Ciw-restr

Cythraul y Canu

Llinellau gan Martha (Cyfanswm: 23)

 
(0, 1) 128 Na, cer di, Siencyn bach.
(0, 1) 129 Deuaf fi ym mraich Marged Elen.
 
(0, 1) 133 Siencyn!
 
(0, 1) 135 Gofala di, nawr.
(0, 1) 136 Gwrando di beth yr wyf fi yn ddweud wrthot tì.
(0, 1) 137 Paid ti a gadael iddynt i gael eu ffordd yn y cyfarfod heno.
(0, 1) 138 Gormod o'u ffordd mae y tacle brwnt wedi ei gael.
 
(0, 1) 141 Ie, a mi siarada i hefyd, gallant fentro.
(0, 1) 142 'Does dim un côr i fyned oddiyma i Gaerdydd {gellir newid hwn drwy y gomedi am y lle y cynbelir yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf} os nad wyt ti'n cael arwain.
(0, 1) 143 Neu bydd yma 'randibw' i gael.
 
(0, 1) 146 Llonydd, yn wir!
(0, 1) 147 Be ti'n whalu groten?
(0, 1) 148 Dy dad wedi slafio fel hyn, a hynny cyn dy eni di, wrth yr hen ganu yma, a dyma'r parch y mae'n gael eto.
(0, 1) 149 Codi'r hen "split" yna a sbwylio côr dy dad.
(0, 1) 150 Cywilydd iddynt.
 
(0, 1) 155 Ie, a gofala di na bo ti yn rhoi dy hunan yn glwtyn llestri yn eu llaw hwynt.
(0, 1) 156 Sych dy wyneb cyn myned i fewn.
(0, 1) 157 'Does dim eisiau i bawb wybod mai bwdran gest ti i swper.
(0, 1) 158 Mentraf fi y bydd yr hen Delorydd bach yna yn ei 'guffs' a'i goler yn 'spic a span.'
 
(0, 1) 161 Ie, a'r hen groten Priscila yna.
(0, 1) 162 Mae'n gas gen i ei chlywed.
(0, 1) 163 Wedi bod am chwe mis yn Llundain yn gwerthn calico, ac wedi anghofio'i Chymraeg.
(0, 1) 164 Ych y fi!