Ciw-restr

Marsiandwr Fenis

Llinellau gan Bassanio (Cyfanswm: 54)

 
(4, 0) 59 Nid ateb ydyw hyn, ddidostur ŵr,
(4, 0) 60 Nac esgus chwaith dros ddylif dy greulondeb.
 
(4, 0) 63 A ladd pob dyn y pethau a'r nis câr?
 
(4, 0) 66 Ond nid casineb ydyw crud pob tramgwydd.
 
(4, 0) 82 Yn lle tair mil o bunnoedd, dyma chwech.
 
(4, 0) 110 Cysur, Antonio! Cod dy galon, ddyn;
(4, 0) 111 Mi rof i'r Iddew 'nghnawd a'm gwaed a'm hesgyrn
(4, 0) 112 Cyn y cei dithau golli dafn o'th waed.
 
(4, 0) 122 Paham yr hogi'r gyllell yna'n ddyfal?
 
(4, 0) 124 Nid ar dy wadn ond ar dy wydn enaid
(4, 0) 125 Yr hogaist tí ei min; nid ydyw'r metel
(4, 0) 126 Ar fwyell dienyddiwr ddim mor awchus
(4, 0) 127 Â'th lym genfigen.—Ocs un plê a'th gyffwrdd?
 
(4, 0) 212 Nage; dyma fi'n cyflwyno i'r llys
(4, 0) 213 Ddwywaith y swm; ac onid digon hyn,
(4, 0) 214 Ymrwymaf fi i'w dalu ddengwaith trosodd
(4, 0) 215 Tan benyd colli 'nwylo, 'nhraed, a'm pen.
(4, 0) 216 Ac onid digon hynny, eglur mai
(4, 0) 217 Trech malais nag uniondeb... Ac ymbiliaf
(4, 0) 218 — Gŵyr-drowch y gyfraith unwaith i'ch awdurdod:
(4, 0) 219 Er mwyn uniondeb mawr, gwnewch hynny o gam,
(4, 0) 220 A ffrwyno'r cythraul creulon rhag ei fryd.
 
(4, 0) 290 Antonio, gyfaill, mi a briodais wraig
(4, 0) 291 Sy'n annwyl fel fy einioes i fy hun.
(4, 0) 292 Ond nid yw einioes, gwraig, na'r byd yn grwn
(4, 0) 293 I'w prisio gennyf uwch dy einioes di.
(4, 0) 294 Collwn y cyfan,—fe'u haberthwn oll
(4, 0) 295 I'r cythraul hwn yn awr, i'th achub di.
 
(4, 0) 330 Naw mil o bunnoedd. Dyma'r cyfri'n llawn.
 
(4, 0) 347 Mae'r arian gen i'n barod. Dyma 'nhw.
 
(4, 0) 422 Deilyngaf syr, achubwyd fi a'm ffrind
(4, 0) 423 Trwy eich doethineb heddiw rhag penyd tost.
(4, 0) 424 Ar gyfrif hyn, dyma dair mil o bunnoedd,
(4, 0) 425 Y tair mil oedd ddyledus gynnau i'r Iddew,
(4, 0) 426 Atolwg ichwi eu derbyn am eich poen.
 
(4, 0) 435 Yn wir, syr, rhaid im wneud un cynnig arall.
(4, 0) 436 Derbyniwch rywbeth gennym megis teyrnged,
(4, 0) 437 Ac nid fel tâl. Syr, caniatewch ddau gais,—
(4, 0) 438 Peidiwch â'm gwrthod a maddeuwch im.
 
(4, 0) 446 Nid yw y fodrwy hon, syr, ddim ond tegan.
(4, 0) 447 Gwarth fyddai arnaf gynnig hon i chwi.
 
(4, 0) 450 Dibynna mwy ar hon na'i gwerth masnachol.
(4, 0) 451 Rhoddaf y fodrwy ddruta'n Fenis ichwi,
(4, 0) 452 Fe'i darganfyddaf hi trwy broclamasiwn;
(4, 0) 453 Eithr am hon, syr, esgusodwch fi.
 
(4, 0) 457 Ond wrda, gan fy ngwraig y cefais hon.
(4, 0) 458 Ac wrth ei rhoi fe wnaeth im gymryd llw
(4, 0) 459 Na werthwn moni byth, na'i rhoi, na'i cholli.
 
(4, 0) 469 Dos, Gratiano. Rhed i'w oddiweddyd.
(4, 0) 470 Rho iddo'r fodrwy, a thyrd ag ef os gelli
(4, 0) 471 I dŷ Antonio.—Brysia, brysia! Rhed!
 
(4, 0) 473 Tyred; awn ninnau acw'n syth.
(4, 0) 474 Ac yn y bore'n gynnar awn ein dau
(4, 0) 475 Ar frys am Belmont. Tyred, Ffrind Antonio.