Ciw-restr

Faust

Llinellau gan Gabriel (Cyfanswm: 8)

 
(0, 2) 48 Buan ac annirnadwy fuan
(0, 2) 49 Yr amchwyrnella rhwysg y byd;
(0, 2) 50 Newidir claer oleuni huan
(0, 2) 51 A chaddug oer y nos o hyd;
(0, 2) 52 Ewynna'r môr yn faith afonydd
(0, 2) 53 Hyd ddwfn banylau'r creigiau serth,
(0, 2) 54 A throellir bryniau ac eigionydd
(0, 2) 55 Yn hedlam rhod y bydoedd certh.