Ciw-restr

Epa yn y Parlwr Cefn

Llinellau gan Scoot (Cyfanswm: 402)

 
(1, 1) 23 Cont twll yffarn. Cer miwn. Bitsh. Cer miwn.
(1, 1) 24 Reit te'r ast...
 
(1, 1) 28 Tria hon am seis te. Bitsh. 'Na ddangos pwy yw'r mishtir.
(1, 1) 29 Yntefe'r ast. Yeah. Hasta la vista baby.
 
(1, 3) 171 Ffyc.
 
(1, 3) 173 Wy'n dihuno'n y bore a wy'n diolch i'r yffarn taw ddim bildyr odw i.
(1, 3) 174 Sdim ffycin tast da bildyrs.
(1, 3) 175 Drychwch ar 'u tai nhw'n hunen.
(1, 3) 176 'Ny'r gwahaniaeth rhwng bildyrs a ni'r landlords.
(1, 3) 177 Ma bildyr yn gallu neud ty pawb arall i edrych fel palas ond tŷ 'i hunan fel crap – ma landlord yn neud tŷ pawb arall i edrych fel twlc ond tŷ fe'i hunan fel ffycin Versailles.
 
(1, 3) 179 Brian...
(1, 3) 180 Helo. Brian?...
(1, 3) 181 Ffyc.
 
(1, 3) 188 Dorrodd rhyw fastards miwn ma nithwr.
(1, 3) 189 Le ffwc odd y ffycin slags na law stârs.
(1, 3) 190 Duw a ŵyr.
(1, 3) 191 God only knows.
(1, 3) 192 Nhw sy'n cwyno bo nhw'n brin o arian.
(1, 3) 193 Nhw sy'n hefyd yn cloco bant am y dydd cyn pump yr hwyr.
(1, 3) 194 Bant i'r dafarn am 'u top-yp o anasthetic siwr fod.
(1, 3) 195 Se'n i wedi bod ma.
(1, 3) 196 Mean male on his territory.
(1, 3) 197 Fydden i wedi darnladd y ffycyrs.
(1, 3) 198 Gnoies i dop clust boi bant unweth.
(1, 3) 199 Hanch deidi, ac odd rhimyn o golifflower ear fel ail gymshield rhynt y ngyms i a ngwefle i.
(1, 3) 200 Lawr ym mherfeddion ryc, a felse centipede o studs yn wurlitzo dros y nghefen i.
(1, 3) 201 Run pryd roiodd rywun droiad i mhwrs i.
(1, 3) 202 Es i'n ffycin seico.
(1, 3) 203 Dries i fyta'n ffordd mas i ole dydd.
(1, 3) 204 Se'n i wedi dala'r bastards.
(1, 3) 205 Fydde nhw wedi colli mwy na tope'u blydi cluste.
(1, 3) 206 Fydde'n i wedi craco'u pengloge nhw.
(1, 3) 207 Wedyn'u sbaddu nhw...
(1, 3) 208 Haws na galw'r cops, nenwedig i rwle fel hyn.
(1, 3) 209 Come on punk, make my day!
 
(1, 6) 475 Pennill i'r Ferch,
(1, 6) 476 Diben merch yw byw yn deidi,
(1, 6) 477 Diben merch yw tyfu'n ledi,
(1, 6) 478 Gwaetha'r modd ma lot yn ffaelu...
(1, 6) 479 Wedyn ma dyn yn 'u trin,
(1, 6) 480 Ddim gwell, ddim gwa'th, na ma nhw'n haeddu...
 
(1, 8) 521 Pennill i'r Tŷ Hwn,
(1, 8) 522 Cnocaf gannoedd o hoelenni,
(1, 8) 523 Mewn i ddege o baredi,
(1, 8) 524 Nos a dydd rwy yn aberthu,
(1, 8) 525 I baratoi fy nhŷ i'w werthu.
 
