Ciw-restr

Cofia'n Gwlad

Llinellau gan Emyn (Cyfanswm: 221)

 
(1, 1) 6 732 (Caneuon Ffydd)
(1, 1) 7 ~
(1, 1) 8 O am nerth i dreulio 'nyddiau
(1, 1) 9 yng nghynteddau tŷ fy Nhad,
(1, 1) 10 byw yng nghanol y goleuni,
(1, 1) 11 t'wyllwch obry dan fy nhra'd;
(1, 1) 12 byw heb fachlud haul un amser,
(1, 1) 13 byw heb gwmwl, byw heb boen,
(1, 1) 14 byw ar gariad anorchfygol,
(1, 1) 15 pur y croeshoeliedig Oen.
(1, 1) 16 ~
(1, 1) 17 Dyro olwg ar dy haeddiant,
(1, 1) 18 golwg ar dy deyrnas rad,
(1, 1) 19 brynwyd imi ac a seliwyd,
(1, 1) 20 seliwyd im â'th werthfawr wa'd:
(1, 1) 21 rho im gyrchu tuag ati,
(1, 1) 22 peidio byth â llwfwrhau;
(1, 1) 23 ar fy nhaith ni cheisiaf gennyt
(1, 1) 24 ond yn unig dy fwynhau.
(1, 1) 25 ~
(1, 1) 26 Gyda thi mi af drwy'r fyddin,
(1, 1) 27 gyda thi ma af drwy'r tân;
(1, 1) 28 'dofnaf ymchwydd llif Iorddonen
(1, 1) 29 ond i ti fynd yn y bla'n;
(1, 1) 30 ti yw f'amddiffynfa gadarn,
(1, 1) 31 ti yw 'Mrenin, ti yw 'Nhad,
(1, 1) 32 ti dy hunan oll yn unig
(1, 1) 33 yw fy iachawdwriaeth rad.
(1, 1) 34 ~
(1, 1) 35 [William Williams]
 
(1, 5) 128 827 (Caneuon Ffydd)
(1, 5) 129 ~
(1, 5) 130 Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion,
(1, 5) 131 dy gyfiawnder fyddo'i grym:
(1, 5) 132 cadw hi rhag llid gelynion,
(1, 5) 133 rhag ei beiau'n fwy na dim:
(1, 5) 134 rhag pob brad, nefol Dad,
(1, 5) 135 taena d'adain dros ein gwlad.
(1, 5) 136 ~
(1, 5) 137 Yma mae beddrodau'n tadau,
(1, 5) 138 yma mae ein plant yn byw;
(1, 5) 139 boed pob aelwyd dan dy wenau,
(1, 5) 140 a phob teulu'n deulu Duw:
(1, 5) 141 rhag pob brad, nefol Dad,
(1, 5) 142 cadw di gartrefi'n gwlad.
(1, 5) 143 ~
(1, 5) 144 Gwna'n Sabothau'n ddyddiau'r nefoedd
(1, 5) 145 yng ngoleuni d'eiriau glân;
(1, 5) 146 dyro'r gwlith i'n cymanfaoedd,
(1, 5) 147 gwna ein crefydd fel ein cân:
(1, 5) 148 nefol Dad, boed mawrhad
(1, 5) 149 ar d'Efengyl yn ein gwlad.
(1, 5) 150 ~
(1, 5) 151 [Elfed]
 
(1, 11) 583 735 (Caneuon Ffydd)
(1, 11) 584 ~
(1, 11) 585 Bydd yn wrol, paid â llithro,
(1, 11) 586 er mor dywyll yw y daith
(1, 11) 587 y mae seren i'th oleuo:
(1, 11) 588 cred yn Nuw a gwna dy waith.
(1, 11) 589 Er i'r llwybyr dy ddiffygio,
(1, 11) 590 er i'r anial fod yn faith,
(1, 11) 591 bydd yn wrol, blin neu beidio,
(1, 11) 592 cred yn Nuw a gwna dy waith.
(1, 11) 593 ~
(1, 11) 594 Paid ag ofni'r anawsterau,
(1, 11) 595 paid ag ofni'r brwydrau chwaith;
(1, 11) 596 paid ag ofni'r canlyniadau:
(1, 11) 597 cred yn Nuw a gwna dy waith.
(1, 11) 598 Cei dy farnu, cei dy garu,
(1, 11) 599 cei dy wawdio lawer gwaith;
(1, 11) 600 na ofala ddim am hynny:
(1, 11) 601 cred yn Nuw a gwna dy waith.
(1, 11) 602 ~
(1, 11) 603 [Norman Macleod / cyf. Ben Davies]
 
