Ciw-restr

Epa yn y Parlwr Cefn

Llinellau gan Mary (Cyfanswm: 635)

 
(1, 2) 34 Faint ma un swig yn lladd?
(1, 2) 35 O'r meddwl, o'r cof...
(1, 2) 36 P'un wi isie'i ladd anyway, cadw'r meddwl, canslo mas y cof?
(1, 2) 37 Parte ohono fe.
(1, 2) 38 Mae'n ffycin edrych 'to!
(1, 2) 39 Ond pwy sy'n feistr ar bwy, y meddwl ar y cof neu'r cof ar y meddwl.
 
(1, 2) 41 Odi mae e'n edrych a jocan pido.
(1, 2) 42 All e ddim credo 'i lyged e.
(1, 2) 43 Reit boi bach.
(1, 2) 44 Fe sy'n cochi nyge fi.
(1, 2) 45 Mae e wedi bod yn Horizon View cwpwl o withe.
(1, 2) 46 Nyge fi gas y fraint.
(1, 2) 47 O'dd e moyn rhywun ifancach.
(1, 2) 48 Ffycin cheek.
(1, 2) 49 Ond fi agorodd y drws.
(1, 2) 50 A mae e'n cofio.
(1, 2) 51 Drycha, mae e fel ffycin bitwrten.
(1, 2) 52 O, Crist 'na pam...
(1, 2) 53 Honna sy'n dod o'r Ladies, draw at 'i ford e.
(1, 2) 54 'I ffycin wraig e.
(1, 2) 55 Brilliant.
(1, 2) 56 Arllws gweddill 'i beint law i wddwg.
(1, 2) 57 Lawr 'i dwll pwdin.
(1, 2) 58 Bwldagu.
(1, 2) 59 Cerdded mas.
(1, 2) 60 Y missus – all hi ddim deall beth yw 'i hast e...
(1, 2) 61 Beth o'dd e'n feddwl fydden i'n neud?
(1, 2) 62 Cerdded lan a gweud bod
(1, 2) 63 Linda'n cofio ato fe, yn holi pryd o'dd e moyn 'i ffwc nesa...?
 
(1, 2) 84 Un shot arall.
(1, 2) 85 Un hit cyn wynebu gatre.
(1, 2) 86 Se'n i'n dala'n ddigon ffresh a ifanc i witho'r hotels ma...
(1, 2) 87 Ma'i mor gynnes miwn fan hyn.
(1, 2) 88 Mor gyfforddus.
(1, 2) 89 Ma'r twll lle na sda ni fel ffycin ffridj.
(1, 2) 90 Synnu bod neb o'r bastards yn gallu ca'l cwnad, da'r chill factor sy'n clampo'u coce a'u ceillie nhw.
(1, 2) 91 Ti'n gwbod, hwn yw'r gaea oera wy'n cofio ers i fi fod ar y gêm.
(1, 2) 92 A ma 'ny yn amser hir.
(1, 2) 93 Jest ugen mlynedd.
(1, 2) 94 Coldest winter in Mary's working memory.
(1, 2) 95 Dyddie ffycin creulon.
(1, 2) 96 Yn bob ffycin ffordd.
(1, 2) 97 Iechyd.
(1, 2) 98 Ffyc... wedodd y twllpwdin wrth y manejyr.
(1, 2) 99 Tara... gadawest di dy bants di yn y bedrwm cariad... y rhai patrwm tartan... y wraig ddewisodd nhw ife, bach?
 
(1, 2) 135 Paid cadw dy gefn at neb bach.
(1, 2) 136 Busnes yn wael odi e bach?
 
(1, 2) 138 Wyneb newydd?
(1, 2) 139 Ti'n gwbod ble wyt ti?... mute machine myn yffach i.
 
(1, 2) 141 Ti'n sefyll ar y ffin rhwng dou o'r beats.
(1, 2) 142 Cops canol dre a'r British Transport Police o'r stesion.
(1, 2) 143 Fan hyn ma'r ddou batsh yn cwrdd.
(1, 2) 144 Patrols bob cwpwl o orie.
(1, 2) 145 Lle dodji ar y diawl.
(1, 2) 146 Dim ateb.
(1, 2) 147 A winos off y stesion.
(1, 2) 148 Ma un o nhw wastod yn cario cyllell.
(1, 2) 149 Yr un mewn parka a hen drwser fflêrs, gwallt lawr at 'i sgwydde.
(1, 2) 150 Watsha'r diawl 'na...
(1, 2) 151 Fel arall, siwr gei di amser lyfli...
 
(1, 2) 153 Tywydd ma ddim yn help chwaith.
(1, 2) 154 Dynnith y cops ti miwn ar noson fel hyn just i ga'l esgus i fynd nôl i'r cop shop am ddishgled a smôc.
(1, 2) 155 Rhai o'r cops lawr na'n real ffycin bastards fyd.
(1, 2) 156 Gropo dy dits di, dwylo lan rhwng dy goese di...
 
(1, 4) 250 Sori...
(1, 4) 251 Ishe bwyd arnot ti?
 
(1, 4) 254 Iesu, mae'n oer.
(1, 4) 255 Raid ti fyta rwbeth Lind.
(1, 4) 256 Ma byw ar win chep a dôp yn mynd i whare'r ber a dy du fiwn di.
(1, 4) 257 Ond os yw côt yn dachre troi'n rhacs, tria o leia gadw'r leining yn un pishyn.
(1, 4) 258 Lind?
(1, 4) 259 Ma rhaid ti drio edrych ar ôl dy hunan.
(1, 4) 260 Ne fydd neb moyn ti rhagor.
 
(1, 4) 264 Mini cod a chips.
 
(1, 4) 266 Der mlân.
(1, 4) 267 Cyn ddo nhw oeri.
 
(1, 4) 271 Hyd no'd pan o'dd hwnna yn gwitho o'dd e ddim ddigon i gadw'r lle dwym...
(1, 4) 272 O'dd arfer bod cyllyll a ffyrc, a plat yn y cwpwrt ma...
 
(1, 4) 277 Felse'r pyntyrs yn mynd i fecso anyway.
 
(1, 4) 279 Byt.
(1, 4) 280 Rhaid i rywun ddishgwl ar dy ôl di.
(1, 4) 281 A fi yw'r unig un neith.
 
(1, 4) 283 Weles i un arall, un newydd 'to nithwr.
(1, 4) 284 Yn gwitho ar gornel y stryd tu fas i'r Metropole.
 
(1, 4) 286 Ru'n osgo.
 
(1, 4) 288 Ond odd hon mor ffresh, mor ddi-glem...
 
(1, 4) 294 Ofynnes i am fillet.
 
