Ciw-restr

Beddau'r Proffwydi

Llinellau gan Robert (Cyfanswm: 73)

 
(1, 0) 23 Mae nhw wedi'ch gadael chi ar ych pen ych hun yn y twllwch, mam?
 
(1, 0) 26 Wel, rhaid ini gael lamp i'ch gweld chi beth bynnag, rhag ofn ych bod chi ar rhyw berwyl drwg.
 
(1, 0) 28 Elin! Elin!
 
(1, 0) 31 Dowch â thipyn o ola yma, neno'r taid; mae'r hen wraig i hun yn y fan yma fel pelican yr anialwch.
(1, 0) 32 Mae hi'n wyth o'r gloch, ac yn dywyll fel bol buwch.
 
(1, 0) 34 Welis i rioed siwn beth ag Elin yma ar ol i Emrys ddwad adre.
(1, 0) 35 Mae hi wedi pendronni'n lân;—chafodd y moch yr un tamad o fwyd bore heddiw, mi gymra i fy llw,—a wyddoch chi beth, mam? roedd yna flas hir hel ar y menyn yr wythnos yma,—
(1, 0) 36 oedd fel mae byw fi;—y tro cynta erioed ar ol i Elin ddwad i'r Sgellog.
 
(1, 0) 51 Wel, tawn i'n llwgu ar y fan yma, dyma'r hen Elin yn dechra'i gweld nhw eto.
(1, 0) 52 Rhyngoch chi i gyd—mam yn gweld petha yn y tân, ag Ann yn stydio Geiriadur Charles, ag Emrys yn mynd i wneud tŵr melin ag eglwys, a chitha eto Elin yn siarad fel Llyfr y Diarhebion, does gen ddyn glân o Gymro ddim siawns i roi'i big i fewn.
 
(1, 0) 56 Pam na fasa fo'n mynd yn brygethwr ynte os ydi o mor awyddus am roi tro yng nghynffona pobol?
 
(1, 0) 60 Wel, nid meddwl y mae o heno; mi gymra i fy llw mai troi'i draed tua'r Hafod y mae o.
 
(1, 0) 62 Ydech chi'n meddwl y gneith hi wraig iddo fo, Elin?
 
(1, 0) 64 Waeth befo, o ran hynny, mae genni hi ddigonedd o arian.
 
(1, 0) 70 Paid a chadw cymin arno fo'r tro yma, 'ngeneth i.
(1, 0) 71 Mae dy feistres wedi mopio wrth feddwl am Emrys, a mae rhyw bry yn dy gorun ditha, 'ddyliwn.
 
(1, 0) 95 Rydw i yn ych clywed chi, Elin William.
(1, 0) 96 Tasa fo'n i chael hi, fasa ddim rhaid iddo fo weithio'r un cnoc byth,—mae na le siort ora iddo fo roi'i het ar yr hoel.
(1, 0) 97 Peidiwch ag ymyrraeth â'r hogyn; gadwch lonydd iddo fo.
 
(1, 0) 110 Dyna hi eto!
(1, 0) 111 Ar y fend i, chai ddim agor y ngheg heb i chi neidio i ngwddw i.
(1, 0) 112 Does arni i ddim eisio fforsio'r hogyn—nag oes arna i, neno'r brensiach annwyl.
(1, 0) 113 Eisio iddo fo gael chwara teg sy arna i.
(1, 0) 114 Rydech chi'n gweld potsiars ym mhob twll a chongol,—ag Agnes yr Hafod ydi'r potsiar rwan, ddyliwn i.
(1, 0) 115 Potsiar wir!
(1, 0) 116 Ann
 
(1, 0) 118 Mae Miss Vaughan yr Hafod yn dwad ar y buarth, mistres.
(1, 0) 119 Brenin annwyl! lle mae ngholar i, Elin?
(1, 0) 120 Ann! wyt ti wedi hiro fy sgidia gora i?
(1, 0) 121 Mam! ydi'ch gwyneb chi'n lân?
 
(1, 0) 126 Ydi, siwr iawn,—sein barrug; mae nghymala i yn pigo ers tridia.
(1, 0) 127 Mae'n rhaid i mi roi tipyn o Oel Morus Ifan arnyn nhw.
 
