Ciw-restr

Nawr Yw Ei Hamser Hi

Llinellau gan Dilys (Cyfanswm: 147)

 
(1, 0) 4 Do, 'mam.
(1, 0) 5 Cwrddais â'r hen Athro, a 'doedd dim posib cael ei wared.
(1, 0) 6 Bum am dro hir yn y car gydag 'e.
 
(1, 0) 8 Oedd.
 
(1, 0) 10 '|Roedd| e'n anfodlon 'mod i allan pan alwodd e' neithiwr.
(1, 0) 11 'Rwy'n mynd i'r Ginio gydag e' heno.
(1, 0) 12 Mae e'n un sŵn am i mi gwrdd â'i gyfaill, y nofelydd.
 
(1, 0) 14 A phrynais i ddim ffrwythau i chi wedi'r cyfan.
(1, 0) 15 Dwedodd yr Athro y daw e â rhai i chi heno.
 
(1, 0) 20 Yr Athro roddodd 'nhw i fi.
(1, 0) 21 Llanwodd y câs yma, chwarae teg iddo.
 
(1, 0) 23 Mae e'n gwybod am Jane.
(1, 0) 24 'Does ryfedd ei fod yn cymryd trugaredd arnaf i.
 
(1, 0) 26 Edrychwch beth a brynais i, Mam.
(1, 0) 27 On'd yw'r ffrog fach yma'n bert?
(1, 0) 28 Digwyddais ei gweld yn siop Morgan.
(1, 0) 29 Mae yn fy nharo i'r dim.
 
(1, 0) 31 A mae eisiau ffrogiau arnaf yn druenus.
(1, 0) 32 'Does gen i ddim byd i'w wisgo.
 
(1, 0) 35 Dim ond crugiau o bethau hen-ffasiwn wedi crynhoi er pan wyf yn y Coleg.
 
(1, 0) 37 Rwy'n leicio hon, ond fod eisiau ei chwtogi dipyn.
 
(1, 0) 40 Nag yw, eto.
(1, 0) 41 Pa wahaniaeth am Jane os y'ch chi'n fodlon i mi ei chael?
(1, 0) 42 Gellid meddwl mai hi yw'r fam a chwithau'n neb... a 'dyw Jane yn cymryd dim diddordeb mewn dillad newydd.
(1, 0) 43 Efallai y byddaf innau'r un fath â hi yn ddeugain oed, ond 'rwy'n meddwl wir y dylwn gael pethau pert yn un-ar-hugain.
 
(1, 0) 50 O dyna fwstwr.
(1, 0) 51 Edrychwch beth y'ch chi'n wneud, wnewch chi'; sarnu'r glo ar y carped.
(1, 0) 52 A ble mae'ch capan chi, eto?
(1, 0) 53 Beth ddwedais i'r bore 'ma?
 
(1, 0) 55 'Chlywais i erioed y fath ddwli!
(1, 0) 56 Ewch i'w 'nôl ar unwaith.
 
(1, 0) 58 Na wna, wir.
(1, 0) 59 Cerwch Letitia.
 
(1, 0) 61 Yr arswyd!
(1, 0) 62 Dyma drefen ar gapan.
(1, 0) 63 Gaf i ei osod i chi?
(1, 0) 64 Does gennych chi ddim clem.
 
(1, 0) 66 Dyna chi 'nawr.
(1, 0) 67 Wyddys yn y byd pwy ddaw yma.
(1, 0) 68 Glanhaewch y carped cyn mynd at y tân.
 
(1, 0) 71 Ydi, 'rhen feuden, am fy mod mor debyg iddi hi—yn helpo!
(1, 0) 72 Mae hi'n leicio gwledd penblwydd yn iawn, ond leiciodd hi ddim rhoi dim i mi erioed.
 
(1, 0) 74 "Dilys fach, 'rown i wedi |meddwl| prynu"
 
(1, 0) 76 o, pob math o ffrogiau i mi, ond, druan â fi!
(1, 0) 77 Byddwn wedi fy ngwisgo fel Efa o ran ei meddyliau hi.
 
(1, 0) 79 Mae'n eitha gwir.
(1, 0) 80 Feddyliodd hi erioed am agor ei phwrs, er cymaint sydd ynddo.
 
(1, 0) 82 Byddwch ddistaw, Letitia.
(1, 0) 83 'Rown i ddim yn siarad â chi.
 
(1, 0) 86 Dyna rywun wedi dod.
(1, 0) 87 Cer'wch Letitia, ond dewch chi â gwybod pwy sydd yna cyn dweud 'mod i i mewn, cofiwch.
 
