Ciw-restr

Noson o Farrug

Llinellau gan Elin (Cyfanswm: 46)

 
(1, 0) 17 Mae'r breuddwyd ges i neithiwr wedi 'ngneud í'n reit anesmwyth.
 
(1, 0) 21 Da ti, Jane, paid a 'nghipio i mor chwyrn, achos dydw i ddim y peth fûm i o ran f'iechyd.
 
(1, 0) 24 Hawdd y gelli di siarad, 'ngeneth i: rwyt ti wedi cael iechyd di-dor ar hyd dy fywyd: fuost ti rioed fis yn sâl i mi gofio, ac fel y dywed yr hen air, "Nid cyfarwydd ond a wypo."
(1, 0) 25 Ac anodd iawn i rai fel dy dad a thitha gydymdeimlo'n iawn â phobol wanllyd.
(1, 0) 26 Dyna dy dad─
 
(1, 0) 28 Waeth hynny na rhagor, rwyt ti'n debycach yn dy ffordd i ochor dy dad nag i f'ochor i.
(1, 0) 29 Cofia, ddeydis i rioed air bach am dy dad; dyn cyfiawn ydi o; mae o'n garedig hefyd yn 'i ffordd 'i hun, ond mae 'na rywbeth caled yno fo er hynny.
 
(1, 0) 32 Do, Jane bach, rwyt ti wedi bod yn dda i mi, a ddylwn i ddim achwyn, ond mod i ambell waith yn teimlo'th fod braidd yn ddi-amynadd hefo fi.
(1, 0) 33 Hwyrach fod y bai arna i; rwy'n mynd yn fwy plentynnaidd efallai wrth fynd yn hynach.
 
(1, 0) 36 Dyna'n union fel y bydd dy dad yn arfer deyd amdano'i hun.
 
(1, 0) 39 Jane bach, rwyt ti'n mynd o dy ffordd rwan i mhlesio i: 'dwyt ti'n malio dim botwm corn am freuddwydion.
 
(1, 0) 41 Mi freuddwydis neithiwr fod Dic, dy frawd, wedi dod adre a bod golwg torcalonnus o wael a llwm arno fo.
(1, 0) 42 Roedd o mor blaen o flaen 'y ngolwg i ag rwyt ti, ac roedd o'n edrach fel un yn dihoeni─ïa, roedd golwg un yn marw arno fo.
(1, 0) 43 Mae'r breuddwyd wedi 'ngneud i'n anesmwyth iawn.
 
(1, 0) 45 'Dwyt ti'n deyd dim, Jane.
 
(1, 0) 47 Gwn, 'ngeneth i─rwyt ti 'run farn a dy dad.
(1, 0) 48 Dyma dros bum mlynedd wedi mynd heibio er pan safodd dy dad ar garreg yr aelwyd 'ma─ anghofia i byth mo'i eiriau: mi warniodd fi nad oeddwn i enwi Dic yn i glyw o hynny allan; a wnes i byth, ond ma' 'nghalon i ar dorri i gael siarad amdano fo hefo dy dad, ond fod ofn gneud hynny arna i.
 
(1, 0) 50 Dyna'r noson─yr un noson pan yr aeth o ar 'i draed ar y gadair i osod almanac i fyny uwchben y lle tân 'ma, i guddio llun Dic bach rhag i neb gael gweld y llun, ond ŵyr dy dad ddim pa mor amal rydw i'n codi cwr yr hen almanac hefo'r procar i sbio ar 'y machgen.
(1, 0) 51 Dic bach benfelyn ydi o i mi er 'i holl ddrwg.
 
(1, 0) 58 "A anghofia mam ei phlentyn sugno?"
 
(1, 0) 60 Beth bynnag ddeydi di a dy dad, Dic f'unig fachgen ydi o i mi, a dyna fydd o byth.
(1, 0) 61 O'r tad! sgwn i ymhle mae o'r noson rewog 'ma.
(1, 0) 62 Dic, Dic! pam rwyt ti wedi 'nghadw i am bum mlynedd heb yr un cipolwg arnat ti ac heb yr un gair o dy helynt?
 
(1, 0) 68 Mae hi'n galed ar bob crwydryn digartref ' ar noson fel heno.
 
(1, 0) 78 Pwy ydi'r pregethwr fory, William?
 
(1, 0) 91 Na, mae'n well gen i beidio heno.
 
(1, 0) 94 Ydw, cystal ag arfar, ond mod i'n methu peidio meddwl am y cre'duriaid tlawd sy allan yn yr oerfel yr hwyr 'ma.
 
(1, 0) 96 Darllenwch y ddameg ola yn y bymthegfed o Luc.
 
(1, 0) 101 Paid a'i folltio fo 'rwan, ngeneth i.
 
(1, 0) 112 'Rhoswch funud, Wiliam, 'rwy'n meddwl i mi glywed sŵn curo.
 
(1, 0) 114 Ond mae hi'n oer iawn i gadw neb i aros heno y tu allan.
 
(1, 0) 123 Pwy sydd 'na, Jane?
(1, 0) 124 Dic annwyl, ai ti sydd yna, dywed?
(1, 0) 125 Tyrd at y tân, 'machgen bach i, i dwymo dy ddwylo oerion.
(1, 0) 126 Mae 'meddwl i wedi bod hefo ti drwy gydol nosweithia'r barrug 'ma.
 
(1, 0) 129 Wiliam, Wiliam! sut y medra i beidio, a Dic bach wedi dwad adre ar ol blynyddoedd o fod í ffwrdd.
(1, 0) 130 "Fy mab hwn oedd farw ac a aeth yn fyw drachefn, efe a gollesid ac a gaed."
 
(1, 0) 134 O, Wiliam! mi lladdwch o â'ch geiriau brathog!
 
(1, 0) 139 Wiliam!
(1, 0) 140 Dic ydi o! yr unig fab sy gynno ni!
 
(1, 0) 144 Aros, Jane bach, mae'n siwr fod ar Dic eisio bwyd.
(1, 0) 145 Fe gymeri damaid, yn nei di, 'machgen i?
 
(1, 0) 147 'Ngwas bach i, rhaid iti gymryd rhywbeth i'w fyta; pryd y cest di fwyd ddwaetha?
 
(1, 0) 151 Tyrd at y tân, 'machgen i.
 
(1, 0) 153 Gwarchod pawb! mae dy ddwylo di fel y clai; da ti, twyma nhw'n dda.
(1, 0) 154 Cymer gwpanaid o dê, Dic bach, i 'mhlesio i.