Ciw-restr

Ar Ddu a Gwyn

Llinellau gan Karl (Cyfanswm: 74)

 
(1, 0) 622 Na, mi ydw' i'n iawn, Helga.
 
(1, 0) 625 Rhy hwyr, Mr. Botha.
 
(1, 0) 627 Wedi boddi.
(1, 0) 628 Y ddau.
(1, 0) 629 Petawn i bum munud ynghynt...
(1, 0) 630 Pum munud...
(1, 0) 631 Ond 'doedd dim modd mynd atyn' nhw.
(1, 0) 632 'Roeddyn' nhw mewn twnel cul yn arwain o'r brif siafft...
(1, 0) 633 Fe wyddoch amdano?
 
(1, 0) 635 Ac ar y munud olaf mi ddiffoddodd y trydan...
(1, 0) 636 Mae'n ddrwg gen' i, Mr. Botha.
 
(1, 0) 639 Dim ond pum munud...
(1, 0) 640 Ond fe gododd y dŵr yn rhy gyflym.
(1, 0) 641 A heb drydan 'doedd dim modd cael y pympiau i weithio.
 
(1, 0) 643 Ia, damwain.
(1, 0) 644 Ond 'dyw gwybod hynny'n fawr o help...
(1, 0) 645 'Roeddwn i o fewn ugain llath iddyn' nhw.
(1, 0) 646 Eu clywed yn gweiddi, a minnau'n hollol ddiymadferth...
(1, 0) 647 'Alla' i byth anghofio...
(1, 0) 648 Ac yna, y distawrwydd...
(1, 0) 649 Mi wyddoch pa mor ddistaw y gall y pwll fod, Mr. Botha.
 
(1, 0) 653 Do, mor sydyn ag y cododd.
(1, 0) 654 Mi fedrais fynd i mewn...
(1, 0) 655 'Roedd y ddau wrth geg y twnel, yn lled-orwedd ar y graig...
(1, 0) 656 Eu breichiau wedi ymestyn... fel petaent wedi eu croeshoelio...
(1, 0) 657 Maddau i mi, Helga.
 
(1, 0) 660 'Rwy' i wedi gweld damweiniau o'r blaen...
(1, 0) 661 Fe laddwyd tri y llynedd, os wyt ti'n cofio, pan ddisgynnodd y rwbel... ond 'roedd hynny'n wahanol, rywsut.
(1, 0) 662 Fe'u lladdwyd yn y fan: 'wydden' nhw ddim...
(1, 0) 663 'Roedd eu diwedd yn lân, heb boen, heb ofn...
(1, 0) 664 Nid fel y ddau yma heddiw... angau yn cripian atyn' nhw... fesul modfedd...
 
(1, 0) 667 Pum munud...!
 
(1, 0) 670 Mi rown i unrhyw beth...
(1, 0) 671 'Roedd eu llygaid yn agored, ac arswyd wedi fferu ynddyn' nhw.
(1, 0) 672 Fe fydd fel hunlle imi ar hyd f'oes.
 
(1, 0) 674 Dim ond wythnos yn ôl.
(1, 0) 675 'Welais i ddim allan o'i le ynddo fo.
 
(1, 0) 677 Ia, ond yr eironi chwerw ydy'...
 
(1, 0) 679 'Roeddwn i wedi rhagweld rhywfaint o beryg' yn y siafft arall.
(1, 0) 680 Dyna pam y symudodd Malán y gweithwyr a gafodd eu... boddi heddiw.
 
(1, 0) 682 Ond 'ydych chi'n deall 'mod i'n teimlo, rywsut, mai fi oedd yn gyfrifol am y drychineb?
 
(1, 0) 684 Dyna a ddywedodd Malán, Helga.
(1, 0) 685 Ond ag ystyr gwahanol.
(1, 0) 686 Mi ddywedodd 'mod i'n ffôl i boeni fy mhen am ddau negro!
 
(1, 0) 688 "Wyt ti ddim yn sylweddoli," medda' fo, "mae yna ddau ddwsin yn y Dre-Sianti yn barod i gymryd eu lle.
(1, 0) 689 'Does yna byth brinder ohonyn' nhw.
(1, 0) 690 Mi fyddan' yn heidio o flaen y swyddfa bore fory."
(1, 0) 691 Dyna'i union eiriau.
(1, 0) 692 Fel petai'n sôn am anifeiliaid.
(1, 0) 693 Ond wrth gwrs, dyna ydy'r negrod i Malán, — anifeiliaid mud, Mr. Botha!
 
(1, 0) 695 'Dwy'i ddim yn gorliwio.
 
(1, 0) 712 Naddo, diolch i'r nefoedd.
(1, 0) 713 Mae hyn yn ddigon.
 
(1, 0) 717 Na, dim diolch, Mr. Botha.
 
(1, 0) 719 Mae fy nillad yn lleidiog, Helga.
 
(1, 0) 727 Peidiwch â thrafferthu, Mr. Botha.
(1, 0) 728 Mi fydda' i'n iawn.
 
(1, 0) 734 Oes, mae'r ddau yn briod.
(1, 0) 735 Un â phedwar o blant, a'r llall â dau.
 
(1, 0) 739 Maddeuwch imi, Mr. Botha...
 
(1, 0) 741 Mae yna rywbeth yr hoffwn 'i ofyn i chwi.
 
(1, 0) 743 'Oes yna rywbeth y gellid 'i wneud iddyn' nhw?
 
(1, 0) 745 Wel, fel y gwyddoch chi, fe fyddant mewn cynni dychrynllyd.
 
(1, 0) 747 Eich pardwn am y tro, Mr. Botha.
(1, 0) 748 'Rwy'n eich adnabod yn bur dda.
(1, 0) 749 'Oddefwch chi ddim i neb gael cam.
(1, 0) 750 Ond fel y gwyddoch, 'dyw'r Cwmni byth yn talu iawn-dâl i'r negro.
 
(1, 0) 753 Mae'r awgrym yna'n ddigon, Mr. Botha...
(1, 0) 754 'Rwy'n fodlon.
 
(1, 0) 757 Diolch, Helga.
 
(1, 0) 759 Fe fydd yn rhaid cau'r siafft yna rŵan, Mr. Botha.
 
(1, 0) 764 Gorffwys?
 
(1, 0) 768 Gallaf yn siŵr: mi af ati heno...
(1, 0) 769 Diolch ichi eto.