(1, 17) 823 817 (Caneuon Ffydd) [Tôn: 265: Llwynbedw - J. T. Rees]
(1, 17) 824 ~
(1, 17) 825 Gwrando di, O Dduw'r cenhedloedd,
(1, 17) 826 ar ddeisyfiad teulu'r llawr;
(1, 17) 827 codwn lef o fro ein trallod
(1, 17) 828 atat ti, ein Harglwydd mawr:
(1, 17) 829 doed dy gariad
(1, 17) 830 i gymodi gwledydd byd.
(1, 17) 831 ~
(1, 17) 832 Tyn i lawr yr uchel furiau
(1, 17) 833 sy'n ysgaru plant dy fron;
(1, 17) 834 dyro orsedd i'r Eneiniog
(1, 17) 835 dros drigolion daear gron:
(1, 17) 836 doed dy gariad
(1, 17) 837 i gymodi gwledydd byd.
(1, 17) 838 ~
(1, 17) 839 Maddau, Arglwydd, ein gelyniaeth
(1, 17) 840 a'n camweddau o bob llun;
(1, 17) 841 tywys ni i ffordd tangnefedd
(1, 17) 842 fel y delo'r teulu'n un;
(1, 17) 843 doed dy gariad
(1, 17) 844 i gymodi gwledydd byd.
(1, 17) 845 ~
(1, 17) 846 [D. E. Williams]
 
(2, 1) 858 164 (Caneuon Ffydd)
(2, 1) 859 ~
(2, 1) 860 Un fendith dyro im,
(2, 1) 861 ni cheisiaf ddim ond hynny:
(2, 1) 862 cael gras i'th garu di tra bwy',
(2, 1) 863 cael mwy o ras i'th garu.
(2, 1) 864 ~
(2, 1) 865 Ond im dy garu'n iawn
(2, 1) 866 caf waith a dawn sancteiddiach,
(2, 1) 867 a'th ganlyn wnaf bob dydd yn well
(2, 1) 868 ac nid o hirbell mwyach.
(2, 1) 869 ~
(2, 1) 870 A phan ddêl dyddiau dwys
(2, 1) 871 caf orffwys ar dy ddwyfron,
(2, 1) 872 ac yno brofi gwin dy hedd
(2, 1) 873 a gwledd dy addewidion.
(2, 1) 874 ~
(2, 1) 875 Dy garu, digon yw
(2, 1) 876 wrth fyw i'th wasanaethu,
(2, 1) 877 ac yn oes oesoedd ger dy fron
(2, 1) 878 fy nigon fydd dy garu.
(2, 1) 879 ~
(2, 1) 880 [Eifion Wyn]
 
(2, 3) 1051 I bob un sy'n ffyddlon
(2, 3) 1052 dan ei faner ef
(2, 3) 1053 mae gan Iesu goron fry
(2, 3) 1054 yn nheyrnas nef;
(2, 3) 1055 lluoedd Duw a Satan
(2, 3) 1056 sydd yn cwrdd yn awr:
(2, 3) 1057 mae gan blant eu cyfran
(2, 3) 1058 yn y rhyfel mawr.
(2, 3) 1059 ~
(2, 3) 1060 I bob un sy'n ffyddlon
(2, 3) 1061 dan ei faner ef;
(2, 3) 1062 mae gan Iesu goron fry
(2, 3) 1063 yn nheyrnas nef.
(2, 3) 1064 ~
(2, 3) 1065 Meddwdod fel Goliath
(2, 3) 1066 heria ddyn a Duw,
(2, 3) 1067 myrdd a myrdd garchara
(2, 3) 1068 gan mor feiddgar yw;
(2, 3) 1069 brodyr a chwiorydd
(2, 3) 1070 sy'n ei gastell prudd,
(2, 3) 1071 rhaid yw chwalu'i geyrydd
(2, 3) 1072 rhaid cael pawb yn rhydd.
(2, 3) 1073 ~
(2, 3) 1074 I bob un sy'n ffyddlon
(2, 3) 1075 dan ei faner ef;
(2, 3) 1076 mae gan Iesu goron fry
(2, 3) 1077 yn nheyrnas nef.
(2, 3) 1078 ~
(2, 3) 1079 Awn i gwrdd â'r gelyn
(2, 3) 1080 bawb ag arfau glân,
(2, 3) 1081 uffern sydd i'n herbyn
(2, 3) 1082 â'i phicellau tân;
(2, 3) 1083 gwasgwn yn y rhengau
(2, 3) 1084 ac edrychwn fry:
(2, 3) 1085 concrwr byd ac angau
(2, 3) 1086 acw sydd o'n tu.
(2, 3) 1087 ~
(2, 3) 1088 I bob un sy'n ffyddlon
(2, 3) 1089 dan ei faner ef;
(2, 3) 1090 mae gan Iesu goron fry
(2, 3) 1091 yn nheyrnas nef.
(2, 3) 1092 ~
(2, 3) 1093 [ap Hefin]
 
