Ciw-restr

Gormod o Bwdin

Llinellau gan John (Cyfanswm: 146)

 
(1, 0) 7 A shwt wyt ti yn gallu gweud hynny?
(1, 0) 8 Ti odd yn dreifo.
(1, 0) 9 Dim ond rhoi y comands o'n i yn 'neud.
(1, 0) 10 Rarswyd, gês i ergyd ar'yn nhrwyn.
(1, 0) 11 Faint o waed sydd arna i?
 
(1, 0) 16 Beth ti yn feddwl, fenyw?
 
(1, 0) 20 Wel i'r "Right" o'n i yn feddwl achos p'un bynnag 'dodd unman i gael i droi i'r whith, fenyw dwp.
 
(1, 0) 23 O, ca' dy geg, fenyw, wyt ti'n sylweddoli bod ni mewn trwbwl hyd yn llyged.
(1, 0) 24 I ddechre, fuoch chi bron lladd Huws y Siop, wedyn bwrw postyn ffôn a dianc ar ôl y cwbwl.
(1, 0) 25 O, Martha, Martha, ni mewn trwbwl hyd 'yn llyged.
 
(1, 0) 30 Ma' mwy o hawl gyda Huws fod mas ar yr hewl, na sydd gyda chi i ddreifo fel maniac i dreio'i ladd e, a ma gyda nhw hawl i roi postys ffôn y lle mynna nhw.
(1, 0) 31 O'n i wedi bod yn dreifo am bum mlynedd ar hugain heb un scrap a 'no claim bonus' trwy'r blynydde.
 
(1, 0) 34 Wel, gobitho bod digon o geir gyda nhw.
(1, 0) 35 Chi'n sylweddoli bod bobl yn cael jâl am bethe llai na hyn.
 
(1, 0) 38 O, Martha fach, paid dechre llefen nawr.
 
(1, 0) 41 O, rwy'n gwbod hynny, Martha fach.
(1, 0) 42 O, pam na fyddet ti wedi brêco.
 
(1, 0) 44 Odd digon hawdd gweud hynny wrth y sbid o't ti yn mynd.
 
(1, 0) 47 O, Mari Mosus, odd rhaid i hwnna ddod heddi.
(1, 0) 48 Sycha dy wep, gloi.
 
(1, 0) 52 O shwt wyt ti.
(1, 0) 53 Newydd gael newydd drwg, bachan.
 
(1, 0) 56 Newydd cael ffôn o Lunden.
(1, 0) 57 Ma' c'nither i Martha wedi cael 'heart attack' ar 'i chalon bore 'ma.
 
(1, 0) 60 Wrth gwrs bod hi'n serious.
(1, 0) 61 Ma pawb sydd yn cael 'heart attack' ar 'i galon yn serious.
(1, 0) 62 Ma hi wedi cael 'i rwsho mewn i'r Infestive Care.
 
(1, 0) 65 Wel, wyt ti wedi clywed rhyw newydd ar dy drafels heddi?
 
(1, 0) 74 Bachan, paid gweud.
(1, 0) 75 Wel, os rhyw syniad gyda nhw pwy o'n nhw?
 
(1, 0) 78 Ond odd e ddim yn siŵr wedes di.
 
(1, 0) 102 O, ie.
(1, 0) 103 Bore da.
(1, 0) 104 Dewch ymlaen.
 
(1, 0) 130 O na.
(1, 0) 131 O'n ni'n gwbod bod e'n olreit achos fe edryches i nôl trŵ y ffenest ôl a weles i e yn carlampo mewn i'r siop.
 
(1, 0) 172 Bachan, bachan, ti ddim yn gweud wrtho fi am 'i flacmeilo fe.
(1, 0) 173 Alla i gael jâl am hyn'na.
 
(1, 0) 183 Ie, ond, Martha, 'do's gyda fi ddim i'w golli nawr.
 
(1, 0) 186 Ma fe yn dod nôl, Martha, cer i'r cefn o'r golwg.
(1, 0) 187 Gad ti hyn rhyngto fi ag e.
 
(1, 0) 191 Eisteddwch, PC, a dyma gwshin i chi.
(1, 0) 192 Ma' fforms mowr gyda chi.
 
(1, 0) 195 Ie, reit, shwt ma Mrs. Thomas gyda chi.
 
(1, 0) 198 Gwedwch shwt mae'i nerves hi nawr, o'n i yn clywed bod hi yn cael pwle weithie.
 
(1, 0) 200 Bachgen, beth ddigwyddodd echdoe.
 
(1, 0) 203 O ma ddrwg gen i glywed, a fyse handbag du llawer gwell iddi i fynd i angladde 'chwel.
 
(1, 0) 205 Dim syniad, PC bach.
 
(1, 0) 207 Bachgen, bachgen, ac o'ch chi ddim wedi gofyn am |sgrambled| eggs chi?
 
