Ciw-restr

Y Canpunt

Llinellau gan Mari (Cyfanswm: 202)

 
(1, 0) 31 Un felna yw 'i mam?
 
(1, 0) 35 O, dyna grand!
(1, 0) 36 Mae'n raid bod nhw'n gyfoethog
 
(1, 0) 45 O, drychwch, Jim, ond yw hwn yn bert?
 
(1, 0) 49 Beth sy' mater arnoch chi?
 
(1, 0) 54 Diws anwyl!
(1, 0) 55 Alla i ddim gwishgo beth wi'n lico.
 
(1, 0) 57 Rown i'n meddwl ych bod chi'n wastod yn lico'r hat hyn.
(1, 0) 58 Jim
(1, 0) 59 Sh-sh-sh!
(1, 0) 60 Pidwch a iwso'r gair yna o flan Modryb Mary Jane.
(1, 0) 61 Fydd hi'n ffilu deall lle gesoch chi'ch magu.
(1, 0) 62 Pwff!
(1, 0) 63 Geso' i'n magu yn well na hi ta beth!
(1, 0) 64 Dim ond yr hen Ddaniel Trwyn Coch oedd i thad hi, wedi'r cwbwl.
 
(1, 0) 69 Lwc na chafodd i thad ddim gafael ynddyn nhw i roi rhagor o baent ar ei drwyn!
 
(1, 0) 73 Mi 'naf fy ngore, Jim.
(1, 0) 74 Beth wedsoch chi wrtho i?
 
(1, 0) 77 Dim ond un ddu wi'n wishgo mewn angladde.
 
(1, 0) 81 Beth?
 
(1, 0) 84 O!
 
(1, 0) 88 Beth yw hynny i chi?
 
(1, 0) 93 Allse 'ni ddim.
(1, 0) 94 Oe'n nhw wedi mynd i gael i tapo.
(1, 0) 95 Os nag yw nillad i digon da i'ch hen fodryb Mary Jane, well i fi fynd sha thre'.
(1, 0) 96 Ma'r traed sy'n gwishgo'r sgitshe hyn lawer yn well na thraed merch yr hen Ddaniel Trwyn Coch.
(1, 0) 97 'Rwi ddim yn mynd i aros yma i gael fy sengi dan drad.
 
(1, 0) 103 Allwch chi weud hynny!
 
(1, 0) 108 Canpunt?
(1, 0) 109 Pwy ganpunt?
(1, 0) 110 Odi'ch modryb yn mynd i roi canpunt i fi am wishgo y'n sailor hat, a'n dress ddu, a'n sgitshe gore?
(1, 0) 111 Nonsense!
 
(1, 0) 114 Wrth gwrs.
(1, 0) 115 Pidiwch a bod shwd ffwl!
 
(1, 0) 119 Beth yw y canpunt 'na ych chi'n son am dano?
(1, 0) 120 Pam na wedsoch chi wrtho i am dano o'r blan?
 
(1, 0) 123 Cerwch ona, chi a'ch sgitshe, a'ch hat sailor, a'ch dress ddu!
(1, 0) 124 Gwedwch wrtho i ar unwaith.
(1, 0) 125 Oes ar ych modryb ganpunt i chi?
 
(1, 0) 128 Y hi gadwodd e mas!
 
(1, 0) 130 A 'dyw'r hen scriw ddim wedi talu nhw eto?
 
(1, 0) 133 Falle na wnaiff hi ddim nawr.
 
(1, 0) 137 A mi fu Mari Daniel Trwyn Coch fyw i fod bedwar ugen!
 
(1, 0) 140 Pam 'ych chi wedi bod mor hir heb drio cal y canpunt?
 
(1, 0) 144 O, dyna hen fenyw glos yw hi!
 
(1, 0) 146 Stim o hi wedi rhoi dim i chi?
 
(1, 0) 149 A fase ni'n rhyfeddu dim i bod hi'n mynd bob dydd Sadwrn i Abertawe i'r theatre, a thair gwaith yr wthnos i'r pictiwrs.
 
(1, 0) 151 Beth ma hi wedi roi i chi?
 
(1, 0) 155 Ingersoll's, Coron.
(1, 0) 156 Yn mynd bob tro ych chi'n mynd.
 
(1, 0) 159 Shidanyn wir!
(1, 0) 160 Mercerised.
 
