Ciw-restr

Caradog

Llinellau gan Genwissa (Cyfanswm: 45)

 
(1, 1) 87 Och fì! Pa beth, pa beth a wnaf!
(1, 1) 88 Fy nhad ar ffo—a llengoedd Rhufain fawr
(1, 1) 89 Yn orchfygedig! Minnau—beth a wnaf!
 
(1, 1) 91 Ni feiddiaf ffoi y ffordd yr aeth fy nhad:
(1, 1) 92 Anwaraidd lu sy'n erlyn ar ei ol!
(1, 1) 93 Nis beiddiaf fyn'd yn ol—os aros wnaf
(1, 1) 94 Daw'r gelyn ar fy ngwarthaf. O'r duwiau mawr!
(1, 1) 95 O dacw hwynt yn dod!
 
(1, 1) 111 Genwissa, merch i Cesar ydwyf fì.
 
(1, 1) 114 Gan Cesar am i'w ferch gael mynd yn rhydd.
 
(1, 1) 126 Gwae fi! O dywell ddydd!
 
(1, 1) 141 Y goedwig hon, a'r brwydro gwaedlyd erch
(1, 1) 142 Yn peri braw i'm calon wan... O! dwg fì at fy nhad!
 
(1, 1) 144 O! Bennaeth mwyn ——
 
(1, 1) 150 Pe gallwn gyrraedd ato, fyddai'n fwyn imi! {Yn troi ymaith dan wylo.}
 
(1, 1) 154 Cei bridwerth mawr os dygi fi yn ol
(1, 1) 155 I freichiau'm tad!
 
(1, 1) 159 Yr adyn! Feiddi di fy nghadw i,
(1, 1) 160 A minnau'n ferch i Cesar?
 
(1, 1) 164 Ofìdio it' erioed wneud cam â mi!
 
(1, 1) 166 Afarwy D'wysog, Brawd Caradog yw,
(1, 1) 167 A chyfaill gynt imi yn Rhufain draw.
 
(1, 1) 171 O holl benaethiaid Prydain yw efe.
(1, 1) 172 Ac O! {Yn troi ymaith dan wylo.} Na chawn ei weled 'nawr!
 
(1, 1) 180 Nid anghof wyt, nac anghof fyddi chwaith!
(1, 1) 181 Ond dychryn oedd yn dal fy nghalon wan,
(1, 1) 182 A minnau'n ddall gan ofn!
 
(1, 1) 185 Gwna'r hyn a geisiaf gennyt, ynte.
 
(1, 1) 187 Atolwg, bydd ddifrifol ennyd fer.
 
(1, 1) 192 Na ato'r duwiau! Er mae'n anhawdd dweyd
(1, 1) 193 Beth ydwyt mewn gwirionedd!
 
(1, 1) 195 Wel, dwed, ynte.
 
(1, 1) 197 Beth, eto?
 
(1, 1) 204 Gwn; mi a'i gwn, neu mae fy nghalon ffol
(1, 1) 205 Yn twyllo'm pen sy'n ffolach fyth.
 
(1, 1) 207 Wel?
 
(1, 1) 216 Mor ddiwerth felly yw merch Cesar gennyt ti.
 
(1, 1) 220 Ac eto'm rhoddi fyny wnei am ddim.
 
(1, 1) 238 A'th barchu 'rwyf yn fwy am beidio dweyd
(1, 1) 239 Yr hyn a hoffai'm calon it' i'w ddweyd!
(1, 1) 240 Gweddiaf ar y duwiau am i'r dydd
(1, 1) 241 Gael gwawrio'n fuan pan y gelli ddweyd
(1, 1) 242 'Rhyn ddwed fy nghalon sy'n dy galon di,
(1, 1) 243 A phan y gall fy nhafod innau ro'i heb sen
(1, 1) 244 Yr ateb fynnai'm calon 'nawr ei ro'i!