(1, 4) 296 O'n i ffaelu agor y bastard cod lan yn y siop, i neud analysis.
(1, 4) 297 Ofynnes i am fillet, O.K...
 
(1, 4) 299 Allan nhw ddim X-Rayo'r blydi peth cyn i ffrio fe.
(1, 4) 300 Nawr ffycin byt e.
 
(1, 4) 304 Popeth wy'n ddod i ti, ma rhwbeth yn ffycin rong.
(1, 4) 305 Y takeaway Tandoori, Mexican o'r El Paso.
(1, 4) 306 Chinese o'r chinky corner, kebabs, burgers, Papa Joe Pizza...
 
(1, 4) 308 Pob teip o fwyd sy ar ga'l yn y byd, wy'n dod ag e i ti.
(1, 4) 309 A ma wastod rhwbeth yn ffycin rong.
 
(1, 4) 312 Esgyrn yn y fish, spare ribs yn llawn gwthi, pizza yn soggi, sâm Indians yn staeno dy fysedd a dan dy winedd di, kebabs yn stico rhwng dy ddannedd di.
(1, 4) 313 Dim byth thenciw Mary.
(1, 4) 314 Wastod ffycin conan...
 
(1, 4) 317 Beth yw'r ffycin yappan, y dannod ma Linda?
 
(1, 4) 319 Y?
 
(1, 4) 323 Beth yw'r broblem Linda?
 
(1, 4) 325 Wy'n cymryd piti dros ferch newydd ar y gêm.
(1, 4) 326 Merch sy'n nyrfys, sy'n rhynnu ar gornel stryd.
(1, 4) 327 Gymres i biti drostot ti flynyddo'dd nol...
 
(1, 4) 330 Duw a ŵyr ble byddet ti nawr se'n i ddim...
 
(1, 4) 333 Allet ti fod yn farw nawr, se'n i ddim wedi edrych ar dy ôl di.
(1, 4) 334 Ffor ny o't ti'n hedo Linda.
(1, 4) 335 Walle dylen i fod wedi gadel i ti bwdru.
(1, 4) 336 Ti a'r holl drwbwl ti di ddod yn y sgil.
 
(1, 4) 342 Ti'n ffycin liability Lind.
(1, 4) 343 Pan ffindies i ti, o't ti ar y ffordd mas.
 
(1, 4) 349 Paid dechre Linda, paid â dechre.
 
(1, 4) 352 Linda!
 
(1, 4) 354 Jyst cia dy ffycin ben Linda.
(1, 4) 355 Ti'n y nghlywed i?
(1, 4) 356 Cia'i?
 
(1, 4) 362 Sa i'n barod.
 
(1, 4) 365 Linda...
 
(1, 4) 367 Cer nei di!
 
(1, 4) 369 Sa i'n barod fenyw.
(1, 4) 370 Cer.
 
(1, 4) 378 Yffarn Grist.
(1, 4) 379 Ma hi'n ô'r mas fanna heddi.
(1, 4) 380 Os yw hi fel ffridj miwn fan hyn, ma'i fel freezer mas fanna.
(1, 4) 381 Fydde ti ddim yn para mwy na phum muned mas 'na.
(1, 4) 382 Ny'r jyngl oera ar y blaned ma, yw'r ddinas fowr frwnt na mas co.
 
(1, 4) 384 A gobitho bod e, Mr. Scoot yn rhynnu mas 'na, ne lan 'na...
(1, 4) 385 Gobitho gwmpith e ar y iâ, a gobitho rhewith yr hen dyrdyn i farwolaeth cyn i neb ffeindio fe.
 
(1, 4) 387 Ond gewn ni anghofio amdano fe a'i deip cyn bo hir.
(1, 4) 388 Wy'n dala i safio.
(1, 4) 389 Fyddwn ni mewn wlad well un o'r diwrnode ma.
(1, 4) 390 Fi a Debs fach.
(1, 4) 391 Yn llygad yr haul.
(1, 4) 392 Yn bywn'n fras.
(1, 4) 393 Diolch yn fowr James.
(1, 4) 394 Ie, un potel arall o'r Chateau de... Runpethteaux plis James.
(1, 4) 395 A paced newydd o Rizlas.
(1, 4) 396 Lwchodd rheina yn y jacuzzi gynne.
(1, 4) 397 Do.
(1, 4) 398 Coch ne gwyrdd?
(1, 4) 399 Y Rizlas lliw aur plis James.
(1, 4) 400 Y seis hir...
 
(1, 4) 402 A'r amphetamines yn cannu grwndi trw ngwythienne i, fel cadillacs bach arian ar y tarmac twym.
(1, 4) 403 Ochor bella'r pool fydd bryncyn bach, a ffelt gwyrdd drostot fe, a ffloc bach o ddefed yn crwydro nôl a mlân, yn f'atgoffa i o gytre.
(1, 4) 404 A cwpwl o beilons bach plastic, yn ganhwylle ar y gacen.
(1, 4) 405 A tequila sunrise trw straws bobo bore, i roi hwfrad dda i realiti'r dydd cyn dechre dim.
 
(1, 5) 435 Pam... pam... dere mlân...
(1, 5) 436 Pam?
 
(1, 5) 439 Pam ddylen i.
(1, 5) 440 Os nad wyt ti'n egluro pam, os nad ydw i'n deall pam bo ti'n oeri dy din ar gornel stryd allai ddim o dy helpu di...
(1, 5) 441 Pam?
 
(1, 5) 443 Elli di ddim be?
 
(1, 5) 445 Ffycin stiwdent arall.
 
(1, 5) 448 'Na ti bach paid llefen.
 
(1, 5) 450 Na ti.
 
(1, 5) 452 Boche bach pert dy ti.
(1, 5) 453 Fel doli fach...
(1, 5) 454 Be ti'n galw dy hun?
 
(1, 5) 456 Beth yw dy enw di?
 
(1, 5) 458 Ti di bennu'r drinc 'na nawr?
 
(1, 5) 460 Ti ishe un arall?
 
(1, 5) 463 Gwd, nawr grynda Bethan.
(1, 5) 464 Grynda fel se ti mewn ffycin darlith.
(1, 5) 465 Os ydw i neu un o'r merched yn dy weld di rownd y Pier, ar gornel stryd unrhyw le rownd y dre ma, fydd dim gwyneb ar ôl 'dy ti.
(1, 5) 466 Ti'n deall.
(1, 5) 467 Nele pîg y claw hammer 'ma na llafn cyllell yffarn o fes i 'r boche bach pert 'na.
(1, 5) 468 A siwd licet ti fynd nol i dy goleg, i dy fywyd parchus, yn gris cros o greithie.
(1, 5) 469 Nyge whare oboutu odw i Bethan.
(1, 5) 470 Nawr ffyc off mas o ma.
 
