Ciw-restr

Y Dyn Drws Nesaf

Llinellau gan Efa (Cyfanswm: 220)

 
(1, 0) 20 Hst!
 
(1, 0) 24 Paid!
 
(1, 0) 26 Ble'r wyt ti wedi bod?
 
(1, 0) 29 Rwyt ti'n hwyrach nag erioed...
(1, 0) 30 Ac yn awr, os gweli di fod yn dda, efallai y caf wrando ar y record.
(1, 0) 31 Mae hi'n wych.
 
(1, 0) 35 Rhaid i ti gymryd pethau'n fwy hamddenol.
 
(1, 0) 40 Os yw hyn'na'n wir, 'wela' i fawr iawn o synnwyr dy fod ti'n lladd dy hunan yn y labordy.
(1, 0) 41 Mi fyddet yn fwy cysurus o lawer gartre.
 
(1, 0) 43 A minnau.
 
(1, 0) 45 Ydyw dy waith di mor bwysig â hyn'na?
 
(1, 0) 48 'R wy'n ceisio dyfalu weithiau, Meurig, pam y priodaist ti o gwbl.
 
(1, 0) 51 Nid fel hyn oedd hi 'r blynyddoedd cyntaf.
(1, 0) 52 Yn yr amser hwnnw fe roddet sylw i mi, yn ogystal ag i'r labordy.
 
(1, 0) 54 Paid â gofidio cymaint.
(1, 0) 55 Mae'r Awdurdodau 'n siwr o roi dy hen swydd yn ôl i ti.
(1, 0) 56 Yr wyt ti'n rhy athrylithgar iddyn' nhw dy anwybyddu di o hyd.
 
(1, 0) 62 Yr wyt ti'n rhy ddiamynedd.
(1, 0) 63 Anghofia'r helynt.
(1, 0) 64 Anghofia bopeth... ond bod gen ti wraig.
 
(1, 0) 66 'Rwy' wedi bod yn unig trwy'r dydd.
 
(1, 0) 68 Efallai.
 
(1, 0) 70 Sut wyt ti'n teimlo'n nawr?
 
(1, 0) 78 Dyna ti o hyd.
(1, 0) 79 Yn rhy uchelgeisiol!
(1, 0) 80 Fe all uchelgais ladd dyn gydag amser.
 
(1, 0) 82 'Rwy' i'n dy gael di'n ddigon, fel ag yr wyt ti.
 
(1, 0) 87 Ac ennill beth?
 
(1, 0) 92 Tybed?
(1, 0) 93 Nid wyf i'n chwennych clod...
(1, 0) 94 Dim ond dy gwmni.
 
(1, 0) 96 Yfory yw hi o hyd.
 
(1, 0) 98 Gwell i mi fynd i'r gegin.
 
(1, 0) 100 Lol!
(1, 0) 101 A thra bydda' i'n paratoi'r swper 'rwyf am glywed y miwsig unwaith eto.
(1, 0) 102 Mi fydd Josef draw cyn hir yn gofyn fy marn i am y record.
 
(1, 0) 105 Mae e'n siwr o ddod.
(1, 0) 106 Fe wyddost yn burion fel mae e'n hoffi dod draw am sgwrs bob nos cyn mynd i'r gwely?
 
(1, 0) 108 Rwy'n teimlo trueni drosto.
 
(1, 0) 110 Mi fyddi di'n gwrtais os daw e'?
 
(1, 0) 113 Yr wyf i'n hoffi'r dyn.
 
(1, 0) 115 Pam na all dau berson fod yn gyfeillgar?
 
(1, 0) 118 Gad iddyn' nhw siarad!
(1, 0) 119 Beth yw'r ots?
(1, 0) 120 Yr wyt ti'n deall yn iawn y berthynas sydd rhyngof i a Josef, a dim ond hynny sy'n cyfrif.
 
(1, 0) 122 Naddo.
(1, 0) 123 Mae nhw'n perthyn i'm byd i, ac yn anffodus mae hwnnw allan o'th gyrraedd di.
 
(1, 0) 125 Nage.
(1, 0) 126 Nid arnaf i mae'r bai.
(1, 0) 127 'Rwy' wedi ceisio deall dy ddiddordebau di, ond wedi methu.
(1, 0) 128 Oes syndod yn hynny?
(1, 0) 129 Ches i mo 'mreintio â'th allu di.
(1, 0) 130 Ond beth amdanat ti?
(1, 0) 131 Yr ŷm ni'n dau wedi bod yn briod wyth mlynedd... wyth mlynedd i heddi'.
 
