Ciw-restr

Caradog

Llinellau gan Venutius (Cyfanswm: 28)

 
(1, 1) 4 Pa le mae byddin Rhufain wedi mynd?
(1, 1) 5 Dylasem erbyn hyn fod wedi dod
(1, 1) 6 At swn y brwydro, ddyliwn i.
 
(1, 1) 10 Na! Na! Nid Cradog fyddai Cradog felly!
(1, 1) 11 Mae brwydro iddo ef yn anadl ffroen!
(1, 1) 12 Fel blysia baban yfed llaeth y fron
(1, 1) 13 Dyhea Cradog gael bod gledd ynghledd
(1, 1) 14 A'r balch Rufeiniwr sydd yn treisio Prydain!
(1, 1) 15 Dyheu wyf fìnnau am gael cym'ryd rhan.
 
(1, 1) 18 Taw! Taw! Ynghwmni'r merched ddylet fod!
(1, 1) 19 Nid maes y gwaed yw'r dewis fan i ti.
(1, 1) 20 Gwell gennyt chwareu â merch nac ymladd dyn.
 
(1, 1) 22 Clyw! {Yn codi ei law, a gwrando.} Dacw swn y brwydro, Vellocatus.
(1, 1) 23 Tyr'd! Brysia! Gad i ninnau gym'ryd rhan! {Yn cychwyn myned tua R 3.}
 
(1, 1) 27 Pe gwypwn hynny rho'wn it' dynged llwfryn. {Yn tynnu ei gledd allan.}
 
(1, 1) 30 Paham yr oedi ynte, ddyn?
 
(1, 1) 34 O'm plegid i o'r blaen!
 
(1, 1) 36 Clyw swn y brwydro'r dyn! Gwŷr Prydain a
(1, 1) 37 Gwŷr Rhufain gledd ynghledd!
(1, 1) 38 Rhaid i Venutius gym'ryd rhan, a rhoi
(1, 1) 39 Ei gledd o blaid ei wlad! {Yn tynnu allan ei gledd.} Hwre dros Brydain!
 
(1, 1) 80 le, Cesar ydoedd! Ond pa ffordd yr aeth? {Edrych o gwmpas.}
(1, 1) 81 Ha! Dyma olion traed ryw ffoedigion! Dowch! {Cyfeirio a'i fys at ol traed, ac yn cychwyn tua L 3.}
 
(1, 1) 85 A welaist ef! Hwre! Awn! Daliwn Cesar!
 
(1, 1) 100 Diangodd Cesar ar ein gwaethaf oll!
(1, 1) 101 Mae bellach yn ei wersyll wrth y môr.
 
(1, 1) 119 Nid wyf yn crefu unrhyw ddiolch gwell
(1, 1) 120 Na gwneud fy rhan dros ryddid Prydain gu.