Ciw-restr

Ar Ddu a Gwyn

Llinellau gan Helga (Cyfanswm: 155)

 
(1, 0) 111 'Nhad!
 
(1, 0) 115 Pam?
(1, 0) 116 'Oes rhywbeth o'i le?
 
(1, 0) 119 'Dwy'i ddim yn deall —!
 
(1, 0) 122 Gweniaith!
 
(1, 0) 132 Na allaf, 'nhad.
 
(1, 0) 140 Dim rhyfedd fod mam mor hoff ohoni!
 
(1, 0) 153 'Ga i roi'r rhain ar eich desg chi, 'nhad?
 
(1, 0) 158 'Rwy'n siŵr na fyddan' nhw ddim yn hapus ynghanol yr hen bapurau sychlyd yma!
(1, 0) 159 'Fydd yna ddim hir oes iddyn' nhw, mi gewch chi weld!...
(1, 0) 160 Wel, sut mae nhw'n edrych?
 
(1, 0) 164 'Nhad, 'rwy'n siŵr eich bod mor hoff o'r ardd ag yr oedd mam erioed.
 
(1, 0) 166 Ac eto anfynych iawn y byddwch chi'n mynd iddi.
 
(1, 0) 168 Pam?
 
(1, 0) 170 'Dwy'i ddim yn deall.
 
(1, 0) 172 'Does dim amser fel y presennol 'nhad.
(1, 0) 173 'Rydych chi wedi gweithio digon.
(1, 0) 174 Mae'n hen bryd ichi gymryd seibiant.
(1, 0) 175 'Rydych yn ei haeddu.
 
(1, 0) 177 Yr un hen gân!
 
(1, 0) 181 'Gaf i eich atgoffa chi o rywbeth, 'nhad?
 
(1, 0) 183 Fe wnaethoch addo peidio â gweithio heddiw.
(1, 0) 184 A dyma chi'n torri eich addewid yn barod.
 
(1, 0) 187 'Ydych chi ddim yn sylweddoli'r peryg?
(1, 0) 188 Fe wyddoch yn iawn beth ddywedodd y doctor.
 
(1, 0) 192 'Rwy'n siŵr mai Dr. Hoffman sy'n gwybod orau.
 
(1, 0) 198 Mae'n pryderu o ddifri' yn eich cylch, 'nhad.
(1, 0) 199 Rydych wedi mynd i wendid mawr yn amlwg.
 
(1, 0) 201 Nid annwyd a barodd ichi syrthio i lewyg fel y gwnaethoch chi ddoe,—yr ail dro o fewn pythefnos.
 
(1, 0) 203 Dowch, 'rydych chi wedi gwneud digon am heddiw: fe ddylech chi orffwys rŵan.
 
(1, 0) 206 Hyd nes y byddwch chi'n rhy wan i godi eich llaw?
 
(1, 0) 208 'Rydych yn barod, felly, i aberthu eich iechyd a pheryglu eich bywyd.
(1, 0) 209 A'r cyfan er mwyn ─
 
(1, 0) 215 Hyn i gyd er mwyn un araith!
 
(1, 0) 226 'Nhad!
 
(1, 0) 244 Be' sy'n bod?
 
(1, 0) 246 Beth am Karl?
 
(1, 0) 249 Ond y gweithwyr?
 
(1, 0) 254 Ond Karl, — 'oes yna beryg?
 
(1, 0) 272 Peth naturiol yw pryder, 'nhad.
 
(1, 0) 275 Popeth yn iawn, Dr. Hoffman.
(1, 0) 276 Eisteddwch.
 
(1, 0) 287 Llymaid o win, Dr. Hoffman.
(1, 0) 288 A gofalwch ei ganmol!
 
(1, 0) 290 Ia, grawnwin o'r ardd.
 
(1, 0) 319 'Rydych yn gweld rŵan, Doctor Hoffman, fod gen' i fwy na llond fy nwylo!
 
(1, 0) 328 Am beth mae o'n sôn, Doctor?
 
(1, 0) 353 'Nhad!
 
(1, 0) 361 'Rydych yn gwastraffu eich anadl, Dr. Hoffman.
(1, 0) 362 'Does dim dichon ei ddarbwyllo.
(1, 0) 363 'Rwy' i wedi erfyn ar fy ngliniau, bron.
(1, 0) 364 Mae'n gwrthod gwrando.
 
