Ciw-restr

Faust

Llinellau gan Mephistopheles (Cyfanswm: 52)

 
(0, 2) 68 A thithau, Arglwydd, eto'n agoshau,
(0, 2) 69 A'n holi ni sut hwyl sydd ar yr yrfa,
(0, 2) 70 A chan y byddi'n rhwydd yn caniatâu,
(0, 2) 71 Fe'm gweli yma, finnau, gyda'r dyrfa;
(0, 2) 72 Maddeu, ni allaf innau ddim gwenhieithio,
(0, 2) 73 A phawb o'th osgordd i'm dirmygu i,—
(0, 2) 74 Fe chwerddit, ped amcanwn ddwys areithio,
(0, 2) 75 Pe na bai chwithig chwerthin gennyt Ti;
(0, 2) 76 Am haul na byd, 'does gennyf ddim i'w haeru,
(0, 2) 77 Ni welaf ddim ond dynion yn ymdaeru!
(0, 2) 78 Duw bach y ddaear, tebyg yw o hyd,
(0, 2) 79 Rhyfedded yw â'r diwrnod cynta i gyd;
(0, 2) 80 Buasai beth yn well ei fuchedd ef
(0, 2) 81 Ond it ei wisgo â gwawr goleuni'r nef!
(0, 2) 82 Rheswm y geilw'r peth, a'i droi a fynn
(0, 2) 83 I fyw yn waeth na'r bwystfil gwyllt, er hyn!
(0, 2) 84 Tra thebyg yw—os rhoddi gennad tirion—
(0, 2) 85 I'r ceiliog rhedyn bach, a'i heglau hirion,
(0, 2) 86 Yn hedeg ac yn neidio bob yn ail,
(0, 2) 87 A'i drydar hen yn debyg rhwng y dail;
(0, 2) 88 A drwg nad yn y dail o hyd yr ery!—
(0, 2) 89 Ei drwyn ynghanol pob rhyw dail a dery.
 
(0, 2) 93 Na, Arglwydd, drwg digymysg yno a gawn.
(0, 2) 94 Druaned gennyf ddyn yn nydd trallodion
(0, 2) 95 Na allaf boeni mo'r creaduriaid tlodion!
 
(0, 2) 97 Y Doethur?
 
(0, 2) 99 Diau! Fe'th wasanaetha'n anghymharol—
(0, 2) 100 Ym mwyd a llyn y ffŵl, 'does dim daearol!
(0, 2) 101 Gyrr ei ddychmygion hyd y maith bellterau,
(0, 2) 102 Mae'n hanner ameu ei ffolineb mawr;
(0, 2) 103 Mynnai'r disgleiriaf sêr o'r uchelderau,
(0, 2) 104 A holl fwyniannau pennaf daear lawr;
(0, 2) 105 A phell ac agos, waeth pa un a fyddant,
(0, 2) 106 Ei wyllt anesmwyth galon, nis llonyddant.
 
(0, 2) 111 Pa faint a ddeli? Colli wnei er hynny!—
(0, 2) 112 O rhoddi dithau gennad, fel y bo
(0, 2) 113 I minnau'n dawel fach i'm ffordd ei dynnu—
 
(0, 2) 117 Diolchaf iti! Am y rhai trengedig,
(0, 2) 118 Ni cheisiais i yn rhwydd erioed eu denu—
(0, 2) 119 Gwell gennyf wyneb crwn a hwnnw'n gwenu;
(0, 2) 120 Am gelain oer, nid mawr y prisiaf hi—
(0, 2) 121 Fel cath ar ôl llygoden, dyna fi!
 
(0, 2) 129 Da iawn! Nid hir y pery ei ffyddlondeb,
(0, 2) 130 Ac am a wystlais innau, ni phetrusaf.
(0, 2) 131 Os caf fy nod, bydd dithau o'r hwylusaf
(0, 2) 132 I roddi imi'r fuddugoliaeth lawn;
(0, 2) 133 Caiff yntau fwyta pridd, yn awchus iawn,
(0, 2) 134 Megys y sarff, fy modryb glodforusaf!
 
(0, 2) 150 O bryd i bryd, da gweld hen arglwydd nef,
(0, 2) 151 A rhaid yw gwylio rhag ei droi'n elynol;
(0, 2) 152 Bu'n dirion iawn, o un mor fawr ag ef,
(0, 2) 153 Ymddiddan gyda'r diawl ei hun mor ddynol!