Ciw-restr

Gormod o Bwdin

Llinellau gan PC (Cyfanswm: 38)

 
(1, 0) 100 Bore da.
(1, 0) 101 Mr a Mrs. Huws, yntefe?
 
(1, 0) 106 Wel, rwyn galw ynglŷn â'r digwyddiad yna ddigwyddodd bore 'ma ger siop Robert Huws.
 
(1, 0) 109 Ie, dyna fe.
(1, 0) 110 Welsoch chi, Harri, ddim byd?
 
(1, 0) 112 Wel, beth wedodd Dai No.2 wrthoch chi 'te.
 
(1, 0) 114 Wel, mae Mrs. Jenkins, Sŵn yr Afon yn dweud yr un peth, dim ond bod hi wedi codi rhif y car: BBX 121M.
(1, 0) 115 A phwy sydd yn berchen Escort glas a'r rhif 'na yn y dre 'ma.
 
(1, 0) 128 Wel, mae'n ddrwg gen i glywed hynny, wrth gwrs, ond ma'n rhaid i fi atgoffa chi bod chi wedi torri'r gyfreth.
(1, 0) 129 Yn gynta am 'dangerous driving', ac yn waeth na hynny, dianc ar ôl cyflawni y drosedd, ac o'ch chi ddim yn siŵr beth oedd wedi digwydd i Huws y Siop.
 
(1, 0) 135 Diolchwch chi, Mrs. Huws, bod e yna.
(1, 0) 136 Onibai am y polyn fe alle chi fod wedi mynd lawr y dibyn yna ar ben y tai cownsil, a fyddech chi wedi lando mewn lot mwy o gawl wedyn.
 
(1, 0) 139 Chi, Harri, ddim yn meddwl fod hi'n bryd i chi fynd at ych gwaith, achos y peth diwetha sydd eisie ar Mr. a Mrs. Huws heddi yw comedian yn y tŷ.
 
(1, 0) 142 Drychwch yma, Harri.
(1, 0) 143 Mae'r wladwriaeth yn fy nhalu i i fod yn blisman a chithe i fod yn bosman.
(1, 0) 144 Gwyliwch chi ar ôl ych busnes ac fe ofala i am 'y musnes inne.
 
(1, 0) 150 Wel cerwch i ganu i'ch Nain 'te, Harri bach.
 
(1, 0) 155 Esgusodwch fi funud tra bydda i yn mynd i'r car i mofyn ffurflenni i gael ysgrifennu ych statement chi.
 
(1, 0) 159 Wedoch chi rywbeth Harri?
 
(1, 0) 193 Ie, wel, nawr te, fydda i am weld trwydded yrru chi a Mrs. Huws.
 
(1, 0) 196 O, mae hi yn iawn diolch.
(1, 0) 197 Fydda i moyn gweld ych yswiriant chi hefyd.
 
(1, 0) 199 Wel, dyw hi ddim yn dda ers echdoe.
 
(1, 0) 201 Chi'n gweld, odd hi yn cael 'i phenblwydd echdo ac o'n i yn gwybod bod hi am gael handbag.
(1, 0) 202 Wel, fe brynes i handbag ─ un du ─ iddi, ond pan roddes i e iddi aeth hi yn hlics, chi'n gweld, odd hi eisie un glas a ma' hi wedi bod mewn temper ofnadŵ ers hynny.
 
(1, 0) 204 Chi'n gwbod beth 'nath hi bore heddi amser brecwast?
 
(1, 0) 206 Wel, wnes i ddim ond gofyn am wy wedi'i ferwi ac fe dowlodd hi ddwsin o wye ar 'y mhen i.
 
(1, 0) 208 Beth sydd yn bod arna i.
(1, 0) 209 Dylwn i ddim fod yn gweud y pethe hyn wrthoch chi.
 
(1, 0) 212 Dringad 'sgolion, beth ych chi'n feddwl ddyn?
 
(1, 0) 217 Mr. Huws, cymrwch ofal beth chi'n 'weud.
(1, 0) 218 Cofiwch chi fod y frenhines y tu ôl i fi.
 
(1, 0) 220 Odych chi'n awgrymu fod gen i |fancy lady|, ac yn ceisio fy mlacmeilo i.
 
(1, 0) 225 O Mr. Huws, fe wna i unrhyw beth i Patsi fach beidio dod i wybod am hyn.
 
(1, 0) 228 O, odych chi yn addo peidio gweud.
(1, 0) 229 O plîs, plîs, peidiwch gweud wrth Patsi, achos pe bai hi yn dod i wybod, falle yr ele hi bant, a wedyn...
 
(1, 0) 231 ... 'chawswn i ddim byth fod yn Sarjant wedyn.
 
(1, 0) 239 A chlywch chi ddim byth rhagor o' wrtho i.