(2, 8) 1364 167 (Caneuon ffydd)
(2, 8) 1365 ~
(2, 8) 1366 Ar fôr tymhestlog teithio'r wyf
(2, 8) 1367 i fyd sydd well i fyw,
(2, 8) 1368 gan wenu ar ei stormydd oll:
(2, 8) 1369 fy Nhad sydd wrth y llyw.
(2, 8) 1370 ~
(2, 8) 1371 Trwy leoedd geirwon, enbyd iawn,
(2, 8) 1372 a rhwystrau o bob rhyw
(2, 8) 1373 y'n dygwyd eisoes ar fy nhaith:
(2, 8) 1374 fy Nhad sydd wrth y llyw.
(2, 8) 1375 ~
(2, 8) 1376 Er cael fy nhaflu o don i don,
(2, 8) 1377 nes ofni bron cael byw,
(2, 8) 1378 dihangol ydwyf hyd yn hyn:
(2, 8) 1379 fy Nhad sydd wrth y llyw.
(2, 8) 1380 ~
(2, 8) 1381 Ac os oes stormydd mwy yn ôl,
(2, 8) 1382 ynghadw gan fy Nuw,
(2, 8) 1383 wynebaf arnynt oll yn hy:
(2, 8) 1384 fy Nhad sydd wrth y llyw.
(2, 8) 1385 ~
(2, 8) 1386 A phan fo'u hymchwydd yn cryfhau,
(2, 8) 1387 fy angor, sicir yw;
(2, 8) 1388 dof yn ddiogel drwyddynt oll:
(2, 8) 1389 fy Nhad sydd wrth y llyw.
(2, 8) 1390 ~
(2, 8) 1391 I mewn i'r porthladd tawel, clyd,
(2, 8) 1392 o sŵn y storm a'i chlyw
(2, 8) 1393 y caf fynediad llon ryw ddydd:
(2, 8) 1394 fy Nhad sydd wrth y llyw.
(2, 8) 1395 ~
(2, 8) 1396 [Ieuan Glan Geirionydd]
 
(2, 12) 1572 856 (Caneuon Ffydd)
(2, 12) 1573 ~
(2, 12) 1574 Arglwydd nef a daear, gariad hollalluog,
(2, 12) 1575 rhyfedd dy ddoethineb a pherffaith yn dy waith;
(2, 12) 1576 cerddaist ar y tonnau drwy y storm gynddeiriog,
(2, 12) 1577 a bu tawelwch wedi'r ddrycin faith.
(2, 12) 1578 ~
(2, 12) 1579 Arglwydd, beth a dalwn am dy faith ffyddlondeb?
(2, 12) 1580 Arwain ni â'th gyngor yn ffordd d'ewyllys fawr,
(2, 12) 1581 dysg i'r holl genhedloedd heddwch a thiriondeb;
(2, 12) 1582 eiddot y deyrnas, Frenin nef a llawr.
(2, 12) 1583 ~
(2, 12) 1584 Maddau, dirion Arglwydd, ddirfawr fai y bobloedd,
(2, 12) 1585 maddau rhwysg annuwiol ein holl benaethiaid ni,
(2, 12) 1586 tywys hwynt i'th lwybrau, Arglwydd Iôr y lluoedd:
(2, 12) 1587 llwybrau hyfrydwch dy gymdeithas di.
(2, 12) 1588 ~
(2, 12) 1589 Maddau, Arglwydd, maddau fyth o'th lân faddeuant
(2, 12) 1590 tardd grasusau nefol y saint o oes i oes;
(2, 12) 1591 maddau, Arglwydd, maddau, casgler er d'ogoniant
(2, 12) 1592 ryfedd gynhaeaf grawnwin pêr y groes.
(2, 12) 1593 ~
(2, 12) 1594 [J. T. Job]