(1, 0) 164 Oedd hwnnw ddim yn newydd pan gesoch chi e.
(1, 0) 165 Gweles fod yr enw wedi cael i rwbo mas.
 
(1, 0) 168 Pwff!
(1, 0) 169 Lot o hen rwbish wedi i prynnu yn Woolworth's.
(1, 0) 170 Oen ni wedi bod yn rhyfeddu lle cesoch chi nhw.
 
(1, 0) 172 Mae digon o wallt 'da chi to beth, heb yr hen stwff 'na.
(1, 0) 173 Falle taw peth ar ol ych ewyrth oedd e.
 
(1, 0) 176 Wi i ddim yn gwbod, Jim Davies.
(1, 0) 177 Rwi'n meddwl withe fod diaconied r'un peth a rhyw bobl arall, just fel chi a finne, ac yn colli i gwallt fel pobl arall.
(1, 0) 178 Ond pam ych chi'n meddwl y bydd hi'n rhoi y canpunt nawr?
 
(1, 0) 180 Wel, mae hynny'n all right, odi e ddim?
 
(1, 0) 184 O, ych chi'n meddwl y bydd hi yn fy lico i?
 
(1, 0) 186 O!
 
(1, 0) 188 Dyna dreni i chi newis i, Jim.
 
(1, 0) 192 Ych chi'n siwr, yr hen gariad?
(1, 0) 193 Beth wnawn pan gawn i e?
 
(1, 0) 197 O, Jim, ych chi'n meddwl fod e'n saff?
 
(1, 0) 205 O, Jim, alla'i gredu hynna?
 
(1, 0) 207 Pidwch a chyfri'ch cywion cyn bod nhw'n dod lawr, machgen i.
(1, 0) 208 Mae'r canpunt gyda'ch modryb hydyn hyn.
 
(1, 0) 211 Falle bydde'n well i chi weud wrtho i swd i bleso'ch modryb.
 
(1, 0) 214 Mae'r Methodistiaid cystal a neb, ac yn well na rhai pobl fel y—
 
(1, 0) 217 O, ro 'ni wedi anghofio.
(1, 0) 218 Cerwch ymlan.
 
(1, 0) 220 Pam?
 
(1, 0) 224 Peth od nag yw hi'n byw yn y back!
 
(1, 0) 226 Ond am beth ga i siarad, te?
 
(1, 0) 230 Falle fydde'n well ifi gaead y mhen.
 
(1, 0) 233 Pidwch a siarad rhagor am yn sgitshe.
(1, 0) 234 Mae nhw dri size yn llai na sgitshe yr hen Adelina 'na.
 
(1, 0) 237 O, ie, roe'n i wedi anghofio yr hen ganpunt.
(1, 0) 238 Pe baech yn gofyn imi lyncu'n hat am y canpunt 'na, bydde rhaid i fi neud hynny.
 
(1, 0) 241 O, ie!
 
(1, 0) 247 Fyse'n i ddim yn rhyfeddu bod eich modryb ishe chi iddi Hadelina.
 
(1, 0) 254 Pwff, yr hen fflirt mawr 'na.
 
(1, 0) 258 Pwy wedodd wrthoch chi?
 
(1, 0) 262 Odi'n wir!
(1, 0) 263 Mae e'n cael dipyn o sport gyda'r merched.
(1, 0) 264 Pam, y ffair ddwetha i gyd, fe tretodd fi ar y Gondolas, ac i Show y Lions, a phrynnodd brandy snaps i fi, ac Ystalyfera Rock, a grapes, a 'rodd e mor garedig pan bigodd pigwnnen fi.
 
(1, 0) 267 Pwff, paid bod mor jealous.
(1, 0) 268 Beth oeni i neud?
(1, 0) 269 Alle chi ddim dod gyda fi.
(1, 0) 270 A pheth arall, 'rodd e mor neis!
 
(1, 0) 273 O, all right!
(1, 0) 274 Mae mwy o bysgod yn y mor nag a ddaliwyd.
 
(1, 0) 276 Falle fydde'r plyfyn yn edrych yn fwy genteel pe bawn i'n ddodi e dipyn yn ish lawr.
(1, 0) 277 Dim ond wedi i binno mae e.
 
(1, 0) 302 Williams.
 