(1, 7) 489 Wthnos ddwetha ges i alwad ffôn, bwco fisit.
(1, 7) 490 O'dd y boi'n thalidomide.
(1, 7) 491 O'dd e angen menyw yn uffernol.
(1, 7) 492 Alli di ddim wanco os nag o's breiche da ti.
(1, 7) 493 O'dd e – Graham o'dd i enw fe – newydd dderbyn furniture allowance blwyddyn.
(1, 7) 494 Saith cant punt.
(1, 7) 495 Benderfynodd e hala'r ffycin lot ar haws.
(1, 7) 496 Ofynnodd e i fi fynd i dŷ e am y noson pan o'dd 'i fam e bant.
(1, 7) 497 Blode yn y stafell wely.
(1, 7) 498 Champagne.
(1, 7) 499 A fi o'dd yr angel o ryw nefoedd bell wedi dod i ymweld ag e.
(1, 7) 500 Se'n i wedi dod a Crist i'r byd, ne tan wrth y duwie, fydden i ddim wedi ca'l mwy o ddiolch.
(1, 7) 501 O'dd e pallu stopo cusanu fi.
(1, 7) 502 Finne'n gadael iddo fe neud.
(1, 7) 503 O'dd e'n salw ti'n gwbod.
(1, 7) 504 Neb moyn twtch ag e medde fe.
(1, 7) 505 "Fydda i byth yn ddewis cynta i neb. Byth."
(1, 7) 506 Fi o'dd y cynta erio'd i roi ffwc iddo fe.
(1, 7) 507 A gas e fwy na jyst y ffwc.
(1, 7) 508 Gas e rwbeth fydde'n aros yn dwym yn i gof e am byth.
(1, 7) 509 'Nes i'n siwr o 'ny.
(1, 7) 510 Cwpwrt o drysore.
(1, 7) 511 Allor o atgofion le galle fe fynd i addoli am rest i fywyd bach unig e.
(1, 7) 512 Bitch soft... ti'n iawn Linda... rhy soft i'r dyddie ma.
 
(1, 8) 552 A tithe wedyn yn mynd i godi'n rent ni?
 
(1, 8) 574 Gad llonydd iddi.
 
(1, 8) 581 Ca'l dipyn bach o drafferth dygymod â'r gorffennol ma hi heddi, na'i gyd.
 
(1, 8) 583 New millennium man, siwr bo dim gorffennol da ti.
(1, 8) 584 Wedi cael dy greu mas o gelloedd plastig a dafne o wa'd o'r...
 
(1, 8) 606 Wedyn?
 
(1, 8) 621 Mas ar y'n tine?
(1, 8) 622 Fory nesa falle.
(1, 8) 623 Wyt ti o ddifri yn dwyt ti, Scoot?
 
(1, 8) 637 Ei di 'to Lind?
 
(1, 8) 639 Sai'n barod.
 
(1, 8) 643 Linda – ffycin cer.
(1, 8) 644 Cyn i ni golli busnes.
 
(1, 8) 646 Gad llonydd iddi'r diawl.
(1, 8) 647 Bygwth yn twlu ni mas, wedyn y'n gwawdio ni...
(1, 8) 648 Bastard.
 
(1, 8) 650 Ble ma dy gydwybod di, Scoot?
(1, 8) 651 Ble ma dy deimlade di?
 
(1, 8) 655 Bastard brwnt Mr. Scoot.
 
(1, 10) 680 Ers pryd y'n ni'n becso am y gyfreth?
 
(1, 10) 683 Paid ti sôn am y gyfreth wrtho i.
 
(1, 10) 693 Beth ma Linda'n weud yw bo ni'n torri cyfreth arall trw fod yn dair yn y tŷ ma.
 
(1, 10) 708 Tynna dy got Beth.
 
(1, 10) 714 Beth... tynna dy gôt.
(1, 10) 715 Wyt ti'n aros.
(1, 10) 716 Beth bynnag ma hon yn weud.
 
(1, 10) 722 Johnnies fan hyn.
(1, 10) 723 A ma wastod cwpwl ar y silff uwchben y sinc yn y grotto – mewn fynna.
 
(1, 10) 727 Ma 'na rai pethe...
 
(1, 10) 730 Ma 'na rai pethe na fydden i byth yn ystyried 'u neud.
 
(1, 10) 733 Rhai pethe ddylet ti 'u gwrthod, beth bynnag yw'r amgylchiade.
(1, 10) 734 A ma isie ti fod yn siwr o 'ny o'r dechre cynta.
(1, 10) 735 Ma rheole.
 
(1, 10) 738 Dim sugno na ffwcio heb johnnie.
(1, 10) 739 Ofon Aids yw un o'r pethe gore sy wedi digwydd o'n safbwynt ni.
(1, 10) 740 Sneb yn pallu gwisgo un o'r rhein nawr.
(1, 10) 741 Dim ffwcio lan dy din o gwbwl, am unrhyw arian.
(1, 10) 742 A'n bwysicach na dim byd arall – dim cusanu.
(1, 10) 743 Allu di olchi dy geg a dy gont mas, ond gyda cusan ti'n rhannu rhwbeth mwy, cymryd rhan ohonyn nhw miwn i dy ben di.
(1, 10) 744 A gei di'm gwared blas 'ny am hydoedd.
 
(1, 10) 746 O, ma hi, y bitsh surbwch ma, yn folon rhannu cyngor â ti nawr.
(1, 10) 747 'Na ti fraint.
 
(1, 10) 754 Ti'm di meddwl am bethe fel enw gwaith?
 
(1, 10) 757 Sdim rhaid i ti gymryd hwn, os na ti moyn.
 
(1, 10) 759 Cymer ddrinc.
(1, 10) 760 Mi ddangosith Linda i ti le bach mor hapus yw parlwr cefen y menwod.
 
(1, 10) 897 Chi'ch dwy yn dechre dod mlân yn well...
 
(1, 10) 901 Newydd fynd.
(1, 10) 902 Ie – mond siarad.
 
(1, 10) 907 Mond ishe siarad o'dd e achos taw ffycin cop o'dd e.
(1, 10) 908 Plainclothes, o'r Vice Squad.
 
(1, 10) 910 Jack Bibby.
(1, 10) 911 Ddâth e i 'ngweld i llynedd, i ofyn cwpwl o ffafre erill.
 
(1, 10) 913 Mae e'n mynd i'n bysto ni.
(1, 10) 914 Reido'r lle ma...
 
(1, 10) 923 Dyw e ddim byd i neud â hi Lind.
(1, 10) 924 Fi odd e moyn.
(1, 10) 925 Neud ffafar.
 
(1, 10) 927 Helpu nhw i ddala boi.
(1, 10) 928 Rhyw lecturer.
 
