben iddo heddiw.
 
(1, 0) 54 Pwy sy' na?
(1, 0) 55 Deudwch na fedra i weld neb!
 
(1, 0) 59 'R wyt ti'n gweld, Nicolai, fel y galla'i garu a maddau.
 
(1, 0) 61 Ond amdanat ti, oes arnat ti ddim cwilydd, fy mhwt clws i?
(1, 0) 62 Fy nhwyllo i, cadw reiat yn y tŷ, a'm gadael i ar ben fy hun am wythnosau!
 
(1, 0) 65 Ond ddaru chi ddim deud wrtho fo na fydda'i yn gweld neb ar ôl imi golli'r gŵr?
 
(1, 0) 68 Cheith neb fy |ngweld i|!
 
(1, 0) 71 O'r gorau, o'r gorau, gadwch iddo ddŵad yma... y creadur difanars!
 
(1, 0) 73 Ond tydi pobol yn ddiflas?
 
(1, 0) 82 Be fynnwch chi?
 
(1, 0) 85 Chwech igian!
(1, 0) 86 Ond sut y gallai 'ngŵr i fod mewn cymint o ddyled i chi?
 
(1, 0) 89 Lwca, peidiwch ag anghofio rhoi mwy o geirch nag arfer i Tobi!
 
(1, 0) 91 Os oedd ar Nicolai Michaelofits arian i chi, mi cewch nhw, wrth gwrs.
(1, 0) 92 Ond maddeuwch imi, 'd oes gin i ddim arian parod heddiw.
(1, 0) 93 Mi ddaw fy stiward yn ôl o'r dre, drennydd.
(1, 0) 94 Mi ddeuda i wrtho fo am dalu'r hyn sydd ddyledus, ond hyd hynny, fedra i neud dim ichi.
(1, 0) 95 A pheth arall i chi, bu fy ngŵr farw saith mis i heddiw ac yr wyf i wedi cynhyrfu cymint, 'd ydw i ddim mewn tymer i drin arian heddiw.
 
(1, 0) 98 Mi gewch eich arian drennydd.
 
(1, 0) 100 Mae'n ddrwg gin i, ond fedra i ddim talu i chi heddiw.
 
(1, 0) 102 Ond 'd oes dim help amdani, 'd oes gin i mo'r arian.
 
(1, 0) 104 Fedra i ddim.
 
(1, 0) 107 Ie, 'ngair ola' i.
 
(1, 0) 109 Mewn difri.
 
(1, 0) 119 Mi rois i ateb ddigon plaen i chi; pan ddaw'r stiward yn ôl o'r dre, mi gewch yr arian.
 
(1, 0) 122 Esgusodwch fi, syr, 'd ydw i ddim yn arfer clywed y fath iaith, a'r fath dôn.
(1, 0) 123 Wna i ddim gwrando arnoch chi chwaith.
 
(1, 0) 200 Syr, yn f'unigrwydd nid wyf wedi arfer clywed llais neb, a fedra i ddim diodde clywed neb yn gweiddi.
(1, 0) 201 'R wyf yn erfyn arnoch adael llonydd i mi.
 
(1, 0) 203 Mi ddeudais i heb flew ar fy nhafod nad oes gin i ddim arian parod rŵan, ond cewch nhw drennydd.
 
(1, 0) 206 Ond be fedra i wneud, os nad oes gin i arian?
(1, 0) 207 Rhyfedd, yntê?
 
(1, 0) 209 Fedra i ddim.
 
(1, 0) 219 Syr, peidiwch â gweiddi.
(1, 0) 220 Nid stabal ydi'r tŷ ma.
 
(1, 0) 222 Wyddoch chi ddim sut i ymddwyn o flaen merched.
 
(1, 0) 225 Na, wyddoch chi ddim.
(1, 0) 226 Dyn coman ydach chi, chawsoch chi ddim addysg, wyddoch chi ddim be di be.
(1, 0) 227 Fydd neb neis yn siarad fel yna o flaen merched.
 