(1, 0) 308 I—I—not—
 
(1, 0) 324 Fues yma unwaith mewn Cyrdde Mawr gyda'r Methodistiaid, a geson bregethe da iawn.
(1, 0) 325 Mae pregethwyr da gyda'r Methodistiaid.
(1, 0) 326 [Yn stopio yn sydyn ac yn rhoddi ei llaw ar ei genau.}
 
(1, 0) 339 Nag w i.
 
(1, 0) 342 Mae digon o liw 'da fi yn naturiol.
 
(1, 0) 344 O!
 
(1, 0) 351 Dyna un pert yw hwnna!
(1, 0) 352 Beth yw e?
 
(1, 0) 361 Mae'n bert hefyd.
(1, 0) 362 Weles un yn gwmws 'run peth yn Ben Evans, a 'rodd e'n costu 9s 11d.
 
(1, 0) 364 O—o!
 
(1, 0) 370 Brynodd Mr. Price e?
 
(1, 0) 387 Ie.
(1, 0) 388 Jolls-Joyce yw e—y car mwya expensive alle neb gal.
(1, 0) 389 Mae Adelina yn wastod yn gweud wrtho i mor gyfforddus mae e—cushions o plush, a silver vase i ddodi y blode, a chloc bach—dyna glefer mae dynon 'nawr!
(1, 0) 390 Mae Adelina wedi bod sawl gwaith 'da fe yn y motor.
(1, 0) 391 Mae'n gweud i fod e'n gallu drifo yn splendid.
 
(1, 0) 393 Ar yr un pryd, mae chauffeur 'da fe.
 
(1, 0) 395 Y Mr. Price yna glywsom ni yn canu yn y concert ym Mhontardawe?
 
(1, 0) 403 Mae'n neis i allu canu.
 
(1, 0) 410 Odyn nhw wdi 'mygagio?
 
(1, 0) 429 Nag ŷn nhw, wir?
 
(1, 0) 448 Odw, os gwelwch yn dda.
 
(1, 0) 455 Tipyn o dishen, os gwelwch yn dda.
 
(1, 0) 470 Un a'r hugen.
 
(1, 0) 474 Ond 'rwi wedi cadw ty nhad er pan own i'n beder a'r ddeg.
 
(1, 0) 483 Diws!
(1, 0) 484 Dyna fi wedi gneud hi nawr!
 
(1, 0) 502 O, mae'n flin iawn genni!
(1, 0) 503 Alla i'ch helpu chi?
 
(1, 0) 518 Na, dim diolch...
(1, 0) 519 'Rwi wedi cal itha digon.
 
(1, 0) 540 Rwi'n credu y dyle ni fynd nawr.
 
(1, 0) 542 Ryn ni wedi aros digon hir lle nad oes dim o'n ishe ni.
(1, 0) 543 Ag os gwas ffarm oedd y nhad, oedd e'n onest ta pun, a lawer mwy respectable na Daniel Trwyn Coch.
(1, 0) 544 (Mrs Davies yn codi mewn tymer).
(1, 0) 545 Cadwch ych hen ganpunt.
(1, 0) 546 Allwn ni neud yn brion hebddo, a byw yn gyfforddus.
(1, 0) 547 Dewch, Jim!
 
(1, 0) 583 Cerwch ona, Mr. Price!
(1, 0) 584 Rych chi'n wastod yn rhy ffond o jocan!
 
(1, 0) 617 O nagych, Mr. Price.
(1, 0) 618 Ych chi'n ddigon melys i fi, ta beth.
 
(1, 0) 627 O, dyna un greedy ych chi!
(1, 0) 628 Chewch chi ddim o hwnna.
(1, 0) 629 Ble ma'ch manners chi?
(1, 0) 630 Raid i chi gymryd yr ucha.
 
(1, 0) 652 O, diolch yn fawr, Mr. Price.
(1, 0) 653 Dyna neis!
(1, 0) 654 Shteddwch lawr, Jim.
 
(1, 0) 662 Cerwch ona, Mr. Price, yn galw draenen arno i.
 
(1, 0) 664 O, Mr. Price, mindwch na gollwch chi 'ch te ar y carped!
(1, 0) 665 Edrychwch beth netho i.
 
(1, 0) 694 Odw, dipyn bach, ond nid o Operas Italian.
(1, 0) 695 Mae caneuon Cymraeg yn fwy yn yn line i.
 
