Ciw-restr

Asgre Lân

Llinellau gan Gruffydd (Cyfanswm: 78)

 
(1, 0) 9 Rhif lluosog─be wyt ti'n feddwl?
 
(1, 0) 12 Dyna ti'n siarad yn blaen rwan; waeth gen i glywad dyn yn tyngu a rhegi na'i glywad o'n siarad fel llyfr mewn trowsus.
 
(1, 0) 14 Dafydd, be di'r llif rhuosog (be gebyst ydi'r enw?) o'r gair clo?
 
(1, 0) 16 Diain i, un ciwt wyt ti'r hen law!
(1, 0) 17 Ond er hynny, sciam wael ydi peth fel yna i sgoi anhawstar.
(1, 0) 18 Llo─lloiau, yntê?
 
(1, 0) 20 Dyn o'i go─dynion o'u coiau | os felly, clo─cloiau: rho fo i lawr Morus, achos ma'r ironmonger na'n bry gramadegol ofnadwy.
 
(1, 0) 24 Cofia di bostio fo yn y Post Offis ac nid yn nhŷ Mr. Evans y gweinidog.
 
(1, 0) 26 Oes, ma Morus yn fachgan go lew; ond mod i'n leicio berian dipyn arno fo weithia ynghylch Gwen Evans, merch y gweinidog.
 
(1, 0) 28 Felly ma pobol yn deyd, os oes rhyw goel arnyn nhw.
(1, 0) 29 Gyda llaw, Dafydd, ma Mr. Evans y gweinidog yn mynd yn hen hwsmon efo chi yn Horeb acw bellach; sut mae o'n dal i dir, dywad?
 
(1, 0) 31 Bydd, debig iawn; ond mi gamoli'th Mari ni bob pregethwr; chaiff neb ddeyd gair bach am yr un enaid byw bedyddiol ohonyn nhw os bydd hi wrth ymyl.
(1, 0) 32 Mi fydda'n i phlagio hi amball dro drwy redag dipyn ar bregethwrs; ond welis di rioed mor fuan y bydd hi'n codi'r pastwn i gadw'i plaid nhw.
 
(1, 0) 34 Rwan, Dafydd, deyda'r gwir rhwng dau frawd─be di'r farn gyffredin am Mari ni yn Horeb?
(1, 0) 35 Ofynnis i rioed o'r blaen iti.
(1, 0) 36 Tipyn o ddoctor a difein ydi hi, yntê, yng ngolwg rhai ohonoch chi?
 
(1, 0) 38 Dyna ti i'r blewyn─"atab parod bob cynnig"; pe dasa ti wedi byw efo hi fel fi am yn agos i ddeugain mlynedd, fasa ti ddim yn tynnu gwell llun ohoni na hwnna─"atab parod"; yn ddistaw bach yn dy glust fel hen ffrind, rhy barod o lawar, wyddost, i mhlesio i, achos mi fydda i'n leicio clywad y cloc yn rhuo dipyn yn i gorn cyn taro; dda gen i mo'r clocia ma sy'n taro'n ddirybudd fel bwlat o wn.
 
(1, 0) 41 Na, na, mi rydw i'n dy ddallt di'n burion─sôn yr oedda ti am i pharodrwydd hi ar bwnc o ddadl.
(1, 0) 42 Fum i rioed mewn dosbarth efo hi yn yr Ysgol Sul; ond mi wranta mai'r fan yma ar yr aelwyd wrth bracteisio arna i y dysgodd hi sut i drin i harfau.
 
(1, 0) 47 Chwara teg i ti am ofyn; ond dyma gwestiwn i titha─pa wahaniaeth yno i fasa hynny'n i neud.
 
(1, 0) 49 Fasa dod yn aelod yn y ngneud i'n ddyn gwell nag ydyw i rwan?
 
(1, 0) 51 O'r gora; fasa dwad yn aelod o Horeb yn y ngneud i fymryn yn fwy geirwir a gonest nag ydw i ar hyn o bryd.
(1, 0) 52 Gneud dynion da, decini, ydi amcan aelodaeth eglwysig?
 
(1, 0) 54 Howld on, ngwas i, paid ti a siarad efo fi fel taswn i'n sasiwn ne'n llond capal o bobol, a phaid a hollti blew hefyd; ateb yn blaen─ydi deyd y gwir a byw'n onest yn dda?
 