(1, 0) 235 'D ydach chi ddim yn ddigri o gwbwl, ond yn bur anfoesgar.
 
(1, 0) 252 A ga i ofyn i chi yn ostyngedig: pwy yn eich barn chi sydd yn ddidwyll ac yn ffyddlon mewn cariad, nid y dynion ai e?
 
(1, 0) 255 Y dynion yn ddidwyll a ffyddlon mewn cariad!
(1, 0) 256 Wel, dyma beth newydd!
 
(1, 0) 258 A pha hawl sydd gynnoch chi i ddeud hynna?
(1, 0) 259 Dynion yn ddidwyll a ffyddlon, wir!
(1, 0) 260 Gan i chi sôn am y peth, mi ddeuda i hyn wrthoch chi, o bawb a welais i erioed, fy ngŵr i oedd y gore o ddigon.
(1, 0) 261 'R oeddwn yn ei garu yn wyllt â'm holl galon, â'm holl einioes, fel na all neb ond geneth ifanc, ysbrydol garu.
(1, 0) 262 Rhoddais iddo fy holl ieuenctid, fy nedwyddwch, fy holl eiddo, fo oedd anadl fy einioes; 'r oeddwn yn ei addoli ar fy ngliniau fel pagan ger bron ei eilun, ac yntau yn fy nhwyllo bob munud awr; ie fo, y gorau o bawb yn y byd yn fy nhwyllo yn y modd mwyaf digwilydd.
(1, 0) 263 Wedi iddo farw mi eis i'w ddesg a chefais lond bocs o lythyrau serch.
(1, 0) 264 A phan oedd o'n fyw mi fyddai'n fy ngadael am wythnosau, yn canlyn merched eraill dan fy nhrwyn, yn fy mradychu i, yn sgwandro fy arian i, ac yn chwerthin am ben fy nheimladau i, Eto, serch hynny, 'r oeddwn yn ei garu ac yn para'n ffyddlon iddo; ac er ei fod wedi marw, 'r wy'n dal byth yn ffyddlon iddo.
(1, 0) 265 'R wyf wedi claddu fy hun rhwng muriau'r tŷ yma ac mi wisgaf ddillad galar hyd fy medd.
 
(1, 0) 275 Be?
(1, 0) 276 Sut y medrwch chi ddeud peth fel'na wrtha i?
 
(1, 0) 278 Sut y medrwch siarad fel yna wrtha i?
 
(1, 0) 283 Nid fi sy'n gweiddi; chi sy'n arthio.
(1, 0) 284 Gadwch lonydd i mi.
 
(1, 0) 286 Thala i mo'r arian.
 
(1, 0) 288 Chewch chi'r un ddimai goch, tae hynny ddim ond i'ch sbeitio chi.
(1, 0) 289 Waeth i chi adael llonydd i mi.
 
(1, 0) 294 Ydach chi'n eiste'?
 
(1, 0) 296 'R wy'n gofyn i chi fynd.
 
(1, 0) 300 Fynna i ddim siarad â phobol mor ddigwilydd.
(1, 0) 301 Byddwch cystal â mynd o'r tŷ ma.
 
(1, 0) 303 Ydach chi ddim am fynd?
 
(1, 0) 305 Nag ydach?
 
(1, 0) 307 O'r gora^ta.
 
(1, 0) 310 Lwca, ewch â'r gŵr bonheddig yma allan.
 
(1, 0) 323 Lle mae Dasia?
 
(1, 0) 325 Dasia! Dasia! Pelagea! Dasia!
 
(1, 0) 331 Byddwch cystal â mynd i ffwrdd.
 
(1, 0) 334 Y llabwst gwladaidd!
(1, 0) 335 Yr hen arth i chi!
(1, 0) 336 Yr anghenfil brwnt!
 
(1, 0) 339 Deud mai arth ac anghenfil ydach chi.
 
(1, 0) 341 Os ydw i yn eich insyltio chi, beth am hynny?
(1, 0) 342 Ydach chi'n meddwl fod arna' i eich ofn chi?
 
