Ciw-restr

Cofia'n Gwlad

Llinellau gan Ifan-John (Cyfanswm: 139)

 
(1, 6) 162 Mam?
 
(1, 6) 165 Fyn'na y'ch chi.
 
(1, 6) 169 Sdim ise i chi – o'm rhan i, beth bynnag.
 
(1, 6) 172 Dwi wedi b'yta.
 
(1, 6) 174 Dwi wedi, Mam.
 
(1, 6) 177 Mam – er mwyn popeth – dwi wedi b'yta.
(1, 6) 178 Iawn?
 
(1, 6) 180 Gynne.
(1, 6) 181 Oedd popeth ar y ford 'fo chi.
 
(1, 6) 184 Ma' hast arna'i, Mam.
(1, 6) 185 Wedes i wrthoch chi bore 'ma.
 
(1, 6) 191 Mam, chi'n gw'bod fel ma'r plas 'na.
(1, 6) 192 Dim ond heno s'da hi tan duw-a-ŵyr pryd.
 
(1, 6) 196 Fi'n gw'bod, fi'n gw'bod.
(1, 6) 197 Ond...
 
(1, 6) 203 Sdim sôn am briodi, Mam.
 
(1, 6) 206 S'o Mati'r fath hynny o ferch.
 
(1, 6) 209 Dyw hi ddim!
 
(1, 6) 212 Mam?
(1, 6) 213 Be' sy'n bod heno nawr?
 
(1, 6) 218 Naddo.
 
(1, 6) 220 Ges i ddim cyfle, Mam.
(1, 6) 221 'Sbyth cyfle.
 
(1, 6) 228 Dwi'n was mawr, Mam.
(1, 6) 229 Ddim gwas bach.
 
(1, 6) 233 Ie, a se'n i'n cael y'n ffarm y'n hunan 'run lle fydden i, ontife – gorfod codi 'nghap i fe Pryse y Plas.
 
(1, 6) 235 Dim os fedra'i osgoi.
 
(1, 6) 239 Dwi'n mynd.
 
(1, 9) 343 Wel?
 
(1, 9) 377 Cyn bo hir.
 
(1, 9) 384 Cyn bo hir, wedes i.
 
(1, 9) 406 Falch clywed.
 
(1, 9) 411 Y'n nala i 'nôl?
 
(1, 10) 418 Dafydd.
 
(1, 10) 423 Boi recriwtio?
 
(1, 10) 428 O'dd hi ddim yn hapus, debyg.
 
(1, 10) 431 Ie.
(1, 10) 432 Wi'n gwbod.
 
(1, 10) 435 Na.
(1, 10) 436 Dim.
(1, 10) 437 Ti'n mynd 'nôl 'wan?
 
(1, 10) 444 Ddim yn gw'bod. Teg edrych tuag adre, siŵr o fod. Sypreis i Mam.
 
(1, 10) 446 Gwella?
 
(1, 10) 448 Nagoedd-hi?
 
(1, 10) 452 Dafydd, mae'n bryd i ti stopio gwneud hynny.
 
(1, 10) 454 Ymddiheuro drwy'r amser.
(1, 10) 455 Am ddim rheswm.
(1, 10) 456 Dim fel arfer.
 
(1, 10) 460 Gw'bod beth, Dafydd?
 
(1, 10) 462 Mynd?
 
(1, 10) 464 Dafydd!
(1, 10) 465 Ti!
 
(1, 10) 469 Mister Gwerth-dim-byd-i...
(1, 10) 470 Wyt ti'n sgolor, 'chan.
(1, 10) 471 Yn y coleg.
(1, 10) 472 Mynd yn athro.
(1, 10) 473 Prifathro, siŵr o fod.
(1, 10) 474 'Sdim ise i ti fynd.
(1, 10) 475 'Sneb yn disgwyl i ti fynd.
(1, 10) 476 Ti ddim y teip i fynd.
 
(1, 10) 478 Wel pam gythrel!...
 
(1, 10) 480 Wi ddim yn grac.
(1, 10) 481 Wi'n...
 
(1, 10) 484 Ie.
(1, 10) 485 O-reit.
(1, 10) 486 Falle mod i.
(1, 10) 487 Ond...
(1, 10) 488 Beth ma' hwn ambiti?
(1, 10) 489 Achos dy dad, ife?
(1, 10) 490 Fe sy'n pwyso?
(1, 10) 491 O'n i'n meddwl bod e ddim yn pwyso.
 