(1, 8) 527 Helo... Helo?
(1, 8) 528 Wel helo, Buster bach...
(1, 8) 529 Ie Dadi...
(1, 8) 530 Na ma Dadi yn fishi cariad.
(1, 8) 531 Ie, yn neud lot o arian i brynu pethe neis i ti a Emma Jane a Mami.
(1, 8) 532 Ie... Walkman newydd, ie, a crys rygbi Cotton Traders.
(1, 8) 533 Ie a crys Man.
(1, 8) 534 U., ail liwie away, a Reeboks y Kill for These Model.
(1, 8) 535 Ie grynda bach... ie a'r Goalie Gloves welon ni yn y precinct Sadwrn ddwetha...
(1, 8) 536 Kieron, grynda nawr... ti ddim fod i ffono'r rhif ma wyt ti cariad...
(1, 8) 537 Ie crwtyn pwy wyt ti?
(1, 8) 538 Crwytyn Dadi?
(1, 8) 539 Yeah buddy, high fives...
(1, 8) 540 Beth?
 
(1, 8) 542 Helo...
(1, 8) 543 Helo...
(1, 8) 544 Ffyc.
(1, 8) 545 ~
(1, 8) 546 Dead locks newydd, ffrynt a bac.
(1, 8) 547 Ma lladrade'n troi'n bla a'r Nadolig ar ddod.
(1, 8) 548 Bastard cryts ifanc anystywallt ma, au bastard rhieni, i gyd isie arian extra i hala ar bresante.
(1, 8) 549 Dwgyd wrth ddinasyddion onest a diflino fel fi dalu am y rhialtwch.
(1, 8) 550 Winne wedyn yn gorffod hala mwy fyth o arian yn atgyfnerthu drwse a adnewyddu cloion.
 
(1, 8) 553 Sdim pwynt i ni drafod y rent nes bo i'n gwbod os ych chi'n ca'l aros mlân.
(1, 8) 554 A ma hynny, gwd girl, yn sub judice.
(1, 8) 555 Pan fydda i wedi bennu'r ffycin repars ma...
(1, 8) 556 Ma'r flwyddyn newydd yn amser o gymryd stoc...
(1, 8) 557 Os ffindia i brynwr fydd y lle ma'n mynd i'r highest bidder.
 
(1, 8) 559 Pennill i'r Highest Bidder
(1, 8) 560 Hwnnw sy a'r boced ddwfna,
(1, 8) 561 Hwnnw sy a'r wallet lawna,
(1, 8) 562 Hwnnw gaiff... Hwnnw fydd...
 
(1, 8) 570 A hon.
(1, 8) 571 Hon mas hyn.
(1, 8) 572 Mae'n ganol prynhawn – ma hi jyst a paso mas.
 
(1, 8) 575 Be sy'n bod arni gwedwch.
(1, 8) 576 Yr ast surbwch.
(1, 8) 577 Mwstra.
 
(1, 8) 579 Ffyc off dy hunan.
(1, 8) 580 Bitsh bacward.
 
(1, 8) 582 Gorffennol – ffyc y gorffennol.
 
(1, 8) 585 Saer odd dadcu.
(1, 8) 586 Grosyr odd Nhad.
(1, 8) 587 A dipyn bach o fardd, a boi steddfode.
(1, 8) 588 Landlord ydw i.
(1, 8) 589 Boi busnes, ond â blas a bethe gore bywyd.
(1, 8) 590 Celf – a capital.
(1, 8) 591 Upward curve, Mary.
(1, 8) 592 'Ny beth yw gwerth y gorffennol – rwbeth i edrych nol arno fe...
(1, 8) 593 Hwnnw sydd a'r boced ddwfna,
(1, 8) 594 Hwnnw sydd a'r wallet lawna,
(1, 8) 595 Hwnnw gaiff – y jam a'r bara,
(1, 8) 596 Hasta la vista – ffyc you baby.
 
(1, 8) 599 Amser a ddengys.
(1, 8) 600 Fe ddaw rhywun – a fe fydd e, pan ddaw e, yn cynnig rhofeidi o arian.
(1, 8) 601 Rhaeadr o readies...
 
