Ciw-restr

Castell Martin

Llinellau gan Nathaniel (Cyfanswm: 131)

 
(1, 0) 20 O, tewch sôn,─tewch sôn.
 
(1, 0) 22 Beth sy'n bod yn wir!
(1, 0) 23 Gofid a thrallod; dyn a anad o wraig... ia, ia... wn-i yn y byd ffordd wy-i wedi llwyddo i fyw c'yd, yn hercan fel hyn o helbul i helbul.
 
(1, 0) 27 Y chi a'ch Marged Ann!
(1, 0) 28 Rwy'n synnu at hen lanc calon-galad fel chi, Isaac, yn clepran am 'i Farged Ann byth a hefyd.
 
(1, 0) 30 Dim mwy nag arfar.
(1, 0) 31 Arian─mo'yn arian beunydd─het newydd bob yn ail ddydd, a gŵn shidan, am wn i, bob yn ail wthnos.
 
(1, 0) 34 Fe wyddoch am yr hen fuwch ddu 'na, honna â'r cyrn hir?
 
(1, 0) 36 Wel am nace'r dyn; gwell buwch na honno, a Chastall Martin bob blewyn o heni.
 
(1, 0) 38 Ia, ia; dyna hi.
 
(1, 0) 40 O ma-hi'n dost─ma hi yn dost.
 
(1, 0) 42 |Vet!|
(1, 0) 43 Rwy-i wedi bod yn trafod craduriad nawr ys deugan mlynadd, a dim ond teirgwaith yr etho-i at |vet| eriod.
 
(1, 0) 45 Nagos gen-i.
(1, 0) 46 Fe ddath y cynta i weld ci, a fe fu'r ci farw; feddath yr ail i weld llo, a fe fu'r llo farw; feddath y trytydd i weld mochyn, a fe fysa'n llawar shepach i fi tsa'r mochyn wedi marw hefyd!
 
(1, 0) 48 'Rwy wedi trio a thrio; |bran mash| a'r blawd cyrch gora, â'm llaw ym hunan─na, dim stumog!
 
(1, 0) 51 Buwch dda digynnyg.
 
(1, 0) 53 Fuws eriod 'u tepyg nhw!
 
(1, 0) 55 Ugeina ar ugeina o bunna.
 
(1, 0) 59 |Rural District Councillor| yn wir: gadewch ych clepar da chi!
(1, 0) 60 Fe geso'i newydd torcalonnus odd'wrth Tomos Griffith heddy.
(1, 0) 61 Wyddoch-chi faint gostws-hi iddo fe sefyll y lecshwn ddwetha?
 
(1, 0) 63 Petar punt, saith swllt, a thair cinog.
 
(1, 0) 66 Pwy wetws nag ôn-i'n folon!
(1, 0) 67 Fe'i maedda-fa tsa hi'n costi deugan punt i fi.
 
(1, 0) 70 I faeddu-fa, gnaf, fe'i maedda-fa, tsa hi'n costi can punt i fi.
 
(1, 0) 72 Ond 'dwy-i ddim am wario mwy na mwy.
(1, 0) 73 O ia, sgrifensoch-chi'r |election address| eto?
 
(1, 0) 80 Ffolinab o'r mwya ôdd i chi f'enwi i ar gyfar lecshwn, Isaac.
(1, 0) 81 Fwriatws y Brenin Mawr eriod i fi fod yn |Rural District Councillor|, a fydda-i byth yn depyg i un chwaith.
 
(1, 0) 83 Ond ma'n rhaid i fi faeddu Siencyn.
(1, 0) 84 Y |coward|, ofan arno ddod â'i gôr yn erbyn 'y nghôr i unwaith yn racor, ofan arno roi cyfla arall i fi!
(1, 0) 85 'I faeddu-a, gnaf, fe'i maedda-fa!
 
(1, 0) 90 Pitwch a sharad mor ffôl, Isaac; 'dos 'na ddim eglwyswr fotiff drosto i.
 
(1, 0) 96 Pwy pia fa?
 
(1, 0) 98 Rhaid mai brelo da ôdd-a i ddechra.
 
(1, 0) 110 Yn dda iawn, diolch i chi, yn dda iawn, yn wir.
 
(1, 0) 140 Pum punt!
(1, 0) 141 Na chewch yn wir!
 
(1, 0) 143 Ona 'lla'n wir, na 'lla'n wir!
 
(1, 0) 168 Wel─am wn-i {yn fwy pendanl}─otw, 'rwy'n folon roi buwch.
 
(1, 0) 185 Pob croeso i chi, Mr. Jones, pob croeso.
 