(1, 0) 56 Ah, rhen sciemar, mi rwyt ti am dorri bwlch yn y clawdd efo'r gair "rhagor'' na, er mwyn cael slipio drwyddo fo os daw hi'n glos cwartars arnat ti; y pwnc yn blaen ydi hwn─a ddyla crefyddwr ddeyd y gwir a delio'n onest?
 
(1, 0) 58 O'r gora; ma Huw'r Ffridd yn aelod yn Horeb acw, yn tydi o?
 
(1, 0) 61 Ah, ie, y sêt fawr, sêt bwysig ydi honno, yntê?
(1, 0) 62 Edrach ar y weathar glas ma.
(1, 0) 63 Y sêt fawr, wyddost, ydi'r |very dry| ac weddar glas yr eglwys: ond fel rwyt ti'n nesu oddiwrth y sêt fawr at y seti wrth y drws rwyt ti'n dwad at |Fair| a |Change|; y tuallan i'r capel, wrth gwrs, rwyt ti yn y |Rain| a'r |Very Stormy|.
(1, 0) 64 Mi rydw i, Gruffydd Huws y Berthlwyd, yn y |very stormy|, ac ma Huw'r Ffridd yn |very dry| y sêt fawr.
 
(1, 0) 66 Gad lonydd i mi orffen.
(1, 0) 67 Chydig bach yn ol, fe werthodd Huw'r Ffridd geffyl i mi, ac fe aeth ar i lw nad oedd dim anghaffael na chastia drwg yn perthyn iddo fo.
(1, 0) 68 Mi cymrais o ar i air, am i fod o'n gymydog agos, ac yn un o bobol y sêt fawr; ond cyn sicred a dy fod yn eista yn y fan na, cyn pen yr wsnos mi ddalltis fod gan y ceffyl gast ne ddau mor gas fel nad oedd o'n dda i ddim ond i'w seuthu, a'i grogi hefyd ran hynny.
 
(1, 0) 71 Nage, meistar yr hen geffyl─
(1, 0) 72 Huw gastiog efo'i sêt fawr a'i gybôl ffug-dduwiol: a dyna ydw i'n ddeyd, os petha fel Huw sy'n uchel i cloch yn y capel, dydy nhw ddim yn haeddu papur aelodaeth i ddwad i berthyn i'r byd heb son am yr eglwys, yn siwr i ti.
 
(1, 0) 74 O, nag ydw; ond cofia di ma na rai tatws drwg yn sach Horeb heblaw Huw.
 
(1, 0) 80 Dim, dim: ymresymu dipyn hefo Dafydd yr oeddwn i.
 
(1, 0) 83 Doedd yma neb yn colli'i dempar cyn i ti ddwad i mewn beth bynnag.
 
(1, 0) 90 Hannar munud, Mari: ma dy wir cyffredin di'n ddigon crafog, os doi di a dy wir plaen allan, mi mlingi fi i'r asgwrn.
 
(1, 0) 92 Ar y ngair i, os ydw i'n eglwys ti ydi'r person a'r clochydd arni hi; brensiach fawr, Dafydd, pam na rowch chi Mari ni yn y sêt fawr?
 
(1, 0) 106 Hynny ydi, Dafydd, dy syniad di ydi fod Mr. Evans yn ormod o freuddwydiwr i drin busnes arian?
(1, 0) 107 Mae fel pe baet ti'n meddwl am Williams, Pantycelyn, yn cyfri arian y tu ol i'r cowntar!
(1, 0) 108 Grym annwyl, mae o'n syniad digri hefyd i feddwl am yr hen Evans yn canu mawl yr |Auxiliary Society| ac yn dosbarthu |prospectuses| ar hyd y wlad ma.
(1, 0) 109 Diaist i, rwan y basa shar o ddawn busnes Huw'r Ffridd yn dod yn handi iddo fo.
(1, 0) 110 Mi ddyla'r hen Huwcyn ddod a llyfr allan, mi ro i deitl iddo fo'n rhad ac am ddim.
 
(1, 0) 113 Be di enw llyfr Tomos Binney hefyd─y llyfr na fuost ti'n ddarllen chydig yn ol, Mari?
 
(1, 0) 115 Dyna fo.
(1, 0) 116 Wel, dyma deitl i lyfr Huw─"Pa fodd y ces i'r goreu ar y byd hwn," sef, arna i, Gruffydd Huws, wyddost.
 
(1, 0) 119 Pam gebyst ynta rydach chi yn Horeb yn gadael iddo fo dyfu yn y gwely gora sydd yn y capal?
(1, 0) 120 Rhyw bwnsh o ddalan poethion fel fo yn y sêt fawr!
(1, 0) 121 Mi fasa'n harddach i chi i garthu o allan i'r |lobby| o lawer.
 
