Ciw-restr

Gormod o Bwdin

Llinellau gan Harri (Cyfanswm: 97)

 
(1, 0) 50 Shwt mae heddi?
(1, 0) 51 Rarswyd mawr, chi yn edrych fel 'sech chi newydd ddod adre o angladd.
 
(1, 0) 54 Beth sydd, bachan?
 
(1, 0) 58 O, ma'n ddrwg gen i glywed, Martha.
(1, 0) 59 Odi hi yn serious?
 
(1, 0) 63 Wel, dim ond un llythyr i chi heddi.
(1, 0) 64 Ysgrifen Mari weden i, Martha.
 
(1, 0) 66 O, ma hi bant lawr y dre 'na heddi.
 
(1, 0) 69 O, achos o 'hit and run'.
(1, 0) 70 Rhyw idiot wedi mynd mas o gontrol ar dop Rhiw Fach.
(1, 0) 71 Buodd e bron lladd Huws Siop a bwrw polyn ffôn a wedi dianc.
(1, 0) 72 Rial dou idiot o'n nhw yn gweud.
(1, 0) 73 Ma Huws y Siop mewn stâd ofnadŵ, yn crynu fel jeli.
 
(1, 0) 76 Wel, 'na'r unig beth wedodd Dai Nymbar 2 wrtha i odd bod car glas Escort gyda nhw ac odd e yn meddwl mai menyw odd yn dreifo.
 
(1, 0) 79 O na, odd e ddim yn siŵr ond greda i mai menyw odd yn dreifo.
(1, 0) 80 Fi yn gweud eriôd dyw menywod ddim fod i ddreifo.
(1, 0) 81 Dos gyda nhw ddim o'r beth ma'r sais yn i alw yn 'mental stability' fel ni y dynion.
 
(1, 0) 84 Wrth gwrs bo' fi.
(1, 0) 85 Gwed ti, pan welith menyw lygoden ma hi yn panico a sgrechen a jwmpo i ben stôl, ond fydden i yn mynd ar 'i hôl hi a rhoi cwpwl o gics iddi.
(1, 0) 86 'Na beth yw 'mental stability'.
 
(1, 0) 90 O, paid becso.
(1, 0) 91 Jyst y peth ma student yn moyn.
(1, 0) 92 O'n i yn darllen yn rhywle pwy ddiwrnod bod students heddi yn byw ar ffish an' chips a chwrw, ac rwyn credu mai dyna beth sydd yn hela lot o nhw yn |extremists|.
(1, 0) 93 Ma'n nhw wedi profi ers blynydde cyn gallu di fod yn |balanced lan top| ma rhaid i ti fyta |balanced diet| lawr fan hyn 'twel.
 
(1, 0) 96 Ie, wel, gwaith yn galw yw hi gyda finne hefyd.
 
(1, 0) 108 Gwneud ymholiadau 'ife?
 
(1, 0) 111 Na, dim ond beth wedodd Dai Nymbar 2 wrthof fi.
 
(1, 0) 113 Wel dim ond bod e wedi gweld rhyw gar glas yn mynd fel cath i gythrel a bod dou yn y car, a mai menyw odd yn dreifo, 'na gyd.
 
(1, 0) 116 Peidwch gweud mai un chi ych hunan yw e.
(1, 0) 117 Ha ha.
(1, 0) 118 Dim ond jôc fach, PC.
 
(1, 0) 122 Jiw, Jiw.
(1, 0) 123 Chi yn eitha reit.
(1, 0) 124 Ych car chi yw e.
(1, 0) 125 Pam na 'sech chi wedi gweud wrtho i.
(1, 0) 126 Ond ma'n rhaid i chi gofio un peth.
(1, 0) 127 Mae cnither i Martha 'ma wedi cael 'heart attack' yn Llunden, bore 'ma, a ma'n nhw wedi cael sioc ofnadŵ.
 
(1, 0) 137 Ie, ne allech chi fod wedi lando yn cawl rhywun.
(1, 0) 138 Ha ha ha.
 
(1, 0) 140 Ie, reit te.
(1, 0) 141 Jiw erbyn meddwl falle gymrech chi, PC, ych llythyron nawr i arbed i fi fynd heibio, chi'n gwbod.
 
(1, 0) 145 O, fel'na ych chi yn edrych ar bethe, ife?
(1, 0) 146 Chi'n gweld, PC, 'yn ni wedi arfer helpu 'yn gilydd ffordd hyn.
(1, 0) 147 Cân di gân fach fwyn i'th Nain ac fe gan dy Nain i tithe.
(1, 0) 148 Fel'na 'yn ni yn gweithio ffordd hyn erioed.
 
(1, 0) 152 Mae hi wedi marw llynedd, PC.
(1, 0) 153 Ha ha ha.
(1, 0) 154 Eitha da, e, beth ych chi'n 'weud?
 