(1, 0) 92 Pwy sydd yna, wn i!
(1, 0) 93 Mi âf i i'r llofft os mai rhywun i'ch gweld chi, 'mam, sydd yna.
 
(1, 0) 106 Modryb Tabitha!
(1, 0) 107 Dewch ymlaen.
 
(1, 0) 116 Rhag c'wilydd i chi—yn siarad â phobol dierth—a—ac ymddwyn fel yna; ond 'does dim dysgu arnoch chi.
(1, 0) 117 Rhaid iddi gael mynd oddiyma, mam.
 
(1, 0) 119 Glywsoch chi, Modryb Tabitha?
(1, 0) 120 Jane yw'r feistres yma, nid mam.
(1, 0) 121 Peidiwch anghofio hynny...
(1, 0) 122 Gaf i fynd â'ch hat a'ch cot?
 
(1, 0) 133 Da iawn, Modryb Tabitha.
(1, 0) 134 Pryd ddaethoch chi 'nôl?
 
(1, 0) 138 Cer'wch i'r gegin ar unwaith, groten.
 
(1, 0) 149 Mi wn i nad oes dim yn well nag arian, beth bynnag, ond oes dim posib â'i gael yn y tŷ 'ma.
(1, 0) 150 Jane sy'n cadw'r pwrs.
 
(1, 0) 152 Ond oedd dim diolch i Jane.
(1, 0) 153 Cael arian i brynu ffrwythau a phethau i chi, 'mam, wnes i, ond gan fod yr Athro wedi dweud y byddai ef yn dod â rheini, heno, prynais y ffrog fach yma.
(1, 0) 154 Saith a chwech gostiodd hi.
 
(1, 0) 161 'Rych chi, Modryb Tabitha, yn lwcus i gael digon o arian.
 
(1, 0) 177 Siaredwch drosoch eich hunan, 'mam.
(1, 0) 178 Rwyf i wedi gweld eisiau digon o bethau.
 
(1, 0) 182 'Rwy'n ofni nad wyf i wedi fy stofi i weithio, Modryb Tabitha, er fod Jane yn un sŵn am i mi wneud.
(1, 0) 183 Ddof i byth yn gyfoethog, os na briodaf arian, 'rwy'n siŵr.
 
(1, 0) 185 Gallaf addo na phriodaf ddyn tlawd, beth bynnag.
(1, 0) 186 Dyma Jane yn dod.
 
(1, 0) 192 Dim peryg, diolch.
 
(1, 0) 195 Dyna hi, Modryb Tabitha.
(1, 0) 196 Ddoe y deuthum adre, a does dim taw ar Jane am i mi fynd i ennill.
 
(1, 0) 201 Mae Jane wedi ennill digon hyd yn hyn.
(1, 0) 202 Pam mae eisiau i bethau newid?
 
(1, 0) 212 'Does dim eisiau i chi ddannod mai chi sy'n ein cynnal.
(1, 0) 213 Mae'n gywilydd i chi.
 
(1, 0) 231 Dyna reswm dros gadw'r fath forwyn, ynte, Modryb?
(1, 0) 232 Beth bynnag a all hi wneud, all hi ddim gneud tê.
(1, 0) 233 Fe gewch ei gweld yn tendio wrth y ford.
 
(1, 0) 236 Na, wnaf i ddim te, wir, i borthi diogi Letitia.
 
(1, 0) 248 'Rych chi, Modryb, wedi gweld sut y mae arnaf i,—y caf fy ngyrru o gartre'n fuan iawn.
 
(1, 0) 251 Bydd raid i mi chwilio am ŵr cynted â medra i 'te, neu fe wna Jane i mi fynd i ennill fy nhoc.
 
(1, 0) 257 Peidiwch gwrando ar 'mam.
(1, 0) 258 'Dyw Oswald yn ddim ond ffrind, a chaiff e ddim dod yn ddim mwy, chwaith.
(1, 0) 259 Mae e'n dlotach na fi, os yw hynny'n bosibl.
 
(1, 0) 269 'Rwyf yn ddigon hoffo'r Athro... ond... 'rwy'n ei weld yn rhy hen.
 
(1, 0) 271 Wel, yr Athro gaiff e fod ynteu.
(1, 0) 272 'Rwy'n gwybod y gallwn ei dwyllo ef i briodi pryd y mynnwyf.
 
(1, 0) 276 Fe gawn i bopeth gan yr Athro, onibai fod Jane yn anfodlon.
 