(1, 10) 495 Wel mae'n pwyso ar bawb arall.
 
(1, 10) 501 O.
(1, 10) 502 Mi wela' i.
 
(1, 10) 504 Wyt ti wedi gweud wrtho 'to?
 
(1, 10) 506 Ie.
 
(1, 10) 509 Bydd hynny'n werth ei weld.
(1, 10) 510 Gweld ei ymateb.
 
(1, 10) 512 Beth am dy fam?
 
(1, 10) 515 Gwd.
(1, 10) 516 Paid.
(1, 10) 517 Weda'i ddim gair.
(1, 10) 518 Bydd neb ddim callach.
 
(1, 10) 521 Dafydd, Dafydd...
 
(1, 10) 527 Wyt.
(1, 10) 528 Mi wyt ti, ond-wyt-ti.
 
(1, 10) 530 Pryd te?
(1, 10) 531 Pryd wyt ti'n mynd?
 
(1, 10) 536 Ddim 'to.
 
(1, 10) 539 Ie.
(1, 10) 540 Ow'n i wedi meddwl.
 
(1, 10) 543 Naddo.
(1, 10) 544 Wnes i ddim.
 
(1, 10) 547 Dafydd, wyt ti'n gw'bod mod i'n mynd.
(1, 10) 548 Wi wedi gweud 'ny ers y cychwyn cynta'.
(1, 10) 549 Cyn i John Cwm Bach a Meical Fallon a'r bois 'na i gyd fwrw gered.
(1, 10) 550 'Mhell cyn 'ny.
 
(1, 10) 552 Mowredd y byd!
(1, 10) 553 Co ti 'to.
(1, 10) 554 Ymddiheuro.
 
(1, 10) 558 Am f'atgoffa o beth dwi wedi ffaelu 'wneud – ei chael hi mor anodd i wneud.
(1, 10) 559 Amhosib.
(1, 10) 560 Bob tro dwi'n eistedd wrth y ford swper 'na.
(1, 10) 561 Bob tro.
(1, 10) 562 Meddwl: dwi'n mynd i weud heno.
(1, 10) 563 Dwi'n mynd i.
(1, 10) 564 A wedyn mae'n gweud rhywbeth.
(1, 10) 565 Rhyw stori ambiti hi'n ferch ifanc.
(1, 10) 566 Neu ryw hanner stori mae hi wedi clywed am ffarm fydd yn dod yn rhydd a bod Pryse yn whilo am fachgen ifanc, rhywun â syniadau yn ei ben – fydd yn gallu 'neud rhywbeth o'r lle.
(1, 10) 567 Rhywun 'nunion fel fi, wrth gwrs.
(1, 10) 568 Yn union fel fi!
(1, 10) 569 Mam fach!
 
(1, 10) 573 O ie.
(1, 10) 574 Dim ond fi!
 
(1, 10) 578 A nawr - bydd raid i fi 'weud, on-fydd-e. – Oni bai bo' ti'n mynd i newid dy feddwl.
 
(1, 12) 610 Ie, Mam.
 
(1, 12) 612 Mam...
 
(1, 12) 617 Mam, dewch 'ma am funud.
 
(1, 12) 619 Na.
(1, 12) 620 Nawr, Mam – plîs.
 
(1, 12) 623 Na-na-na.
(1, 12) 624 Nawr.
 
(1, 12) 627 Er mwyn popeth!
(1, 12) 628 Ma' rhywbeth 'da fi i 'weud!
 
(1, 12) 631 Ma' rhywbeth 'da fi i 'weud!
 
(1, 15) 769 Mae popeth gen' i, Mam...
(1, 15) 770 Odw, dwi'n siŵr...
(1, 15) 771 Bydd inc yn y baracs...
(1, 15) 772 Oedd hi'n gweud yn y papurach ges i.
(1, 15) 773 Dangoses i chi...
(1, 15) 774 Odw, dwi'n siŵr...
(1, 15) 775 Ie, ond beth os torrith y botel – y caead yn dod yn rhydd...
(1, 15) 776 Odi ma'r ffownten pen gen i...
(1, 15) 777 Yr un ges i 'da Dad-cu...
(1, 15) 778 Yr un gore, ie...
(1, 15) 779 Gwnaf, Mam...
(1, 15) 780 Odw, dwi'n gw'bod...
(1, 15) 781 Drychwch, ma' rhaid i fi fynd.
(1, 15) 782 Ma' rhaid...