(1, 0) 422 Dim un eiliad, Doctor.
(1, 0) 423 Gweithio drwy gydol y bore.
 
(1, 0) 486 Mi wnaf fy ngora', Doctor.
 
(1, 0) 499 P'nawn da, Doctor.
 
(1, 0) 506 Tan yfory, 'nhad.
 
(1, 0) 509 Mae Amos wedi dod â'ch llefrith chi, 'nhad.
 
(1, 0) 512 'Rwy' i'n cyd-weld â Dr. Hoffman.
(1, 0) 513 Mae hi'n rymus a diffuant.
(1, 0) 514 Ond...
 
(1, 0) 516 Rhaid imi fod yn onest, 'nhad.
(1, 0) 517 'Dwy' i ddim yn deall yn iawn ─
 
(1, 0) 520 Wel, yn gyntaf, yr ysgolion cenhadol.
 
(1, 0) 522 'Fyddan' nhw, hefyd, yn dod o dan y Ddeddf Addysg newydd?
 
(1, 0) 525 'Dwy'i ddim yn eu gweld yn ildio heb frwydr, 'nhad.
 
(1, 0) 532 Ond mae'r ysgolion yma wedi gwneud gwaith da, 'nhad.
 
(1, 0) 536 'Ydych chi'n meddwl o ddifri' fod hynny'n digwydd?
 
(1, 0) 540 Fe ddaw hyn â chaledi i lawer, 'nhad.
 
(1, 0) 545 'Glywsoch chi sŵn aflafar allan yn yr ardd, gynna', 'nhad?
 
(1, 0) 548 Haid o wylanod yn ymlid brân.
 
(1, 0) 550 Am ei bod hi'n wahanol iddyn' nhw, mae'n debyg.
(1, 0) 551 Am ei bod hi'n ddu a hwythau'n wyn.
 
(1, 0) 556 Naturiol, ydy', — i greaduriaid di-reswm.
(1, 0) 557 Ond 'rwy'n ofni, weithia nad yw dynion 'run gronyn gwell.
(1, 0) 558 Rhagfarn a chasineb sy'n eu cymell hwythau, hefyd, yn aml.
 
(1, 0) 567 'Dwy i ddim yn siŵr fod arna' i eisiau gweld yn wahanol, 'nhad.
 
(1, 0) 569 Mae'n ddrwg gen' i.
(1, 0) 570 Ond 'alla' i mo'i gadw i mi fy hun ddim mwy.
 
(1, 0) 572 Anghyfiawnder y peth, — dyna sy'n ffiaidd gen' i.
 
(1, 0) 582 Ffolineb yw brawd-garwch, felly?
 
(1, 0) 591 Nid o fwriad, efallai.
(1, 0) 592 Dyna sy'n fy nychryn, — y gall dynion o egwyddor, weithiau, achosi camwri dychrynllyd.
(1, 0) 593 A hynny dan yr argraff eu bod yn gwneud yr hyn sy'n iawn.
 
(1, 0) 595 'Ydw' i?
(1, 0) 596 Cofiwch hyn, 'nhad, — 'dydych chi ddim ar ei pen eich hun.
(1, 0) 597 Mae yna ddynion eraill y tu ôl i chi.
(1, 0) 598 Dynion heb egwyddor.
 
(1, 0) 600 Mae'n berffaith wir, 'nhad.
(1, 0) 601 Mae nhw'n wahanol i chi
 
(1, 0) 603 Ond nid â'r un arfau.
(1, 0) 604 O, 'nhad, pam na welwch chi?
 
(1, 0) 608 'Rwy'n deall digon i ─
 
(1, 0) 617 Karl!
 
(1, 0) 621 Wyt ti wedi d'anafu?
 
(1, 0) 626 Mae nhw wedi —?
 
(1, 0) 642 Damwain oedd hi, Karl!
 
(1, 0) 658 Dos ymlaen, Karl.
(1, 0) 659 Gwell ei gael o allan.
 
(1, 0) 668 Eistedd, Karl.
 
(1, 0) 678 Ia, Karl?
 
(1, 0) 683 'Rwyf ti'n siarad yn ffôl rŵan, Karl.
 
(1, 0) 718 Eistedd, Karl.
 
(1, 0) 720 O, pa wahaniaeth!
(1, 0) 721 'Wnan' nhw fawr o niwed.
 
