Ciw-restr

Esther

Llinellau gan Mordecai (Cyfanswm: 143)

 
(1, 0) 304 Harbona!
 
(1, 0) 308 'Synnwn i fawr.
 
(1, 0) 312 Rhaid imi ofyn cymwynas gennyt ti, Harbona.
 
(1, 0) 315 Awgrymu 'rwyt ti mai fi yw achos y Proclamasiwn?
(1, 0) 316 Ie, mi all hynny fod.
 
(1, 0) 318 Dos at y Frenhines Esther, dywed wrthi fy mod i yma wrth y porth ac yn gofyn am gael gair gyda hi.
 
(1, 0) 320 Ie.
 
(1, 0) 324 Sachliain a lludw.
(1, 0) 325 Arwyddion ymostyngiad a gweddi fy mhobol i.
(1, 0) 326 Rhaid imi gael gair gyda'r Frenhines.
 
(1, 0) 328 Mi fyddi di'n digio'r Frenhines os gwrthodi.
 
(1, 0) 330 Y tro dwaetha, trwy ddeud wrth y Frenhines yr achubais i fywyd y Brenin.
 
(1, 0) 332 Mae'r Frenhines mewn perigl.
 
(1, 0) 335 Mor siŵr â phan grogwyd Bigthana a Theres am fwriadu llofruddio'r Brenin.
 
(1, 0) 346 O na bai fy mhen i'n ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau.
 
(1, 0) 350 'Glywaist ti'r Proclamasiwn?
 
(1, 0) 352 Dy genedl di, Esther.
 
(1, 0) 356 'Wyt ti'n deall be' mae'r Proclamasiwn yn ei i olygu?
 
(1, 0) 359 Mae hynny'n digwydd o hyd, ym mhob rhan o'r byd.
(1, 0) 360 Lle bynnag y mae dynion, fe geir lladd plant bach a babanod.
(1, 0) 361 Mae hwn heddiw yn wahanol iawn.
 
(1, 0) 364 Nage.
(1, 0) 365 Pa ots am hynny?
(1, 0) 366 Ond cenedl Duw, Esther, cenedl Duw.
 
(1, 0) 369 Yr unig Dduw.
(1, 0) 370 Y Duw byw.
(1, 0) 371 Duw Israel.
(1, 0) 372 Ni yw ei dystion o.
(1, 0) 373 Yr unig dystion sy ganddo drwy'r byd.
(1, 0) 374 Dyna'n swydd ni, dyna'n gorchwyl ni ar y ddaear,─deud ei fod o'n bod.
(1, 0) 375 Mae'r Proclamasiwn yma'n dileu hynny.
 
(1, 0) 380 Pwy all ateb?
(1, 0) 381 Mae'n amhosib ateb.
 
(1, 0) 383 Cyfamod ydy' hi.
(1, 0) 384 Trwom ni mae O'n gweithredu.
(1, 0) 385 Ein tasg ni yw atal y perig.
(1, 0) 386 Ni sy'n gyfrifol.
 
(1, 0) 388 Fi'n gyfrifol?
 
(1, 0) 390 Esther!
 
(1, 0) 393 Sut hynny?
 
(1, 0) 395 Mi wela' i.
(1, 0) 396 Haman?
 
(1, 0) 401 Maen' nhw'n iawn.
(1, 0) 402 Dial Haman ydy' hwn.
(1, 0) 403 Hen, hen gas.
(1, 0) 404 Hen, hen ddial.
(1, 0) 405 Y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt.
 
(1, 0) 407 Be arall y galla' i ddeud?
 
(1, 0) 409 Er mwyn hynny yr ydw' i yma.
 
(1, 0) 411 Sut?
 
(1, 0) 415 Esther!
(1, 0) 416 'Wyt ti'n wallgo?
 
(1, 0) 419 Wyt ti wedi anghofio'r holl draddodiadau?
(1, 0) 420 Popeth a ddysgais i iti?
(1, 0) 421 Ymgrymu i Haman yr Agagiad?
 
(1, 0) 423 'Wyt ti'n meddwl mai o falchter neu o genfigen neu o chwant gogoniant i mi fy hunan y gwnes i hyn, gwrthod anrhydeddu Haman?
 