(1, 8) 603 Sda chi ddim idea o werth dim byd o's e...
(1, 8) 604 Am y brics a'r mortar.
(1, 8) 605 Am y grilles newydd ar y ffenestri, am y deadlocks newydd ar y drwse, am y cafne newydd dan y bondo a'r slabs mas fanna ar y patio...
 
(1, 8) 607 Wedyn, bingo.
(1, 8) 608 I fi.
(1, 8) 609 Capwt i chi...
(1, 8) 610 Hyd no'd os yw hi'n dala i rewi'n gorn, yn minus twenty mas 'na, mas 'na fyddwch chi ar ych tine ar y pafin.
(1, 8) 611 Pam ddylech chi fecso?
(1, 8) 612 Ca'l ych symud mlân yw'ch hanes chi a'ch teip.
(1, 8) 613 Un start newydd o blith dege yn ych bywyde chi...
(1, 8) 614 Ga'i wared pob ôl ohonoch chi o'r lle ma.
(1, 8) 615 Eith popeth ar y goelcerth.
 
(1, 8) 617 Heblaw y ti.
(1, 8) 618 Gei di aros.
(1, 8) 619 Yn y teulu fuest ti erio'd, ers cyn y'n amser i.
(1, 8) 620 Mi dy gadwa i di, yr hen fwnc.
 
(1, 8) 624 Odw, odw, odw.
(1, 8) 625 Cyn fory nesa se'n i'n gallu.
(1, 8) 626 Hasta la vista.
(1, 8) 627 Allai'm aros i'ch ca'l chi, y carthion truan ag, ych chi, y llysnafedd lawr U-Bend y'n landlordieth i, mas o'r lle ma, mas oddar y ffiltir sgwâr.
 
(1, 8) 629 Falch o'ch rent chi.
(1, 8) 630 Dros gyfnod pan odd y lle ma'n cwmpo'n bishis o lechen i lechen ac o astell, pan nad oedd e'n le ffit i denantied parchus i fyw.
(1, 8) 631 Ond ma gwawr newydd a safone newydd ar ddod i Fifteen Horizon View.
(1, 8) 632 Alla i ddachre neud elw mowr o'r lle ma 'to, a'ch ca'l ych gwared chi run pryd.
(1, 8) 633 Double whammy i Sammy Scoot.
 
(1, 8) 645 Duw helpo'r dyn druan sy'n mynd i gyfnewid i ginioge prin am i ffwc da honna...
 
(1, 8) 652 Yn y wallet yn 'u trefen.
(1, 8) 653 Cydwybod – yn dilyn y Barclaycard...
(1, 8) 654 Teimlad yn dilyn y Switch Card.
 
(1, 10) 975 Welest ti, y ffycin ast.
(1, 10) 976 Yn i adel e mas trw'r drws ffrynt.
(1, 10) 977 O'n i'n gweld o'r llofft, a un arall yn aros amdano fe mewn car yn y stryd.
(1, 10) 978 Enterteinio blydi polis fan hyn!
(1, 10) 979 Ti'n anghofio bo fi'n rhwbio sgwydde da pileri'r sefydliad yn y ddinas ma.
(1, 10) 980 A wy wedi gweld hwnna – Detective Sergeant yw e – mewn mwy nag un function.
(1, 10) 981 A nawr mae e'n gwbod am y lle ma.
(1, 10) 982 Amdano chi.
(1, 10) 983 Ma'r caead wedi sleido odd ar geg y pydew.
(1, 10) 984 Ma drewdod y merddwr mochedd a'r pryfed pwdwr yn codi i ffroeni pobol barchus.
(1, 10) 985 Ding dong bell.
(1, 10) 986 Pussy's down the well.
 
(1, 10) 991 Ond ma rheole'r gêm yn ca'l 'u torri nawr.
(1, 10) 992 A 'na pam y'ch chi mas.
(1, 10) 993 Y ddwy ohonoch chi.
(1, 10) 994 A hon, pwy bynnag yw hi.
 
(1, 10) 1000 Alli di addo 'ny Linda?
 
