Ciw-restr

Caradog

Llinellau gan Afarwy (Cyfanswm: 60)

 
(1, 1) 103 Ha! Pwy yma sy'n ymguddio!
 
(1, 1) 105 Y duwiau drugarhaont! Genwissa yw!
(1, 1) 106 Rhaid imi ffugio fel na'm hadwaen i!
 
(1, 1) 108 Wel! Dyma 'sglyfaeth ryfel, onide!
 
(1, 1) 115 Cawn weled yn y man. {Yn troi oddiwrthi at Venutius.}
 
(1, 1) 117 Rwy'n diolch iti am yr hyn a wnest.
(1, 1) 118 Caradog ga ro'i diolch gwell iti.
 
(1, 1) 121 A gwnaethost hynny heddyw'n ddewr fel cynt.
(1, 1) 122 Urddasol gennad ddylai fyn'd ar frys
(1, 1) 123 A'r newydd i Caradog ddarfod i
(1, 1) 124 Ni heddyw daro llengoedd Cesar falch
(1, 1) 125 Yn glîn a borddwyd. Yntau wedi ffoi.
 
(1, 1) 127 Fod Cesar yn ei wersyll yn ddiogel.
 
(1, 1) 143 'Rwyt ti'n anghofìo mai carchares wyt!
 
(1, 1) 145 Na ddwed y gair! Nid oes 'run pennaeth mwyn
(1, 1) 146 Ymhlith penaethiad Prydain heddyw!
(1, 1) 147 Mae gormes creulawn Rhufain wedi gwneud
(1, 1) 148 I fwynder ffoi o galon pob Prydeiniwr!
 
(1, 1) 151 Yn fwyn i ti! Rufeines! Gelyn Prydain!
 
(1, 1) 153 Na! Na wnaf byth! Rhy werthfawr wyt imi.
 
(1, 1) 156 Beth am fy mreichiau i? {Yn dal ei freichiau allan ati; hithau'n cilio'n ol.}
(1, 1) 157 Yw Cesar yn gyfoethog? Mi yn fwy!
(1, 1) 158 Rhy fach holl gyfoeth Rhufain i dy brynu di.
 
(1, 1) 162 'Run Cesar sydd ym Mhrydain heddyw.
 
(1, 1) 165 Pwy ydyw ef, atolwg?
 
(1, 1) 168 Afarwy? Twt! Nid wyf yn malio clec fy mawd {yn clecian ei fysedd}
(1, 1) 169 Am dano ef! Rhyw goegyn llys, a llwfryn gwael——
 
(1, 1) 174 Iti'th ddymuniad! Gwel! Edrych ar Afarwy. {Yn gwthio ei helm yn ol oddiar ei ben.}
 
(1, 1) 176 A b'le, atolwg, oedd dy lygaid di
(1, 1) 177 Na fuaset yn fy adwaen? Neu, a yw
(1, 1) 178 Afarwy wedi mynd yn llwyr o'th gof?
 
(1, 1) 183 A minnau'n anystyriol yn parhau
(1, 1) 184 Dy ofn mor hir! O maddeu im'! {Yn estyn ei ddwylaw allan yn ymbilgar tuag ati; ymaflyd yn, a chusanu ei llaw.}
 
(1, 1) 189 Yn fwy difrifol nag yw Afarwy—bob amser.
 
(1, 1) 191 Wel, ïe'n siwr! A fynnet imi fod yn rhywun arall?
 
(1, 1) 194 A gaf fì ddweyd?
 
(1, 1) 198 Eto? ïe, ac eto ddengwaith wed'yn!
(1, 1) 199 Ddoe, heddyw, foru, eleni, a'r flwyddyn nesaf,
(1, 1) 200 A phob ryw awr, a dydd, a blwydd o'm hoes!
 
(1, 1) 209 Yn ol i wersyll Cesar.
 
(1, 1) 211 Rhaid! Rhaid! Er mwyn anrhydedd Prydain rhaid im' wneud!
 
(1, 1) 218 Mor oludog Rhufain, nis gallai'r ddau yn un
(1, 1) 219 Ro'i pris cyfartal im' am danat ti!
 
(1, 1) 221 F'anrhydedd a'm gorfoda i wneud hyn.
(1, 1) 222 Cha'r un Rhufeiniwr balch droi bys mewn gwawd
(1, 1) 223 At frawd Caradog! Ond y rhyfel sydd
(1, 1) 224 Yn gwneud im' dynnu cledd yn erbyn Cesar
(1, 1) 225 A glodd fy nhafod rhag i hwnnw ddweyd
(1, 1) 226 Yr hyn a leinw'm calon 'nawr a byth,
(1, 1) 227 A'r peth na weddai im' ei ddweyd tra mi
(1, 1) 228 Yn ymladd fel yr wyf, ac fel y gwnaf,
(1, 1) 229 Yn erbyn Cesar. Tyr'd, Dywysoges fwyn.
(1, 1) 230 Genwissa anwyl gynt—Merch Cesar 'nawr,
(1, 1) 231 Dy arwain wnaf yn ol i law dy dad.
(1, 1) 232 Merch Cesar farna 'rhyn ddymunwn ddweyd,
(1, 1) 233 A'r hyn a ddywedaswn, ïe'n hyf
(1, 1) 234 Ynghlust Genwissa, ac i'w chalon hi,
(1, 1) 235 Pe na bae'r rhyfel yn ei chadw hi
(1, 1) 236 Yngwersyll gelyn Prydain.
 
(1, 1) 246 Wel, tyred! Awn i wersyll Cesar!