(1, 0) 425 'Rydw i'n galw Duw yn dyst y byddwn i'n barod i gusanu ôl ei draed o er mwyn iachawdwriaeth i Israel.
 
(1, 0) 427 Rhyngddo fo a Duw Israel mae cymod yn amhosib.
(1, 0) 428 Rhyngddo fo a minnau mae cymod yn amhosib.
(1, 0) 429 Y Duw byw ydy' ei elyn o.
(1, 0) 430 Disodli Duw ydy' ergyd y Proclamasiwn yma.
(1, 0) 431 Tewi'r dystiolaeth.
(1, 0) 432 Dial a dileu cosb Duw ar Agag.
(1, 0) 433 Dyna'r pam na fedra' i fyth ymgrymu iddo.
(1, 0) 434 Mi fyddai ymgrymu iddo'n frad.
(1, 0) 435 Mi wyddost ti hynny.
 
(1, 0) 437 lddewes wyt tithau, fy nghyfnither.
 
(1, 0) 443 A heddiw 'rwyt ti'n frenhines yn gwisgo coron yr ymerodraeth.
 
(1, 0) 446 'Ydy dy ddyrchafiad di wedi dy wneud di'n rhy falch i hitio am dynged dy bobl?
 
(1, 0) 452 'Wyt ti'n barod i arddel dy genedl yn awr ei chyfyngder?
 
(1, 0) 454 Pwy sy'n gwybod nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost ti i'th frenhiniaeth?
 
(1, 0) 456 Mi gefais i freuddwyd neithiwr.
 
(1, 0) 460 'Roedd 'na dwrw t'ranau a diwrnod tywyll, niwlog, cystudd ac ing, a thrallod mawr ar y ddaear.
(1, 0) 461 A dyma ddwy ddraig yn dyfod allan i ymladd ac yn gwneud sŵn i ddychryn y byd.
(1, 0) 462 Ac wrth y sŵn dacw'r holl genhedloedd yn paratoi i ymladd yn erbyn y genedl santaidd i'w difetha hi.
(1, 0) 463 Gwaeddodd hithau ar ei Duw, ac ar hynny mi darddodd ffynnon fechan, ac o'r ffynnon fe ddaeth afon fawr a goleuni a chodiad haul, a'r rhai isel yn cael eu dyrchafu ac yn difa'r rhai mawrion trahaus.
(1, 0) 464 Dyna fy mreuddwyd i.
 
(1, 0) 467 Y ddwy ddraig ydw' i a Haman.
(1, 0) 468 Y cenhedloedd ydy'r rheini ym mhob cwr o'r ymerodraeth sy'n paratoi 'rwan i ddifetha cenedl Duw.
(1, 0) 469 Heddiw ydy'r diwrnod tywyll niwlog a'r Proclamasiwn y bore 'ma ydy'r sŵn t'ranau.
 
(1, 0) 471 Y ffynnon fechan honno wyt ti, Esther.
 
(1, 0) 476 Trwy iti fynd i mewn at y Brenin a chyffesu mai Iddewes wyt ti, ac ymbil dros einioes dy bobl.
(1, 0) 477 Ti'n unig 'fedr ein hachub ni.
 
(1, 0) 480 Esther!
 
(1, 0) 482 Pam na?
 
(1, 0) 485 Ti yw'r Frenhines.
 
(1, 0) 487 Dyna lythyren y gyfraith.
(1, 0) 488 Ac yn y ddeddf ei hunan y mae eithriad.
 
(1, 0) 492 Ond mi all ddigwydd.
(1, 0) 493 Mae'r gyfraith yn darpar ar gyfer hynny.
 
(1, 0) 495 Ac y mae arnat ti ofn colli dy goron?
 
(1, 0) 497 'Rwyt ti'n meddwl y gelli di ddianc rhag angau yn nhŷ'r Brenin.
(1, 0) 498 Mi fydd calaneddau dy genedl yn syrthio fel tom ar wyneb y tir, a thithau yng ngwely'r ymerawdwr.
 
(1, 0) 500 'Fedri di ddim dianc.
(1, 0) 501 Os tewi wnei di a chuddio dy dras 'rwan, fe ddaw ymwared i'r Iddewon o rywle arall, ac fe'th gollir dithau a thŷ dy dad am byth.
 
