Ciw-restr

Branwen

Llinellau gan Efnisien (Cyfanswm: 98)

 
(1, 0) 6 Wrth gwrs na fedr o ddim para.
(1, 0) 7 Fedrwn ni ddim para, ti na fi.
(1, 0) 8 Dynion ydyn-ni.
(1, 0) 9 Mae cysgod y bedd droson-ni cyn inni golli cysgod y groth.
 
(1, 0) 11 Sut hynny?
 
(1, 0) 17 A diolch am hynny.
(1, 0) 18 Rydw i'n mwynhau 'mywyd.
(1, 0) 19 Mi fwynhaf fy angau ond iddo beidio â bod mewn gwely.
(1, 0) 20 Mae gwell gwaith na hynny ar wely, on'd oes?
 
(1, 0) 22 Rydw i wedi lladd dynion.
(1, 0) 23 Mae'n bleser.
(1, 0) 24 Ias!
 
(1, 0) 26 Un oer a chaled wyt ti, Branwen.
(1, 0) 27 Mae dy garu di fel croesi cleddau gyda gelyn.
 
(1, 0) 29 Mae rhosyn yn dy wyneb di, ond craig ydy'r galon.
 
(1, 0) 31 Ei hollti?...
(1, 0) 32 Gan be?
 
(1, 0) 37 Tyn y gair yna'n ôl.
 
(1, 0) 41 Tyn y gair yna'n ôl.
 
(1, 0) 43 Gan ein cariad ni.
 
(1, 0) 45 Mi allwn i dy ladd di.
 
(1, 0) 47 Dianc rhagof i?
 
(1, 0) 52 Does dim rhaid dewis.
 
(1, 0) 54 Ferch fach, ein cariad ni ydy'n bywyd ni.
(1, 0) 55 Mi ddwedais, fe bery tra bydd para i ti, tra bydd para i mi.
 
(1, 0) 57 Rwyt ti yn llygad dy le.
(1, 0) 58 Nid marw ydy caru, ond byw, byw, byw.
 
(1, 0) 63 Os ydw i'n dy ddilyn di, rwyt ti'n ymylu ar gablu.
 
(1, 0) 67 Ie, angau o fywyd.
(1, 0) 68 Rydw i'n ei wrthod o.
(1, 0) 69 Mewn gwaed oer, yn ei wrthod o'n bendant, am byth.
 
(1, 0) 72 Hanner brawd, ond priod cyfan.
(1, 0) 73 Fi piau ti.
(1, 0) 74 Fi piau ti gorff ac enaid.
 
(1, 0) 78 Rhaid imi wrth hynny a rhagor.
(1, 0) 79 Mi wyddost nad edrychais i ddim erioed ar na gwas na merch, ond ti.
(1, 0) 80 Gwae i'r neb a ddêl rhyngon ni.
 
(1, 0) 82 Geiriau sobrwydd a gwirionedd.
 
(1, 0) 84 Brân?
 
(1, 0) 86 Wyt ti am imi ddweud wrtho?
 
(1, 0) 89 Yma yr wyt ti.
(1, 0) 90 Yma y byddi di.
(1, 0) 91 Gyda mi.
 
(1, 0) 93 Pam wyt ti am ryfel?
 
(1, 0) 98 Fi ydy dy frenin di, nid Brân.
 
(1, 0) 101 A Brân?
 
(1, 0) 104 Ond?
 
(1, 0) 107 Nid ei chwaer?
(1, 0) 108 Nid ei wraig?
 
(1, 0) 110 Oes ganddi hi hawliau?
 
(1, 0) 117 Paid â bod mor chwerw.
(1, 0) 118 All hynny ddim digwydd i ti.
 
(1, 0) 124 Paid â dweud pethau fel yna, ferch fach, rhag imi afael yn dy ben di fel yma, a'i wasgu nes bod fy modiau i'n cyffwrdd â'i gilydd yn y canol.
 
(1, 0) 126 Nid tegan wyt ti i mi.
 
(1, 0) 128 Tynged...
(1, 0) 129 Terfyn y daith.
 
(1, 0) 131 Ac felly?
 
(1, 0) 133 Mi ofynna i heddiw.
(1, 0) 134 Cytuno?
(1, 0) 135 Rydyn ni'n un cnawd eisoes ym mhob ystyr a modd.
 
(1, 0) 140 Ond fedri di ddim disgyn i hynny.
(1, 0) 141 Rwyt ti wedi troi oddi wrtho.
(1, 0) 142 I'n gwely ni.
 
(1, 0) 147 Ydy'n ddrwg gen ti?
 
(1, 0) 151 Pam sôn am f'adael?
(1, 0) 152 Nid iâr yn gori allan wyt ti.
 
(1, 0) 155 Mi wyddost imi fynd i hela.
 
(1, 0) 157 O'r gogledd?
 
(1, 0) 159 Matholwch?
(1, 0) 160 Mi fûm i'n gwerthu llond llong o gaethion iddo fo y llynedd.
(1, 0) 161 Mae o'n hoff o arian.
(1, 0) 162 Canol oed.
(1, 0) 163 Mi wnâi daid iawn iti.
 
(1, 0) 165 Beth!
(1, 0) 166 Myn deryn!
(1, 0) 167 Wyt ti eisoes yn gweld dy orsedd?
 
(1, 0) 169 I'r gegin yr aeth y caethion, nid i'r orsedd.
 
(1, 0) 171 Os dyna'i neges o yma, mi ofala i yr aiff o oddi yma ar ei golled.
 
(1, 0) 173 Branwen, rydw i'n dy garu di'n enbyd, enbyd.
(1, 0) 174 Rwyt tithau'n paratoi i 'mradychu i.
 
(1, 0) 178 Rydw i'n barod i'w wynebu, yn barod gyda holl greulondeb 'y ngwaed.
 
(1, 0) 180 Sut?
 
(1, 0) 183 Mi wyddost na fedra i ddim.
 
(1, 0) 185 Am mai ti, nid fi, a leddid yn y fan a'r lle.
 
(1, 0) 187 A pham?
 
(1, 0) 200 Mae'n haws gen'ti 'mradychu i.
 
(1, 0) 206 Gwrando, 'ngeneth i.
(1, 0) 207 Rwyt ti'n dannod i mi nad ydw i ddim yn frenin nac yn fab i frenin, ac felly does gen i ddim rhan yng nghynllun dy fywyd di.
(1, 0) 208 Fod yn rhaid i ti rodio dy rych, eistedd ar orsedd gwlad a dysgu anghofio...
(1, 0) 209 Alla i ddim anghofio.
(1, 0) 210 Alla i ddim ffarwelio a maddau.
(1, 0) 211 Nid damwain dros dro yn 'y mywyd i wyt ti.
(1, 0) 212 Ond gwenwyn i'm lladd i; gwenwyn sy'n fy llosgi i'n fyw.
(1, 0) 213 Paid ti â meddwl y daw amser i bylu'r boen.
(1, 0) 214 Mi all cariad o'i dwyllo droi'n gas.
(1, 0) 215 Rwyt ti'n sôn am roi etifedd i orsedd Iwerddon.
(1, 0) 216 Rhoi Matholwch rhwng dy gluniau di ar f'ôl i.
(1, 0) 217 Os digwydd hynny myn y coblyn ulw, cymer di ofal na ddaw ffrwyth dy groth di fyth i'm hafflau i,─neu fe'i bwria i o wysg ei ben i'r gynnau dân.