(1, 0) 348 Os oes gynnoch chi ddwrn fel haearn a gwddw fel tarw, peidiwch â meddwl fod arna' i eich ofn chi.
(1, 0) 349 Yr hen fwli!
 
(1, 0) 353 le, arthiwch... yr hen arth, arth, arth!
 
(1, 0) 358 O, duel, felly wir.
(1, 0) 359 Lediwch y ffordd, 'ta.
 
(1, 0) 361 Y munud ma.
(1, 0) 362 'R oedd gan fy ngŵr ddau bistol; mi â i nhôl nhw rŵan.
 
(1, 0) 364 Mi fydd yn nefoedd i mi rhoi bwled yn eich talcen pres chi.
(1, 0) 365 A'ch cipio chi!
 
(1, 0) 396 Dyma'r ddau bistol.
(1, 0) 397 Ond cyn i ni fynd ati hi, dangoswch i mi sut i saethu, os gwelwch chi yn dda.
(1, 0) 398 Fu 'na rioed bistol yn fy llaw i.
 
(1, 0) 410 Fel hyn?
 
(1, 0) 415 O'r gorau, well inni beidio saethu yn y tŷ, awn i'r ardd.
 
(1, 0) 422 Wedi troi'n llwfrgi, ai e?
(1, 0) 423 Waeth i chi heb â strancio, mae'n rhy hwyr i hynny rŵan.
(1, 0) 424 Dewch ar fy ôl i, cha i ddim munud o dawelwch nes y bydda i wedi gyrru bwled trwy'ch hen ben atgas chi.
(1, 0) 425 Wedi troi'n llwfrgi, ai e?
 
(1, 0) 427 Celwydd noeth!
(1, 0) 428 Pam na fynnwch chi gwffio?
 
(1, 0) 431 Yn fy licio i!
(1, 0) 432 Pa hawl sy' gynno fo i ddeud ei fod yn fy licio i?
(1, 0) 433 Y dyn ei hun!
 
(1, 0) 435 Ewch trwyddo fo.
(1, 0) 436 Welwch chi'r drws na?
 
(1, 0) 448 Ewch i ffwrdd.
(1, 0) 449 Mi 'dw i eich casâu chi.
 
(1, 0) 453 I ffwrdd â chi, neu mi saetha i.
 
(1, 0) 461 Na, saethu.
(1, 0) 462 I'r maes...
 
(1, 0) 465 I'r maes!
 
(1, 0) 478 Rhoswch!
 
(1, 0) 481 O, dim.
(1, 0) 482 Ewch i ffwrdd... na, rhoswch!...
(1, 0) 483 Na, na, i ffwrdd â chi!
(1, 0) 484 Ewch i ffwrdd!
(1, 0) 485 'R wy'n eich casâu chi.
(1, 0) 486 Taech chi'n gwybod mor ddig ydw i!
(1, 0) 487 O, mor ddig, mor ddig!
 
(1, 0) 489 Mae mysedd i wedi cyffio ar ôl gafael yn yr hen beth na.
 
(1, 0) 491 Pam 'r ydych chi'n sefyll yn y fan yna?
(1, 0) 492 Ewch i ffwrdd!
 
(1, 0) 494 Ie, ie, ewch i ffwrdd.
 
(1, 0) 496 Lle 'dach chi'n mynd?
(1, 0) 497 Rhoswch!...
(1, 0) 498 O ran hynny, mi ellwch fynd.
(1, 0) 499 O, 'r ydw i'n ddig!
(1, 0) 500 Peidiwch â dŵad yn agos ata i.
 
(1, 0) 510 Ewch i ffwrdd.
(1, 0) 511 Tynnwch eich breichiau.
(1, 0) 512 'R ydw i'n eich casâu chi.
(1, 0) 513 I'r maes!
 
(1, 0) 520 Lwca, deudwch wrthan nhw yn y stabal am beidio rhoi ceirch i Tobi rŵan.