Ciw-restr

Dau Dylwyth

Llinellau gan Dafydd (Cyfanswm: 36)

 
113 O mam...
 
115 Tadcu, mae Rofer wedi marw.
116 Mae Ifan yn torri bedd iddo fe yn y cae.
117 Beth ddigwyddodd iddo fe, tadcu?
 
120 Ond pam, mam?
 
122 Dydw i ddim am gi arall—eisiau Rofer sydd arna i.
 
124 Pam mae Rofer wedi marw, tadcu?
125 A fuodd e'n gwneud drwg?
 
128 Pam mae e wedi marw, ynte?
 
130 Ond rydw i am gael gwybod nawr.
131 Roedd e'n iawn pan es i i'r ysgol bore heddiw.
132 Fe ddaeth gyda mi i ben draw'r cae.
133 Ac mae Ifan yn pallu dweud beth a ddigwyddodd.
134 Roedd ei'n dweud wrthyf am ofyn i chi.
 
138 Chi laddodd Rofer, tadcu!
139 Dyna pam na ddwedwch chi.
 
142 Pam na ddwedwch chi ynte?
 
146 Na!
147 Rydw i am gael gwybod.
148 Pwy saethodd e, tadcu?
 
156 Dwedwch, tadcu!
 
162 Dwedwch, tadcu.
163 Pwy saethodd Rofer?
 
166 Ond pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud?
 
168 Pam ynte?
169 Pam ynte?
 
171 Ond doedden ni ddim wedi gwneud un drwg i'w ci nhw.
172 Ydych chi ddim yn mynd i gosbi pobol Rhydyfran, tadcu?
173 Ydych chi ddim yn mynd i saethu eu ci nhw?
 
176 Ydych chi ddim, tadcu?
177 Os na wnewch chi, fe wna i pan fydda i wedi tyfu i fyny.
 
181 Ond fy nghi i oedd Rofer.
182 Doedd ganddyn nhw ddim hawl i'w saethu e.
 
184 Dydw i ddim eisiau ci arall.
185 Fe gofia i am hyn pan fydda i... pan fydda i wedi tyfu i fyny.
 
187 Faint sy'n raid i mi dyfu eto, tadcu, cyn bydda i'n ddigon mawr i handlo dryll?