Ciw-restr

Caradog

Llinellau gan Vellocatus (Cyfanswm: 26)

 
(1, 1) 7 Ond rhaid cael dau i frwydro! Dichon fod
(1, 1) 8 Caradog, er ei ymffrost, wedi ffoi
(1, 1) 9 Heb daro ergyd, a Cesar ar ei ol yn ymlid.
 
(1, 1) 16 Gwell f'asai iti aros yn dy lys dy hun
(1, 1) 17 Na theithio'n mhell i ymladd Rhufain gref.
 
(1, 1) 24 Na! F'arglwydd! Aros! Gall gwŷr Cesar fod
(1, 1) 25 O'n blaen! A beth wnawn ni ein dau yn erbyn llu?
 
(1, 1) 29 Yr un dyn byw—ond ti, fy Arglwydd dewr. {Yn moesgrymu'n wasaidd.}
 
(1, 1) 31 Wel, addaw wneuthum wrth dy wraig cyn dod
(1, 1) 32 Na chaffet ruthro yn ddiraid i berygl.
 
(1, 1) 42 Da fyddai gennyf beidio'th weled mwy.
(1, 1) 43 Mae gwên dy wraig, Aregwedd, yn fwy swyn
(1, 1) 44 Na cholli'm gwaed dros Brydain na Venutius. {Yn rhodio ol a blaen.}
(1, 1) 45 Pe caffai Rhufain fuddugoliaeth fawr,
(1, 1) 46 Caradog ei orchfygu, Venutius ei ladd,
(1, 1) 47 Cysurwn i Aregwedd. {Yn rhwbio ei ddwylaw mewn mwynhad.} Codai'm seren
(1, 1) 48 Fry i'r entrych—a byddwn ben, nid gwas!
 
(1, 1) 50 Daw'r rhyfel tuag yma! Ymguddio raid!
 
(1, 1) 73 Caradog yn fuddugol! Cesar ffodd!
(1, 1) 74 Os delir ef, ffarwel i bob rhyw obaith
(1, 1) 75 I'm gael bod yn rhywbeth gwell na chludydd arfau
(1, 1) 76 I Venutius falch! Rhaid gwylio'r cyfle,
(1, 1) 77 Troi'r erlidwyr ffwrdd o'r llwybr hwn {yn cyfeirio ei law y ffordd yr aeth Cesar}
(1, 1) 78 Gymerwyd 'nawr gan Cesar! Ust! Venutius yw!
 
(1, 1) 83 Ffordd yma yr aeth Cesar! {Cyfeirio ei gledd at L 1.} Nid yw'n mhell!
(1, 1) 84 Dowch daliwn ef!