Ciw-restr

Cyfyng-Gyngor

Llinellau gan Ann (Cyfanswm: 124)

 
(1, 0) 19 Gennych chi mae gwaith egluro, 'rwy'n credu.
 
(1, 0) 23 Ystyriwch eto.
 
(1, 0) 26 Nid chware plant mono fo.
(1, 0) 27 'Rwy' o ddifri'.
 
(1, 0) 30 'Does yna ddim camgymeriad o fath yn y byd.
 
(1, 0) 33 'Doedd gen'i ddim dewis.
(1, 0) 34 'Roedd yn rhaid i mi ddwad yma.
 
(1, 0) 36 Oeddech chi ddim yn fy nisgwyl?
 
(1, 0) 38 'Ddylech chi ddim gofyn hynna.
(1, 0) 39 'Rydych yn fy 'nabod i'n well na neb.
 
(1, 0) 42 Edrychwch arna' i eto—yn fanwl.
 
(1, 0) 45 Wel, 'ydych chi'n fodlon?
 
(1, 0) 48 'Dydy' hynna ddim yn wir.
(1, 0) 49 Pam na wnewch chi gyfadde'?
 
(1, 0) 54 Ac eto mae yna anesmwythyd yn eich meddwl.
(1, 0) 55 Fel pe baech yn teimlo y dylech f'adnabod.
(1, 0) 56 Ond ar yr un pryd, yn ofni beth fyddai hynny'n 'i olygu.
 
(1, 0) 59 'Fynnwch chi ddim deall, yn hytrach...
(1, 0) 60 O'r gora' rhaid wrth braw' felly.
(1, 0) 61 'Ydy' o'n wir mai Awdur ydych chi?
 
(1, 0) 63 A'r foment yma 'rydych wrthi'n sgrifennu drama?
 
(1, 0) 66 'Rwy'n gwybod cymaint â chwitha' pob tipyn,—mwy efallai.
(1, 0) 67 'Rwy'n gwybod er enghraifft i chi fod mewn cyfyng-gyngor ers rhai misoedd.
(1, 0) 68 Rydych wedi sgrifennu hanner eich drama ond fedrwch chi'n eich byw fynd ymlaen.
(1, 0) 69 'Fedrwch chi mo'i gadael hi chwaith, er i chi drio fwy nag unwaith.
(1, 0) 70 'Rydych yn gwingo mewn rhwyd.
(1, 0) 71 A pho fwyaf y gwingwch, tynna'n y byd y'ch clymir yn y rhaffau...
(1, 0) 72 Ydych chi'n dechra' gylweddoli pwy ydw' i?
 
(1, 0) 75 'Ellwch chi ddim gwadu tystiolaeth eich llygaid eich hun.
(1, 0) 76 Edrychwch ar fy llaw.
(1, 0) 77 Teimlwch wres bywyd yn 'i chnawd, a churiad y gwaed yn 'i gwythiennau.
 
(1, 0) 79 Pam 'rydych chi'n petruso?
(1, 0) 80 'Wna'i ddim niwed i'r sawl a'm creodd!
 
(1, 0) 82 'Mod i'n un o gymeriadau eich drama, a fy mod i'n fyw.
 
(1, 0) 84 Ann Morgan, ia.
(1, 0) 85 Wyth ar hugain oed, ac yn wraig i Lewis ers pedair blynedd.
(1, 0) 86 'Roedde' ni'n byw yng Nghaerdydd nes i'w iechyd dorri i lawr,— ydych chi'n cofio?
(1, 0) 87 Dyna pam y daethom yma wyth mis yn ôl, i aros efo'i dad...
 
(1, 0) 90 Yma, debyg iawn, yn hen blasty-fferm "Llwyn Bedw".
 
(1, 0) 100 Lewis, mae o'n trio'n cadw ni allan!
 
(1, 0) 104 Ond fyn o ddim coelio, Lewis.
 
(1, 0) 124 Seth—!
 
(1, 0) 137 A pha fath ar enedigaeth ydy' o, os ydych yn gwadu bodolaeth y sawl a enir?
 
(1, 0) 178 Mae o'n wir.
(1, 0) 179 Ychydig cyn i chi ddwad i mewn, 'roedd o'n gwadu'n bodolaeth ni.
 
(1, 0) 194 Beth ydych chi'n 'i olygu wrth "Awen"?
 
(1, 0) 236 Os ydych yn credu hynna, ewch ati.
(1, 0) 237 Buan iawn y gwelwch eich camgymeriad.
(1, 0) 238 Nid cymeriadau o gig a gwaed fyddai gennych ar ddiwedd y daith.
(1, 0) 239 I chwi mae'r dewis.
(1, 0) 240 Os ydych yn fodlon ar bypedau'n dawnsio ar ben llinyn popeth yn iawn, ewch ati,—sgrifennwch.
(1, 0) 241 Ac ar ôl i chi orffen eich tipyn drama, taflwch hi i'r tân o gywilydd!
(1, 0) 242 Hwyrach y byddwch yn barotach wedyn i gydnabod a pharchu'n personoliaeth.
 
(1, 0) 333 'Rydy' ni wedi trafod hynna'n barod.
 