(1, 10) 1003 A se'n i'n towlu Mary mas gyda'i...
 
(1, 10) 1008 Se i'n ca'l gwared Mary hefyd.
 
(1, 10) 1010 Aroset ti yn gnelet ti Linda.
 
(1, 10) 1013 Pertach, ifancach... jest y ddwy ohonoch chi.
 
(1, 10) 1016 Linda fach... beth alla i weud.
(1, 10) 1017 Cystal ti drio byta dy gachu dy hunan.
(1, 10) 1018 Achos sdim ffycin bargen i ga'l bellach, Linda fach.
(1, 10) 1019 Pam na nes i hyn fishodd nôl, Duw a ŵyr.
(1, 10) 1020 Glanhau'r tŷ ma mas, glanhau 'nwylo o hyn...
 
(1, 10) 1022 O leia alla i gysgu'r Nadolig ma a nghydwybod i'n dawel.
 
(2, 1) 1066 Gyfeillion – diwedd blwyddyn ond dechre'r dyfodol.
(2, 1) 1067 Fel y'n ni gyd yn y cylch bach dethol ma o ffrindie busnes yn gwbod, ma na ochor arall, fwy creadigol i Sammy Scoot.
(2, 1) 1068 Lico meddwl i fod e'n dipyn o brydydd yn ogystal ag yn broffiteer.
(2, 1) 1069 I ni, y dynion busnes, ar ddiwedd blwyddyn arall:
(2, 1) 1070 ~
(2, 1) 1071 Cyfnod caled, blwyddyn anodd, fuodd 'leni,
(2, 1) 1072 Ond dyma ni, yn dala'i wenu,
(2, 1) 1073 Tra'n gneud ein rhan dros well yfory,
(2, 1) 1074 In our hands yn mae'r dadeni.
(2, 1) 1075 ~
(2, 1) 1076 Ond o ddifir nawr gyfeillion, pan ddewisoch chi fi i weud gair bach ar ôl y'n cino Nadolig ni – achlysur anffurfiol yn arwen at lased ne ddou mwy anffurfiol byth – pan ddewisoch chi fi, o'n i yn nerfus.
(2, 1) 1077 Nid nerfus o siarad – ma llwyfan a top table yn ail natur i fi erbyn hyn - ond nerfus o bwy nodyn o obeth ne optimistieth allen i weu mewn i'r truth bach ma...
(2, 1) 1078 Siwt galle fe, Sammy Scoot, sy wedi ca'l y flwyddyn fwya anodd erio'd yn hanes i fentre busnes niferus, siwt y gall e weud bod yr haul yn dringo'n uwch ar y cynfas glas, bod petale'r rhosod eiddil yn graddol agor ar ôl yr hirlwm.
(2, 1) 1079 Siwt, medde chi.
(2, 1) 1080 Wel, medde fi – mi alla i.
(2, 1) 1081 O, galla.
(2, 1) 1082 Ac achos y dathliad yw y'n bod ni yn dala ma.
(2, 1) 1083 Dala ma i godi y'n gwydre heddi, i agor presante da'n gwragedd a'n plantos fory.
(2, 1) 1084 Ni'n dala ma, nid yn unig yn "leaner and fitter", ond yn fighting fi hefyd os ca'i weud.
(2, 1) 1085 Ma erill wedi mynd dan y don.
(2, 1) 1086 Unigolion, busnesi, carfanne cyfan o gymdeithas.
(2, 1) 1087 Do'n nhw ddim ddigon cryf.
(2, 1) 1088 Mi ydyn ni.
(2, 1) 1089 A 'na pam y'n ni yn dala ma.
(2, 1) 1090 ~
(2, 1) 1091 Wrth ddod trw eiriasder y tân yn yr efel ma'r harn yn caledi.
(2, 1) 1092 Wrth fynd trw'r wal o boen ma'r rhedwr marathon yn ennill y ras, ffrindie.
(2, 1) 1093 A ni sy wedi mynd trwy'r ddaeargryn ond wedi cadw'n penne uwchben y tonne, ni sy'n mynd i fedi'r cynhaeaf mowr pan fydd melin yr economi yn dechre llifo eto.
(2, 1) 1094 Wy'n teimlo y galla i weud gyda'r emynydd ffrindie.
(2, 1) 1095 "Tomorrow belongs to me."
(2, 1) 1096 ~
(2, 1) 1097 Motto y nhad o'dd trechaf tresied, gwannaf gwaedded.
(2, 1) 1098 Erbyn heddi dy'n ni ddim yn lico mynd mor bell â hynny – y'n ni yn lico mynd ymhellach...
(2, 1) 1099 Gadwch i ni ddathlu mai ni yw y trechaf yn y gymdeithas sy ohoni.
(2, 1) 1100 Ni yw pen y pyramid.
(2, 1) 1101 Ag o ben y pyramid ni sy'n gweld y dyfodol gliria.
(2, 1) 1102 I can see the promised land, ys gwedodd Kennedy.
(2, 1) 1103 Dyn mowr...
(2, 1) 1104 A dewch i ni fwynhau'r yfory llewyrchus, bras, sy ar ddod.
(2, 1) 1105 Achos ni'n i haeddu e.
(2, 1) 1106 Every top dog will have his day, gyfeillion.
(2, 1) 1107 Diolch yn fowr.
(2, 1) 1108 A ffrindie – Hasta la vista.
 