(1, 0) 210 O ma fe yn help mowr.
(1, 0) 211 A gyda llaw gobeitho na ddaw hi byth i wybod bod chi'n dringad 'sgolion yn ystod y nos.
 
(1, 0) 213 O, dewch nawr, PC.
(1, 0) 214 Mrs. Wilkins, 'chi'n gwbod, ei gŵr hi yn |night watchman| yn y ffatri bylbs 'na, a PC Thomas yn watcho ar ôl 'i wraig gyda'i dorch.
(1, 0) 215 Dewch 'mlân, ni'n gwbod ych hanes chi.
 
(1, 0) 219 Wel, chi wedi damscin 'i thrad hi'n stwmps 'te, os yw hi.
 
(1, 0) 221 Bachan, dim awgrymu odw i, ond gweud wrthoch chi.
(1, 0) 222 Ma' digon wedi'ch gweld chi ac os ych chi am i MrsThomas beidio dod i wybod, chi'n gwbod beth 'yf fi am i chi 'neud.
(1, 0) 223 Fel oedd Harri Post yn gweud gynne fach, cân di gân fach fwyn i'th Nain ac fe gân dy Nain i chithe, fel 'na ni'n gwitho ffordd hyn.
 
(1, 0) 226 Ie, wel, anghofiwch chi bopeth am yr hen drwbwl yma bore 'ma, a weda inne ddim un gair wrth neb.
 
(1, 0) 241 Ie, a chi'n gwbod beth allwch chi neud a rheina.
 
(1, 0) 246 Paid ti dechre cadw'i bart e.
(1, 0) 247 Ti'n gwbod pam o'n i'n 'i 'neud e.
(1, 0) 248 Er mwyn achub dy groen di yn fwy na dim, ac eitha gwaith iddo fe, yr hen fwldog dau wynebog.
 
(1, 0) 254 O na, ishe gweld fi ynglŷn â leisens y gwn o'dd e.
 
(1, 0) 256 Na, ond rwy'n meddwl cael un.
 
(1, 0) 258 Wel, dwn i ddim, yn meddwl mynd mas i bysgota ag e odw i.
 
(1, 0) 273 Gyda rhyw offeirad sy'n ffaelu cysgu, siŵr o fod.
(1, 0) 274 Ha ha.
 
(1, 0) 277 Esgusodwch fi funud, ond beth sydd gyda hyn i neud â cefen Dai yn mynd o'i le, Jen.
 
(1, 0) 286 Dim un newydd arall gyda chi 'te, Jên.
 
(1, 0) 289 Wel, allwn ni weud bod honna wedi mynd o'r ffreipan i'r tân, Jen.
(1, 0) 290 Ha, ha.
 
(1, 0) 298 O, dim byd, dim ond cered mewn i ddrws wnes i.
 
(1, 0) 305 Ond falle eith e i waedu, Martha.
 
(1, 0) 309 Hei, ma'fe yn rhy sownd, Martha, ma' fe'n pinsho.
 
(1, 0) 313 Aw, aw.
(1, 0) 314 O, fenyw gythrel, chi wedi tynnu croen 'y nhrwyn i bant.
(1, 0) 315 Dodd dim ise bod mor ryff â 'na, odd e?
 
(1, 0) 317 Wel, rwy'n mynd lan i gael wash cyn don nhw, achos 'w i wedi cael llond bola, odw.
 
(1, 0) 319 O, byddwch dawel, fydda'i lawr nawr.
 
(1, 0) 365 O'n i'n meddwl bod e yn swno bach yn dywyll.
(1, 0) 366 Ha, ha.
(1, 0) 367 Neis cwrdd â chi.
 
(1, 0) 370 Y... y... PC Thomas yn wncwl i chi.
 
(1, 0) 372 Bachgen, bachgen, a fe yn wncwl i chi.
(1, 0) 373 Chi'n eitha siŵr?
 
(1, 0) 378 Rwy'n deall hynny.
 
(1, 0) 380 Bachan, ddyle nhw fod wedi ych galw chi yn United Nations.
(1, 0) 381 Ha, ha, ha.
(1, 0) 382 United Nations, chi'n 'i chael hi?
 
(1, 0) 388 O fi yn cered digon bob dydd, achan.
 
(1, 0) 391 Weda i un peth sydd yn hela nghalon i fynd yn ffast.
(1, 0) 392 Mynd gyda Martha ni yn y car.
 
(1, 0) 395 Beth wyt ti'n feddwl mod i'n fflabi?
 
(1, 0) 397 Beth wyt ti'n feddwl odw i, cangarŵ?
(1, 0) 398 Os arna i ddim ofan gweud mod i mor ffit nawr a fues i eriod.
 
(1, 0) 402 O rwy i yn rhy hen i neud rhyw hen bethe fel'na.
 