(1, 10) 930 Dy goleg di siwr o fod.
(1, 10) 931 Ar'u list paedophiles nhw.
(1, 10) 932 Cownsilyr lleol 'fyd.
 
(1, 10) 935 Rhan o'r bait ma nhw'n seto lan.
 
(1, 10) 939 Cua dy dwll.
(1, 10) 940 Wy fod i gysylltu ag e, trw gontact, a cynnig merch fach iddo fe.
 
(1, 10) 942 Ma tair, peder ohonyn nhw boutu thirteen ne fourteen, yn gwitho'r stesion bob prynhawn.
(1, 10) 943 Mynd a'r ferch lan ato fe.
(1, 10) 944 Neud y transaction.
(1, 10) 945 Gadael y gweddill i bois y Vice.
 
(1, 10) 947 Neith e ddim.
(1, 10) 948 Unwaith ma nhw gyda merch fach ma hen ddynon fel na yn troi'n heli.
(1, 10) 949 Fydd y groten yn olreit.
 
(1, 10) 952 Am sbel 'to.
(1, 10) 953 Ti'm gwbod fel ma'r cops.
(1, 10) 954 Cyfnewid ffafre bach am gyfnode o ceasefire.
(1, 10) 955 Sa i wedi ca'l yn llusgo o fla'n llys ers tair blynedd nawr.
(1, 10) 956 Achos bo fi wedi dysgu siwt ma whare'r gêm yn y ddinas ma.
 
(1, 10) 959 Macpherson.
(1, 10) 960 Ti'm yn nabod e?
 
(1, 10) 969 O's dewis da fi?
 
(1, 10) 972 O leia gewn ni Nadolig a blwyddyn newydd yn y lle ma heb orffod becso.
(1, 10) 973 Cownto'r takings a cysgu'n dawel...
 
(1, 10) 1007 Fydde hwn wedi gwrthod llety'r anifel i Mair a Joseff.
 
(1, 10) 1024 Ie, joia dy Nadolig Scoot.
(1, 10) 1025 Ti a dy deulu bach hapus a dy gydwybod tawel.
 
(1, 10) 1029 Ca di dy ffycin dwll ar ôl y sioe fach 'na o ffycin solidarity.
 
(1, 10) 1031 Neith e ddim o'n towlu ni mas.
(1, 10) 1032 Pwy yffarn symude miwn ma?
 
(1, 10) 1034 Fan hyn?
(1, 10) 1035 Mas fanna yn y bac ma'r 'whyn yn tyfu trw'r patio paving slabs driodd rhoi lawr mish dwetha.
(1, 10) 1036 Slats yn dod off y to, a fynte newydd i riparo fe medde fe...
(1, 10) 1037 Glaw yn dala i ddod miwn lan loft a'r gwyntoedd o'r môr mas fanna yn shiglo bob ffenest yn 'i fframyn...
(1, 10) 1038 A'r elfenne yn sgubo trwy'r llofftydd.
(1, 10) 1039 Mae'n bwrw eira.
 
(1, 10) 1041 Nadolig llawen i ni'n tair.
 
(1, 10) 1043 A tithe'r hen fwnc.
 
(2, 2) 1128 Haia Lind.
(2, 2) 1129 Eat, drink and be merry...
 
(2, 2) 1136 Os y'n ni'n ca'l parti Nadolig bach, feddyles i bydde tair yn fwy o sbort na dwy.
 
(2, 2) 1139 Ddethon ni dros y broblem fach 'na'n deidi iawn.
(2, 2) 1140 Rheswm arall gallwn ni ddathlu heddi...
 
(2, 2) 1146 Ma Beth di bod nôl yn gwitho'r min nose tu fas y Metropole.
 
(2, 2) 1153 Wthnos nesa, pan fyddwn ni'n ail ddachre, ar ôl Boxing Day, gei di ddod nôl fan hyn.
(2, 2) 1154 I witho da ni.
 
(2, 2) 1156 Ffyc y gyfreth.
(2, 2) 1157 Ma'r gyfreth, am y tro, yn troi llygad ddall.
(2, 2) 1158 A ma Scoot yn sownd dan y 'mhawen i.
(2, 2) 1159 Ma popeth yn dishgwl yn dwt, yn deidi.
(2, 2) 1160 Yn dyw e Lind?
 
(2, 2) 1166 Sda hi ddim gwythienne mân yn lledu fel inc mewn dŵr dan gro'n i boche o's e Lind.
(2, 2) 1167 Wrth gwrs bo merch fel hon ddim yw iwso rouge.
(2, 2) 1168 Mae'n cymryd pymtheg mlynedd o biclo dy hunan mewn jin a gwin chep i ga'l boche felna.
(2, 2) 1169 Y boche druta yn y ddinas ma.
 
(2, 2) 1181 A brain cells ar ôl i neud 'ny.
 
(2, 2) 1195 Dim byd.
(2, 2) 1196 'To.
(2, 2) 1197 Heno.
 
(2, 2) 1199 Wel, do a naddo.
(2, 2) 1200 Nygyw'r cops yn siwr os yw e wedi neud dim.
(2, 2) 1201 Gyda kids.
(2, 2) 1202 Ond ma nhw wedi bod yn agor i bost e dros y miso'dd dwetha...
 
(2, 2) 1205 A ma nhw wedi ffindio lists porn yn rhestru Lolita Sex, a cwpwl o videos mae e wedi ordro yn ddangos merched dan o'd...
 
(2, 2) 1207 Sai'n gwbod.
(2, 2) 1208 Merched ifanc iawn anyway.
(2, 2) 1209 Fforna mae e'n ca'l i gics siwr fod.
(2, 2) 1210 A ma 'na'n ddigon i'r cops drio'i hamro fe nawr...
 
(2, 2) 1218 Pwy wanieth i fi os yw'r hen foi'n mynd lawr am stretch.
(2, 2) 1219 Da rest y nonces ar Rule Forty Three.
(2, 2) 1220 Sa i'n becso.
(2, 2) 1221 Anyway, sdim lot o ddewis da fi.
 
(2, 2) 1224 Pan o'dd Sammy Scoot yn meddwl bod e wedi ca'l yn gwared ni, wedes i wrtho fe,
(2, 2) 1225 "Fine Mr. Scoot, ond wy'n mynd i ballu helpu D.S. Bibby a'r Vice Squad, ma nhwythe wedyn yn mynd i roi fi a Lindi Lw fan hyn yn y cwrt a fynd 15 Horizon View yn ca'l i enwi yn y cês.
(2, 2) 1226 Nelen i'n siwr o 'ny."
 