(2, 2) 1640 Pennill i Kieron fy mab a'n etifedd:
(2, 2) 1641 Kieron bach, pan ti'n ffaelu cysgu,
(2, 2) 1642 Wy'n dodi fideo mlân i dy ddiddanu
(2, 2) 1643 A cei, mi gei di'r menyg gôli.
(2, 2) 1644 Fyddan nhw yn y sach wrth drôd dy wely
(2, 2) 1645 Pan ddaw Santa'i ymweld â'n tŷ ni.
(2, 2) 1646 Ond y rhodd felysa allai i roi i ti
(2, 2) 1647 Yw y llewyrch a'r llwyddiant yn dy yfory –
(2, 2) 1648 So dere mlân buddy, high fives da Dadi!
 
(2, 2) 1652 Wel, wel, wel.
(2, 2) 1653 Ding dong merrily on high.
(2, 2) 1654 O deued pob Cristion.
(2, 2) 1655 Adeste fideles...
(2, 2) 1656 Present bach i'r parlwr cefen...
(2, 2) 1657 Wy'n ddyn hapus, Mary.
(2, 2) 1658 Heddi, mi ydw i yn ddyn hapus, Mary.
(2, 2) 1659 Heddi, mi ydw i yn hapus.
 
(2, 2) 1663 Yn haeddiannol.
(2, 2) 1664 Roies i speech ar ôl cino'r Clwb Busnes – âth lawr mor felys â chaws di'i bobi da'r hen Ben Gunn ar i ynys bellennig, so to speak.
(2, 2) 1665 O'n i yn hit, Mary fach.
(2, 2) 1666 Yn ffycin hit.
(2, 2) 1667 Yn llwyddiant mowr yn llyged y nghymrodyr – a'n seniors.
(2, 2) 1668 Tomorrow belongs to me.
 
(2, 2) 1670 Arabedd Mary fach.
(2, 2) 1671 Y majic carpet o eirie, sy'n dy gario di at node top emosiyne.
 
(2, 2) 1675 Rwbeth felna.
(2, 2) 1676 Ond ma'r hyn sy'n anathema i rai ohonoch chi, yn modus operandi i fi a'n ffrindie.
(2, 2) 1677 'Na pam wyt ti'r ochor 'na i'r gagendor mowr yn edrych draw arno i ar yr ochor hyn.
(2, 2) 1678 A pwy sy i weud Mary fach na fyddet ti a gweddill y great unwashed yn dwli cyfnewid llefydd, yn dwli blingo'r crôn odd ar gefne pawb arall a cachu ar y tlawd, se chi mond yn ca'l hanner y ffycin cyfle.
(2, 2) 1679 Anifeiliaid o'r un arian y'n ni gyd, jest bo rhai o' chi'n gaeth trw'ch twpdra a'ch diffyg cyfle, a rhai o ni'n rhydd i hela a llarpio.
 