(1, 0) 137 Dyna oedd dy esgus di y llynedd hefyd.
(1, 0) 138 Ond paid â hidio.
(1, 0) 139 Fe ges un anrheg i'm hatgoffa i o'r diwrnod braf hwnnw, wyth mlynedd yn ôl.
 
(1, 0) 141 Y record.
 
(1, 0) 143 Anrheg i ni'n dau.
 
(1, 0) 147 Efallai mai fi.
(1, 0) 148 'Wn i ddim.
(1, 0) 149 Rhaid dy fod ti neu fi wedi cyfeirio at y dyddiad rywbryd neu'i gilydd yn ei gwmni.
 
(1, 0) 151 Beth yw'r ots pwy?
 
(1, 0) 155 'Dyw hyn'na ddim yn wir!
 
(1, 0) 157 Nag wyf.
(1, 0) 158 Dim ond dy ddisgrifiad rhagfarnllyd di!
 
(1, 0) 160 Ble mae'r gwyddonydd wedi dianc heno?
(1, 0) 161 Ti sydd wedi bod yn pregethu gogoniant rhesymeg ar hyd dy oes!
(1, 0) 162 Yn awr yn condemnio dyn, a hynny dim ond achos dy anallu di i ffrwyno teimladau ynfyd.
 
(1, 0) 165 Ond dyna hyfryd i feddwl fod gen ti deimladau o gwbl.
(1, 0) 166 Oes posibl fod yna galon wedi'r cyfan yn curo o dan darian blwm y gwyddonydd niwclar?
(1, 0) 167 Fe gredais hynny wyth mlynedd yn ôl.
 
(1, 0) 169 Yr unig fyd o werth.
(1, 0) 170 Byd sydd ymhell iawn o'th fyd di,... a'th fydoedd.
 
(1, 0) 172 A luchiwyd byd bach newydd i fyny i'r gwagle heddiw?
(1, 0) 173 Naddo?
(1, 0) 174 Wel, wel.
(1, 0) 175 Beth ych chi wedi bod yn ei wneud yn y labordy heddi'?
(1, 0) 176 Yn ceisio dod o hyd i ffordd newydd, fwy effeithiol o ddifetha'r byd hwn?
(1, 0) 177 Hynny efallai?
 
(1, 0) 179 Fe ddaw 'nawr.
(1, 0) 180 Paid â dweud dy fod ti'n awyddus i'w weld e'?
 
(1, 0) 185 A hynny am nad ydym yn siarad yr un iaith.
(1, 0) 186 Yr wyt ti'n byw ym myd gwyddoniaeth a dinistr, a minnau ym myd celfyddyd,—y byd creadigol.
 
(1, 0) 189 Meurig!
 
(1, 0) 196 Dianc i chwilio am ryddid!
 
(1, 0) 199 A chael ei ladd!
(1, 0) 200 Fe wyddost mai carchar neu farwolaeth sy'n aros Josef os aiff e 'nôl!
 
(1, 0) 209 Beth... beth wyt ti'n feddwl?
 
(1, 0) 213 Yr wyt ti wedi colli dy swydd!
 
(1, 0) 217 Dim...
(1, 0) 218 Dim ond dy fod ti'n grwgnach weithiau, dy fod ti'n cael cam.
 
(1, 0) 220 Beth sydd yn mynd i ddigwydd i ti 'nawr?
 
(1, 0) 222 I ble'r ei di?
 
(1, 0) 224 A 'nawr 'rwy' i'n cael gwybod!
 
(1, 0) 226 Yr wy' i'n hapus 'ma.
 
(1, 0) 228 Bod gyda'n gilydd.
 
(1, 0) 288 Beth am dy swper, Meurig?
 
(1, 0) 290 Newydd ddod adre mae e'.
(1, 0) 291 Efallai yr hoffech chithau rywbeth 'i fwyta?
 
(1, 0) 294 Cewch siwr.
 
(1, 0) 333 Naddo.
(1, 0) 334 Diolch... am yr anrheg.
 
(1, 0) 345 Mae e'n bechod mawr.
 
(1, 0) 352 Mae gen i ben tost.
 
(1, 0) 362 Gadewch iddo chwarae.
 
(1, 0) 364 Oeddwn, rywle yn fy isymwybod.
 
(1, 0) 367 Y pen tost 'ma.
 
(1, 0) 369 Mae e' wedi bod gen i trwy'r dydd.
 
(1, 0) 373 'Ches i ddim mo'r pen tost 'ma llynedd, a welais i ddim blodau y pryd hwnnw chwaith.
 
(1, 0) 376 Efallai na fydd yfory.
 
