Ciw-restr

Gormod o Bwdin

Llinellau gan Martha (Cyfanswm: 113)

 
(1, 0) 5 Peidwch chi rhoi y bai i gyd arna i.
(1, 0) 6 Odd cyment o fai arnoch chi.
 
(1, 0) 12 O, peidwch â ffysan.
(1, 0) 13 Ma gyment o waed ar ych trwyn chi a sydd mewn gwmfedyn.
(1, 0) 14 Ac wrth roi ych comands fel ych chi yn 'u galw nhw, roisoch chi y fi yn y cawl.
 
(1, 0) 17 Wel, wedoch chi 'tro fan hyn'.
(1, 0) 18 Wedoch chi ddim i ble, na pwy ochr, a gofynes i ai i'r chwith, a ateboch chi "Right".
 
(1, 0) 21 Pidwch chi gweiddi arna i.
(1, 0) 22 Own i'n meddwl mai gweud "Right, tro i'r chwith", o'ch chi yn feddwl a dim "Tro i'r dde",
 
(1, 0) 26 Wel, welodd neb, do fe, a p'un bynnag, ma Huws y Siop 'na mas yn clapan rownabout.
(1, 0) 27 Ma ise rhywbeth i gadw fe yn y siop.
(1, 0) 28 A ma'r postyn ffôn yna mewn lle twp.
(1, 0) 29 Ma' hwnna yn obstruction fan'na, John.
 
(1, 0) 32 O, peidwch siarad fel bapa, ddyn.
(1, 0) 33 Allwch chi golbo y tamed tolc 'na mas â'r mwrthwl ych hunan ac os ffaelwch chi, prynwch wing arall, a fe dala i amdani, a fe gewch chi gadw ych 'no claim bonus' am byth, achos bydda i yn mynd i'r 'School of Motoring' rhagor.
 
(1, 0) 36 Wel gyda'ch holl wenwyn chi, fydde ni yn moyn cell 'yn hunan 'ta beth.
 
(1, 0) 40 O'n i ddim yn meddwl 'i neud e.
 
(1, 0) 43 Wel o'ch chi'n gweiddi cyment, own ni wedi panico cyment, o'n i ddim yn gwbod p'un odd y brêc.
 
(1, 0) 68 O, y... beth sydd wedi digwydd 'te?
 
(1, 0) 82 O, paid siarad trwy dy het.
(1, 0) 83 Dw i ddim yn credu bod ti yn gwbod beth yw 'mental stability' i ddechre.
 
(1, 0) 88 O, John, mae Mari yn dod adre o'r coleg dros y Sul, a ma' hi yn dod â ffrind gyda hi.
(1, 0) 89 O dier, odd rhaid iddi ddod heddi, a 'do's dim yn tŷ gen i ond ffish ffingers.
 
(1, 0) 94 Wel, ma' rhaid i fi fynd i baratoi.
(1, 0) 95 Fyddan nhw yma cyn hir siŵr o fod.
 
(1, 0) 119 O ca' dy lap, Harri.
(1, 0) 120 Wel 'run man i chi gael gwbod y gwir ─ ni o'n nhw.
(1, 0) 121 Fe banices i ac ath y car mas o gontrol a, wel, chi'n gwbod y rest.
 
(1, 0) 132 A weda i beth arall wrtho chi.
(1, 0) 133 Mae'r hen bolyn ffôn yna mewn lle peryglus.
(1, 0) 134 Dele fe ddim bod fan yna.
 
(1, 0) 164 Harri, am beth wyt ti'n siarad?
 
(1, 0) 184 O, John, pidwch.
(1, 0) 185 Meddyliwch beth all y canlyniade fod.
 
(1, 0) 234 O John, bachan, beth wyt ti wedi neud iddo fe.
(1, 0) 235 Edrych arno fe.
(1, 0) 236 O, dewch mlan nawr, ma' popeth yn iawn.
(1, 0) 237 'Wedith John ddim gair wrth neb, ofala i am hynny.
 
(1, 0) 243 O, John, 'ddylet ti ddim fod wedi 'neud hyn'na.
(1, 0) 244 Weloch chi ei olwg e.
(1, 0) 245 Dw i ddim yn meddwl alla i wynebu fe byth eto.
 
(1, 0) 260 Os rhywbeth yn bod 'te?
 
(1, 0) 262 Wel, wel, os dim llawer ers pan fuodd i gefen e o'r blaen.
(1, 0) 263 Wel, pryd aeth e nawr te?
 
(1, 0) 265 Wel, wel, na beth od yntefe.
 
(1, 0) 280 Wel, wel, mae'n rhaid iddo fe weld rhywun ynglŷn ag e nawr.
 
(1, 0) 284 O, sefwch fanna, allwch chi gael peint gyda fi nawr, ma digon gyda fi heddi.
 
(1, 0) 294 Wel, dyma'r llath i chi.
(1, 0) 295 Odi peint yn ddigon, neu fe allwch chi gael rhagor?
 
(1, 0) 303 Rarswyd mawr, mae'n rhaid i fi baratoi.
(1, 0) 304 Bydd Mari a'r ffrind yna yma chwap, a John, tynnwch y plaster 'na oddi ar ych trwyn, achos 'dyw e ddim ond yn hela pobol i holi o hyd.
 
(1, 0) 306 Pwy waedu neith e, achos dim ond lliw gwaed oedd yna i ddechre.
(1, 0) 307 Tynnwch e bant.
 
(1, 0) 310 Pwy binsho, ddyn, chi fel babi odych.
(1, 0) 311 Dewch 'ma i fi weld.
 
(1, 0) 316 Wrth gwrs bod e, ne fyddech chi yn chware fel plentyn trwy'r dydd i gael e off.
 