(2, 2) 1681 O'dd ffrind i ti yn y clwb cino.
(2, 2) 1682 Sarjant o'r Vice Squad.
 
(2, 2) 1685 Ie, adawodd e cyn diwedd y drincs i fynd i gwrdd â ti.
(2, 2) 1686 Dâth e rownd fan hyn?
 
(2, 2) 1689 Gwd girl.
(2, 2) 1690 Ma da ti fwy o sens na lot o dy deip.
 
(2, 2) 1693 Sdim gofyn i ti lico boi felna.
(2, 2) 1694 Mond cadw ar yr ochor iawn iddo fe...
(2, 2) 1695 Do, ges i brynhawn llwyddiannus i ryfeddu.
(2, 2) 1696 Mi synnet, Mary fach.
 
(2, 2) 1698 Torri cyt gyda'n areth – torri trw ambell gwlwm Gordian trw setio cwpwl o ddels busnes uwchben port a brandy wedyn.
 
(2, 2) 1701 Dyw sach ddim ddigon mowr i ddala mountain bike.
(2, 2) 1702 'Ny beth ma Kieron yn i ga'l leni.
(2, 2) 1703 A camcorder i Emma Jane.
 
(2, 2) 1705 Ar wahan i sicrwydd a statws?
(2, 2) 1706 Cyrtens newydd i'r stafell ffrynt, a wy'n agor acownt Habitat iddi run pryd.
 
(2, 2) 1708 Cyn i ti ddechre cymryd y pis – fydd hi wrth i ffycin bodd.
(2, 2) 1709 O, bydd.
 
(2, 2) 1713 Siwd ti'n blydi gwbod.
(2, 2) 1714 Dyw Miriam ddim di bod ar gyfyl y lle ma.
 
(2, 2) 1717 Too bloody right fydden i ddim.
 
(2, 2) 1719 Bob prynhawn Sul wy'n mynd da Miriam i siopa am bethe bach dethol yn Marks a'r delicatessen.
(2, 2) 1720 Wy'n lico rhoi un dwrnod yr wythnos yn gyfangwbwl iddi hi a'r plant.
(2, 2) 1721 Y teulu bach.
(2, 2) 1722 Part o ddyletswydd y family man yn y marn i.
 
(2, 2) 1724 A ti'n meddwl bod hi'n hardd wyt ti – Miriam?
 
(2, 2) 1727 S'il vous plait.
(2, 2) 1728 Pasa'r botel.
(2, 2) 1729 Ma digon yn sbâr da chi.
 
(2, 2) 1734 Mm?
 
(2, 2) 1737 Nid cryts ar gornel stryd y'n ni.
(2, 2) 1738 Dyw oedolio yn 'u ho'd a'u hamser ddim fel cŵn a cathod a'u trwyne lan tine'i gilydd trw'r amser.
 
(2, 2) 1741 The dogs they had a party
(2, 2) 1742 They came from near and far
(2, 2) 1743 And some dogs came by aeroplane
(2, 2) 1744 And some dogs came by car.
(2, 2) 1745 They came into the ballroom
(2, 2) 1746 And signed the visitor's book
(2, 2) 1747 Then each dog took his arsehole
(2, 2) 1748 And hung it on a hook.
(2, 2) 1749 ~
(2, 2) 1750 The dogs they were assembled
(2, 2) 1751 Each Mother's son and sire
(2, 2) 1752 When a dirty little mongrel
(2, 2) 1753 Got up and shouted "fire"
(2, 2) 1754 The dogs were in a panic
(2, 2) 1755 They had not time to look
(2, 2) 1756 So each dog took an arsehole
(2, 2) 1757 From off the nearest hook
(2, 2) 1758 ~
(2, 2) 1759 The dogs they were so angry
(2, 2) 1760 For it was very sore
(2, 2) 1761 To wear another's arsehole
(2, 2) 1762 You've never worn before.
(2, 2) 1763 And so that is the reason
(2, 2) 1764 Why a dog will leave its bone
(2, 2) 1765 To sniff another's arsehole
(2, 2) 1766 In the hope it is his own.
 