(1, 0) 380 Dim ond gofid.
(1, 0) 381 Hyd yn hyn 'rwyf wedi llwyddo i gadw 'ngofiadau o dan ddisgyblaeth,—diolch i chi a ddaeth â diddordebau newydd, pwysig i mi.
(1, 0) 382 Ond heno 'wnaiff y rheiny ddim mo'r tro.
 
(1, 0) 384 Dim, Josef.
 
(1, 0) 386 Pa faint o amser ych chi wedi bod yn byw yn y pentre' 'ma erbyn hyn?
 
(1, 0) 389 A minnau.
(1, 0) 390 Gallwn feddwl fy mod i wedi 'ch 'nabod chi erioed.
(1, 0) 391 Pam tybed?
 
(1, 0) 393 Ond eto i gyd fe wn i ond ychydig iawn amdanoch chi.
(1, 0) 394 Dim byd am 'ch hanes chi.
 
(1, 0) 396 Nid dyna farn y byd.
(1, 0) 397 Mae'r byd... yr Awdurdodau wedi ein cofrestru ni i gyd erbyn hyn, gyda llwyddiant ein dyfodol yn dibynnu ar burdeb ein gorffennol.
(1, 0) 398 'Does dim lle i neb sydd wedi pechu yn erbyn y Wladwriaeth.
(1, 0) 399 Rwy'n gwybod.
(1, 0) 400 Mae Meurig wedi gorfod dioddef am iddo siarad gormod.
(1, 0) 401 Dim ond unwaith.
(1, 0) 402 Ond yr oedd yn ddigon.—Ond beth am 'ch hanes chi?
 
(1, 0) 404 Yr ych chi'n gweld fel mae pethau wedi newid yn y tŷ hwn, a hynny mewn byr amser?
 
(1, 0) 406 Croesholi!
(1, 0) 407 Dyna fesur y ffordd yr ŷm ni wedi dod o'ch byd chi.
(1, 0) 408 Yr ŷm ni yn y byd sydd o'n cwmpas ni 'nawr, y byd lle mae pawb yn drwgdybio 'i gilydd.
 
(1, 0) 417 'Wn i ddim.
(1, 0) 418 Mae'r labordy yma, a hwnnw yw duw mawr y gymdogaeth, yn rhoi gwaith ac yn addo'n dda.
 
(1, 0) 421 Bywyd unig.
 
(1, 0) 424 Mi fyddai hynny'n ormod i'w ddisgwyl.
 
(1, 0) 428 Ond fi sydd yn 'ch dyled chi!
(1, 0) 429 'Roeddwn innau'n unig.
(1, 0) 430 Chi agorodd fy llygaid i beth o ogoniant y byd 'ma.
(1, 0) 431 I'r celfyddydau.
(1, 0) 432 Cyn cwrdd â chi yr oeddwn yn ddall i bopeth o werth.
 
(1, 0) 437 Trist yw meddwl y daw'r dyddiau hyn i ben.
 
(1, 0) 439 Mae Meurig yn symud.
(1, 0) 440 Mae e' wedi gorffen â'i waith yn y labordy.
 
(1, 0) 443 'Wyddwn innau ddim tan heno.
 
(1, 0) 445 Dim... mor bell ag y mae'r Awdurdodau yn y cwestiwn.
 
(1, 0) 447 Oes.
 
(1, 0) 449 Nid yw Meurig yn gallu deall... y gall dyn a merch fod yn... gyfeillion diniwed.
 
(1, 0) 453 Beth arall?
 
(1, 0) 457 Dyma'r tro cyntaf iddo ddweud yn blaen.
(1, 0) 458 Nid yw ef erioed wedi bod yn rhy hoff o'm ffrindiau i.
(1, 0) 459 Mae e'n ystyried pob math o artist yn ffŵl sentimental.
(1, 0) 460 'Roedd hynny'n peri difyrrwch i mi ar y dechrau, ond fe aeth chwerthin yn fwy anodd gydag amser.
 
(1, 0) 462 Nid dau.
(1, 0) 463 Dim ond Meurig.
(1, 0) 464 Mae e' wedi penderfynu ei bod hi'n bryd i ni'n dau ymwahanu.
(1, 0) 465 Onid yw'r peth yn anhygoel!
(1, 0) 466 Gwallgofrwydd!
 
(1, 0) 469 Nage.
(1, 0) 470 Mae Meurig yn credu mai chi yw ei elyn... ond ei elyn pennaf yw ef ei hun.
 