(1, 0) 504 Mae'r Proclamasiwn yn glir a phendant.
(1, 0) 505 'Chaiff neb Iddew ddianc.
 
(1, 0) 507 Felly rhaid iti farw |heb| fynd at y Brenin.
(1, 0) 508 'Does gennyt ti ddim i'w golli.
 
(1, 0) 510 Rhaid iti farw heb fynd ato.
(1, 0) 511 O fentro a mynd ato, y mae siawns, siawns, iti achub dy fywyd dy hun ac einioes dy genedl.
(1, 0) 512 Hynny yw, y mae siawns iti achub popeth.
(1, 0) 513 'Fedri di ddim colli ond yr hyn sy eisoes wedi ei golli.
(1, 0) 514 'Wyt ti ddim yn gweld?
(1, 0) 515 'Does gennyt ti ddim i'w golli, ac fe elli ennill dy fywyd dy hun a'r ddaear i bobl Dduw.
 
(1, 0) 517 Beth ydyn' nhw?
 
(1, 0) 521 'Rwyt ti'n cyfri'r nosweithiau?
 
(1, 0) 524 Nid unrhyw ŵr priod ydy' yntau.
(1, 0) 525 Brenin ac ymerawdwr.
 
(1, 0) 527 Mae ganddo lond tŷ o gariadon a gordderchadon.
 
(1, 0) 530 Cystal i tithau ddygymod.
 
(1, 0) 532 Dyna'r pam y mae siawns iddo estyn y deyrn-wialen tuag atat.
 
(1, 0) 534 'Rydw i'n cydnabod hynny.
 
(1, 0) 536 'Dydw i ddim yn gwadu.
(1, 0) 537 Yr ydyn ni i gyd, bob Iddew byw, dan ddedfryd marwolaeth.
 
(1, 0) 540 Be sy arnat ti ei ofn?
(1, 0) 541 Beth na fedri di ddim ei ddiodde?
 
(1, 0) 544 Nid merch ydw' i.
(1, 0) 545 Rhaid deud.
 
(1, 0) 547 'Fedra'i mo'th ddilyn di.
 
(1, 0) 556 A rwan?
 
(1, 0) 562 'Wyt ti'n poeni?
 
(1, 0) 566 Fy merch fach i, beth arall oedd i'w ddisgwyl?
 
(1, 0) 573 Pam felly nad ei di ato?
(1, 0) 574 Pa raid iti ofni angau ar ei law o?
 
(1, 0) 577 Angau ydy ystyr hynny.
 
(1, 0) 580 Esther druan, peth ynfyd, peth disynnwyr ydy rhoi dy galon i frenin.
 
(1, 0) 582 Pethau sy'n mynd a dwad yw merched yn ei fywyd o, a llond palas o gariadon at ei alw.
 
(1, 0) 589 Pam na wnei di wynebu ffeithiau?
(1, 0) 590 'Rwyt ti'n deud hynny er mwyn dy gysuro dy hun ac er mwyn dy argyhoeddi dy hun.
(1, 0) 591 A 'dwyt ti ddim yn ei gredu o.
 
(1, 0) 596 Mae bywyd dy genedl di, mae'r addewid i'r byd, mae gobaith, unig obaith y ddynoliaeth, yn dibynnu ar ei fod o'n wir.
(1, 0) 597 Rydw i'n dy herio di i brofi ei fod o'n wir.
 
(1, 0) 601 'Rwyt ti'n deud celwydd wrth dy galon dy hun.
(1, 0) 602 Y mae prawf.
(1, 0) 603 Mi wyddost tithau fod prawf.
(1, 0) 604 Cariad neu angau.
 
(1, 0) 606 A 'dyw cariad ddim dan y ddeddf.
(1, 0) 607 Mae cariad yn rhydd o'r ddeddf.
 
(1, 0) 609 Oes, mae gen' ti hawl, gan dy fod ti'n mentro dy fywyd.
(1, 0) 610 Ond 'does gen' ti mo'r ffydd.
(1, 0) 611 'Dwyt ti ddim yn credu yn ei gariad o.
(1, 0) 612 'Feiddi di ddim.