Ciw-restr

Noson o Farrug

Llinellau gan Jane (Cyfanswm: 29)

 
(1, 0) 15 Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch a hel meddylia.
 
(1, 0) 19 Rwy'n synnu atoch chi'n codlo'ch pen hefo breuddwydion: ryda chi'n rhoi gormod o goel arnyn' nhw o lawer.
 
(1, 0) 22 'Dydw i ddim yn ych cipio chi, mam druan, ond yn siwr i chi, ma'ch meddwl chi'n troi gormod ar yr un colyn.
(1, 0) 23 Mae'n rhaid i chi drio 'mysgwyd o'r synfyfyrio 'na.
 
(1, 0) 27 Twt, lol, mi wn beth ydach chi am ddeyd─mod i'n tynnu ar ol 'y nhad, mod i braidd yn oer a dideimlad fel y fo.
 
(1, 0) 30 O ïe, ewch ymlaen─rwyf finna'n garedig ond fod rhywbeth |stiff| yn 'y natur i.
(1, 0) 31 Welwch chi, mam, rwyf wedi rhoi blynyddoedd gore 'y mywyd i slafio'n galed yn y ffarm fechan 'ma, ac rwyf wedi tendio arnoch chitha gystal allwn i pan nad allech neud ond y peth nesa i ddim drosoch ych hun.
 
(1, 0) 34 Na, na! ddeydis i mo hynny chwaith.
(1, 0) 35 Y gwir plaen ydi, fedra i ddim bod yn fêl a siwgwr, a waeth i mi heb drio bellach.
 
(1, 0) 37 Wel, mi gadawn hi ar hynyna.
(1, 0) 38 Beth ydi'r breuddwyd 'ma sy wedi'ch ansmwytho chi?
 
(1, 0) 40 Na, na, deydwch y breuddwyd: mi fydd yn ollyngdod i chi gael i ddeyd o.
 
(1, 0) 46 'Does dim i'w ddeyd, achos mi wyddoch be di marn i am Dic erbyn hyn.
 
(1, 0) 49 Gwell i chi beidio hwyrach; mi wyddoch sut un ydi 'nhad ar ol rhoi'r ddeddf i lawr.
 
(1, 0) 53 Dic bach, wir!
(1, 0) 54 Mae'n ddigon hen i fod wedi torri'ch calon chi beth bynnag er's dros bum mlynedd: mae'n ddigon hen i fod wedi gneud 'y nhad ddeng mlynedd yn hynach na'i oed.
(1, 0) 55 'Dydw i ddim yn synnu na fyn 'y nhad ddim clywed i enw yn y tŷ 'ma.
(1, 0) 56 Dic bach, ai ê?
(1, 0) 57 Fo chwalodd ddedwyddwch yr aelwyd 'ma am byth.
 
(1, 0) 63 Mam, cymrwch gyngor gen i, peidiwch ag upsetio'ch hunan ar i gownt o, 'dydi o ddim yn werth yr un deigryn nac ochenaid.
 
(1, 0) 73 Rwyf bron wedi gorffen.
 
(1, 0) 76 Yma y bydd y pregethwr fory yntê yn cael cinio a thê?
 
(1, 0) 81 Does gen i fawr o feddwl o Ezra Davis, waeth gen i pwy glywo.
 
(1, 0) 83 Da ne beidio, un poenus ydi o i aros mewn tŷ beth bynnag.
 
(1, 0) 85 Dim, am wn i, ond i fod o'n ofnadwy o barticlar hefo'i fwyd.
(1, 0) 86 Pam na fedar o fyta fel rhyw ddyn arall─byta popeth, yn lle pigo fel cyw iar?
 
(1, 0) 99 Naddo.
 
(1, 0) 118 Pwy sydd yna?
 
(1, 0) 149 Dyma fi'n mynd ynteu.