Ciw-restr

Cythraul y Canu

Llinellau gan Simon (Cyfanswm: 68)

 
(0, 1) 9 Diolch, diolch.
(0, 1) 10 'Dyw'r hen ffenestri yma ddim cyn gliried ag y buont, frawd bach.
(0, 1) 11 Mae pedwar ugain mlynedd wedi tywyllu cryn dipyn arnynt.
 
(0, 1) 14 Nad yw, nad yw.
(0, 1) 15 Dipyn yn hwp-di-hap yw hi arna i yn awr.
(0, 1) 16 Ond bu gen i lygaid unwaith fel llygaid cath.
(0, 1) 17 Pe byddai y nos cyn ddued a bola buwch ddu, fe ffeindiwn y ffordd i'r Ysgol Gân ac i'r Cwrdd Gweddi.
 
(0, 1) 20 Pup, pup.
(0, 1) 21 Welais i erioed ffashwn beth: erioed ffashwn beth.
(0, 1) 22 Mae y cyfan yn fflwch-di-fflach, ac yn higgle-di-pigledi.
(0, 1) 23 Ydyw, gwir ddyn byw.
(0, 1) 24 Bawo sut beth!
 
(0, 1) 26 Wn i ddim faint o gythreuliaid sydd yn rhydd ar y ddaear yma, ond rwy'n credu hyn, mai y gwaethaf o'r adar duon i gyd yw "Cythraul y Canu."
(0, 1) 27 Be wedwch chwi, syr?
 
(0, 1) 30 'E fu yma gôr canu yn y lle unwaith, o dan arweiniad Shanko'r teiliwr, oedd yn ddiguro bron.
 
(0, 1) 32 Ac yr oedd y teiliwr yn arweinydd, syr.
(0, 1) 33 Hynny yw, os y gallech chwi ddygymod â'i ystumiau ef.
(0, 1) 34 Y gwir ag e, fe dynnai'r hen deiliwr ganu allan o byst llydiard, ac fe'i tyn ef eto.
(0, 1) 35 Mae gweled y teiliwr yn arwain côr yn hala rhywbeth trwyddo chwi fel pe tae chwi mewn mashin wynegon.
 
(0, 1) 39 Mae'r hen frest yma'n gyfyng, fachgen.
(0, 1) 40 Gadewch i ni gael anadl, a mygyn cyn myned i mewn.
 
(0, 1) 43 Ie, ie, a piti garw; fe ddaeth cythraul y canu i fewn i'r côr, ac fe aeth yn ffrwgwd yma fel y gwyddoch.
(0, 1) 44 Ac fe gododd y côr "split" yna o dan arweiniad Telorydd, a byth oddiar cychwyniad y côr "split" mae wedi bod yn "civil war" yma.
(0, 1) 45 Ydi, gwir ddyn byw.
 
(0, 1) 48 Am Shanko'r Tilwr, arweinydd yr hen gôr, bu dim o'i well ef mewn crys erioed.
(0, 1) 49 Am Telorydd, arweinydd y côr newydd, mae fel y dur, yn ben cerddor ac yn ben arweinydd cor.
 
(0, 1) 51 Dynion!
(0, 1) 52 Pup, pup.
(0, 1) 53 Dywedwch 'menywod,' os daw cythraul y canu fewn i gôr, ellwch chwi fentro mai ymhlith y sopranos neu yr altos y dechreua â'i antics.
 
(0, 1) 55 Mae gennyf bob parch i fenyw, cofiwch chwi.
(0, 1) 56 Menyw oedd mam, a menyw oedd Nansi, fy ngwraig, ac ni fu erioed eu gwell, ond fe wnaeth menyw gawl o'r fusnes gyntaf hynny yn Eden, ac y mae'n gwneuthur cawl o bethau oddiar hynny.
 
(0, 1) 59 Yn corddi y cyfan, syr.
 
(0, 1) 61 Rwy'n credu mod i wedi gweled y ffordd allan o'r dyryswch, syr.
 
(0, 1) 63 Mae Telorydd a Marged Elen yn caru, syr.
 
(0, 1) 69 Mae e mor wir â phader, syr.
(0, 1) 70 Mae'r hen Simon yn myned yn hen, ond dim yn rhy hen i sylwi ar y caru yma.
(0, 1) 71 Gwelais y ddau neithiwr ddiweddaf efo'i gilydd ar lwybr y Waun, ac yr oedd e yn ei chofleidio hi'n deidi.
 
(0, 1) 75 Pup, pup!
(0, 1) 76 Yn y fan yna 'rych chwì eto, y dyn!
(0, 1) 77 Pan welwch chwi fab a merch yn cerdded ym 'mreichiau ei gilydd, ac yn aros bob rhyw gan llath i gofleidio neu gusanu, mae yna rywbeth yn y gwynt heb law siarad am y Gymdeithas Ddiwylliadol.
(0, 1) 78 Chlywais i erioed sut beth.
 
(0, 1) 80 Dim gwec.
(0, 1) 81 Cyn belled ag y gwn i, na neb yn y lle ychwaith.
(0, 1) 82 Maent yn gyfrwys ofnadwy efo'u caru.
 
(0, 1) 85 Un o'r goreuon, fachgen; un o'r goreuon.
(0, 1) 86 Mae Marged Elen yn meddwl yn gyntaf ac yn siarad wedyn.
(0, 1) 87 Mae llawer o'r rhocesi heddiw yn siarad yn gyntaf ac yn meddwl wedyn.
 
(0, 1) 89 Rhaid i ni ymddibynnu ar Marged Elen, ynte.
(0, 1) 90 Rhaid i ni dynnu ar y llinyn yna, fachgen.
(0, 1) 91 Cariad ni chwymp ymaith."
 
(0, 1) 95 Ie, treiwn hi, treiwn hi.
(0, 1) 96 Pwy sy yna?
(0, 1) 97 Fe credais i mod i'n clywed swn.
 
(0, 1) 100 O!
(0, 1) 101 Wil bach, ai ie fe?
(0, 1) 102 Gynneuaist ti y gole yn y festri?
 
(0, 1) 105 Wel, be sy gennyt ti i ddweud, Wil bach?
(0, 1) 106 Yr wyt yn ŵr da am glecs ynghylch y corau yma.
 
(0, 1) 110 Be gest ti i feddwl hynny?
(0, 1) 111 Pup, pup.
 
(0, 1) 113 Be ti'n whalu, bachan?
(0, 1) 114 Glywais i erioed sut beth!
(0, 1) 115 Pup, pup.
 
(0, 1) 117 Pup, pup.
(0, 1) 118 Chlywais i erioed ffashwn beth.
 
(0, 1) 120 Pup, pup.
(0, 1) 121 Chlywais i erioed ffashwn beth.
(0, 1) 122 Erioed ffashiwn beth.