Ciw-restr

Brad y Llyfrau Gleision

Llinellau gan Dialedd (Cyfanswm: 65)

 
(1, 1) 216 Dialedd yn dyfod i mewn.
 
(1, 1) 220 Ha, ha, ha! mae chwerthin bron fy hollti,
(1, 1) 221 Erioed o'r blaen ni welais fath drueni:
(1, 1) 222 Wrth i mi nesu tua maes y cyffro,
(1, 1) 223 Ac ysgrechfeydd taranllyd bron fy moedro,
(1, 1) 224 Mi sefais eiliad wedi haner ofni,
(1, 1) 225 Gan dybied ddarfod i mi gyfeiliorni
(1, 1) 226 A chroesi'r terfyn yn fy anwybodaeth
(1, 1) 227 I ryw fyd arall, gwaeth uwchlaw cymhariaeth.
(1, 1) 228 Na'r dalaeth waethaf yn dy ymerodraeth;
(1, 1) 229 Mi welwn o fy mlaen fil-fyrdd o ffurfiau
(1, 1) 230 Hagr, erch, ofnadwy, o bob math o liwiau—
(1, 1) 231 Yn gwau yn wylltiog trwy a thraws eu gilydd,
(1, 1) 232 A chynddeiriogrwydd oedd yn eu lleferydd!
(1, 1) 233 Eirth hagr a llewod yn eu plith mi welwn,.
(1, 1) 234 Seirph a gwiberod hefyd ddarganfyddwn,
(1, 1) 235 Ac angenfilod anferth, filoedd lawer,
(1, 1) 236 Nad oes un enw ddengys eu herchyllder;
(1, 1) 237 A chreaduriaid, tebyg iawn i ddynion,
(1, 1) 238 A'u danedd miniog dynent yn ysgyrion
(1, 1) 239 Sarph danllyd fawr, ac iddi gant o benau,
(1, 1) 240 A'i chorph i gyd yn orlawn o golynau;
(1, 1) 241 O gylch un welwn wedi tỳn ymdorchi,
(1, 1) 242 Ac wrth ei bodd edrychai yn ei boeni;
(1, 1) 243 Ei phenau erch ysgydwai yn ei wyneb,
(1, 1) 244 A'i llygaid aml yn gochion greulondeb;
(1, 1) 245 Ac wedi edrych yn fygythiol arno,
(1, 1) 246 A'r truan caeth yn wae a dychryn trwyddo,
(1, 1) 247 Ei frathu wnai â'i danedd oll ar unwaith,
(1, 1) 248 Nes gwaeddai allan gan bangfeydd anobaith;
(1, 1) 249 Ac felly gwnai dro ar ol tro ei boeni,
(1, 1) 250 Nes ydoedd ar eì loesion wedi meddwi;
(1, 1) 251 Yn ymyl hwn, mi welwn adyn arall
(1, 1) 252 Yn cael ei boeni am ei fywyd angall,—
(1, 1) 253 Ellyllon lu a'i gwanent â'u bidogau,
(1, 1) 254 Ac ar ei fynwes dawnsient i'w ruddfanau;
(1, 1) 255 Ei daflu wnaent â'u gwaewffyn i fynu,
(1, 1) 256 A dalient ef â'u blaenau wedi hyny;
(1, 1) 257 I'w enau bwrient gorn o hylif eirias,
(1, 1) 258 A lluchient ef drachefn i ffwrnes wynias;
(1, 1) 259 Nes oedd ei waedd, a gwaedd llu mawr ychwaneg,
(1, 1) 260 I'w clywed fel taranau fyrdd ar osteg;
(1, 1) 261 Annhrefn eisteddai ar eì orsedd sitrach
(1, 1) 262 A gwnai bob dim o'i gylch yn strim-stram-strellach;
(1, 1) 263 Ellyllon, angenfilod, damnedigion,
(1, 1) 264 Mwg taglyd poeth, a storm o danllyd wreichion,
(1, 1) 265 Cleddyfau miniog, bolltau a bwledi,
(1, 1) 266 A llawer mwy o offerynau cyni
(1, 1) 267 Yn mhob cyfeiriad welwn yn chwyrnellu,
(1, 1) 268 Ac aflywodraeth yn eu llywodraethu;
(1, 1) 269 Nes haner meddwl, fel y d'wedais eisioes,
(1, 1) 270 Fy mod mewn byd na welswn yn fy einioes:
(1, 1) 271 Ond wedi craffu yn fwy manwl arnynt,
(1, 1) 272 Fe adnabuais ambell un o honynt;
(1, 1) 273 Ac yn eu canol safwn mewn amrantiad:
 
(1, 1) 277 Neb yn neillduol: Piwsi bach o Gymro
(1, 1) 278 Oedd newydd ddyfod dan ruddfanu yno,
(1, 1) 279 A'r holl gythreuliaid yn y fan gyffröent
(1, 1) 280 Ac ar yr adyn truan ymosodent:
(1, 1) 281 O! fel y rhuthrent ar eu rhwym ysglyfaeth;
(1, 1) 282 O! fel y gwaeddai yntau dan ei driniaeth;
(1, 1) 283 Arteithient ef yn mhob rhyw ddull a allent,
(1, 1) 284 Gan dyngu i dy enw na orphwysent
(1, 1) 285 Nes iddo brofi eithaf eu cynddaredd
(1, 1) 286 Ac yfed gwaddod cwpan ei ddialedd.