(2, 2) 1230 A 'na pam ma rhaid i fi gadw'n ochor i o'r fargen.
(2, 2) 1231 Wy'n mynd i finalizo'r trefniade a Bibby nawr, ffono'r MacPherson ma i weld os yw e'n cymryd y bait, wedyn y bait yn troi'n jailbait a heno â i a'r dwtsen fach lan i gwrdd ag e.
(2, 2) 1232 Piece of piss gobitho.
 
(2, 2) 1234 Wy'n gwbod pam bo fi'n neud hyn.
(2, 2) 1235 Pam bo rhaid i fi.
(2, 2) 1236 A ddim jest i droi'r sgriw ar Scoot i adel ni aros ma.
(2, 2) 1237 Am reswm arall fyd.
(2, 2) 1238 Er mwyn rhywun arall.
 
(2, 2) 1241 Ma pawb yn iwso ni ta pun.
(2, 2) 1242 All part of the service.
(2, 2) 1243 Ac os o's rhaid i ryw ffycin darlithydd politically right on ga'l i fywyd wedi ddistriwo am fod meddwl mochedd da fe... os yw 'ny'n mynd i bywyd yn haws am sbel i fi a'r ferch fach druenus na sy'n gorwedd gatre yn dibynnu arno i... gnâf, mi gysga i'n dawel heno, diolch yn fowr...
 
(2, 2) 1245 O ie.
(2, 2) 1246 Un peth arall ffindes i mas am y MacPherson ma – odd taw darlithydd yn y adarn Biology yw e.
(2, 2) 1247 Dysgu ti falle?
 
(2, 2) 1249 Rhoi marce teidi i ti?
(2, 2) 1250 Sai'n beio ti am ymladd i helpu fe, beth bynnag yw dy fotive di.
(2, 2) 1251 Ond paid ti pregethu wrtho i am pwy sy'n iwso pwy,
(2, 2) 1252 Bethan fach.
 
(2, 2) 1413 Ffycin celwydd.
(2, 2) 1414 Pob gair yn gelwydd Linda.
 
(2, 2) 1416 Ti brynodd hon yntefe Linda.
(2, 2) 1417 Cadw i'n dy fag i ddangos i rywrai yn y pyb lawr stryd, i ambell berson fel Beth sy'n dangos diddordeb yn dy hanes di.
(2, 2) 1418 Wedodd hi am yr postmark ar yr envelope, ond bod yr envelope ddim yn digwydd bod da hi...
(2, 2) 1419 Wedodd hi am y garden ga's hi Nadolig dwetha, a diwrnode 'i phenblwydd, pob un a llun cath a diawl o ddim tu fiwn...
 
(2, 2) 1422 Ffycin stori tylwyth teg yw hi.
(2, 2) 1423 A ti ddim yn nabod Lindi Lw.
 
(2, 2) 1425 Ged y gwir wrthi, Lind.
 
(2, 2) 1428 Gwed e 'to.
 
(2, 2) 1430 Gwed y gwir wrthi i, Lind.
 
(2, 2) 1432 Gwed y gwir.
 
(2, 2) 1434 Y gwir Lind.
 
(2, 2) 1437 Lind, gwed y gwir wrthi.
 
(2, 2) 1443 Ddim y gwir i gyd.
(2, 2) 1444 Ife Lind?
 
(2, 2) 1448 Weda i'r gwir wrthi, Linda.
(2, 2) 1449 Y gwir i gyd.
 
(2, 2) 1451 Morwr o Rwsia.
(2, 2) 1452 Wedi aros mlân ar ôl i long e adel.
(2, 2) 1453 Dim arian, dim ffycin contacts.
(2, 2) 1454 Ffindio hon.
(2, 2) 1455 Wanglo'i ffordd miwn i fflat hi, i bywyd hi...
 
(2, 2) 1457 O'dd e'n gallu byw ar yr elw o'dd hon yn neud mas o werthu i hunan...
 
(2, 2) 1461 Do.
(2, 2) 1462 Ohono fe.
(2, 2) 1463 O gath.
(2, 2) 1464 Dim llunie o gariad.
(2, 2) 1465 Na dyfodol.
(2, 2) 1466 O'dd e'n alc.
(2, 2) 1467 Yn iwso hi.
(2, 2) 1468 Hala 'i mas bob tywydd.
(2, 2) 1469 Wy wedi clywed yr hanes i gyd.
(2, 2) 1470 Ddim wrth hon wrth gwrs.
(2, 2) 1471 O'dd hi'n gleisie a'n gwte bob nos odd hi'n dod mas i witho.
(2, 2) 1472 Clients mwy choosy ddim ishe hi erbyn 'ny.
(2, 2) 1473 Gorffod gwitho'r tafarne lawr y docs.
(2, 2) 1474 Derbyn rhywun.
(2, 2) 1475 A Sigi'n meddwi'n gachu bob nos, ar i harian hi, ac erbyn 'ny o'dd nol Sigi ddim ishe ffwc wrthi.
(2, 2) 1476 Wellta fe fenwod erill...
 
(2, 2) 1478 Rhywun i ddod a'r arian miwn, rhywun i ga'l i cholbo a'i chico bob nos pan o'dd Sigi'n feddw gachu...
 
(2, 2) 1481 'Na ti'r cariad, na ti'r dyfodol aur o'i blân hi Beth.
 
(2, 2) 1485 A do, mi âth e nôl i Rwsia.
(2, 2) 1486 Nawr bo honno'n wlad ble ma gangsters a pimps a racketeers yn rhemp.
(2, 2) 1487 Wedi mynd yn ôl i neud i ffortiwn mae e.
(2, 2) 1488 Gyda'i Sysneg carbwl a'i siwtces yn llawn sterling a dollars.
(2, 2) 1489 Fydd e'n ddyn mowr yn Rwsia erbyn hyn.
(2, 2) 1490 Merched yn gwitho'r bars a'r hotels iddo fe, dod miwn a currency tramor.
(2, 2) 1491 British Sigi a'i chain gang o ferched tlawd – pob un yn Linda arall a'r un creithie a'r un ffycin natur llyweth, a'r un marce ffiedd dros 'u cnawd nhw tra bo nhw'n byta cachu i helpu Sigi ddod yn dollar millionaire.
(2, 2) 1492 Paid ti sôn am y cariad rhamantus a'r briodas o'dd ar ddigwydd.
(2, 2) 1493 Ti'n y'n ffycin clwed i Linda?
(2, 2) 1494 Wy di blino arnot ti a'r ffycin celwydde ffycin twp ma.
 
(2, 2) 1499 Ti ddim di dechre deall 'to.
(2, 2) 1500 Walle nei di byth..
 
(2, 2) 1504 Ma dewis da ti Linda...
 
(2, 2) 1512 Gad hi fynd Beth.
 