(1, 0) 697 O, drychwch Mr. Price, mae yna ddyn dierth yn ych cwpan chi.
(1, 0) 698 Pwy yn e, wish?
 
(1, 0) 700 Newch hast i gwpla'ch te ichi glywed y'ch ffortiwn.
 
(1, 0) 705 O dim am amser mawr.
(1, 0) 706 Wi'n gweld pum amser yn y cwpan hyn.
(1, 0) 707 Alle i ddim gweud pun ai pum mlynedd ne pum mish yw e.
(1, 0) 708 Neu falle taw pum wythnos.
(1, 0) 709 Ond mae ofan arna i taw pum mlynedd.
(1, 0) 710 Ma nhw'n dishgwl yn hir iawn, ta beth.
(1, 0) 711 Druan ohonoch chi, Mr. Price.
 
(1, 0) 715 Ond mae yna un fenyw sydd yn eglur iawn.
(1, 0) 716 Dyna hi!
(1, 0) 717 Mae hi'n dal—yn ole iawn—ac yn dene—ŷch chi'n cofio am rywun fel yna?—un yn siarad lot—allwch chi ddim cal gair mewn...
 
(1, 0) 725 O, dyna ddyn od ych chi, Mr. Price.
 
(1, 0) 727 Shwd ych chi'n gallu gweud ei bod hi'n gallu canu?
 
(1, 0) 732 Raid i chi fod yn ofalus iawn, Mr. Price.
(1, 0) 733 Mae merch dywyll yn byw dim ond dau gam oddiwrthoch—a dau gam byrr iawn ŷn nhw hefyd—a wnaiff hi ddim da i chi.
(1, 0) 734 Raid i chi gwylio hi.
 
(1, 0) 749 Ond allwn ni ddim.
(1, 0) 750 Dos dim digon o arian gyda ni.
(1, 0) 751 A dyna'ch mam hefyd, Jim.
 
(1, 0) 754 Ych chi'n gweld, Mr. Price, odd chance da i Jim ddodi arian mewn Cinema, ond fydda ishe canpunt o leiaf.
(1, 0) 755 Dim pawb sydd yn gallu dodi i llaw ar ganpunt y dyddie hyn, ie fe, Mr. Price.
 
(1, 0) 759 Falle dwa i!
 
(1, 0) 767 Ond ŷn ni'n lawer rhy ifanc.
(1, 0) 768 'Dyw Jim ond 22 a finne yn 21, a falle fyddwn ni wedi newid yn meddwl mhen wech mish, a ni'n doi wedi cwmpo mewn cariad a rywun arall erbyn y Nadolig nesa.
(1, 0) 769 Ond allen ni, Mr. Price?
 
(1, 0) 776 Ond falle gwrdda i rywun fydda i'n licio'n well.
(1, 0) 777 A pheth arall, mae pobl weithe yn anghofio'u haddewidion.
(1, 0) 778 Mae deryn mewn llaw yn werth doi mewn llwyn.
 
(1, 0) 783 Ugen—deg-ar-hugen—m—m —Canpunt!
(1, 0) 784 Odi, mae'n all right, Jim.
(1, 0) 785 Wel, nawr, Modryb Mary Jane, mae'n amser i ni fynd.
(1, 0) 786 Beth yw hi o'r gloch?
 
(1, 0) 788 O, mae digon o amser.
(1, 0) 789 Ddalwn y train yn rhwydd, wedi'r cwbl.
(1, 0) 790 Good-bye, Mr. Price.
 
(1, 0) 793 Na, dim heno, diolch.
(1, 0) 794 Falle gewn ni'r ride yna rywbryd eto.
 
(1, 0) 796 Dwedwch goodbye wrth Mr. Price, Jim.
(1, 0) 797 Fe ddylsech fod yn ddiolchgar iawn iddo fe.
 
(1, 0) 799 Goodbye, Modryb Mary Jane.
(1, 0) 800 Mi ofynnwn i chi ddod i'r briodas.
(1, 0) 801 Goodbye, Adelina.
 
(1, 0) 803 Dere mlan, Jim bach.
(1, 0) 804 Chi ydi 'nghariad i, wedi'r cwbl, ond rown i wedi penderfynu cal y canpunt 'na!