(1, 0) 723 Ond rhaid iti eu newid rhag blaen...
(1, 0) 724 'Nhad?
 
(1, 0) 731 Mi af i ddweud wrth Amos.
 
(1, 0) 756 Mae Amos yn rhoi'r dillad allan, Karl.
 
(1, 0) 776 Hwyrach eu bod yn well allan.
 
(1, 0) 778 Hidiwch befo, rŵan, 'nhad.
(1, 0) 779 'Does arna' i ddim eisiau eich blino.
 
(1, 0) 781 Mae dynion yn bwysicach na syniadau i mi.
 
(1, 0) 786 Ond sut?
 
(1, 0) 788 I ba ddiben?
 
(1, 0) 790 Ym mha ffordd?
 
(1, 0) 792 O, 'nhad, beth a wyddoch chi am Y Cymrodyr?
 
(1, 0) 794 Ond fuoch chi ddim ar y Pwyllgor rŵan ers... ers faint?
 
(1, 0) 797 Mae yna lawer wedi digwydd yn y cyfamser.
(1, 0) 798 'Dydych chi ddim yn gwybod am y pethau sy'n digwydd yn y dre' yma.
(1, 0) 799 Neu 'rydych yn cau eich llygaid rhag ichi eu gweld.
(1, 0) 800 'Rwy'n gobeithio o waelod fy nghalon nad ydych chi ddim yn gwybod.
 
(1, 0) 802 Am Y Cymrodyr.
(1, 0) 803 Erbyn heddiw, beth ydyn' nhw?
(1, 0) 804 Cymdeithas Gyfrin sy'n sathru'r negro i'r llaid.
(1, 0) 805 A'i ddal yno drwy rym a thrais.
 
(1, 0) 809 Os nad yw'r Llywodraeth yn gwybod am hyn, — ac wrth gwrs mae nhw |yn| gwybod — ffug a rhagrith ydy'r cyfan!
 
(1, 0) 816 "Salvadór "?
 
(1, 0) 819 Fe ddangosoch un o'r pamffledi imi yr wythnos ddiwetha'.
 
(1, 0) 827 'Gaf i ddweud rhywbeth wrthych chi, 'nhad?
 
(1, 0) 829 Fe gurwyd negro i farwolaeth yn Stryd Kruger neithiwr.
(1, 0) 830 A'i daflu'n gorffyn gwaedlyd i'r gwter o flaen y capel.
(1, 0) 831 Nid propaganda'r Comiwnyddion yw hynna.
(1, 0) 832 Mae'n ffaith.
(1, 0) 833 'Roeddwn i yno.
 
(1, 0) 835 Na, nid yn hollol ─
 
(1, 0) 837 Ond fe welais dwr o bobol yn sefyll o'i amgylch.
(1, 0) 838 A bachgen bach o negro yn beichio crio.
(1, 0) 839 'Roedd yna blisman yn ceisio'i gael i fynd adre': ond ni fynnai symud heb ei dad.
(1, 0) 840 Ni fynnai ei gysuro, 'chwaith, er imi drio fy ngorau...
(1, 0) 841 A'r dyrfa yn edrych arno heb ronyn o dosturi...
(1, 0) 842 O, beth ddaw ohono' ni?
 
(1, 0) 848 Ffrwgwd rhwng hwliganaid!
(1, 0) 849 Ia, dyna fydd dyfarniad y crwner, hefyd, ar ôl ffars o gwest brysiog.
(1, 0) 850 Ac fe ŵyr pawb, ond y chi, feddyliwn, — mai'r Cymrodyr a'i llofruddiodd.
(1, 0) 851 A hynny yn enw sanctaidd Apartheid.
(1, 0) 852 O, mae'n ddigon i wneud i rywun gyfogi!
 
(1, 0) 878 Cyfres o adnodau ydy'r rhain, 'nhad.
 
(1, 0) 935 Amos, aros am funud.
 
(1, 0) 938 'Nhad, 'ga' i roi ychydig o flodau iddo i fynd i'w ferch fach?
 
(1, 0) 943 Mi ddo' i â nhw yma, toc, Amos.
(1, 0) 944 Fe'u rhôf mewn dŵr.
(1, 0) 945 Mi gei fynd â nhw adre' heno.
 
(1, 0) 952 'Dydych chi ddim yn ddig gobeithio?
 
(1, 0) 955 'Mod i'n rhoi blodau iddo fo?