Ciw-restr

Asgre Lân

Llinellau gan Mari (Cyfanswm: 40)

 
(1, 0) 76 Mi feddylis mod i'n clywad sŵn ych llais chi, Dafydd.
 
(1, 0) 78 Hylo, be di'r matar arnoch chi heno?
(1, 0) 79 Ma'ch gwynab chi cyn goched a chrib ceiliog; be sy wedi codi'ch gwrychyn chi rwan?
 
(1, 0) 81 Wel, yn wir, o'r holl greduriaid sydd ar y ffarm chi'r dynion ydi'r rhai rhyfedda!
(1, 0) 82 Chi ddynion yn fodau rhesymol─chi sy'n colli'ch tempar y funud yr ewch i drio ymresymu?
 
(1, 0) 85 Felly wir; mi fuoch, decini, yn deyd wrtho fo'r fath golled i'r eglwys ydi bod heb ddyn fel y fo?
 
(1, 0) 87 Mi fuoch yn dangos y fath fraint i'r eglwys fasa medru bachu samon mawr fel Gruffydd ni?
(1, 0) 88 Begera aeloda y galwa i beth fel na; fasa Paul byth yn plygu i gardota pobol i'r eglwys yn y ffordd yna; ac er bod Gruffydd ma'n burion dyn, nid wrth i gosi o a phorthi i falchtar o y medrwch chi i gael o i mewn i'r eglwys; y gwir plaen ydi─
 
(1, 0) 91 Y gwir plaen ydi─ma Gruffydd yn credu i fod o'n ddigon o eglwys i hunan.
 
(1, 0) 93 Peidiwch a chellwar hefo petha na wyddoch chi ddim am danyn nhw; byddwch yn fodlon i fod yn awdurdod ar fenyn a chaws a ffowls.
 
(1, 0) 95 Dafydd, glywsoch chi fod Mr. Evans yn |agent| dros y cwmni na yn Llunden?
 
(1, 0) 97 Yn eno'r tad, y cwmni mawr sydd a chymin o sôn am dano'n talu'r llog arian uchel.
 
(1, 0) 99 Dyna fo.
 
(1, 0) 102 Ia, pam lai?
(1, 0) 103 Does dim o le yn y swydd, oes yna?
(1, 0) 104 Mi wyddoch fod dega lawer o weinidogion y gwahanol enwada yn |agents| i'r |Auxiliary|.
 
(1, 0) 114 "Pa fodd i wneud y goreu o'r ddau fyd."
 
(1, 0) 117 Peidiwch a boddro am Huw mor amal; mi rydw i wedi laru'ch clywad chi byth a hefyd yn barnu crefyddwyr wrth Huw, a chitha'n gwbod ma un o chwyn yr eglwys ydi o.
 
(1, 0) 125 Morus, y bachgan ma, roth hum i mi.
 
(1, 0) 127 Felly ma nhw'n deyd.
(1, 0) 128 Mi fydd Morus yn lwcus i chael hi, achos mi ŵyr sut i gadw tŷ; dyma hi wedi cadw'r tŷ i'w thad byth er pan bu farw i mam.
 
(1, 0) 133 Cnafon twyllodrus, yn wir!
(1, 0) 134 Ma'r cwmni'r un mwya parchus yn y wlad, ac ma rhai o'r bobol ora ynglŷn a fo.
(1, 0) 135 Dyna'r pen dyn, Mr. Francis, yn aelod seneddol ac yn proffesu crefydd, a mawr o arian mae o'n gyfrannu o hyd at achosion crefydd.
 
(1, 0) 139 Wfft fawr i'ch coegni chi.
(1, 0) 140 Mi wn be ydw i'n ddeyd; ma'r papura newydd yn llawn o'r gymdeithas bob wsnos.
(1, 0) 141 Mi welis yn "Utgorn Cymru'' y dydd o'r blaen fod Mr. Francis yn rhoi pum mil o bunnau at wahanol gymdeithasa cenhadol, roedd o hefyd yn gosod carreg sylfaen dau ne dri o gapeli yn Llunden chydig yn ol.
 
(1, 0) 146 Da chi, Gruffydd, rhowch ben ar y gwawd annuwiol na; peidiwch a sylwi arno fo, Mr. Evans.
 
(1, 0) 159 Dafydd, dydw i ddim o gwbl o'r un farn a chi.
 
(1, 0) 179 Rhag cywilydd i chi Gruffydd!─yn siarad fel pagan yng ngŵydd Mr. Evans fel hyn.
 
(1, 0) 185 Rydw i wedi dilyn hanes y Gymdeithas ers misoedd, ymhell yn wir cyn bod sôn am dani yma hefo ni.
(1, 0) 186 Mae gen i frawd yn Lerpwl fentrodd arni'n bur ddwfn, ac mae'r lloga'n dwad i mewn yn gyson fel y cloc.
(1, 0) 187 A dydi Gruffydd ma chwaith wedi cael fawr o lonydd ers plwc byd, mi rydw i'n gneud y ngora i gael ganddo roi deucant ne dri i mewn yni hi.
(1, 0) 188 Pam y rhaid i ni golli petha gora'r byd a chrafu a chynhilo a phinsio'n hunain a dim uwch bawd troed yn y diwedd?
 
(1, 0) 198 Go lew wir, thenciw; newch chi ddim eista funud?
 
(1, 0) 211 Tewch, y Iolyn gwirion.
(1, 0) 212 Nos dawch, Miss Evans.
 
(1, 0) 216 Cloch bach yn canu yn ych clust chi, wir!
(1, 0) 217 Canu yn ych stumog chi y bydd hi amlaf.
(1, 0) 218 Wn i ar y ddaear fawr pam rydach chi'n petruso, achos ma'r Gymdeithas fel y Banc o Ingland, ac mi gewch weld y gnaiff Mr. Evans |agent| rhagorol.