(2, 2) 1768 O – difyr iawn.
(2, 2) 1769 Ym... Ddes ti i'r tŷ, i dy waith, felna?
 
(2, 2) 1771 Yn y ffriblen sgyrt 'na.
(2, 2) 1772 Ti'n dangos popeth sy da ti ferch.
 
(2, 2) 1774 Licen i ddim i bobol dy weld ti'n dod i'r tŷ ma mewn siwd esgus o bilyn.
(2, 2) 1775 Wy wedi gofyn i chi fod yn discreet – yn understated.
(2, 2) 1776 So to speak.
 
(2, 2) 1778 Y-hy?
 
(2, 2) 1780 Ife wir...
 
(2, 2) 1785 Ffyc me.
 
(2, 2) 1788 Paid cellwer da fi Mary.
(2, 2) 1789 Ddes i draw i ga'l drinc bach cyn mynd gatre, a'i drafod cwpwl o bethe da chi.
(2, 2) 1790 Cwpwl o ddatblygiade newydd.
 
(2, 2) 1793 Ym – mae'n olreit.
(2, 2) 1794 Wyt ti miwn ma nawr.
(2, 2) 1795 O olwg pipo'r cymdogion.
(2, 2) 1796 Aros di fel wyt ti.
 
(2, 2) 1800 Wy'n cadw rhan fwya o fanylion y musnes i yn breifet.
(2, 2) 1801 Felna dyle'i fod.
 
(2, 2) 1804 Paid siarad trw dy din.
(2, 2) 1805 Wy'n neud lot o waith ar y tŷ ma.
(2, 2) 1806 Lan stârs, mas y bac...
(2, 2) 1807 Stopo grymodd natur rhag byta miwn i'r brics a'r mortar, rhag pwdru'r prenne...
 
(2, 2) 1813 Trw dy ffycin din.
(2, 2) 1814 Ast dwp. Hy!
 
(2, 2) 1819 Sa i di twtsh yn yr un ohonoch chi.
(2, 2) 1820 God forbid fenyw.
(2, 2) 1821 Sa i di rhoi blân bys bach yn agos atoch chi.
(2, 2) 1822 Ddim ti, na'r slag swrth 'na ti'n ddiodde'n bartner...
 
(2, 2) 1830 Cywreinrwydd naturiol...
 
(2, 2) 1836 A sdim ots da ti.
(2, 2) 1837 With Mary... ti'n gweld, wy ffaelu pido.
(2, 2) 1838 Ma'r demtasiwn yn drech na fi t'weld.
(2, 2) 1839 Ma hynny'n ddigon naturiol 'fyd...
 
(2, 2) 1843 Fydde hi ddim yn...
 
(2, 2) 1845 Gwerthfawrogi.
 
(2, 2) 1852 Mary.
(2, 2) 1853 Paid nawr.
 
(2, 2) 1857 Ma mhen i'n troi.
(2, 2) 1858 Y gwin ma.
(2, 2) 1859 Y gwres...
 
(2, 2) 1869 Na, Mary...
 
(2, 2) 1873 Na ddim hynny.
 
(2, 2) 1875 Mary...
 
(2, 2) 1887 Wellta fi edrych.
(2, 2) 1888 Y watsho wy'n lico Mary...
 
(2, 2) 1891 Wastod.
(2, 2) 1892 Ers pan odw i'n gallu cofio.
(2, 2) 1893 Fel rhyw ysu sy wedi bod yn rhan ohono i erio'd Mary.
 
(2, 2) 1896 Ar mam, drwg gil drwse...
(2, 2) 1897 Twll clo y bathroom..
 
(2, 2) 1901 O'dd mam byth yn gafel yndo i Mary.
(2, 2) 1902 Byth yn rhoi mwythe.
(2, 2) 1903 Fi o'dd yn mwytho'n hunan Mary.
 
