Ciw-restr

Dau Dylwyth

Llinellau gan William (Cyfanswm: 54)

 
17 Mae 'r giwed yna wedi bod wrthi eto, Rachel.
 
20 Pwy ond y nhw?
 
22 Saethu Rofer.
 
26 Ifan gadd afael arno—yn tynnu ei anadl ola yn y Waun Fawr.
27 Doedd ganddyn nhw ddim digon o ddynoliaeth i'w orffen yn iawn—fe'i gadawsant i drigo bob yn dipyn.
28 Druan o Rofer!
 
30 Roedd Ifan yn meddwl ei fod wedi dilyn cwningen i mewn i gaeau Rhydyfran ac i un ohonynt ei saethu yno.
31 Fe glywodd ergyd yn gynnar yn y prynhawn, medde fe.
 
33 Gwybod!
34 Gwn yn iawn, cystal a phetawn i wedi'i gweld nhw wrth yr anfadwaith.
 
36 Wnaeth e ddim drwg i neb—ei unig fai oedd mai ein ci ni ydoedd.
 
39 Fydd yma ddim anghofio fyth, Rachel, ac fe ddylit ti o bawb wybod hynny.
 
43 Tra bo un o'r Morgansiaid yn ffermio dros y clawdd ffin i'r fferm hon, mi wna fy ngorau i wneud iddyn nhw fel y maen nhw wedi gwneud i mi a'm teulu.
44 Ac nid yw Rofer druan, ond un marc arall i'w roi yn y cownt gyferbyn â'u henwau.
 
46 Mae'n gymaint i'r plant ag yw e i ti a minnau.
 
48 Ni all neb o'r teulu hwn edrych ar wŷr Rhydyfran ond fel gelynion, Rachel.
49 Beth wyt ti'n feddwl a fydd Dafydd yn ei ddweud pan ddaw e adre o'r ysgol yn y man a dim Rofer yn ei gwrdd ym mhen draw'r cae?
 
52 Fe fynn gael gwybod.
53 Ac y mae ganddo hawl i gael gwybod.
54 Ei gi ef oedd Rofer.
 
60 Wyt ti'n anghofio beth a ddigwyddodd i'w tad?
 
65 Dydw i ddim yn gweld bai arnat ti, Rachel.
66 Ond, weld di, dwyt ti ddim wedi dod yn un o'r teulu yma eto ac ni ddoi di fyth, greda i.
67 Ni fuost ti erioed yn teimlo tuag at wŷr Rhydyfran fel yr ydw i ac fel yr oedd Dafydd dy ŵr yn teimlo.
68 A phan ddaethant ar ei draws y noson honno...
 
73 Rydw i mor sicr mai un o'r Morgansiaid a ollyngodd ergyd ar ôl yr ebol yr oedd Dafydd yn ei farchogaeth...
 
75 Rydw i wedi dweud wrthyt ganwaith, fe saethwyd ergyd ar ôl yr ebol i godi ofn arno ac fe daflodd Dafydd ar ei ben.
76 Dyna beth a ddigwyddodd ac yr wyf mor sicr o hynny ag yr ydw i fod yr haul yn mynd i godi fory.
77 A phan fydda i a thithau wedi mynd, fe fydd Dafydd ac Olwen yn cofio'r hyn a wnaethpwyd i'w tad, a'u plant hwy yn cofio hefyd, a thra bo Morgansiaid yn Rhydyfran, fe fydd rhywun yn gallu pwyntio bys atynt a'u hatgoffa o'r hyn a wnaethant y noson honno.
 
83 Rhaid i ti gofio y gofala gwŷr Rhydyfran na chânt fod yn eu hanwybodaeth yn hir.
84 Na, tra bo'r ddau deulu yn ffermio y naill ochr i'r clawdd ffin, y mae mor amhosibl i anghofio'r hyn a fu ac yw hi i'r ci a'r hwch fwyta o'r un cafn.
 
87 Symud o Gwmhelyg?
 
91 Dwyt ti ddim ddim yn un o'r tylwyth, Rachel, neu ni fuasit yn meddwl am y fath ynfydrwydd.
92 Ymadael â'r lle yma?—fferm fy nhad a 'nhadcu yn unig oherwydd pobl Rhydyfran?
93 A wyt ti'n meddwl y gallwn i ddioddef gorfoledd y gethern yna petawn i'n sôn am symud?
94 A wyt ti am i Dafydd allu dannod i mi pan fydd e'n ugain oed fy mod i'n credu na fyddai'n ddigon o ddyn i wrthsefyll gelyniaeth y Morgansiaid?
 
98 Mae gwaed fy mab yng ngwythiennau Dafydd ac ni fuaswn i ddim yn gwneud fy nyletswydd tuag ato petawn i ddim yn dweud wrtho am yr hyn a ddigwyddodd i'w dad.
 
102 Rachel fach, ddoi di fyth i deimlo tuag at y tylwyth yna fel yr ydym ni fel teulu yn teimlo ac fel y bydd Dafydd ac Olwen yn teimlo ar ôl cael gwybod y cwbl.
103 A wyt ti'n meddwl y bydd Dafydd yn fodlon colli Rofer?
 
105 Mae'n rhaid iddo gael gwybod rywbryd, Rachel.
 
126 Naddo, machgen i.
127 Wnaeth Rofer ddim drwg erioed.
 
129 Fe ddweda i wrthyt ti maes o law.
 
140 Fi!
141 Nage, machgen i, fuaswn i ddim yn debyg o wneud hynny.
 
143 Cael ei saethu wnaeth e, Dafydd; Ifan a'i cafodd yn gorwedd yn...
 
149 Fe fynn gael gwybod ac y mae ganddo hawl i gael gwybod.
150 Ei gi ef oedd Rofer.
 
157 Mae'n rhaid iddo gael gwybod, Rachel.
 
160 Mae'r cyfrifoldeb am farwolaeth ei dad arnom ni i gyd.
 
165 Shincyn Rhydyfran a'i saethodd e, Dafydd.
 
167 Wnaeth e ddim drwg o gwbl.
 
170 Fe ddoi di i wybod y rheswm wedi i ti dyfu i fyny, Dafydd.
 
191 Dere allan gen i, Dafydd.