(1, 0) 410 Dych chi ddim hanner call, fenyw, a gobitho na ddaw Huws y ffeirad heibio nawr neu fe all gredu 'mod i wedi troi yn fwslim.
 
(1, 0) 417 Wel, rwy i wedi mynd lawr yn iawn ta beth.
 
(1, 0) 431 Na fi'n eitha reit, 'sen i'n cael llonydd.
 
(1, 0) 448 Ha ha ha ha.
(1, 0) 449 Ew, ych chi Jên yn gymeriad.
(1, 0) 450 Shwt mae Dai gyda chi erbyn hyn?
 
(1, 0) 469 Chi wedi mynd yn brin o reis, Jên.
 
(1, 0) 483 M m... odi, neis iawn.
 
(1, 0) 493 Reit o, Jên, os fyddwch chi ishe cwcer, chi'n gwbod ble ma hi.
 
(1, 0) 505 Na, na, mae'n well i chi fynd lawr i'w gweld nhw... odi...
(1, 0) 506 Cewch chi lawr i'w gweld nhw, achos fi ddim yn credu fydden nhw ishe dod lan yma.
 
(1, 0) 511 Achos, wel fi'n gwbod, a p'un bynnag fydda'i yn gorfod mynd mas cyn bo hir.
 
(1, 0) 513 Wel... wel... mas, fenyw.
 
(1, 0) 515 O, gewch chi fenthyg y car gyda fi nawr.
 
(1, 0) 517 Wrth gwrs 'mod i, groten, cerwch â'r car, cerwch ag e nawr.
 
(1, 0) 525 Bant â chi te, a falle na fydda i ddim yma pan ddowch chi nôl.
 
(1, 0) 527 O, Martha, 'roedd hynna'n agos.
(1, 0) 528 Weles i eriod shwd ddydd â heddi.
(1, 0) 529 Weles i eriod shwd gawl.
 
(1, 0) 538 O, do, a fe ollyngodd 'i hunan, bachgen.
(1, 0) 539 Weles i eriod shwd beth.
(1, 0) 540 Fuodd e ar hyd llawr ffor hyn ag yn llefen dros y lle a begian i fi bido gweud.
(1, 0) 541 Weles ti eriod shwd beth.
 
(1, 0) 546 Cofia, fydden ni ddim wedi neud shwd beth onibai i ti weud bod ti wedi ei weld e a llyged dy hunan.
 
(1, 0) 549 Bachan, beth wyt ti'n feddwl, ti ddim yn gweud bod ti wedi hela fi i'w flacmeilo e heb fod yn siŵr dy hunan.
 
(1, 0) 552 Bachan, wedest ti bod ti wedi'i weld dy hunan, bachan.
(1, 0) 553 Ma gwraig Wil Mecanic y geg gwya sydd yn y dre.
(1, 0) 554 Sdim gair i gredu o honna.
(1, 0) 555 Pam na fyddet ti wedi gweud y gwir wrtho i?
 
(1, 0) 557 O, jiw, jiw, allen ni fod ar y ffordd i'r jâl nawr.
(1, 0) 558 Ti'n sylweddoli hynny!
 
(1, 0) 568 Ti'n gweld, wyt ti ddim yn gwbod y cwbwl.
(1, 0) 569 Mae pethe wedi gwaethygu.
(1, 0) 570 Ti'n gwbod y ffrind odd Mari ni yn sôn amdano.
(1, 0) 571 Wel maen nhw wedi cyrraedd a mae'r idiot yma sydd gyda hi yn nai i PC Thomas.
 
(1, 0) 578 Ti, Harri, ddim yn cymryd pethe yn seriws o gwbwl, bachan, 'dos dim diwedd i rhywbeth fel hyn.
 
(1, 0) 585 Damwain, pa ddamwain?
 
(1, 0) 588 Smash â Mrs. Wilkins.
 
(1, 0) 603 Brêca, fenyw.
(1, 0) 604 Brêca, fenyw.
 
(1, 0) 618 O, wel, neith e ddim pres-yps am sbel 'te ─ hy...
(1, 0) 619 Ma well i chi Martha fynd lawr i weld.
 
(1, 0) 627 Odw, odw, cer di ymlaen, bydd Jên gyda fi.
 
(1, 0) 630 O, paid â becso dim, diolch i ti am ddod.
 
(1, 0) 634 O fe fydda' i byw, paid ti becso.
(1, 0) 635 Weles i eriôd shwd beth a heddi, Jen fach, mae popeth fel 'se fe wedi 'i ribo yma heddi'r bore.
 
(1, 0) 639 Wel ma rhaid gweud, dw i ddim wedi byta dim ers brecwast ac erbyn i chi weud ma' whant pwdin reis arna i.
 
(1, 0) 642 O peidiwch â becso dim, Jên fach, nid chi yw'r unig un i neud gormod o bwdin ffordd hyn,
(1, 0) 643 heddi!