(1, 0) 318 Wel, pidwch bod yn hir, a pidwch dechre darllen y llyfr 'na yn y bathrwm 'na heddi fel y diwrnod o'r blaen.
 
(1, 0) 322 Helo.
 
(1, 0) 324 John ─ ma'n nhw 'ma.
 
(1, 0) 331 Helo, Roger, shwt ych chi.
(1, 0) 332 Neis cwrdd â chi.
 
(1, 0) 339 O, dier, odi fe.
 
(1, 0) 341 O, na, alla i ddim gweud bod fi yn 'u nabod nhw, dim ond 'u gweld nhw yn paso, ie, dim ond 'u gweld nhw yn paso.
 
(1, 0) 345 O, ma fe wedi mynd i'r bathrwm, fydd e lawr nawr.
 
(1, 0) 349 Bubbles?
 
(1, 0) 351 O, ife, wel dewch i iste lawr, nawr te, i neud ych hunan yn gysurus.
 
(1, 0) 355 Esgusodwch fi, odi ych trowsus chi yn gwasgu arnoch chi yn rhywle?
 
(1, 0) 361 O, John, dewch 'ma i chi gael cwrdd a ffrind Meri ni.
(1, 0) 362 Roger, dyma John y gŵr.
 
(1, 0) 364 Ma Roger yn dysgu Cymraeg yn ysgol nos, John.
 
(1, 0) 368 A John, chi'n gwbod PC Thomas, ma fe yn wncwl i Roger.
 
(1, 0) 371 Odi, odi, wncwl iddo fe, John.
 
(1, 0) 375 Wel, shwt ma fe yn wncwl i chi te?
 
(1, 0) 383 Byddwch dawel, bachan.
(1, 0) 384 Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac ma fe yn neud ecserseisus bob dydd, John.
 
(1, 0) 394 O chi'n iawn, mae John ni wedi gollwng 'i hunan i fynd yn ofnadŵ o fflabi.
 
(1, 0) 396 O, chi ddim hanner mor egniol nawr â phan briodes i chi gynta'.
 
(1, 0) 401 Ie, i gael gweld pa mor ffit ych chi.
 
(1, 0) 403 Pwy rhy hen, chi newydd weud bod chi mwy ffit nawr nag erioed.
 
(1, 0) 407 Dewch mlân nawr.
(1, 0) 408 Penliniwch lawr fel mae Roger yn 'i neud.
 
(1, 0) 413 Dewch ymlaen, bachan.
 
(1, 0) 418 Nawr te, lan â ti.
 
(1, 0) 425 Odd Roger yn iawn eich bod chi wedi gollwng ych hunan, fyse eliffant ddim mwy stiff.
 
(1, 0) 432 O, odd e wedi bod yn trio gneud ecserseisus gyda Roger, a dim shap o gwbwl ac...
(1, 0) 433 O... ych chi, Jen, ddim wedi cwrdd a Roger wrth gwrs.
(1, 0) 434 Roger dyma Mrs. Williams drws nesa.
 
(1, 0) 439 Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac mae'i dad e yn Brif Gwnstabl yn Birmingham a mae Roger wedi dysgu Cymraeg.
(1, 0) 440 Saesnes yw ei fam e, chi'n gweld.
 
(1, 0) 452 O hen beth cas yw slip disc.
(1, 0) 453 Rwy'n cofio cath 'yn chwaer i e blynydde 'nôl.
(1, 0) 454 O, peth poenus ofnadŵ.
 
(1, 0) 472 O dewch 'ma, a i 'mofyn tipyn o sultanas i chi nawr, Jên.
 
(1, 0) 497 O, ti wedi dod 'te.
 
(1, 0) 504 O, wel, fi ddim yn gwbod.
 
(1, 0) 512 Mas i ble, bachan?
 
(1, 0) 519 O, dyw dy dad ddim yn ffysi am y car ers pan gath e bwmp ar y wing rhyw fis yn ôl yn erbyn clawdd.
 
(1, 0) 524 O na fe te, bydd bwyd yn barod gyda fi erbyn dewch chi'n ôl.
 
(1, 0) 530 O peidwch becso, ma'r gwaetha drosodd nawr, a ma' Roger i'w weld i bob golwg yn fachgen hyfryd.
(1, 0) 531 Wel dw i ddim wedi golchi llestri brecwast eto, ma'n rhaid i fi fynd ati.
 
(1, 0) 565 O, Harri bach, weles i erioed shwd beth.
(1, 0) 566 Dw i ddim yn credu alla i edrych yn i wyneb e byth eto.
(1, 0) 567 Gobitho y ceith e bromoshon gloi iddo fe fynd o'r dre yma.
 
(1, 0) 572 O, paid gwrando ar John i gyd.
(1, 0) 573 Mae e yn fachan neis iawn a gall neb help bod e yn digwydd perthyn i PC Thomas, a maen nhw wedi mynd lawr nawr i weld e a'i wraig yn 'yn car ni.
 
(1, 0) 591 O, Harri, beth sydd wedi digwydd?
 
(1, 0) 600 O, John, John bachan, dewch mlan.
 
(1, 0) 606 O, John, dewch chi, chi wedi cael sioc ofnadŵ.
(1, 0) 607 Bydd popeth yn iawn.
 
(1, 0) 613 O, ni newydd cael newydd bod Mari a Roger wedi cael smash a roedd e'n ormod i John.
(1, 0) 614 Gath e lewyg bach.
 
(1, 0) 616 Gwed, wyt ti'n gwbod rhywbeth a o's rhywun wedi cael dolur?
 
(1, 0) 626 Olreit te, chi John yn siŵr bod chi'n iawn nawr?