Ciw-restr

Atgofion

Llinellau gan Rachel (Cyfanswm: 60)

 
(1, 0) 12 Wyt ti wedi cael tê, Esther?
 
(1, 0) 15 Dim ond am ychydig o funudau.
(1, 0) 16 Mae Sam ar fynd i'r steddfod.
 
(1, 0) 18 Fi?
(1, 0) 19 Dim perigl.
(1, 0) 20 Wfft iddi nhw a'u hên ganu ac adrodd.
(1, 0) 21 'Rwyf am fynd lawr i'r dre' i weld Mari, fy chwaer.
 
(1, 0) 23 'Dyw'r Genedlaethol yn ddim i'w chymharu â hi.
(1, 0) 24 Mi fyddai'n falch i weld yfory.
 
(1, 0) 26 Dim ond 'steddfod, a |male voice|, a |rallentando| glywir yn ein tŷ ni o fore tan nos.
 
(1, 0) 28 Wyddost ti, mae Sam fel pe bae wedi ynfydu.
(1, 0) 29 Wrth gwrs, y mae John yn mynd?
 
(1, 0) 32 A tithau hefyd, wrth gwrs.
 
(1, 0) 34 Beth?
(1, 0) 35 A'r fath gantores fuost ti erioed!
(1, 0) 36 A ti wyddost am gystadleuaeth y |male voice| heno; ni bu ei bath erioed!
 
(1, 0) 39 Ond, Esther, fe fydd canu da yn y gystadleuaeth heno!
 
(1, 0) 42 Wel, wel, dyna un ôd wyt ti, a dweyd y lleiaf.
(1, 0) 43 Gall'swn feddwl—.
 
(1, 0) 45 O, ie, wrth gwrs.
 
(1, 0) 47 Faint sy 'nawr oddiar y bu Neli fach farw?
 
(1, 0) 50 Blwyddyn i heno!
(1, 0) 51 Yr annwyl, annwyl.
(1, 0) 52 Druan fach!
(1, 0) 53 Fel mae'r amser yn mynd!
 
(1, 0) 55 Cannwyll llygad John oedd Neli fach.
 
(1, 0) 58 Nid wyf yn cofio'n iawn—ai nid yn dy freichiau di y bu Neli fach farw?
 
(1, 0) 61 Wrth gwrs, wrth gwrs; nawr 'rwy'n cofio.
(1, 0) 62 Peth òd fod John yn mynd heno, Esther!
 
(1, 0) 65 Dd'wedi di rywbeth wrtho i'w atgofio, Esther?
 
(1, 0) 69 Gâd i fi ddweyd wrtho.
 
(1, 0) 72 Hwyrach mai ti sy'n iawn, Esther.
(1, 0) 73 Nyni, y menywod, sy'n cofio ac yn hiraethu.
(1, 0) 74 Dyna yw'n tynged ni ar y ddaear yma.
 
(1, 0) 76 Mae yna lawer o lawenydd yn ddyledus i ni yn y byd arall, gall'swn feddwl.
(1, 0) 77 Oes, sicr o fod.
 
(1, 0) 82 Maent yn dod o bobman; weles i ddim o'r fath beth erioed.
(1, 0) 83 Mae'r ddau gôr lleol wedi rhoddi'r goron ar y cyfan.
 
(1, 0) 86 Byddai'n dân goleu 'ma rhwng Sam a John, pe bae un ohonynt ym |Male Voice| Dwynant, a'r llall yng Nghôr Pentwyn.
 
(1, 0) 88 Hyd yn oed fel y mae pethau, dim ond sôn am roddi "whiff" i hên gôr John y mae Sam, nos a dydd.
(1, 0) 89 Ydi John yn siarad rhywbeth am y corau?
 
(1, 0) 92 Dyna fe!
(1, 0) 93 |Comrades in Arms| sydd yn fy nghlustiau innau byth ac hefyd.
(1, 0) 94 Gwyn fyd na buasai'r gân heb ei chyfansoddi erioed.
 
(1, 0) 97 |Martyrs of the Arena| yn wir!
(1, 0) 98 Mae'n bryd i ryw fenyw gyfansoddi darn o'r enw |Martyrs of the Kitchen|!
(1, 0) 99 Ydi'n wir.
 
(1, 0) 102 Wrth gwrs, wrth gwrs.
(1, 0) 103 Ond trueni fod dynion yn cweryla â'u gilydd am ychydig o hên ganu.
(1, 0) 104 'Nawr...
 
(1, 0) 108 Os daw Sam i mewn, ar dy fywyd paid a sôn am |Comrades in Arms|.
 
(1, 0) 112 Cael sgwrs fach gydag Esther 'roedd i cyn mynd i'r dref.
 
(1, 0) 120 Rho lonydd i'r |male voice|, da ti.
(1, 0) 121 'Rwyf bron a gwirioni wrth glywed y tragwyddol |Comrades in Arms|.
 
(1, 0) 123 Dyna fi wedi'i gwneud hi!
 
(1, 0) 128 Gloiaist ti ddrws y ffrynt cyn dod allan?
 
(1, 0) 136 O'r nefoedd!
(1, 0) 137 Dôs i'r 'steddfod, er mwyn popeth, a phaid â phoeni Esther â dy lol.
(1, 0) 138 'Rwy'n mynd i'r dre, Esther, allan o sŵn |Comrades in Arms|.
(1, 0) 139 Noswaith dda, Esther.