(2, 2) 1524 Nôl daw hi.
(2, 2) 1525 A wy'n gwbod beth wy'n neud, cred ti fi.
(2, 2) 1526 Gas hi magu da'i thad a'i dou frawd.
(2, 2) 1527 Ac o'dd y tri yn i abiwso hi o'r amser o'dd hi'n groten fach.
(2, 2) 1528 With mae'n cwtsho lan ato i a sôn am 'ny.
(2, 2) 1529 Gofyn am help i wynebu beth ddigwyddodd.
(2, 2) 1530 Dro arall ma'i fel gwelest ti ddi nawr...
 
(2, 2) 1532 Fel croten fach yn cwato'i phen dan y dillad, pallu codi..
 
(2, 2) 1534 Ond ma Linda'n mynd o un sefyllfa i'r llall ble ma dynon yn 'i chamdrin hi.
(2, 2) 1535 Fel se hi'n gwahodd 'ny.
(2, 2) 1536 Buodd y Russian na jest a'i lladd hi, fwy nag unweth...
 
(2, 2) 1538 Ffantasi arall ma hi'n dianc iddo fe yw treulio'r hafe ar ffarm i wnwcl pan o'dd hi'n fach.
(2, 2) 1539 Whare yn y haul, gorwedd yn y gwair twym.
(2, 2) 1540 O'dd y gwair ble o'dd Linda'n blentyn yn llawn nadrodd.
(2, 2) 1541 I thad hi'n pasio mlân i'r wnwcl i hwnnw ymosod yn rhywiol arni hefyd...
 
(2, 2) 1543 Fi sy wedi cymryd hi miwn, a fi sy wedi cytuno i ballu gadel hi fyw celwydd.
(2, 2) 1544 Ma bargen da ni beth.
(2, 2) 1545 A dyw e ddim o busnes di.
 
(2, 2) 1548 Ti'n neud mwy o ddrwg nag o les.
 
(2, 2) 1550 Nag wyt ti ffycin ddim.
(2, 2) 1551 Gad hi fod mas na.
(2, 2) 1552 Ti mond yn i annog hi i fyw y celwydd.
 
(2, 2) 1554 Paid ti ffycin dechre arno i nawr.
(2, 2) 1555 Bitsh anniolchgar.
(2, 2) 1556 Be sy'n bod arnoch chi gyd heddi.
 
(2, 2) 1568 Nid pobl, Beth, dynon.
(2, 2) 1569 Os y ti'n whilo am y cansyr, y gwenwyn.
 
(2, 2) 1571 Nid byd fydde 'ny, ond nefodd.
 
(2, 2) 1573 Gwerthu dipyn o hunan barch fan hyn, prynu sleishen o ddyfodol ne gobeth fanco.
(2, 2) 1574 I fi, iddi hi.
(2, 2) 1575 Tredo natur yn erbyn y market forces.
(2, 2) 1576 Wy'n trio rhoi pawb arall ar 'u trad ond sa i'n gwbod ble ffwc odw i'n hunan yn sefyll.
 
(2, 2) 1578 O't ti, y noson 'na ar y pafin, yn y storm.
 
(2, 2) 1581 Trio dy helpu di o'n i pry'ny hefyd.
(2, 2) 1582 Odd gas dy fi...
 
(2, 2) 1586 Dim byd ma neb di rhoi o'i wirfodd.
 
(2, 2) 1589 Ma'r ochr na da ni gyd.
 
(2, 2) 1595 Beth ti di bo yn neud?
(2, 2) 1596 Studio Lind a fi fel ffycin spesimens ne beth?
 
(2, 2) 1599 Fydde Linda ddim di sylwi wrth gwrs.
(2, 2) 1600 Ddim hyn yn o'd se ti di pino hi ar ford mewn lab a'i agor hi lan...
 
(2, 2) 1603 Yn enwedig os taw mond am bythefnos arall fydd rhaid i ti neud.
 
(2, 2) 1605 Na ddylet.
(2, 2) 1606 Ti wedi ennill rhywbeth – profiad – deall, ond ti di colli ffycin peth wmbreth.
 
(2, 2) 1609 Os odw i'n colli y'n merch fach i, gweld hi'n cwmpo mas o mywyd i... yn diflannu... a'r ddiwedd yn dod... i gyd achos y gwenwyn ma cannodd o ddynon wedi pwmpo miwn i chorff bach eiddil hi.
(2, 2) 1610 Os wy'n i cholli hi – be wyt ti'n golli?
(2, 2) 1611 Ti'n colli dy hunan.
(2, 2) 1612 Heb ishe – fyddi di fyth yr un peth.
 
(2, 2) 1614 Beth?
 
(2, 2) 1618 Jyst ffycin cer nei di.
 
(2, 2) 1630 Mi o't ti ti fel Debbie 'fyd.
(2, 2) 1631 Pan weles i ti gynta.
(2, 2) 1632 Fel odd Debbie, fel galle hi fod o hyd.
(2, 2) 1633 Ond nawr.
(2, 2) 1634 Sgerbwd a twlle.
(2, 2) 1635 Menwod a twlle.
 
(2, 2) 1637 Ti a fi yn y jyngl am byth.
(2, 2) 1638 Ond ni'n gallach a neisach na'r ffycin lot o nhw.
 
(2, 2) 1650 Mr. Scoot.
 
(2, 2) 1660 A ti wedi meddwi.
(2, 2) 1661 Wedi ca'l llond cratsh.
(2, 2) 1662 Weden i.
 
(2, 2) 1669 A lyncest ti'r ffycin dictionary!
 
(2, 2) 1672 Am beth o't ti'n sôn te?
(2, 2) 1673 Siwd i flingo'r crôn odd ar gefne tenantied i leino dy bocedi?
(2, 2) 1674 Siwd i gachu ar y tlawd, a'u neud nhw'n dlotach i ypo dy broffits dy hunan?
 
(2, 2) 1680 Da fi ne da'r mwnci ma wyt ti'n siarad nawr?
 
(2, 2) 1683 Jack Bibby.
(2, 2) 1684 Wedodd e'm byd 'tho i jyst nawr.
 
(2, 2) 1687 Y caff ar y gornel.
(2, 2) 1688 Newydd ddod o 'na odw i nawr.
 
(2, 2) 1691 Bastard brwnt yw Bibby.
(2, 2) 1692 Boi ciedd.
 
(2, 2) 1697 Peth braf yw gallu bod mor blês ar dy fyd yntefe Scoot.
 
(2, 2) 1699 Ti'n hit da dy fets, Nadolig difyr o dy flân di.
(2, 2) 1700 Llond sach o bresante siwr fod...
 
(2, 2) 1704 A beth ti'n roi i dy wraig te Scoot?
 
(2, 2) 1707 Yn dyw hi'n fenyw lwcus.
 