(1, 0) 347 Pa faint gwell fyddwch chi?
(1, 0) 348 'Ellwch chi ddim dianc rwan, mae'n rhy hwyr.
 
(1, 0) 400 Dowch, 'steddwch i lawr.
(1, 0) 401 Mae'n siŵr eich bod wedi blino.
 
(1, 0) 407 Mae hi'n aros yma.
 
(1, 0) 458 P'run gymrwch chi i
 
(1, 0) 473 'Rydym wedi ystyried popeth.
(1, 0) 474 Ein cyfrifoldeb ni ydy'r dyfodol.
(1, 0) 475 Does arno' ni ddim ofn ei wynebu.
 
(1, 0) 492 Yn rhydd!
 
(1, 0) 512 Gadwch iddi, Seth.
 
(1, 0) 528 Hidiwch befo, Sioned.
(1, 0) 529 Mi wna' fi.
(1, 0) 530 Ewch i'r gegin i wneud 'panaid i chi'ch hun.
(1, 0) 531 Rwy'n siwr na chymrwch chi ddim o hwn.
 
(1, 0) 545 Beth am...?
 
(1, 0) 550 O wel... Mabli?
 
(1, 0) 576 'Chwaneg o win, Mabli?
 
(1, 0) 579 Mor fuan?
 
(1, 0) 581 Ond!
 
(1, 0) 597 Ond 'rydym yn siŵr o gyfarfod eto?
 
(1, 0) 613 Ond pam?
(1, 0) 614 'Does yna ddim rhinwedd mewn diodde' poen ag ymgeledd wrth law.
 
(1, 0) 617 'Dwy' i ddim yn deall.
 
(1, 0) 623 Lewis?
 
(1, 0) 625 Ai dyna'r unig reswm pam 'roeddech chi'n dewis eich rhyddid?
 
(1, 0) 633 Ar ddim yn neilltuol...
(1, 0) 634 Cysgodion yn y dŵr, patrwm y dail ar yr awyr...
(1, 0) 635 Mae yna greyr-glas draw acw'n hedfan i'r mynydd: arwydd o 'law, medda' nhw.
 
(1, 0) 648 Ple y rhowch chi o?
 
(1, 0) 686 'Ydych chi'n meddwl 'i fod o'n gwella?
 
(1, 0) 688 'Oeddech chi'n dweud y gwir?
 
(1, 0) 693 'Gymrwch chi lymaid arall o win?
 
(1, 0) 698 O, dim ond Medoc...
(1, 0) 699 A'r diferion olaf, 'rwy'n ofni!
 
(1, 0) 704 Ia?
 
(1, 0) 709 A'r afon yn genlli'.
(1, 0) 710 'Roedde' ni'n meddwl na fedrech chi byth ddwad yma.
(1, 0) 711 A minnau'n poeni am Lewis.
(1, 0) 712 Ac yn credu 'i fod o ar fin... marw.
 
(1, 0) 716 Gawn ni—?
 
(1, 0) 719 'Wn i ddim.
(1, 0) 720 Hapusrwydd efallai,—na, gwell peidio.
 
(1, 0) 722 Ofn digio Ffawd, hwyrach.
 
(1, 0) 725 Ia, ond mae hapusrwydd yn beth mor wibiog.
(1, 0) 726 Mae yna beryg' i ni fethu â chael gafael ynddo wedi'r cyfan.
 
(1, 0) 730 Maddeuwch i mi.
(1, 0) 731 'Ddylwn i ddim swnio mor bruddglwyfus.
 
(1, 0) 733 A 'dydw'i ddim wedi diolch i chi eto am eich caredigrwydd yn ystod y misoedd d'wetha' yma.
 
(1, 0) 736 Fe wnaethoch lawer mwy na hynny.
 
(1, 0) 740 Wn i ddim ydych chi wedi sylwi ar y llun yma o'r blaen?
 
(1, 0) 742 Copi ydy' o, wrth gwrs.
(1, 0) 743 Y gwreiddiol gan Filippo Lippi, 'rwy'n credu.
(1, 0) 744 Fe wyddoch beth ydy' o?
 
(1, 0) 747 Mae Lewis yn meddwl y byd ohono fo.
 
(1, 0) 749 'Dydy' ni ddim wedi yfed ein gwin.
 
(1, 0) 752 Nes beth?
 
(1, 0) 754 Digon hawdd tostio Rhyddid unwaith yn rhagor.
 
(1, 0) 762 Fedrwn ni ddim ateb dros y lleill.
 
(1, 0) 764 Sut felly?
 
(1, 0) 768 Abram Morgan a Sioned?
 
(1, 0) 775 'Does yna ddim i' fadda'.
 
(1, 0) 779 Dianc.
 
(1, 0) 781 Oddi wrth fywyd oedd wedi troi'n ddiffaethwch...
 
(1, 0) 784 O, mi driais ei wynebu, Duw a ŵyr.
(1, 0) 785 Ond yn y diwedd...
 
(1, 0) 792 Mi wn i hynny ers tro, John.
(1, 0) 793 'Fedrech chi mo'i guddio'n llwyr...
(1, 0) 794 'Does dim rhaid i chi drio'i guddio rwan.
 
(1, 0) 797 'Ydych chi'n cofio am y llwnc-destun?