(1, 0) 203 Dyn clefar iawn ych-chi, Isaac, clefar iawn hefyd, a fydda-i ddim yn fyr o dalu'n ol pan ddaw cyfla.
 
(1, 0) 205 Os dim llawar o opath i chi man'na, Isaac.
(1, 0) 206 Ych trin a'ch trafod chi ma Marged Ann wastod.
(1, 0) 207 A phwy isha i chi drafferthu ynglŷn â Marged Ann, hen fab fel chi, bron trician ôd?
(1, 0) 208 Ma-hi o'r gora i ofalu am y tŷ i fi, ama hi'n garetig iawn i Riannon, ond 'dwy-i ddim yn gweld llawar o rân arni fel gwraig i chi.
(1, 0) 209 Ma hi wedi gweld 'i hamsar gora ys blynydda; 'dos dim byd yn bert yndi; ma hi mor dew a mwtwl, a tsa chi ddim ond 'i gweld hi miwn pang o dymar─{yn codi ei ddwylo}.
 
(1, 0) 215 Am wn-i nag ych-chi'n wir.
 
(1, 0) 218 Eh?
 
(1, 0) 221 Ond wetsoch-chi wrth y Ficar ych hunan─yr hen fuwch ddu.
 
(1, 0) 224 Fyswn-i byth o'r gydwypod i neud dim byd arall.
(1, 0) 225 'Drychwch 'ma, Isaac, gadewch i ni ddiall y'n gilydd: fuws 'na ddyn eriod yn gryfach Anghydffurfiwr na fi?
 
(1, 0) 227 Ymladdws rywun yn y wlad yn gletach na fi dros Ddatgysylltiad a Dadwaddoliad?
 
(1, 0) 229 Ag eto, 'rych chi'n meddwl mod-i'n ddicon ffôl i roi buwch ifanc iach i Eclws Loegar!
 
(1, 0) 231 Pam lai?
(1, 0) 232 Dyna'r fuwch addewas i; y chi'ch hunan disgrifiws hi─Castall Martin, yn gotro ucian cwart y dydd.
(1, 0) 233 Ma'n rhaid i ni gatw at yn gair nawr.
 
(1, 0) 235 Nagos gen-i, a fe wyddach-chitha hynny o'r gora.
 
(1, 0) 239 Marw!
(1, 0) 240 Be 'chi'n gisho wêd, Isaac?
 
(1, 0) 242 Bydd-a'n wir!
(1, 0) 243 'Rych-chi wedi neud rhyw gawl ryfadd wedi'r cwbwl, gita'ch meddwl, a'ch cysitro, a'ch pondro!
 
(1, 0) 248 Nagw-i'n wir!
 
(1, 0) 252 Hannar munad.
 
(1, 0) 254 Fe arhoswn nes bo ni'n gweld beth yw teimlad gwŷr yr Eclws: os byddan-nhw'n depyg o ochri gita ni, wel, fe gewn weld.
 
(1, 0) 260 Wel, ma'r un man i ni ddechra; 'dos 'na ddim amsar i golli.
 
(1, 0) 266 Clywch, clywch.
 
(1, 0) 269 O, nagw.
 
(1, 0) 284 Nawr, Isaac, cymrwch chi bwyll.
(1, 0) 285 'Dwy-i ddim am i anghredinwyr a gwrthgilwyr i foto drosto-i.
 
(1, 0) 290 O ia, ia; 'r yn-ni gyd yn gwpod 'ny.
 
(1, 0) 292 Clywch, clywch.
 
(1, 0) 294 Itha-right, Tomos; wydda Siencyn eriod ffordd i gymryd |rallentando|.
 
(1, 0) 301 O'n wir! a phwy yn-nhw, licswn i wpod.
 
(1, 0) 303 'Dôdd-a ddim yn deilwng i arwan y |Band of Hope|.
 
(1, 0) 306 Ond gwelas-i a'n sefyll ar ben drws y |Black Lion|.
 
(1, 0) 334 O bydd, i bawb.
 
(1, 0) 337 I faeddu-a, gnaf, fe'i maedda-fa.
(1, 0) 338 Ofan arno-fa roi cyfla arall i fi gita-i gôr, ond fe gaiff e weld, caiff, caiff, fe gaiff e weld!
 
(1, 0) 340 O ia, fuas-i bron ag anghofio: fe geso-i lythyr y bora 'ma odd'wrth Riannon, yn gofyn i fi bito argraffu'r |address| cyn y delsa hi sha thre, a fe fydd yma fory.
 