(2, 2) 1710 Menyw lwcus.
(2, 2) 1711 A menyw bert.
(2, 2) 1712 Hardd hyd no'd.
 
(2, 2) 1715 Na.
(2, 2) 1716 Fyddet ti ddim yn gadel hi'n agos aton ni fan hyn.
 
(2, 2) 1718 Pan wy'n syrfo tu ôl y bar yn y dre ar y penwthnose, wy'n gweld mas i'r precinct siopa.
 
(2, 2) 1723 Wrth gwrs.
 
(2, 2) 1725 Fel pictiwr.
(2, 2) 1726 Glased?
 
(2, 2) 1732 Cofia, wy wedi sylwi hefyd, er ych bod chi yn gwpwl mor giwt, ti a'r missus, Mr.
(2, 2) 1733 Scoot...
 
(2, 2) 1735 Chi byth yn twtsiad, odych chi?
(2, 2) 1736 Gafel dwylo, braich am ysgwydd, ambell gusan bach... dim byd felna.
 
(2, 2) 1739 Mond pan ma nhw da rhywun fel fi.
 
(2, 2) 1767 Lico'r cap Santa, Mr. Scoot?
 
(2, 2) 1770 Felna?
 
(2, 2) 1773 Ti ddim yn cwyno wyt ti Scoot?
 
(2, 2) 1777 Wy mor no'th o babi bach o dan y lleder ma.
 
(2, 2) 1779 Fel llaw fach binc mewn maneg dynn.
 
(2, 2) 1781 Ma'r lleder yn mwytho.
(2, 2) 1782 A ma nghrôn i'n dwym, yn rhwyfus, yn fyw o deimlade.
(2, 2) 1783 Ti'n gweld, ma'r dillad ma yn neud fi deimlo'n neis, ma nhw hefyd mor ymarferol.
(2, 2) 1784 Fel gelli di ddychmygu.
 
(2, 2) 1786 Costith 'ny i ti fel mae e'n costi i bawb arall.
(2, 2) 1787 Hyd no'd i Sammy Scoot, y mishtir nowr.
 
(2, 2) 1791 Ma pâr o jeans da fi fanna.
(2, 2) 1792 Allen i newid miwn i rheiny, os wy ti yn mynnu...
 
(2, 2) 1798 A dyw'r missus, dyw Miriam, ddim yn gwbod amdanon ni.
(2, 2) 1799 Bo na hwrs yn gwitho yn un o dy dai di?
 
(2, 2) 1802 Beth arall ti'n gadw odd wrthi?
(2, 2) 1803 Odi hi'n gwbod faint wyt ti'n joio bod rownd fan hyn, miwn a mas o'n palwr cefen bach ni?
 
(2, 2) 1808 Ymddangos fel se ti'n neud lot o waith.
(2, 2) 1809 Riparo ambell ddrws, ambell ffenest.
(2, 2) 1810 Ffidlan oboutu wyt ti gan fwya.
(2, 2) 1811 Paid becso.
(2, 2) 1812 Wy'n deall yn iawn.
 
(2, 2) 1815 Ni yw'r atyniad.
(2, 2) 1816 Y magnet.
(2, 2) 1817 Yntefe.
(2, 2) 1818 Ni, a'r stafell goch.
 
(2, 2) 1824 Nid twtsh a ni.
(2, 2) 1825 Ond edrych.
(2, 2) 1826 Odi Miriam yn gwbod am 'ny?
(2, 2) 1827 Amal i waith, wy di sefyll fanna, heb yn wbod i ti Scoot, yn edrych arnot ti a dy lyged wenci wedi hoelio at y twll pipo, dy law di, wastod y llaw dde 'na, yn ddwfwn yn y boced ma...
(2, 2) 1828 Ti'n lico cyrtens pipo yn dwyt ti Scoot?
(2, 2) 1829 Paid becso... ma da ni gyd y'n cyfrinache bach...
 
(2, 2) 1831 A blys naturiol.
(2, 2) 1832 Whilo cyffro, fel plant drwg, mentro neud y pethe na ddylen nhw...
(2, 2) 1833 A pwy sy'n dy weld di wrthi?
(2, 2) 1834 Mond fi a'r hen fwnci mud.
(2, 2) 1835 Yntefe Scoot...
 
(2, 2) 1840 Hollol naturiol.
(2, 2) 1841 Rhan o'n natur ni gyd, y pethe bach cudd ma.
(2, 2) 1842 A sdim dishgwl i ti sôn am bethe fel 'na wrth Miriam.
 
(2, 2) 1844 Lico...
 
(2, 2) 1846 Deall.
(2, 2) 1847 Na fydde.
(2, 2) 1848 Ne walle bydde hi.
(2, 2) 1849 On sdim dishgwl i chi siarad am bethe fel hyn os e Scoot?
(2, 2) 1850 Cyfrinache bach fel hyn sy'n rhoi blas ar fyw, rhoi mîn ar brofiade dyn...
(2, 2) 1851 Wy'n gwbod.
 
(2, 2) 1854 Paid becso, bydd popeth yn iawn.
 
(2, 2) 1860 'Ny'r gwahaniaeth rhyngo i a Miriam yntefe Scoot.
(2, 2) 1861 Hi yw'r dywysoges.
(2, 2) 1862 Fi yw'r slag.
(2, 2) 1863 Ti'n rhoi popeth iddi hi, yn i thrin hi fel y cheina druta ar y seld – gyda fi allu di'n ffieiddio i, u nhrin i fel baw – ond gyda fi allu di fod yn onest.
(2, 2) 1864 Pan ddaw'r cwsmer nesa miwn, dere di at y twll pipo, Scoot.
(2, 2) 1865 Gei di sioe sbesial.
(2, 2) 1866 Gwed 'tho i beth licet ti weld?
(2, 2) 1867 Be fydde'n dy gynhyrfu di fwya?
(2, 2) 1868 Y sioe ma fydd dy wobr fach di, am ddod a'r tân newydd i dwymo'r hen le ma, am gadw to uwch y'n penne ni am sbel 'to...
 
(2, 2) 1870 ... Am roi lan da ni cyhŷd, diode hwrs yn gwitho yn un o dy dai di, Mr. Samuel Scoot...
(2, 2) 1871 Licet ti ddod miwn aton ni – ymuno â ni?
(2, 2) 1872 Dou ohonoch chi, dou ddyn mowr cyhyrog yn neud fel fynnoch chi â Mary fach...... y'n iwso i bob siâp...
 
(2, 2) 1874 Be se ti'n ca'l dod miwn, reit lan at arffed y gwely, i staran, a gwynto mor agos a licet ti...
 