(2, 2) 1910 Dishgwl lan i sgyrt hi.
(2, 2) 1911 Pan o'dd hi'n ishte wrth ford y gegin, yn neud i gwaith catre.
(2, 2) 1912 Pan o'dd hi'n smwddo, cyn mynd mas da'i ffrindie.
(2, 2) 1913 O'n i'n dishgwl mlân siwd gyment at pan bydde hi'n rhoi'r ford smwddo i sefyll ynghanol y gegin...
 
(2, 2) 1916 Sammy bach ar y llawr.
(2, 2) 1917 Yn jocan darllen.
(2, 2) 1918 Neud jigsaw.
 
(2, 2) 1920 A fydden i'n pwyso nôl...
 
(2, 2) 1922 Sammy'n ca'l i ddala a'i law yn 'i boced.
(2, 2) 1923 Yn pwyso nôl, edrych lan...
 
(2, 2) 1925 Ie.
 
(2, 2) 1927 Natur... sda fi mo'r help... allu di'm beio fi am...
 
(2, 2) 1929 Peth melys a diflas yw
(2, 2) 1930 Claddu dyn a'i goc yn fyw
(2, 2) 1931 Mynd trw'r dre mewn arch o bren
(2, 2) 1932 A'r hen goc fach yn shiglo'i phen
 
(2, 2) 1934 Beth wyt ti'n mynd i neud da fi nawr Mary?
(2, 2) 1935 Gwed wrtho i..
 
(2, 2) 1937 Na.
 
(2, 2) 1945 Allai ddim... neud.
 
(2, 2) 1947 Ti yw'r mishtir nawr Mary...
 
(2, 2) 1960 Ie, Mary...
 
(2, 2) 1962 A'r hen goc fach yn shiglo'i phen.
 
(2, 2) 1964 Mary...!
 
(2, 2) 1966 Citsha yndo'i Mary.
(2, 2) 1967 Cara fi.
 
(2, 2) 1969 'Na fi deimlo'n dwym, yn gryf...
 
(2, 2) 1971 Ie, Mary, ie.
 
(2, 2) 1984 Mary...paid stopo... ddim nawr.
 
(2, 2) 1990 Dad yn cerdded miwn.
(2, 2) 1991 Ne mam.
(2, 2) 1992 A'n gweld.
(2, 2) 1993 Sammy'n whare.
(2, 2) 1994 Mochyn bach.
 
(2, 2) 1996 Ach a fi.
(2, 2) 1997 Sammy yr hen fochyn.
(2, 2) 1998 Sammy'n whare.
(2, 2) 1999 Ca'l i ddala.
(2, 2) 2000 Ffaelu stopo...
(2, 2) 2001 O Dduw mowr...
(2, 2) 2002 Aros da fi.
(2, 2) 2003 Citsha yndo i.
(2, 2) 2004 Plis.
(2, 2) 2005 Citsha yndo i...
 
(2, 2) 2010 Mond ti a fi sy'n gwbod.
(2, 2) 2011 A sdim ots da ti.
(2, 2) 2012 Ti yn deall.
 
(2, 2) 2022 Bitsh... y ngorfodi i fynd trw hyn, bitsh ffiedd... bitsh greulon.
 
(2, 2) 2024 Mi fyddet tithe o ga'l y ffycin cyfle.
(2, 2) 2025 Er mwyn dy blentyn di.
(2, 2) 2026 Alli di ddim y meio i am hyn.
(2, 2) 2027 Nid bastard odw i.
(2, 2) 2028 Ond tad, a gŵr...
 
(2, 2) 2033 Y ffycin cont bitsh!
(2, 2) 2034 Ma dy ddiwedd di nawr... yn fan hyn... yn y dre ma...
 
(2, 2) 2041 Mary... ffycin slags, whare gêms da fi.
(2, 2) 2042 Ast. Cont.
 
(2, 2) 2044 Brian... wonderoso... Dere i gico nhw mas... ie.
(2, 2) 2045 Hasta la vista baby.