Ciw-restr

Faust

Llinellau gan Raffael (Cyfanswm: 8)

 
(0, 2) 40 Ymryson gerdd yr Haul a glywir,
(0, 2) 41 Fel cynt, â'i frodyr fydoedd gwrdd,
(0, 2) 42 A'i rag-drefnedig daith yn gywir
(0, 2) 43 A geidw ef â tharan dwrdd;
(0, 2) 44 I'r engyl, rhydd ei wedd ddigonedd,
(0, 2) 45 Er nas amgyffred un o'r llu;
(0, 2) 46 A'r gwaith goruchel mewn gogonedd
(0, 2) 47 Megys y diwrnod cyntaf fu.