(1, 0) 473 Am ein bod ni'n dau wedi digwydd dod ar draws ein gilydd, ac yn cael ein gilydd yn caru'r un pethau.
 
(1, 0) 475 Maent y tu hwnt i'm hamgyffred.
 
(1, 0) 477 Nagwyf!
(1, 0) 478 Heb gydymdeimlad â Meurig fel gwyddonydd wyf i... nid fel dyn.
 
(1, 0) 480 A fuoch chi, Josef, erioed mewn cariad?
 
(1, 0) 483 Ble mae hi?
(1, 0) 484 Dyma'r tro cyntaf i mi 'ch clywed chi'n sôn amdani!
 
(1, 0) 486 Heno?
 
(1, 0) 494 Na!
 
(1, 0) 499 Peidiwch!
 
(1, 0) 503 Nid oes ddyfodol i Meurig yn unman heb rywun y tu cefn iddo.
 
(1, 0) 508 Fe ddylech fod wedi dweud y pethau hyn o'r blaen!
 
(1, 0) 510 Rhaid fy mod i'n ddall...
(1, 0) 511 Ond fe welodd Meurig trwy'r cyfan!
 
(1, 0) 514 Mawr fy nghywilydd i!
 
(1, 0) 516 Gwyddonydd disglair yn 'i faes cyfyng... ond plentyn, y tu allan i'r maes hwnnw.
 
(1, 0) 518 Beth amdanoch chi, Josef?
(1, 0) 519 Fe luniasoch fyd newydd ar fy nghyfer i... y byd perffaith... ond yr ych chi 'ch hunan wedi colli ffydd yn y byd hwnnw heno.
(1, 0) 520 Fy chwennych i yr ych chi!
 
(1, 0) 522 Mae 'ch cynllun yn rhy syml.
 
(1, 0) 524 Nage.
(1, 0) 525 'Roedd anawsterau yn 'ch gwlad.
(1, 0) 526 Fe ddihangsoch.
(1, 0) 527 Mae gen innau anawsterau yn fy nghartref.
(1, 0) 528 Yr ych chi'n cynghori dianc eto!
 
(1, 0) 532 Yn anffodus, nid ynys i ddianc iddi mo'r nefoedd.
 
(1, 0) 534 Mae'n rhaid i fi.
(1, 0) 535 Petawn i'n dianc gyda chi, mi fyddai'r misoedd diwetha' 'ma'n ddiystyr.
(1, 0) 536 Ni fyddent ond llwybr i lwfrdra, a fyddai mor ddinistriol â'r gwaith sydd yn mynd ymlaen yn labordy Meurig.
(1, 0) 537 Mae'n cyfeillgarwch ni'n dau yn golygu llawer mwy na hynny.
 
(1, 0) 544 Nid ffarwelio!
 
(1, 0) 548 Ie.
(1, 0) 549 Nid wyf am golli'r breuddwyd hwn.
 
(1, 0) 559 M... mae brys ar Josef.
 
(1, 0) 563 Paid, Meurig!
 
(1, 0) 574 Yr wyt ti allan mor amal.
 
(1, 0) 577 Nid hynny, Meurig.
 
(1, 0) 592 Gad lonydd i bethau 'nawr, Meurig!
(1, 0) 593 Ddaw dim daioni o'r siarad anweddaidd hyn.
 
(1, 0) 608 Naddo, Meurig...
(1, 0) 609 M... mae Josef yn mynd odd'ma.
 
(1, 0) 627 'Rwy'n aros fan hyn.
 
(1, 0) 645 O... pam ddaru i chi adael?
 
(1, 0) 652 Yna i ble'r ewch chi, Josef?
 
(1, 0) 655 O nage!
 
(1, 0) 657 Dwed wrtho, Meurig.
(1, 0) 658 Fe gaiff garchar neu'i ladd os aiff e' adre!
 
(1, 0) 660 Meurig! Dwed wrtho am aros!
 
(1, 0) 663 Meurig!
 
(1, 0) 668 Josef!
 
(1, 0) 675 Yn eitha' siŵr.
 
(1, 0) 691 Cei.
 
(1, 0) 694 Na, Meurig.
 
(1, 0) 696 Nid Josef.
(1, 0) 697 Ti!
(1, 0) 698 Hanner awr yn ôl 'ro'wn yn dy gasâu di fel gwyddonydd.
(1, 0) 699 Ar ôl dy siarad di gynnau fach, 'rwy'n dy gasâu di fel dyn!
 
(1, 0) 701 Dyna'n union pam yr wy'n dy gasâu di!
(1, 0) 702 'Rwyt ti heb newid dim.
(1, 0) 703 Cer!