Ciw-restr

Deufor-Gyfarfod

Llinellau gan Price (Cyfanswm: 72)

 
(1, 0) 40 Wel, diolch i'r mawredd, dyna hwnna wedi 'i gwpla.
(1, 0) 41 Rwy'i wedi sgrifennu at Lizzie Ann.
(1, 0) 42 Fe fydd nol yma ddydd Llun.
 
(1, 0) 45 Wel, fe fydd nol ddydd Llun, ta beth.
 
(1, 0) 48 Dyna falch wy'i 'mod i wedi cwpla'r ddou lythyr yna.
(1, 0) 49 Dyna jobyn nad oes geni gynnig iddo─sgrifennu llythyron.
(1, 0) 50 Am na ches i fawr o ysgol ariod depig.
 
(1, 0) 53 Wel am otw, merchi.
(1, 0) 54 O'r diwadd!
 
(1, 0) 58 Do, merchi, fe wetas hynny.
 
(1, 0) 62 Paid â becso, Gwen fach.
(1, 0) 63 Mynd fydd ora ar 'i les e.
(1, 0) 64 Roet ti dy hunan yn clwad Dr. Willie Jenkins yn gweyd pwy ddydd yma mai'r rhan yna o Australia yw'r man gora yn y byd i ddyn yn y |decline|.
(1, 0) 65 Lwc fawr oedd i Myfanwy gisho gita ni i hela fe mas yno, a hitha'n gwpod 'i fod e'n dost.
 
(1, 0) 69 Wel, am do, Gwen, wrth gwrs hynny!
 
(1, 0) 73 Ond meddwl, Gwen fach, beth fydd y canlyniad!
(1, 0) 74 Dim ond cwpwl bach o flynydda, yna wedi'r holl weddïo taer a cholli dagra, fe ddaw nol atom ni eto─yn ddyn cryf ac iach!
 
(1, 0) 80 Shwd mae spelian "endeavouring," Gwen?
 
(1, 0) 87 Ho'n wir!
(1, 0) 88 A gatal i ŵr Myfanwy feddwl 'mod i'n ffaelu wilia Sisnag, a ninna ddim yn wilia â'n gilydd pan madawson' nhw â Aberpandy?
(1, 0) 89 Dim perig, wir!
 
(1, 0) 91 Wel, wel, tyswn i ddim ond wedi cal ticyn o ysgol!
(1, 0) 92 O'r cyfla mae'r plant yn 'i gal heddi─|Council School|, yr |Intermediate|, a'r |College|!
 
(1, 0) 96 Yn dishgwl?
(1, 0) 97 Pwy?
 
(1, 0) 104 Gwen fach, rwyt ti byth a hefyd yn meddwl am y bechgyn yma.
 
(1, 0) 112 Ia, dyna ti, y streic...
(1, 0) 113 Un ar ol y nall─streic, streic, streic!
(1, 0) 114 Allsat ti ddim cal ffowlyn ar hen gownt gan Parri'r Fish?
 
(1, 0) 118 Ia, dyna ti!
 
(1, 0) 120 A dyna'r criw mae Lewis ni yn byw ac yn bod gita nhw.
(1, 0) 121 A dyn teidi fel fi sy wedi |Drill Hall| y funad yma yn dewish ymgeisydd Seneddol─a mae nhw'n siwr o ddewish un pert hed!
 
(1, 0) 128 O, fe fydd yn ddicon |respectable| i Myfanwy ni, paid ti ofni hynny.
 
(1, 0) 132 Mae fe rwpath yn depig, mae'n wir.
(1, 0) 133 Ag all neb ama nag oes ganto lais hyfryd.
 
(1, 0) 136 Wel am do!
 
(1, 0) 138 "We are expecting our John Henry back from college─"
 
(1, 0) 141 "From the University in Cardiff to-morrow or the day after.
(1, 0) 142 I think I told you before that he is preparing for the ministry.
(1, 0) 143 He is now in his second year, and next year he will be trying for the B.A."
 
(1, 0) 146 "Perhaps he will study for the B.D. afterwards, but that isn't quite settled yet.
(1, 0) 147 Fortunately─
 
(1, 0) 149 fortunately, he won a County Exhibition, so that we don't have to keep him altogether."
 
(1, 0) 153 Dyna brecath grand roes e inni Nadolig dwetha─precath ardderchog oedd hi.
(1, 0) 154 Doedd Isaac Pugh ddim yn rhyw wresog iawn obeutu hi, ond roedd y diaconiaid erill yn 'i chanmol hi tuhwnt.
 
(1, 0) 156 A hefyd, mae fe mor gyndyn dros roi galwad i Jones Dowlais.
 
(1, 0) 160 Wn i ddim, Gwen, os wyt ti wedi taro ar yr un syniad a finna obeutu'r alwad yma.
 
(1, 0) 164 Wel, fe fyddai'n ardderchog o beth tysa John Henry wedi cwpla yn y Coleg ac yn gallu cymryd yr eclws, on' byddai, Gwen?
 
(1, 0) 171 Dere, Gwen fach, dere.
(1, 0) 172 Does dim iws iti fecso felna.
 
(1, 0) 212 Wel, Gwilym, ffordd mae hi nawr, machan i?
 
(1, 0) 214 Rown i'n gweyd wrth dy fam ar ol cino y dylat ti fynd i orffws am spel bob diwetydd.
 
(1, 0) 235 Yr hen Binkerton yna, spo.
 
(1, 0) 266 Do, fe glywas.
 
(1, 0) 269 Dynon fel fe sy'n felldith i'r wlad yma heddi.
(1, 0) 270 Pwy yw e, sgwn i, i gal 'i hannar addoli?
(1, 0) 271 Rwy' i wedi byw yn y cwm yma nawr am drician mlynadd.
(1, 0) 272 Rwy' i'n cofio Aberpandy cyn byth i'r Powel Griffiths shinco'r pwll cynta.
(1, 0) 273 Rwy'n cofio defid y Pandy'n pori'n dawal lle mae Pwll Bryndu nawr.
(1, 0) 274 A chlywas i ariod sôn am y Pinkerton yma tan ryw ddwy ne dair blynadd yn ol.
 
(1, 0) 278 Eitha gwir, Gwilym, y cwbwl wedi newid, a newid er gwath hed, mae'n flin gen i weyd.
(1, 0) 279 Dyn da, stydi yw Evan Davies, dyn teidi, respectable, ac yn ddiacon ers ucian mlynedd.
(1, 0) 280 Rwy'n cofio'r diwarnod pan ethom ni'n dou i lawr y cwm i weld Gladstone.
 
(1, 0) 282 Ia, yr hen Gladstone!
(1, 0) 283 Dyna ddyn i chi!
(1, 0) 284 A drychwch ar yr hen Binkerton yma.
(1, 0) 285 Glywsoch chi son iddo ariod dywyllu drws capal ne hyd yn oed eclws tysa fatar o hynny?
(1, 0) 286 Pam na wnaiff e gynnal 'i hen gyfarfotydd ar ryw ddiwarnod arall heblaw'r Saboth?
(1, 0) 287 Mae'n ddicon calad i gal pobol i'r capal ar ddydd Sul heb iddo fe gatw 'i hen gyfarfotydd.
(1, 0) 288 "Chwe diwrnod y gweithi," medda'r Gair.
(1, 0) 289 Ond dyna, mae petha felly mas o ddate heddi.
 
(1, 0) 306 Clywas fod William Ewart chi wedi cal hwyl dda arni lan yn Treherbert pwy ddydd Sul 'ma.