(1, 0) 343 Mae hi wedi bod yn studio'r pwnc am betar mlynadd yn Aberystwyth.
(1, 0) 344 Be'chi'n 'i alw fa nawr, rwpath─rwpath |economy|─?
 
(1, 0) 349 Dyna fe; y peth gora allwch-chi gâl ar gyfar lecshwn.
 
(1, 0) 357 Itha-right; nawr, beth gaf-fi addo?
 
(1, 0) 360 Dotwch yr hewl yn yr |address|, Isaac.
 
(1, 0) 363 Dotwch y bont i lawr, Isaac.
 
(1, 0) 365 On-ni'n meddwl fod rwpath pwysig gita-chi, Tomos.
 
(1, 0) 369 Dyna damad blasus, Tomos: gwrthod condemnio bwthynnod 'i dad, iefa?
(1, 0) 370 Dotwch yna lawr, Isaac.
 
(1, 0) 375 Ia, a baclu 'i fab hefyd.
(1, 0) 376 Wfft shwt |Fedical Officer of Health| weta-i.
(1, 0) 377 Arhoswch, nes caf fi fynd ar y |Council|!
 
(1, 0) 381 Dim byth!
(1, 0) 382 'Rwy wedi sharso Riannon─
 
(1, 0) 387 Riannon!
 
(1, 0) 391 Beth ar wynab y ddaear ddath a ti yma heddy?
 
(1, 0) 399 Welsoch-chi shwt beth eriod, air am air 'run fath a'n |address| i!
 
(1, 0) 401 'Ryn-ni yn 'i chyfansoddi hi nawr.
(1, 0) 402 Y fi yw Cyfall y Gwithwr.
 
(1, 0) 408 Dyna fe ar 'i drôd, dyna Siencyn Bifan, miwn |politics| 'run fath a cherddoriath!
(1, 0) 409 Os caf fi syniad gynta, fe fydd e'n siwr o 'neud defnydd ohono o mlân-i!
 
(1, 0) 415 Ia, ia, Riannon; itha iawn, y merch-i.
 
(1, 0) 417 Beth wetas-i, Isaac?
 
(1, 0) 424 Dim byth ym merch-i.
 
(1, 0) 426 Chi'n sôn am feddwl a phondro, beth wetas-i Isaac?
 
(1, 0) 431 Itha right, Riannon.
 
(1, 0) 434 Beth wyddoch chi am lecshwn, Isaac?
(1, 0) 435 Fuoch chi miwn coleg eriod yn studio |Political Domestics|!
 
(1, 0) 454 'Rwy-i o'r gora.
 
(1, 0) 456 Fyddwch chi fawr o dro cyn gweld a theimlo hynny.
 
(1, 0) 462 Dim gopath, iefa?
(1, 0) 463 Ho, ho, fe gewn weld!
 
(1, 0) 466 Naddo, diolch i'r mowradd, a 'dwy-i ddim am fod chwaith!
 
(1, 0) 469 Ffaelu, do fa!
 
(1, 0) 472 Ych côr chi, ond pwy oedd y beirniad, a ble cysgws-a y noswath cyn y gystadleuath?
(1, 0) 473 Ond sôn am ennill pwy enillws yng Ngraig-yr-Eos?
 
(1, 0) 476 O, chi gas y wopor, ond pwy enillws?
(1, 0) 477 Rodd ych côr chi mâs o diwn am un bar ar bymthag, y |sopranos| yn |sharp|, y |tenors| yn y niwl─
 
(1, 0) 484 Y fi yn ych efelychu chi, ys clwas-i shwt gownt eriod.
(1, 0) 485 Allwch-chi brofi 'na Siencyn?
 
(1, 0) 493 A ffordd cesoch chitha'r syniad i |portamento| yn "Thanks be lo God."
(1, 0) 494 Ffordd Siencyn?
(1, 0) 495 Wrth ddoti dyn i wrando o dan ffenast capal Sion!
 
(1, 0) 498 Na wn-i a dos dim ots gen-i chwaith.
 
(1, 0) 505 Wetsoch-chi 'na am 'y nghanu i!
 
(1, 0) 511 Wfft shwt |Fedical Officer of Health|, weta-i.
 
(1, 0) 513 O'n wir.
 
(1, 0) 515 Sawl gwaith wy-i wedi gofyn i ti gatw draw odd'wrth y gwalch 'na!
 
(1, 0) 521 Ma gen-i ddicon o |boints| i'ch maeddu chi'n rhwydd.
 
(1, 0) 526 Ha, ha; fe gewn weld, fe gewn weld!