(2, 2) 1876 Tro cynta erio'd es i da dyn am arian, o'n i gyda ffrind o'r un ysgol...
(2, 2) 1877 O'n i'n eighteen, a hithe yn fifteen, y ddwy o'n i'n mentro gyda'n gilydd, i weld siwd brofiad fydde fe, a odd y ddwy o'n i ishe arian.
(2, 2) 1878 O'n i newydd adel cartre, gadel popeth...
(2, 2) 1879 Boi canol o'd, sales rep, bigodd ni lan, yn 'i gar.
(2, 2) 1880 O'dd e ishe watsho fi yn llio'i cont hi a'i twll tin hi.
(2, 2) 1881 I wyneb e reit miwn na yn ymyl y'n wyneb i.
(2, 2) 1882 A radio'r car mlân, rhyw World Cup... y Final, da Holland a West Germany.
(2, 2) 1883 Y mhen i rhwng coese a boche tin y groten fach ma, a dyn tew yn tuchan a wanco a llais ar y radio yn sôn am total football.
(2, 2) 1884 Sai hyd yn o'd yn cofio pwy enillodd...
(2, 2) 1885 Ond alla i gofio'r tast yn y ngheg i hyd heddi...
(2, 2) 1886 Rwbeth felny licet ti neud Scoot?
 
(2, 2) 1889 A ma ny'n saffach hefyd yn dyw e.
(2, 2) 1890 Ti wastod wedi lico edrych wyt ti, Scoot?
 
(2, 2) 1894 Edrych ar ferched bach?
(2, 2) 1895 A whare da dy hunan?
 
(2, 2) 1898 Yn molchi?
(2, 2) 1899 Yn neud pîpî....?
(2, 2) 1900 A ti'n whare, a whare...?
 
(2, 2) 1904 Cyffro a cysur run pryd.
(2, 2) 1905 Wy'n deall yn iawn Scoot.
(2, 2) 1906 Ti angen cysur yn dwyt ti, ti'n haeddu dy gyffro...
(2, 2) 1907 Haeddu'r plesere ma ar y slei.
(2, 2) 1908 O'dd gyda ti whâr hefyd yn do'dd e.
(2, 2) 1909 O't ti'n pipo arni hi Scoot?
 
(2, 2) 1914 A ble o't ti.
(2, 2) 1915 Y bachgen bach... Sammy bach?
 
(2, 2) 1919 A hithe'n smwddo fan hyn...?
 
(2, 2) 1921 A dy law yn dy boced Sammy...
 
(2, 2) 1924 A whare...
 
(2, 2) 1926 Ti'n dala'n galed Sammy bach.
 
(2, 2) 1928 Bywyd i hunan da coc, yn do's e Sammy.
 
(2, 2) 1933 Natur Sammy bach...
 
(2, 2) 1936 Dychmyga bo ti yn y stafell goch Sammy.
 
(2, 2) 1938 Ti di bod na ganwaith, tu fiwn dy ben.
(2, 2) 1939 Pan ti'n gorwedd yn y gwely...
 
(2, 2) 1941 Fel hyn y'n ni'n dachre ontefe.
 
(2, 2) 1944 Ti'n moyn i fi gario mlân...
 
(2, 2) 1946 Ti di watsho fi yn neud hyn ddege o withe, yn dwyt ti Sammy?
 
(2, 2) 1948 Ma'n gwmws be ti ishe yntefe Sammy.
(2, 2) 1949 Am unwaith wyt ti ddim ishe ca'l y dewis.
(2, 2) 1950 Ti wrth dy fodd yr esgus da ti... a nawr Sammy, ti ar dy gefen yn y stafell goch, a pwy odw i?
(2, 2) 1951 Nid Miriam ife?
(2, 2) 1952 Pwy odw i...
(2, 2) 1953 Mary?
(2, 2) 1954 Linda?
(2, 2) 1955 Y Beth fach ifanc 'na?
(2, 2) 1956 Dy whâr di?
(2, 2) 1957 Dy ferch di?
(2, 2) 1958 Am hyn ti'n breuddwydo yntefe Sammy.
(2, 2) 1959 Pan ti'n gorwedd yn dy wely, yn ymyl dy wraig fach ddelicet... am hyn ti'n breuddwydo fel bachgen bach drwg a'i law yn nythu rhwng i goese... am hyn ych chi gyd yn breuddwydo.
 
(2, 2) 1961 Pob dyn, yn landlord, yn ficer, yn flaenor, yn sant... yn mwytho'u coce yn yr orie cudd, rhwng hanner nos a gole dydd.
 
(2, 2) 1963 Yn codi cornel carped y meddwl, yn agor drws y seler tywyll Sammy bach... Sammy?
 
(2, 2) 1965 Dere nawr Sammy... Be ti moyn wrtho i Sammy?
 
(2, 2) 1968 Wy yn dy garu di Sammy.
 
(2, 2) 1970 Mor gryf, mor galed..
 
(2, 2) 1972 Fel llaw mewn maneg dwym Sammy.
(2, 2) 1973 Bachgen bach yng nghôl 'i fam.
(2, 2) 1974 Fel hyn Sammy... Fel hyn?
 
(2, 2) 1987 Drych arnot ti Sammy.
(2, 2) 1988 Bob tro ti'n edrych yn y drych cofia hyn...
(2, 2) 1989 Cofia'r noson hyn.
 
(2, 2) 1995 Mochyn bach yw Sammy.
 
(2, 2) 2008 Beth wede Miriam, Sammy?
(2, 2) 2009 A dy ffrindie di yn y clwb cinio?
 
(2, 2) 2013 Wyn yn deall.
(2, 2) 2014 Nid mochyn wyt ti Scoot – ond mwydyn.
(2, 2) 2015 Yntefe?
 
(2, 2) 2017 Drych Scoot, ti'n llipa.
(2, 2) 2018 Mwydyn bach, yn siwps yn y glaw...
(2, 2) 2019 Ti'n ddim Scoot.
(2, 2) 2020 Heb yr arian yn dy gownt banc di, heb y gwenwyn yn dy galon di, ti'n ddim.
(2, 2) 2021 Ti'n ddim byd.
 
(2, 2) 2023 Ti'n neud dy arian di, dy ffortiwn mas o hofel fel hyn a menwod fel ni...
 
(2, 2) 2029 A be se dy ferch fach di, pan dyfith hi, yn troi at hyn, yn dod aton ni fel stiwdent bach di-glem 'na?
(2, 2) 2030 Beth ma'r byd yn ddysgu iddyn nhw Scoot?
(2, 2) 2031 Beth wyt ti a fi yn gadel ar y'n hole iddyn nhw.
(2, 2) 2032 Gwed.
 
(2, 2) 2035 Cadw di dy broperty a dy barlwr.
(2, 2) 2036 Dy dwlc.
(2, 2) 2037 Cadw'r blydi lot.