(1, 0) 129 D'eisio di?—bydd debig iawn wir,—i neud cwpaned o dê i Miss Vaughan.
(1, 0) 130 Beth wyt ti'n rhythu arna i, dwad, fel bwch ar drana?
 
(1, 0) 144 la, dowch i fewn Miss Vaughan, a steddwch wrth y tân.
 
(1, 0) 146 Cerdd o 'ma, Pero,—'rwyt ti am y lle gora bob amser, yr hen ffagwt.
(1, 0) 147 Steddwch, Miss Vaughan.
 
(1, 0) 152 Mae'r hen wraig yn i gweld nhw heno.
 
(1, 0) 168 Ho, felly wir!
(1, 0) 169 Mi gafodd damad go chwerw i gnoi gen yr hen lanc, mi dyffeia io.
 
(1, 0) 182 Ydi fel bol—, fel |y tu fewn| i fuwch, Miss Vaughan.
(1, 0) 183 Mi ddaw Emrys toc.
 
(1, 0) 185 Wn i ar y ddaear sut y mae'r ddau yn medru cyd-dynnu,—mae Emrys yn mynd yn anffyddiwr glân, mae arna'i ofn.
(1, 0) 186 Dydi o'n credu dim yn y morfil, Miss Vaughan.
 
(1, 0) 188 Morfil Jona, wrth gwrs—wn i ddim beth ddaw ohono fo.
 
(1, 0) 214 Mi geith mei lord ddwad â'i swper hefog o gen i fod o'n troi 'i draed mor hwyr.
(1, 0) 215 Wn i ddim lle andros y geill o fod yn ymdroi, na wn i byth o'r fan 'ma.
 
(1, 0) 235 Yr argian fawr!
 
(1, 0) 244 Sut ar wyneb daear y daethon nhw i'r clawdd, tybed?
 
(1, 0) 251 Hy! cinio wir!
(1, 0) 252 Fasa waeth gen i gau ngheg am y gwynt nag am betha felna.
 
(1, 0) 254 Dydech chi ddim yn paratoi swper i Miss Vaughan, Elin?
 
(1, 0) 257 Taid annwyl, bedi'r brys?
(1, 0) 258 Dydech chi ddim wedi clywed Emrys yn pregethu eto ar yr hyn mae o'n mynd i neud yn y wlad yma.
 
(1, 0) 265 Neb.
 
(1, 0) 268 Bedi'r acsus sy arnat ti, yr hen lob gwirion?
(1, 0) 269 Clywad ogla'r ddau ffowlyn mae o, mam.
 
(1, 0) 280 Pwy gaclwm sy'n tyrfu'r adeg yma o'r nos, tybed?
 
(1, 0) 292 Hel at y Feibl Gymdeithas, myn fend i!
(1, 0) 293 Wyddwn i ddim fod yr un ohonoch chi'n perthyn i'r seiat,—ond steddwch, nen dyn.
(1, 0) 294 Cadwch ych hetiau, ddynion.
 
(1, 0) 298 Wats y mae o'n feddwl, Mr. McLagan.
 
(1, 0) 308 Diar annwyl bach, Robaits, rydech chi'n glasurol ofnatsan lâs.
(1, 0) 309 Rhaid ych bod chi'n ola fel latern.
(1, 0) 310 Ydi'ch llygad chi ar y pulpud, deudwch?
 
(1, 0) 312 Y fi?
(1, 0) 313 Naddo, nen taid annwyl, ddyn glân.
(1, 0) 314 Fum i ddim allan ar ol swpera, yn naddo bobol?
 
(1, 0) 343 'Run fan a'r lle cawsoch chi'ch locsyn, ddyliwn i.
(1, 0) 344 Fuost ti yn Scotland yn ddiweddar, Emrys?
 
(1, 0) 383 Oes, debig iawn, wir,—neu mae petha wedi mynd yn od ofnatsan.
(1, 0) 384 Nenor Rasmws mawr, os na cheith dyn tlawd godi dau dderyn wedi marw oddiar y clawdd mewn gwlad efengyl, mae hi wedi mynd,
 
(1, 0) 411 Am y tro, am y tro!