(1, 0) 157 O cer, yr hen asyn gwyntog.
 
(1, 0) 160 Y... y... o... m... gweud wrth John bod hi yn wyntog neithiwr.
(1, 0) 161 Odd gwyntog iawn.
 
(1, 0) 163 Edrychwch 'ma, John, mae ise hoelen ym malwn hwnna, a ma' 'da fi ffordd i ti 'neud hynny, a dod mas o dy drwbwl.
 
(1, 0) 165 Mrs. Wilkins 'na sydd yn byw yn Terrace Road.
(1, 0) 166 Ma gwr honna yn |night watchman| yn y ffatri 'na yng ngwaelod y dre tair nosweth bob wythnos, a ma fe PC yn cwato'i fan yn yr hen gwar 'na ac yn mynd at 'i wraig e.
(1, 0) 167 Rwy wedi'i weld e a'm llyged 'yn hunan.
(1, 0) 168 Ma fe yn mynd lan ysgol a mewn i'r box room.
(1, 0) 169 |Fancy woman|, chi'n gweld.
(1, 0) 170 Nawr ma'i wraig e yn nervous wreck ─ cael pwle o sterics a ma fe yn cael amser caled 'da hi, a'r peth diwetha fydde fe moyn yw bod hi yn dod i wybod hyna.
(1, 0) 171 Nawr, Jack, rho di Mrs. Wilkins ar 'i blat, a chlywi di ddim rhagor am y trwbwl yma heddi.
 
(1, 0) 174 Dim blacmel yw e, bachan.
(1, 0) 175 Ffeithie.
(1, 0) 176 Ffeithie.
(1, 0) 177 Rhoi ffeithie ar 'i blât e a chi ych dau mewn trwbwl lan i fanna nawr.
(1, 0) 178 Run man i chi fynd yr holl ffordd, rhagor.
(1, 0) 179 Gwna di fel fi'n gweud a fyddi di yn ddyn rhydd mewn deng munud.
(1, 0) 180 Rwy'n mynd nawr.
(1, 0) 181 Alwa i nôl nes ymlaen.
 
(1, 0) 535 Odi'r coast yn glir.
(1, 0) 536 Ti yn edrych yn wath nawr nag o't ti bore 'ma.
(1, 0) 537 Wel, ollyngodd e'i charges gwed?
 
(1, 0) 542 Na fe, wedes i wrthot ti.
(1, 0) 543 Todde fe fel jelly.
(1, 0) 544 Dim ond i ti roi Mrs. Wilkins ar 'i blat e.
(1, 0) 545 Wel, wyt ti'n ddyn rhydd nawr te.
 
(1, 0) 547 Wel, a gweud y gwir wrthot ti, o'n i ddim wedi'i weld e 'yn hunan.
 
(1, 0) 550 Wel, Dai No. 2 wedodd wrtho i, ond odd e ddim wedi'i weld e'i hunan.
(1, 0) 551 Wil Mecanic odd wedi gweud wrtho fe, a gwraig hwnnw odd wedi digwydd 'i weld e wrth ddod adre o'r W.I.
 
(1, 0) 556 Wel, 'sen i yn gweud y stori i gyd wrthot ti, fyddet ti ddim wedi'i gael e ar 'i benlinie wedyn.
 
(1, 0) 559 Bachan, paid becso rhagor.
(1, 0) 560 Mae e wedi dangos 'i bod hi yn gweud y gwir.
(1, 0) 561 Fuest ti yn lwcus ohona i heddi.
 
(1, 0) 563 Wel, Martha, ti siŵr o fod yn teimlo'n well nawr na gynne, fach.
(1, 0) 564 Lwcus i fi roi yr hint fach 'na i chi.
 
(1, 0) 574 Ho, ho... o... jiw, jiw...
(1, 0) 575 Hei, Martha, bydd hi off 'ma os ddaw y diwrnod mowr a bod nhw yn priodi.
(1, 0) 576 Bydd werth gweld John a PC Thomas yn yfed shampers gyda'i gilydd, e?
 
(1, 0) 593 Mae e wedi cael shwgfa, siŵr o fod.
(1, 0) 594 Datod 'i grys e, Martha.
(1, 0) 595 Bachan, ddylet ti ddim fod wedi gweud mor ddisymwyth.
(1, 0) 596 Af i moyn dŵr nawr.
(1, 0) 597 Treia 'i gal e rownd.
 
(1, 0) 605 Ew, Martha, ma fe yn credu bod e yn car gyda ti nawr.
 
(1, 0) 623 Pwy fynd ar moped, bachan.
(1, 0) 624 Na, ma'r fan bost gyda fi, af i lawr â chi, Martha fach.
(1, 0) 625 Gwisgwch got gloi.
 
(1, 0) 628 Reit te, barod, Martha.
 
(1, 0) 631 Ie, paid ti becso dim nawr, ofala i bod cyfiawnder yn cael ei neud.