(1, 0) 129 Mi ddeydist rwan, Mari, ma Morus roth hum i ti; ddeydith yr hen walch yr un pwmp wrtho i; ond rwyt ti'n medru cocsio i secrats o i gyd.
 
(1, 0) 136 Wyt ti dy hun, Mari, yn peidio bod yn |agent| ar y slei dywad?
(1, 0) 137 Rwyt ti'n siarad run ffunud a |phrospectus| y gymdeithas.
(1, 0) 138 Da i byth o'r fan ma, nid peth dwl fasa cael plat melyn ar y lidiart o flaen y tŷ: "|Mari Huws, Agent for the Auxiliary Society|."
 
(1, 0) 143 I ba enwad, sgwn i, ma Francis yn perthyn, achos ma'n bwysig i ni wybod yng Nghymru prun ai Sentar ne Fethodis ne Fatist ydi o cyn ymddiried yn harian iddo fo.
 
(1, 0) 145 Dyma'r dyn fedar sponio'r dirgelwch i ni; Mr. Evans, i ba enwad ma Francis, pen manijar yr |Auxiliary Society| yn perthyn?
 
(1, 0) 148 Y nghyfarthiad i ydi'r gwaetha, ia, Mr. Evans?
(1, 0) 149 Eitha gwir: roedd gen i gi defaid amsar yn ol a chena drwg oedd hwnnw─roedd o'n brathu heb gyfarth, a thacla melltigedig ydi rheini.
(1, 0) 150 Mi ddyla pob ci respectabl gyfarth unwaith beth bynnag cyn brathu.
(1, 0) 151 Ond be ydi'r si ma sy ar led, Mr. Evans, y'ch bod chi'n |agent| i'r |Auxiliary|?
 
(1, 0) 157 Twt, twt! deyda'n blaen fachgan, teimlo rwyt ti ma pysgodyn mewn cae tatws fydd Mr. Evans fel |agent| yr |Auxiliary|.
 
(1, 0) 160 Dyma ti eto, Mari, yn taflu dy gribin i mewn o mlaen i.
(1, 0) 161 Mr. Evans, gofyn y marn i roedd Dafydd rwan, ac i ddeyd y gwir yn onest, mi rydw inna'n ofni'ch gweld chi'n gafael yn y swydd ma.
 
(1, 0) 167 Dau'n barod!
(1, 0) 168 Go lew wir.
(1, 0) 169 Oes drwg gofyn pwy ydy nhw?
 
(1, 0) 171 Rhen Birs yn |shareholder|!
(1, 0) 172 Pirs sydd wedi cadw'i arian yn i sana drwy'r blynyddoedd, rhag ofn i'r bancia dorri!
(1, 0) 173 Da i byth o'r fan ma.
 
(1, 0) 176 Ar f'engoch i, Huw ffals wedi mentro!
(1, 0) 177 Wel, myn cebyst, dydi dydd y gwyrthia ddim ar ben.
(1, 0) 178 Huwcyn wedi credu yn sicrwydd y |six per cents|; mi fasa'n mynd i'r nefoedd yn i grynswrth tasa gyno fo chwarter cymin o grêd yn i grefydd, y lluman cyfrwys.
 
(1, 0) 180 Mae ceffyl castiog Huw yn y nghroen i o hyd, Mari bach; ond yn wirionadd i mi, fydd yn hwb da ymlaen i'r Gymdeithas yn yr ardal ma fod Huw wedi credu yni hi efo'i dafod ac hefo'i boced.
 
(1, 0) 189 Wn i ddim yn iawn beth i ddeyd ar ol yr araith na─prun ai "Amen,'' ne "Clywch, clywch"; ond myn gafr, un dda oedd hi.
 
(1, 0) 194 Neno'r tad, dowch i mewn, Miss Evans, fytwn i mono chi, er ych bod chi'n ddigon da i'ch byta unrhyw ddiwrnod o'r wsnos.
 
(1, 0) 209 Miss Evans, os gwelwch chi Morus ni ar y ffordd yn rhywle, gofynnwch iddo fo be ydi'r rhif lluosog o'r gair bygêjmant─bygêjmynt, ne bygêjmantiau.
 
(1, 0) 215 Ma'r gloch bach yn canu yn y nghlust inna fel Dafydd, gresyn fod Mr. Evans yn codlo efo'r Gymdeithas ma.