(1, 0) 279 Yr oedd e' am roi watsh aur i mi, y llynedd, pan ddeuthum i'm hoed, ond gwrthododd Jane ganiatau iddo.
(1, 0) 280 Mynnodd hi roi un i mi, edrychwch, un arian—wrth gwrs.
 
(1, 0) 282 Ydi.
(1, 0) 283 Mae am fod yn feistres ar bawb.
(1, 0) 284 'Chaf i byth ŵr os y caiff hi ei ffordd.
 
(1, 0) 290 Mae e'n mynd â fi yn y car i'r ginio fawr yn y Oueen's heno.
 
(1, 0) 293 Dyna bechod nad oes gennyf ffrog newydd,
 
(1, 0) 295 Mae e' wedi gweld honno o'r blaen, a... dyw hi ddim yn bert iawn.
 
(1, 0) 301 Do fe, wir?
 
(1, 0) 305 O'r gorau,—ond nid wyf yn ei leicio o gwbl.
 
(1, 0) 323 Dyma'r ffrog, Modryb 'Tabitha, ond nid wyf yn ei leicio o gwbl.
 
(1, 0) 327 Te, te!
(1, 0) 328 Pa wahaniaeth am y te?
(1, 0) 329 Beth alla i wisgo heno?
 
(1, 0) 331 Ond 'does gen i ddim—dim byd newydd.
(1, 0) 332 O Jane, rhowch fenthyg eich ffrog newydd i mi, heno, wir—os gwelwch yn dda, Jane.
 
(1, 0) 336 Mae gen i reswm neilltuol dros bod ar fy ngorau, heno.
 
(1, 0) 351 A pheth arall, ddywedais i ddim wrthych chi, Modryb, ond dywedodd yr Athro y byddai John Gray yn dod i'r Ginio heno.
(1, 0) 352 'Rwyf am edrych...
 
(1, 0) 354 Ie, mae yr Athro yn gyfaill mawr iddo, ac y mae am i mi ei gyfarfod.
 
(1, 0) 357 Dyna sut y mae Jane yn fy ngwawdio bob amser.
 
(1, 0) 362 Mae Jane yn bychanu pawb.
 
(1, 0) 373 Ond a gaf i fenthyg eich ffrog, Jane?
 
(1, 0) 376 O diolch yn fawr, Jane annwyl.
(1, 0) 377 Mi'ch cofia i chi am hyn eto.
 
(1, 0) 383 O'r gorau, Jane.
(1, 0) 384 Cymrwch bwyll, Modryb Tabitha.
(1, 0) 385 Dall mam ddim mynd mor gyflym.
 
(1, 0) 450 Yes, this is Miss Lloyd speaking.
 
(1, 0) 458 Dewch â hwnna i fi.
 
(1, 0) 464 Dewch ag e i fi, y groten haerllug!
 
(1, 0) 471 Yr hen un wirion â chi!
(1, 0) 472 Mi gewch chi fynd oddi yma ar unwaith.
(1, 0) 473 Chewch chi ddim aros yma ar unrhyw gyfrif.
 
(1, 0) 481 Beth y'ch chi'n feddwl?
(1, 0) 482 Fe dynnodd y ffôn oddi wrthyf, a mynnodd siarad ei hunan, ar fy ngwaetha'—y groten ddiwardd; ond 'chaiff hi ddim aros yma—'chaiff hi ddim, tae beth ddywed Jane.
(1, 0) 483 Fe gaiff fynd....
 
(1, 0) 488 O, shwd beth erioed!
 
(1, 0) 494 Beth y'ch chi'n feddwl bod, yn enw dyn, os nad morwyn?
(1, 0) 495 Oes priodas i fod?
 
(1, 0) 499 A phwy yw'r gwr lwcus?
 
(1, 0) 501 Beth!
 
(1, 0) 515 Letitia sydd wedi bod yn fy nhrin a 'nhrafod i.
 
(1, 0) 517 Mae'n rhaid iddi gael mynd ar unwaith.
 
(1, 0) 519 A John Gray, cofiwch, Modryb Tabitha.
 
(1, 0) 537 Be' ddwedsoch chi?
 
(1, 0) 555 Beth am 'mam a finnau, wedi i chi briodi?
 
(1, 0) 567 Mi âf i i'r drws, Letitia...
(1, 0) 568 Oswald sydd yna.
(1, 0) 569 Bydd cystal i mi fynd gydag ef i'r Ginio... {wrth y drws} a'r hen ffrog yna mae e'n leicio.
(1, 0) 570 Gellwch chi, Jane, wisgo'ch ffrog newydd wedi'r cyfan.